Cymorth

Cwestiynau cyffredin

Gallwch ailosod eich cyfrinair trwy glicio ar y botwm Wedi anghofio'ch cyfrinair? wedi'i leoli yn y panel Mewngofnodi (fel arall, cliciwch ar y ddolen a ddarparwyd).

Panel mewngofnodi

Cewch eich tywys i'r dudalen Wedi anghofio'ch cyfrinair? lle gallwch nodi'ch cyfeiriad e-bost.

Yna, bydd angen ichi gwblhau'r dilysiad reCAPTCHA a chlicio ar y botwm Gwneud cais am gyfrinair. Bydd e-bost ailosod cyfrinair yn cael ei anfon atoch gyda dolen i ailosod eich cyfrinair.

Mae'n bosibl bod yr e-bost i ailosod cyfrinair wedi'i hidlo i'ch ffolder sothach/sbam. Ar gyfer defnyddwyr Gmail, mae'n bosibl y bydd angen ichi gael mynediad at eich cyfrif e-bost ar gyfrifiadur yn hytrach nag ar lechen neu ffôn clyfar er mwyn gweld eich ffolder sbam.

Os yw'r e-bost i ailosod cyfrinair yn eich ffolder sothach/sbam, marciwch yr e-bost fel 'Dim sbam'. Bydd hyn yn sicrhau bod e-byst a anfonir gan trac.jobs yn y dyfodol yn cyrraedd eich mewnflwch.

Na, dim ond un cyfrif trac.jobs y mae modd ei gofrestru ar gyfer pob cyfeiriad e-bost.

Bydd angen i un ohonoch greu cyfeiriad e-bost newydd gyda darparwr fel Gmail, Yahoo neu Outlook.

Mewngofnodwch i'ch cyfrif a chliciwch ar y gwymplen sy'n dangos eich enw ar frig y dudalen ar y dde, a dewiswch yr opsiwn Gosodiadau:

Dewislen lywio gosodiadau'r cyfrif

Ar y dudalen Gosodiadau cyfrif, cliciwch ar y botwm Dileu eich cyfrif:

Tudalen gosodiadau'r cyfrif

Ar ôl clicio ar y botwm Dileu eich cyfrif, mae'n bosibl y cewch neges yn eich rhybuddio nad oes modd dileu eich cyfrif ar yr adeg honno. Gallai hyd fod am nifer o resymau:

  • Agor ceisiadau - Os oes gennych unrhyw geisiadau gweithredol sydd yn y broses recriwtio ar hyn o bryd, rhaid ichi dynnu eich holl geisiadau yn ôl i ddechrau cyn y gallwn farcio'ch cyfrif i'w ddileu.
  • Ceisiadau drafft - Rhaid ichi ddileu eich ceisiadau drafft i ddechrau cyn y gallwn farcio'ch cyfrif i'w ddileu.
  • Ceisiadau heb eu hawlio - Os oes gennych unrhyw geisiadau sydd wedi'u mewnforio o ffynhonnell allanol (e.e. jobs.nhs.uk), rhaid ichi eu hawlio i ddechrau cyn eu tynnu'n ôl.
  • Ceisiadau cymorth yn yr arfaeth - Mae'n bosibl eich bod wedi ceisio hawlio cais, ond efallai na fu hyn yn bosibl. Bydd hyn wedi ysgogi cais am gymorth i'n Tîm Cymorth. Byddwch yn derbyn cadarnhad e-bost pan fydd hyn wedi'i gwblhau, a fydd yn eich caniatáu i dynnu'r cais yn ôl a marcio'ch cyfrif i'w ddileu.

Ar ôl cyflwyno'ch cais, bydd y statws a ddangosir yn symud o Drafft i Cyflwynwyd.

Byddwch hefyd yn derbyn e-bost yn cadarnhau bod eich cais wedi'i gyflwyno, a fydd yn cael ei anfon i'r cyfeiriad e-bost y gwnaethoch gofrestru eich cyfrif trwyddo.

Ar ôl mewngofnodi i'ch cyfrif, cliciwch ar yr opsiwn Ceisiadau yn y ddewislen:

Dolen lywio rhestr ceisiadau

Bydd yr opsiwn hwn yn mynd â chi i'ch rhestr lawn o geisiadau, lle byddwch yn gallu defnyddio'r swyddogaeth chwilio a'r hidlyddion i ddod o hyd i'ch cais/ceisiadau. Mae'r rhestr yn gyfyngedig i 10 i bob tudalen.

Bydd ceisiadau a gyflwynwyd yn flaenorol yn cael eu dileu'n awtomatig ar ôl 400 diwrnod.

Bydd ceisiadau na chawsant eu cyflwyno (h.y. y dyddiad cau wedi mynd heibio) yn cael eu dileu'n awtomatig ar ôl 90 diwrnod.

Yn fyr, na, nid yw'n bosibl gwneud newidiadau i geisiadau sydd wedi'u cyflwyno. Yr unig ran o gais y gellir ei diweddaru yw'r manylion personol. Mae modd gwneud hyn trwy ddiweddaru'ch Proffil, Manylion cyswllt.

Os ydych yn dymuno newid eich cais, bydd angen ichi ailgyflwyno cais newydd cyn y dyddiad cau. Bydd cyflwyno ail gais yn cael gwared ar y cais a gyflwynoch yn flaenorol yn awtomatig.

Nid yw Trac yn asiantaeth recriwtio ac ni fydd eich CV yn cael ei ystyried. Ewch i healthjobsuk.com i weld y swyddi gwag sydd ar gael a gwnewch gais ar-lein trwy ddefnyddio'r broses ymgeisio ar-lein.

Dim ond yr 20 cais a gyflwynwyd gennych yn ddiweddar sydd ar gael i'w hail-ddefnyddio. Ffordd arall o lenwi ffurflenni cais ymlaen llaw yw defnyddio'r CV ar-lein.

Y broses ymgeisio

Ar ôl i chi gwblhau a chyflwyno'ch ffurflen gais ar wefan Indeed Apply, byddwch yn dilyn un o ddau lwybr:

  1. Os nad oes cwestiynau dilynol i'w cwblhau ar y wefan apps.trac.jobs, bydd eich cais yn cael ei gyflwyno'n awtomatig i'r cyflogwr; nid oes angen i chi wneud unrhyw beth arall ar hyn o bryd.
  2. Os oes cwestiynau dilynol i'w cwblhau ar y wefan apps.trac.jobs (a elwir hefyd yn "Cam 2" eich cais), byddwch yn derbyn e-bost yn gofyn i chi wneud hynny.

Mae rhagor o fanylion ar gyfer pob llwybr yn cael eu rhoi ymhellach i lawr y dudalen hon.

Dim angen Cam 2

Ar ôl cyflwyno eich ffurflen gais wedi'i chwblhau ar wefan Indeed Apply, byddwch yn derbyn dau e-bost:

  1. Mae'r e-bost cyntaf yn neges awtomatig gan Indeed i gadarnhau bod eich cais wedi'i gyflwyno. Cyflwynwyd y cais trwy Indeed Apply.
  2. Mae'r ail e-bost yn neges awtomatig gan Trac i gadarnhau bod eich cais wedi'i dderbyn: E-bost ar gais a dderbyniwyd

Cam 2 yn ofynnol

Ar ôl cyflwyno eich ffurflen gais wedi'i chwblhau ar wefan Indeed Apply, byddwch yn derbyn dau e-bost:

  • Mae'r e-bost cyntaf yn neges awtomatig gan Indeed i gadarnhau bod eich cais wedi'i gyflwyno. Cyflwynwyd y cais trwy Indeed Apply.
  • Mae'r ail e-bost yn neges awtomatig gan Trac yn esbonio'r camau nesaf y mae angen i chi eu dilyn er mwyn cwblhau cam 2 y broses ymgeisio: E-bost ar y camau nesaf i gwblhau cam 2 y broses ymgeisio

I gwblhau a chyflwyno'ch cais, mae angen i chi gwblhau'r camau canlynol:

  1. Mewngofnodwch (neu crëwch gyfrif os nad ydych eisoes wedi gwneud hynny) ar safle ymgeisydd Trac. Tudalen Mewngofnodi/Cofrestru cais Trac
  2. Hawliwch y cais drwy wirio bod y manylion personol yn perthyn i chi:

    1. Adolygwch fanylion y swydd a dewiswch y botwm Ie, dyma fy nghais os ydych chi'n adnabod y cais fel eich un chi: Gwiriwch eich cais ar Trac
    2. Rhowch y manylion y gofynnwyd amdanynt, gan sicrhau eu bod yn cyfateb i'r rhai a ddefnyddiwyd gennych yn eich cais, a dewiswch y botwm Gwirio manylion : Cymeradwyo neu wrthod eich cais ar Trac
      1. Yn dibynnu ar yr wybodaeth a ddarperir yn eich cais, efallai y gofynnir i chi gadarnhau unrhyw 2 neu 3 o'r canlynol:
        1. Dyddiad geni.
        2. Cod post.
        3. Tref.
        4. Enw teuluol.
      2. Os gofynnir i chi wneud hynny, gallwch hefyd gysoni eich manylion cyswllt ar y dudalen nesaf os yw'r rhai ar eich ffurflen gais yn wahanol i'r rhai ar eich cyfrif ymgeisydd Trac.
  3. Parhewch â'ch cais drwy gwblhau'r canlynol:
    1. Darllenwch a derbyniwch yr hysbysiad preifatrwydd pan ofynnir i chi wneud hynny. Gwirio polisi preifatrwydd ar Trac
    2. Os yw'r ffurflen gais yn cynnwys cwestiynau atal (h.y. cwestiynau y mae angen ateb penodol iddynt cyn cael caniatâd i barhau), efallai y bydd angen i chi naill ai:
      1. Adolygu'r ateb a roesoch yn Indeed Apply. Os oedd yr ateb yn anghywir, bydd yn cael ei amlygu fel camgymeriad.
      2. Os mai dyma'r tro cyntaf yn y broses ymgeisio y gofynnwyd y cwestiwn atal i chi, rhowch ateb.
        Eicon gwybodaeth Sylwch: os na allwch roi'r ateb cywir i gwestiwn atal, bydd y broses yn dod i ben ar y pwynt hwn.
    3. Adolygwch eich atebion sydd wedi'u mewnforio o Indeed Apply a, lle bo hynny'n briodol, atebwch unrhyw rai nad ydynt wedi'u cwblhau eto. Adolygu atebion ar TracEicon gwybodaeth Bydd yr atebion a fewnforiwyd o Indeed Apply yn cael eu labelu fel "Wedi'i lenwi'n rhannol o Indeed Apply" a'u hamlygu mewn melyn.
    4. Unwaith y byddwch yn hapus gyda'ch atebion, nodwch bob adran yn y ffurflen gais fel pe bai'n gyflawn.
  4. Unwaith y bydd holl adrannau'r ffurflen gais wedi'u marcio fel rhai wedi'u cwblhau, gallwch gyflwyno'r copi terfynol o'ch ffurflen gais.

Cyflwyno ceisiadau yn awtomatig

Olrhain cynnydd eich cais

Unwaith y bydd eich cais wedi'i hawlio, ei gwblhau a'i gyflwyno (ni waeth a oedd cam 2 wedi'i gynnwys yn y broses), byddwch yn gallu olrhain ei gynnydd drwy safle ymgeiswyr Trac.

Mae'r adran Hanes y Cais o'r dudalen Ceisiadau yn dangos y dyddiad a'r amser y dechreuwyd eich cais. Cymerir yr wybodaeth hon o'r adeg y cyflwynwyd eich cais drwy Indeed Apply: Hanes y cais

Yn gyntaf, bydd angen ichi wirio'ch e-bost gwahoddiad cychwynnol i weld a oes amserau/dyddiadau amgen ar gael. I wneud cais am amser/dyddiad cyfweliad amgen, bydd angen ichi gysylltu â'r cyflogwr yn uniongyrchol. Fe'ch cynghorir i ymateb i'ch e-bost gwahoddiad i gyfweliad cychwynnol.

Fel arall, os oes angen ichi ddod o hyd i'r manylion cyswllt ar gyfer y swydd wag, agorwch y crynodeb o'r cais a chliciwch ar y botwm Cysylltu:

Tudalen crynhoi'r cais, botwm cysylltu

Bydd hyn yn datgelu manylion y Cyswllt Recriwtio AD, a fydd yn gallu aildrefnu eich apwyntiad gwirio ID.

I ganslo/aildrefnu eich apwyntiad gwirio ID, bydd angen ichi gysylltu â'r cyflogwr yn uniongyrchol. Fe'ch cynghorir i ymateb i'ch e-bost cadarnhau gwiriad ID.

Fel arall, os oes angen ichi ddod o hyd i'r manylion cyswllt ar gyfer y swydd wag, agorwch y crynodeb o'r cais a chliciwch ar y botwm Cysylltu:

Tudalen crynhoi'r cais, botwm cysylltu

Bydd hyn yn datgelu manylion y Cyswllt Recriwtio AD, a fydd yn gallu aildrefnu'ch apwyntiad gwirio ID.

Ar hyn o bryd, nid oes gennych gyfrif wedi'i gofrestru ar trac.jobs. Rydych yn derbyn e-byst gan trac.jobs gan fod eich cais wedi'i fewnforio o jobs.nhs.uk. Bydd angen ichi greu cyfrif er mwyn hawlio'r cais a threfnu'ch cyfweliad/gwiriad ID.

I greu cyfrif, sgroliwch i frig y dudalen hon a chliciwch ar y gwymplen Creu cyfrif ar frig y ddewislen ar y dde:

Panel creu cyfrif

Nodwch eich cyfeiriad e-bost, cwblhewch y dilysiad reCAPTCHA a chliciwch ar y botwm 'Creu eich cyfrif'. Bydd e-bost yn cael ei anfon i'ch mewnflwch yn cynnwys dolen i wirio'ch cyfeiriad e-bost.

Ar ôl dilyn y ddolen, cewch eich tywys i'r dudalen 'Cwblhau'ch cyfrif', lle byddwch yn gallu nodi manylion amdanoch chi eich hun a gosod eich cyfrinair.

Er mwyn dilysu cais, bydd angen ichi nodi eich dyddiad geni a rhif yswiriant gwladol neu god post:

Dilysu'r ffurflen gais

Os ydych yn derbyn neges 'Gwall', gallai olygu nad yw'r manylion ar y cais a fewnforiwyd gennych yn cyd-fynd â'r manylion a nodwyd yn ystod y broses gwirio'r cais. Bydd angen ichi nodi'r union fanylion a oedd ar eich cais gwreiddiol.

Mewngofnodwch i'ch cyfrif a chliciwch ar yr opsiwn Dod o hyd i swydd yn y ddewislen, ac yna'r opsiwn Swyddi-trwy-e-bost:

Dewislen lywio Swyddi-trwy-e-bost

Ar ôl agor y dudalen Swyddi-trwy-e-bost, cliciwch ar y botwm Analluogi Swyddi-trwy-e-bost i roi'r gorau i'r rhybuddion e-bost:

Tudalen gosodiadau Swyddi-drwy-Ebost

Gallwch gael mynediad at eich e-ffurflen gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd drwy ddolen ar-lein i safle apps.trac.jobs. Fel arfer, anfonir hon i chi gan Dîm Recriwtio'r cyflogwr y gwnaethoch gais am swydd gydag ef, nail ai fel rhan o'ch llythyr cynnig amodol neu fel e-bost ar wahân:

  1. Unwaith y byddwch wedi derbyn y ddolen, dylech ei hagor i gael mynediad at safle apps.trac.jobs. Bydd y dudalen mewngofnodi/cofrestru yn llwytho, lle gallwch naill ai fewngofnodi i'r cyfrif sydd eisoes yn bodoli gennych, neu greu cyfrif os nad oes gennych un eisoes:

    Tudalen mewngofnodi Trac

    Hawlio cais all-lein
    Mae'n bosib bod eich cais i'r swydd wag wedi'i ychwanegu heb fod ar-lein gan Dîm Recriwtio'r cyflogwr. Os mai dyma'r achos, unwaith y byddwch wedi creu cyfrif/wedi mewngofnodi, gofynnir ichi wirio bod y cais all-lein yn perthyn i chi.

    Unwaith y byddwch wedi dilyn y cyfarwyddiadau ar y sgrin ac wedi gwirio'ch cais, byddwch yn gallu cael mynediad at yr e-ffurflen gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd drwy restr dasgau'r Dangosfwrdd:

    Rhestr dasgau'r dangosfwrdd
  2. Unwaith y byddwch wedi mewngofnodi i'ch cyfrif, bydd y dudalen Cais am Ddatgeliad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn agor. Yn dibynnu ar ddewisiadau Tîm Recriwtio'r cyflogwr, mae'n bosibl y gofynnir i chi a oes gennych dystysgrif gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar-lein gyda'r Gwasanaeth Diweddaru eisoes:

    Tasg cais am ddatgeliad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd
  3. Os ydych wedi'ch cofrestru gyda'r Gwasanaeth Diweddaru, dewiswch yr opsiwn mwyaf priodol yn y ffurflen. Fel arall, dewiswch yr opsiwn "Nid wyf yn credu fy mod wedi cael gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd o'r blaen.". Mae hyn yn datgelu'r opsiynau Ffurflen gais electronig y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd:

    Ffurflen gais electronig y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd
  4. I lansio e-ffurflen gais y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, dewiswch y botwm Dechrau'r ffurflen gais datgelu.

Ar ôl i chi glicio'r botwm Dechrau'r ffurflen gais datgelu, cwblhewch y ffurflen eDBS fel a ganlyn:

Canllawiau

Adran canllawiau

Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen y Canllawiau yn ofalus, gan eu bod yn cynnwys gwybodaeth bwysig. Ceir cyfarwyddiadau hefyd ar gyfer:

  • Sut i gael copi o'r ffurflen DBS yn Gymraeg.
  • Sut i gysylltu â'r Tîm Ceisiadau Sensitif os ydych yn ymgeisydd trawsryweddol ac yn dymuno cadw'r wybodaeth hon yn breifat.

Datganiad Prosesu Teg

Datganiad o brosesu teg

Mae'r datganiad hwn yn amlinellu sut y bydd y data a gofnodwyd yn eich ffurflen DBS yn cael ei reoli gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Mae blwch gwirio yn yr adran hon hefyd i gadarnhau eich bod wedi darllen ac yn cytuno i delerau ac amodau'r Polisi Preifatrwydd a'r Polisi Cwcis.

Click the Nesaf button to move onto the next page.

Eich enw

Gall rhai manylion fod wedi'u llenwi ymlaen llaw o'ch cyfrif ymgeisydd Trac. Gwiriwch y rhain yn ofalus i wneud yn siŵr eu bod yn gyfredol, a gwnewch yn siŵr eich bod yn diweddaru eich proffil cyfrif ymgeisydd Trac os oes angen.

Ffurflen gais datgelu

Gwiriwch/cwblhewch y meysydd canlynol:

  • Teitl - dewiswch y teitl priodol o'r rhestr gwymplen.
  • Forename * - rhowch yr enw rydych chi'n ei ddefnyddio ar hyn o bryd fel enw cyntaf.
  • Enwau canol - rhowch unrhyw enwau canol rydych chi'n eu defnyddio ar hyn o bryd (mae llinellau ar wahân i chi eu hychwanegu os oes gennych fwy nag un). Mae'n bwysig ichi beidio â gadael unrhyw enwau allan.
    • Nid oes gen i enwau canol - Os nad oes gennych enw canol, dewiswch y blwch gwirio. Bydd hyn yn gwneud yr enwau Canol yn llwyd, gan eich galluogi i'w adael yn wag.Adran eich enw
  • Cyfenw * - rhowch yr enw rydych chi'n ei ddefnyddio ar hyn o bryd fel eich cyfenw/enw teuluol.
  • Rhywedd * - dewis opsiwn o'r rhestr gwymplen.
    Gall ymgeiswyr trawsryweddol y byddai'n well ganddynt beidio â datgan yr wybodaeth hon gysylltu â'r Tîm Ceisiadau Sensitif. Gweler y Canllawiau a ddarperir ar dudalen 1 o'r ffurflen eDBS am fwy o wybodaeth.
  • Dyddiad geni - y dyddiad y cawsoch chi eich geni.
    Os yw hyn wedi cael ei lenwi ymlaen llaw o'ch cyfrif ymgeisydd Trac, gwnewch yn siŵr ei fod yn gywir.
  • Dewis iaith - dewiswch naill ai'r Saesneg neu'r Gymraeg o'r rhestr gwymplen.

Enwau cyntaf blaenorol

Os nad ydych wedi cael eich adnabod gan unrhyw enw cyntaf arall, nid oes angen i chi gwblhau'r adran hon a gellir ei gadael yn wag.

Os ydych chi yn/wedi cael eich adnabod gan enwau cyntaf eraill, cwblhewch y meysydd canlynol:

  • Enw - rhowch yr enw cyntaf arall rydych chi yn cael ei adnabod wrtho ar hyn o bryd neu rydych chi wedi cael eich adnabod o'r blaen.
  • Used from - use the drop-down list to select the year from which you started using this previous forename.
    • i - defnyddiwch y rhestr gwymplen i ddewis y flwyddyn y gwnaethoch chi roi'r gorau i ddefnyddio'r enw cyntaf blaenorol hwn. Os ydych chi'n dal i ddefnyddio'r enw cyntaf arall hwn, dewiswch Presennol yn y rhestr gwymplen.
Enwau cyntaf blaenorol

Os oes gennych fwy nag un enw cyntaf blaenorol, dewiswch y botwm Ychwanegu enw cyntaf arall i ychwanegu mwy o feysydd.

Cyfenwau blaenorol

Os nad ydych wedi cael eich adnabod wrth unrhyw gyfenw/enw teuluol arall, nid oes angen i chi gwblhau'r adran hon a gellir ei gadael yn wag.

Os ydych chi/wedi cael eich adnabod wrth unrhyw gyfenw/enw teuluol arall, cwblhewch y meysydd canlynol:

  • Enw - rhowch y cyfenw/enw teuluol arall rydych chi'n cael eich adnabod wrtho ar hyn o bryd neu rydych chi wedi cael eich adnabod wrtho o'r blaen.
  • Used from - use the drop-down list to select the year from which you started using this previous surname.
    • i - defnyddiwch y rhestr gwymplen i ddewis y flwyddyn y gwnaethoch chi roi'r gorau i ddefnyddio'r enw cyntaf blaenorol hwn. Os ydych chi'n dal i ddefnyddio'r enw cyntaf arall hwn, dewiswch Presennol yn y rhestr gwymplen.
Cyfenwau blaenorol

Os oes gennych fwy nag un cyfenw blaenorol, dewiswch y botwm Ychwanegu cyfenw arall i ychwanegu mwy o feysydd.

Click the Nesaf button to move onto the next page.

Canllawiau

  • Os ydych yn defnyddio dau enw ar yr un pryd (e.e. am resymau proffesiynol), dylech roi eich prif enw yn yr adran enw Cyfredol. Dylid nodi yr ail enw gan ddefnyddio'r adranEnwau cyntaf Blaenorol a'r adran Cyfenwau blaenorol , gyda Presennol wedi'i ddewis yn y maes i i'r ddau.
  • Mae angen datgan hyd yn oed enwau sydd wedi eu newid gan weithred newid enw ar y ffurflen hon.
  • Cymerwch ofal i beidio â nodi enwau cyntaf blaenorol yn yr adran Cyfenwau blaenorol, neu i'r gwrthwyneb.
  • Os ydych yn defnyddio eich trwydded yrru ar gyfer eich gwiriad adnabod, rhaid i'r enw fod yr un enw â'r un a ddatganwyd yn adran Enw cyfredol y ffurflen hon. Os nad ydyw, ni fyddwn yn gallu dilysu'r ffurflen eDBS a bydd angen i chi naill ai ailgyflwyno'r ffurflen eDBS neu ddefnyddio dull arall o adnabod.

Eich cyfeiriad presennol

Gall rhai manylion fod wedi'u llenwi ymlaen llaw o'ch cyfrif ymgeisydd Trac. Gwiriwch y rhain yn ofalus i wneud yn siŵr eu bod yn gyfredol, a gwnewch yn siŵr eich bod yn diweddaru eich proffil cyfrif ymgeisydd Trac os oes angen.

Os yw eich cyfeiriad presennol wedi cael ei lenwi ymlaen llaw o'ch cyfrif ymgeisydd, gwiriwch y meysydd canlynol eto:

  • Llinell cyfeiriad 1
  • Llinell cyfeiriad 2
  • Tref *
  • Sir
  • Cod post
  • Gwlad *
  • Preswylydd o * - defnyddiwch y rhestrau cwymplen i ddewis y mis a'r flwyddyn y dechreuodd eich preswyliad yn eich cyfeiriad presennol.
  • Preswylydd i * - bydd y maes hwn yn ddiofyn i'w gyflwyno oherwydd bod y meysydd hyn ar gyfer eich cyfeiriad presennol . Gellir nodi cyfeiriadau blaenorol ar dudalen nesaf y ffurflen.
Enghraifft o'ch cyfeiriad presennol

Os nad yw eich cyfeiriad presennol wedi cael ei lenwi ymlaen llaw, neu os oes angen i chi newid yr wybodaeth a gofnodwyd eisoes:

  1. Dewiswch y tab Chwiliad cyfeiriadau'r DU ar frig y meysydd cyfeiriad. Bydd hyn yn datgelu swyddogaeth chwilio am god post y DU:Eich cyfeiriad presennol
  2. Rhowch y cod post neu linell cyfeiriad 1 eich cyfeiriad presennol yn y bar chwilio.
  3. Bydd rhestr o gyfeiriadau a awgrymir yn ymddangos mewn rhestr gwymplen. Dewiswch yr opsiwn cywir o'r rhestr awgrymiadau:Enghraifft o chwiliad cyfeiriadau'r DU
  4. Bydd y cyfeiriad y byddwch yn ei ddewis yn llenwi'r meysydd yn yr adran Teipio cyfeiriad.
  5. Gwiriwch y meysydd canlynol eto er mwyn sicrhau eu bod yn gywir:
    • Llinell cyfeiriad 1
    • Llinell cyfeiriad 2
    • Tref *
    • Sir
    • Cod post
    • Gwlad *
    • Preswylydd o * - defnyddiwch y rhestrau cwymplen i ddewis y mis a'r flwyddyn y dechreuodd eich preswyliad yn eich cyfeiriad presennol.
    • Preswylydd i * - bydd y maes hwn yn ddiofyn i'w gyflwyno oherwydd bod y meysydd hyn ar gyfer eich cyfeiriad presennol . Gellir nodi cyfeiriadau blaenorol ar dudalen nesaf y ffurflen.

Click the Nesaf button to move onto the next page.

Canllawiau
  • Y cyfeiriad presennol a gofnodwyd ar y dudalen hon o'r ffurflen ddylai fod y cyfeiriad a ddarparwyd gennych yn eich gwiriad adnabod.
  • Gallwch ddatgan mwy nag un cyfeiriad (e.e. gall myfyriwr ddatgan cyfeiriad cartref ei rieni yn ei wiriad adnabod ond gall ddarparu ei gyfeiriad myfyriwr fel ei gyfeiriad presennol yn y ffurflen eDBS).
    • Yn yr achosion hyn, rhaid i chi sicrhau bod y dyddiadau ar gyfer y ddau gyfeiriad yn cydredeg.
    • Dylech hefyd roi manylion eich ail gyfeiriad yn Tudalen 4 y ffurflen eDBS.

Hanes eich cyfeiriad

Mae'r dudalen hon o'r ffurflen yn rhoi crynodeb clir o hanes eich cyfeiriad dros bum mlynedd.

Rhaid i chi ddatgan pob cyfeiriad lle rydych chi wedi byw am y pum mlynedd diwethaf. Gall methu â gwneud hynny olygu bod eich ffurflen eDBS yn cael ei gohirio neu ei thynnu'n ôl. Mae'n bwysig nad yw hanes eich cyfeiriad dros bum mlynedd yn cynnwys unrhyw fylchau rhwng y dyddiadau. Fodd bynnag, gellir nodi dyddiadau sy'n gorgyffwrdd.

Eich hanes o ran cyfeiriadau

I ychwanegu cyfeiriad blaenorol at hanes eich cyfeiriad:

Dewiswch y botwm Ychwanegu cyfeiriad blaenorol. Mae hyn yn datgelu'r ffurflen Eich cyfeiriadau blaenorol :

  1. Defnyddiwch naill ai opsiynau Chwiliad cyfeiriadau'r DU neu Teipio cyfeiriad i roi manylion eich cyfeiriad blaenorol. Cofiwch wirio/cwblhau'r meysydd canlynol:
    • Llinell cyfeiriad 1
    • Llinell cyfeiriad 2
    • Tref
    • Sir
    • Cod post
    • Gwlad *
    • Preswylydd o * - defnyddiwch y rhestrau cwymplen i ddewis y mis a'r flwyddyn y dechreuodd eich preswyliad yn eich cyfeiriad presennol.
    • Preswylydd tan * - defnyddiwch y rhestrau cwymplen i ddewis y mis a'r flwyddyn y daeth eich preswyliad yn y cyfeiriad blaenorol i ben.
    Eich cyfeiriadau blaenorol
  2. Cliciwch ar y botwm Nesaf i arbed y manylion hyn.
  3. Ailadroddwch y broses i sicrhau eich bod wedi datgan pob cyfeiriad rydych wedi byw ynddo am y pum mlynedd diwethaf.

Cyfeiriadau tramor
  • Os ydych wedi byw dramor am gyfnod estynedig, dylech naill ai nodi'r cyfeiriad llawn os ydych yn ei wybod, neu nodi "TRAMOR" yn llinell gyntaf manylion eich cyfeiriad blaenorol, ac yna cwblhau gweddill y ffurflen.
  • Neu os ydych yn gwybod y cyfeiriad post llawn ar gyfer eich cyfeiriad Tramor gallwch ychwanegu hwn yn llawn.
    • Nid oes angen cynnwys gwyliau yn hanes eich cyfeiriad oni bai eu bod wedi dod yn gartref parhaol i chi.
  • Peidiwch â thicio'r opsiwn teithio ar gyfer cyfeiriadau Tramor.

Os oes angen I chi ychwanegu cyfeiriad Tramor, dewiswch y botwm Ychwanegu cyfeiriad blaenorol.

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi dewis yr opsiwnTeipio Cyfeiriad yn hytrach na Chwiliad Cyfeiriadau'r DU.

Enghraifft o gyfeiriad tramorYn olaf, cliciwch ar y botwm Nesaf i arbed y manylion hyn.
Teithio y tu allan i'r DU
Os oes angen i chi ddatgan cyfnod o amser a dreulir yn teithio dramor, dewiswch y blwch gwirioTeithio y tu allan i'r DU :Eich cyfeiriadau blaenorol Teithio y tu allan i'r DU wedi'i ddewisCwblhewch y meysydd canlynol:
  • Gwlad * - dewiswch y wlad yr oeddech yn teithio ynddi o'r rhestr gwymplen.
  • Teithio o * - defnyddiwch y rhestrau cwymplen i ddewis y mis a'r flwyddyn y dechreuoch deithio.
  • Teithio tan * - defnyddiwch y rhestrau cwymplen i ddewis y mis a'r flwyddyn y gwnaethoch orffen teithio.
Cliciwch ar y botwm Nesaf i arbed y manylion hyn.

Bydd Hanes eich cyfeiriad yn llwytho, gan ddangos crynodeb o'ch cyfeiriad presennol a'r cyfeiriad(au) blaenorol rydych wedi'u darparu.

Rhaid i chi ddatgan pob cyfeiriad lle rydych chi wedi byw am y pum mlynedd diwethaf. Gall methu â gwneud hynny olygu bod eich ffurflen eDBS yn cael ei gohirio neu ei thynnu'n ôl. Mae'n bwysig nad yw hanes eich cyfeiriad dros bum mlynedd yn cynnwys unrhyw fylchau rhwng y dyddiadau. Fodd bynnag, gellir nodi dyddiadau sy'n gorgyffwrdd.

Eich hanes o ran cyfeiriadau wedi'i gwblhau

Click the Nesaf button to move onto the next page.

Manylion eraill

Cwblhewch y meysydd canlynol:

  • Cyfenw adeg geni - nodwch y cyfenw a roddwyd i chi ar eich genedigaeth, os yw'n wahanol i'ch cyfenw presennol. Os yw eich cyfenw presennol yr un fath â'ch cyfenw ar eich genedigaeth, gallwch adael y maes hwn yn wag.
    • Os cawsoch eich mabwysiadu cyn eich bod yn 10 oed, nid oes angen i chi ddarparu eich enw adeg eich geni.
  • Cyfenw adeg geni a ddefnyddwyd tan - defnyddiwch y rhestr gwymplen i ddewis y flwyddyn y gwnaethoch roi'r gorau i ddefnyddio'ch cyfenw ar adeg eich genedigaeth. Os na wnaethoch nodi unrhyw beth yn y maes Cyfenw adeg geni , bydd y maes data hwn yn parhau i fod yn llwyd.
  • Tref enedigol * - nodwch y dref y cawsoch eich geni ynddi.
  • Sir enedigol - nodwch y sir lle cawsoch eich geni.
    • Cymerwch ofal i beidio â chymysgu hwn gyda maes Gwlad enedigol .
  • Gwlad enedigol * - nodwch y wlad y cawsoch eich geni ynddi.
    • Cymerwch ofal i beidio â chymysgu hyn gyda'r maes Sir enedigol .
  • Cenedligrwydd adeg geni - nodwch eich cenedligrwydd adeg eich geni.
  • Rhif ffôn cyswllt - nodwch y rhif ffôn cyswllt a ffafrir gennych ar hyn o bryd.
  • Rhif Yswiriant Gwladol - nodwch eich rhif Yswiriant Gwladol.
  • Oes gennych chi unrhyw euogfarnau, rhybuddion, cerydd neu rybuddion terfynol na fyddai'n cael eu hidlo yn unol â'r canllawiau presennol? * - defnyddiwch y rhestr gwymplen i ddewis naill ai "Oes" neu "Nac oes" ar gyfer y cwestiwn hwn.
Manylion eraill

Click the Nesaf button to move onto the next page.

Crynodeb o'r manylion

Mae'r adran crynodeb o fanylion hon o'r dudalen yn dangos crynodeb o'r ffurflen wedi'i chwblhau.

Mae'n bwysig eich bod yn gwirio'r manylion yn ofalus ar gyfer pob crynodeb o dudalen ac yn defnyddio'r blychau gwirio i gadarnhau bod y manylion yn gywir.

Crynodeb o fanylion

Gwiriwch fod unrhyw feysydd nad ydynt yn berthnasol i chi wedi cael eu gadael yn wag. Ni ddylech nodi "Ddim yn berthnasol" nac unrhyw beth cyfwerth ar gyfer meysydd o'r fath.

Crynodeb o'r manylion

Defnyddiwch y blwch gwirioDatganiad gan ymgeiswyr i gadarnhau'r pwyntiau bwled a ddangosir oddi tano.

Crynodeb o fanylion

Datganiad Polisi Preifatrwydd

Defnyddiwch y blwch gwirio i gadarnhau eich bod wedi darllen a deall y polisi preifatrwydd ar gyfer ymgeiswyr.

Datganiad Polisi Preifatrwydd

Cydsyniad i gael canlyniad electronig eBulk

Defnyddiwch y blwch gwirio i gadarnhau eich bod yn cydsynio i'r DBS sy'n darparu canlyniad electronig ar gyfer eich cais.

Caniatâd i gael canlyniad electronig e-Swmp

Yn olaf, defnyddiwch y botwm Cyflwyno ffurflen i gyflwyno'ch ffurflen wedi'i chwblhau.

Os nad yw unrhyw un o'r manylion yn y crynodeb yn gywir, defnyddiwch y botwm Yn ôl i lywio'n ôl drwy'r ffurflen. Gallwch olygu unrhyw fanylion a gofnodwyd gennych yn y tudalennau blaenorol cyn symud ymlaen i'r dudalen grynodeb hon unwaith yn rhagor.


Cysylltu â ni

Darperir y wefan hon gan Civica UK Ltd

Peidiwch â chysylltu â ni i drafod cynnydd eich cais. Ni sy'n rheoli'r system recriwtio ar ran y cyflogwyr, a'r cyflogwyr sy'n prosesu eich cais am swydd.

Os ydych yn dymuno ymholi am eich cais, dylech gysylltu â'r cyflogwr yn uniongyrchol. Gallwch ddod o hyd i fanylion cyswllt yn ymwneud â'ch cais trwy agor y crynodeb o'r swydd a chlicio ar y botwm Cysylltu:

Application summary page, get in touch button

Os oes angen ichi gysylltu â ni am eich cyfrif ymgeisydd, ac nid yw eich ateb i'r cwestiwn yn yr adran Cwestiynau Cyffredin uchod, gallwch wneud hynny trwy ddefnyddio'r wybodaeth isod:

Ffôn: 01629 690800

E-bost: [email protected]