Mae Trac yn falch o bweru recriwtio ar gyfer
Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre
Gwybodaeth
Mae Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yn ‘Sefydliad Lletyol’ i nifer o sefydliadau allanol. Diffinnir statws ‘Sefydliad Lletyol’ fel sefydliadau sydd â’u ‘bwrdd’ ei hunain lle mae trafodaethau manylach yn ogystal â chymeradwyo strategaeth a pherfformiad yn digwydd neu lle mae nawdd uniongyrchol ei roi gan gorff statudol arall e.e. Llywodraeth Cymru.
Drwy gael trefniadau o’r fath, maent y tu allan i drefniadau rheoli arferol yr Ymddiriedolaeth. Er enghraifft, nid ydynt yr un fath â’n hadrannau ‘sydd wedi’u rheoli’ yn yr Ymddiriedolaeth sydd â Chyfarwyddwyr sy’n uniongyrchol atebol am strategaeth a rheoli gweithredol i’r Prif Weithredwr ac sydd wedi’u cynrychioli ar Fwrdd yr Ymddiriedolaeth ac yn aelodau o’r Bwrdd Rheoli Gweithredol.
Uwch Ymchwilydd Gwasanaethau Iechyd
Closed for applications on: 16-Chwef-2023 00:01
Statws y swydd wag: Closed
Closed for applications on: 16-Chwef-2023 00:01
Manylion allweddol
Lleoliad
- Gwefan
- Life Sciences Hub
- Cyfeiriad
- 3 Assembly Square
- Tref
- Cardiff
- Cod post
- CF10 4PL
- Major / Minor Region
- Caerdydd
Math o gontract a phatrwm gwaith
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser
- Gweithio gartref neu o bell
- Oriau cywasgedig
Cyflog
- Cyflog
- £48,526 - £54,619 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Gradd
- (Gradd 8a)
Arbenigedd
- Prif leoliad
- Research
Diolch am eich diddordeb mewn gweithio i Ganolfan Ganser Felindre (CGF), sy'n gyflogwr cyfle cyfartal ymroddedig. Mae CGF yn croesawu ceisiadau gan bobl sy'n rhannu ein gweledigaeth;
Bydd Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yn cael ei chydnabod yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol fel sefydliad enwog o ragoriaeth mewn perthynas â gofal rhoddwyr a chleifion, addysg ac ymchwil.
ein gwerthoedd;
BYDD Atebol
BYDD Feiddgar
BYDD Ofalgar
BYDD Ddeinamig
ac a fydd yn ategu’r gweithwyr profiadol ac arbenigol sydd gennym ar hyn o bryd, sydd yn frwdfrydig dros weithio mewn sefydliad sydd â’r uchelgais i ddarparu gwasanaethau a gofal o'r radd flaenaf i'n cleifion.
Mae gan Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre le arbennig ym maes gofal iechyd yng Nghymru. Mae’n sefydliad anhygoel i weithio ynddo ac i ddatblygu eich gyrfa hefyd. Mae'r Ymddiriedolaeth yn cynnwys dwy adran, sef Canolfan Ganser Felindre a Gwasanaeth Gwaed Cymru. Mae Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (NWSSP) a Thechnoleg Iechyd Cymru (HTW) yn disgyn dan adain yr Ymddiriedolaeth hefyd, ar ran Llywodraeth Cymru a GIG Cymru.
Mae CGF yn cynnig cyflog cystadleuol i’n gweithwyr, ynghyd â nifer o gynlluniau gwobrwyo, buddion a chefnogaeth i staff.
Os hoffech chi ragor o wybodaeth am y swydd wag hon, cysylltwch â'r rheolwr recriwtio, a fydd yn falch o drafod y cyfle hwn gyda chi.
Gwiriwch eich cyfrif e-bost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn yr holl ohebiaeth sy'n gysylltiedig â recriwtio trwy'r cyfrif e-bost sydd wedi cael ei roi ar y ffurflen gais.
Mae gan yr Ymddiriedolaeth yr hawl hefyd i gau swydd wag yn gynnar neu i dynnu hysbyseb yn ôl ar unrhyw gam o'r broses, er mwyn caniatáu i staff mewnol gael eu hadleoli i rolau addas.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Trosolwg o'r swydd
Mae cyfle cyffrous wedi codi i Uwch Ymchwilydd Gwasanaethau Iechyd profiadol a brwdfrydig i ymuno â'n tîm sy’n tyfu yn Technoleg Iechyd Cymru, wrth i ni gyflwyno ein cam cyffrous nesaf.
Mae HTW yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru ac yn cael ei letya gan Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre. Pwrpas HTW yw nodi, arfarnu, hyrwyddo, galluogi a mesur mabwysiadu technolegau iechyd ar draws GIG Cymru, a chysylltu ag agendâu cenedlaethol ar gyfer arloesi a gofal iechyd darbodus. Mae HTW yn arfarnu effeithiolrwydd clinigol a chost-effeithiolrwydd technolegau iechyd sydd ddim yn feddyginiaethau yng Nghymru, gan weithio gyda GIG Cymru, ond yn annibynnol hefyd. Mae HTW yn gweithredu fel Drws Ffrynt i GIG Cymru hefyd, ac yn cyfeirio datblygwyr technoleg at fentrau i gefnogi gwerthuso ac optimeiddio technoleg dros gylch bywyd y dechnoleg.
Rydym yn dymuno recriwtio Uwch Ymchwilydd Gwasanaethau Iechyd i helpu i arwain tîm o ymchwilwyr gwasanaethau iechyd a goruchwylio'r gwaith o gynnal ystod o adolygiadau tystiolaeth ac asesiadau technoleg iechyd.
Yn ogystal â meddu ar wybodaeth arbenigol am chwilio drwy lenyddiaeth ac arfarnu beirniadol, bydd gennych brofiad helaeth o arwain prosiectau seiliedig ar dystiolaeth a chyflwyno gwaith a fydd yn cefnogi canllawiau cenedlaethol ar ymyriadau iechyd. Byddwch yn gallu dangos eich gallu i greu partneriaethau gyda'r DU a phartneriaid rhyngwladol mewn asesiadau technoleg iechyd hefyd.
Advert
Bydd deiliaid y swydd yn canolbwyntio ar waith HTW o ran asesu'r defnydd ar sail tystiolaeth o dechnolegau iechyd sydd ddim yn feddyginiaethau. Gallant gyfrannu at waith ehangach HTW, sef cynnal adolygiadau tystiolaeth i gefnogi polisïau iechyd a gofal, a gwneud penderfyniadau yng Nghymru, fel rhan o Ganolfan Dystiolaeth Cymru sydd newydd ei ffurfio.
Gan gydweithio ag arbenigwyr pwnc a phwyllgorau penderfynu, bydd deiliaid y swydd yn hwyluso penderfyniadau ar sail tystiolaeth yng Nghymru ar ystod eang o bynciau iechyd a gofal. Byddan nhw'n cynnal adolygiadau tystiolaeth o gymhlethdod amrywiol, o grynhoi canfyddiadau ymchwil yn gyflym i gynnal adolygiadau mwy trwyadl o dystiolaeth.
Bydd deiliad y swydd yn rhoi rheolaeth broffesiynol ac arweinyddiaeth i aelodau newydd a phresennol o'r tîm Ymchwilwyr Gwasanaethau Iechyd hefyd, a bydd yn gweithredu fel rheolwr llinell ar gyfer aelodau eraill o'r tîm, yn rhoi cyngor a chefnogaeth i aelodau eraill o staff, ac yn sicrhau ansawdd gwaith adolygu tystiolaeth aelodau eraill y tîm.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais.
Gweithio i'n sefydliad
Yma yn Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, rydym yn hynod falch o'r gwasanaethau arbenigol rydym yn eu darparu ar draws Cymru yn ein Canolfan Ganser Felindre arloesol ac yng Ngwasanaeth Gwaed Cymru, sydd wedi ennill gwobrau, yn ogystal ag arbenigedd ein swyddogaethau corfforaethol sy'n dod â'r ddwy adran at ei gilydd. Rydym yn ffodus hefyd, i letya Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru a Technoleg Iechyd Cymru, ac rydym wedi datblygu gwaith partneriaeth cryf gyda'r gwasanaethau arbenigol hyn.
Sefydlwyd yr Ymddiriedolaeth ym 1999, ac mae ganddi weithlu ymroddedig sy'n ymdrechu'n barhaus i ddarparu egwyddorion allweddol gofal iechyd darbodus drwy amrywiaeth eang o rolau. Rydym yn chwarae rhan hanfodol yn y cymunedau rydym yn eu cefnogi, ac mae gennym gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer y dyfodol i barhau i wella'r gwasanaethau a ddarparwn. Rydym yn ymdrechu i gynnal ein gwerthoedd craidd ym mhopeth a wnawn drwy fod yn atebol, beiddgar, gofalgar a deinamig, a sicrhau'r gofal gorau posibl i'n cleifion a'n rhoddwyr.
Os ydych chi eisiau gweithio i sefydliad sy'n ymfalchïo mewn gwneud gwahaniaeth go iawn ac sy'n cynnig cyfleoedd gyrfa cyffrous, yna Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre ydy'r lle i chi.
Ewch i'n gwefan i gael rhagor o wybodaeth: https://velindre.nhs.wales/
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Mae'n hanfodol bod eich cais yn dangos sut rydych chi'n cwrdd â'r disgrifiad swydd / manyleb person ar gyfer y swydd hon.
I weithio yn y DU, mae angen nawdd ar bob ymgeisydd nad yw'n wladolyn o'r DU neu Weriniaeth Iwerddon i gael naill ai fisa Gweithiwr Iechyd a Gofal neu fisa Gweithiwr Medrus, oni bai bod gennych ganiatâd i weithio trwy lwybr arall. Dylai ymgeiswyr nad ydynt yn rhan o'r DU/Gweriniaeth Iwerddon sy'n dymuno gwneud cais hunanasesu'u tebygolrwydd o gael Tystysgrif Nawdd trwy ymweld â gwefan Fisâu a Mewnfudo'r DU. Os ydych chi'n gymwys i gael y fisa Iechyd a Gofal, mae'r costau ymgeisio yn is ac nid oes angen i chi dalu Gordal Iechyd Mewnfudo blynyddol.
Gofynion yr ymgeisydd
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Manyleb y person
Qualifications and/or Knowledge
Meini prawf hanfodol
- A post graduate master’s degree or PhD in a relevant subject such as public health, health services research or health care science, or equivalent research/clinical experience.
- Comprehensive knowledge and understanding of systematic review methodologies for clinical effectiveness
- Knowledge of legislation relevant to the regulation of non-medicine technologies (e.g. medical device regulations) and health services research methodology (e.g. GDPR)
- Evidence of continuous professional development.
Meini prawf dymunol
- A project management qualification or demonstrable experience.
- A broad understanding of NHS infrastructure
- An understanding of health economic methodologies
- Recognised management qualification (Diploma level or higher), or experience of leading and managing a team
Experience
Meini prawf hanfodol
- Specialist knowledge of one or more areas of research methodology such as the analysis and use of quantitative data, critical appraisal or qualitative research
- A good understanding of a wide range of other health services research skills, such as social research, qualitative research methods, questionnaire development, statistical analysis and epidemiology
- Experience of presenting and communicating scientific information clearly and appropriately to an expert and lay audience
- Experience of producing concise written reports for different audiences
- The ability to establish and develop good working relationships with a diverse range of stakeholders.
- Demonstrable experience in working with multidisciplinary teams including senior managers, academics or clinicians
- Project management skills and the ability to deal with and prioritise a varied and demanding workload
- Experience of reporting and disseminating research findings e.g. in HTA reports, and in papers for publication in medical and scientific journals,
- Demonstrable advanced problem solving skills
- Highly developed planning and organisational skills, with the ability to deal with and prioritise a varied and demanding workload
- Ability to work effectively as part of a team as well as work independently using own initiative.
Meini prawf dymunol
- Understanding of NHS Wales policy and priorities
- Specialist experience of one or more areas of research methodology such as the statistical analysis and use of quantitative data, critical appraisal, or qualitative research
- Experience of evaluating non-medicines technologies Insight into wider clinical and ethical issues, and implications for safe use of health technologies
- Understanding of quality management principles and systems
- Experience in applied health economics, economic modelling, systematic review & critical appraisal.
- Knowledge of international HTA systems
- Knowledge of NHS data collection, databases (e.g. literature databases) and analysis systems and how to use these to conduct research activity.
- Experience of working with Continuous Improvement Techniques for improving products, services or processes.
Aptitude & Abilities
Meini prawf hanfodol
- Strong conceptual and analytical skills, and demonstrable ability to analyse and synthesize complex technical data and information
- Highly developed IT skills including the use of statistical packages, referencing systems, spreadsheets and word processing tools and systems to manage research data
Meini prawf dymunol
- Ability to speak Welsh
- Ability to conduct meta-analyses and/or meta-syntheses
Values & Behaviours
Meini prawf hanfodol
- Effective interpersonal and communication skills.
- Agile, responsive, flexible and adaptable to changing environments
- Interest in self-development, maintaining and improving skills and competence
- Ability to work in a calm and efficient manner and respond well to unforeseen challenges
- A self-motivated & enthusiastic team player
Meini prawf dymunol
- Meets all desirable criteria as per attached job description/person specification
Other
Meini prawf hanfodol
- Enhanced writing and verbal presentation skills, and the ability to present complex information in a format suitable for different target audiences
Meini prawf dymunol
- Meets all desirable criteria as per attached job description/person specification
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- David Jarrom
- Teitl y swydd
- Principal Researcher
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
David Jarrom
Prif Ymchwilydd
Ddim yn derbyn ceisiadau mwyach
Ymddiheuriadau, ond nid yw'r swydd wag hon yn derbyn ceisiadau mwyach.
Gallwch chwilio am swyddi tebyg ar fwrdd swyddi'r cyflogwr, neu fynd i'n bwrdd swyddi cenedlaethol Health Jobs UK.