Mae Trac yn falch o bweru recriwtio ar gyfer
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Gwybodaeth
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd i boblogaeth o tua 372,320 ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. Mae'n darparu gwasanaethau Acìwt, Sylfaenol, Cymunedol, Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu trwy Ysbytai Cyffredinol a Chymunedol, Canolfannau Iechyd, Meddygfeydd Teulu, Deintyddion, Fferyllfeydd, Optometryddion a safleoedd eraill.
Ymarferydd y Gwasanaeth Cyswllt Toresgyrn
Closed for applications on: 2-Mai-2024 00:03
Statws y swydd wag: Closed
Closed for applications on: 2-Mai-2024 00:03
Manylion allweddol
Lleoliad
- Gwefan
- Ysbyty Glangwili/ Tywysog Philip/ Llwynhelyg/ Bronglais
- Tref
- Caerfyrddin/ Llanelli/ Hwlffordd/ Aberystwyth
- Cod post
- SA31 3BB
- Major / Minor Region
- Sir Gaerfyrddin
Math o gontract a phatrwm gwaith
- Contract
- 24 mis (Cyfnod Penodol/ Secondiad tan 01/07/2026)
- Oriau
- Llawnamser
- Rhan-amser
- Rhannu swydd
Cyflog
- Cyflog
- £44,398 - £50,807 Y flywddyn, pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Gradd
- (GIG AfC: Band 7)
Arbenigedd
- Prif leoliad
- Iechyd yr Esgyrn
- Dyddiad y cyfweliad
- 16/05/2024
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Mae gennym gyfle cyffrous i ddatblygu gwasanaeth cyffrous ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Mae’r Gwasanaethau Cyswllt Toresgyrn yn cau’r bwlch gofal ar gyfer cleifion sydd wedi torri asgwrn, trwy fynd ati mewn modd llwyddiannus a chosteffeithiol i ganfod achosion o gleifion â
thoresgyrn breuder sydd mewn perygl o gael osteoporosis. Mae gan dros dair miliwn o bobl yn y DU osteoporosis, ac mae'r bobl hyn mewn perygl sylweddol uwch o doresgyrn breuder.
Bydd deiliad y swydd yn sicrhau arweinyddiaeth glinigol wrth ddarparu'r Gwasanaeth Cyswllt Toresgyrn ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Bydd yn arwain agweddau ar y cynllun cyflawni ar gyfer yr arbenigedd gyda chefnogaeth Arweinydd Clinigol Hywel Dda ym maes Iechyd yr Esgyrn.
Mae'r swydd hon yn agored i amrywiaeth o ddisgyblaethau, er enghraifft Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd, Nyrsys, Fferyllwyr a Chymdeithion Meddygol.
Mae swydd hon yn Cyfnod Penodol/ Secondiad tan 01/07/2026. Os ydych yn gyflogai i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac yn gwneud cais am secondiad i'r swydd hon, bydd angen i'ch rheolwr presennol gytuno i'r secondiad cyn i chi gyflwyno eich cais.
Advert
Bydd deiliad y swydd yn darparu gwasanaeth o safon trwy fod yn ymarferydd annibynnol tra arbenigol. Bydd hyn yn cynnwys rheoli llwyth achosion amrywiol yn annibynnol lle mae’n ofynnol i ddeiliad y swydd gynllunio, addasu a chynnal asesiadau, diagnosis ac ymyriadau cymhleth, a chan amlygu barn glinigol annibynnol pan fo yna wrthdaro o ran y
farn arbenigol o ganlyniad i sail dystiolaeth amwys neu ddiffyg sail dystiolaeth.
Diffinio diagnosis gwahaniaethol ar sail tystiolaeth yn sgil asesiadau, gan gynnwys dehongli triniaethau diagnostig ac arwyddion a symptomau corfforol. Asesu, datblygu, gweithredu ac addasu rhaglenni gofal a thriniaeth tra arbenigol i fodloni anghenion cleientiaid sy'n seiliedig ar ymarfer cyfredol ar sail tystiolaeth a chanllawiau cenedlaethol.
Bydd hyn yn cynnwys nodi a rhoi cyngor i gyd-weithwyr meddygol ar yr angen am ragor o ymyriadau, a bydd yn gofyn am sgiliau corfforol i gynnal archwiliadau ac ymyriadau cleifion yn ddiogel.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 12,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;
Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;
48 o bractisau cyffredinol (chwech ohonynt yn bractisau a reolir), 47 practis deintyddol (gan gynnwys tri orthodontig), 99 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;
Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Disgwylir i ddeiliad y swydd arfer lefel uchel o ymreolaeth broffesiynol bersonol a llunio barn feirniadol i fodloni disgwyliadau a gofynion y rôl, a hynny mewn fframwaith diffiniedig.
Mae'r canlyniadau disgwyliedig wedi'u diffinio, ond deiliad y swydd a fydd yn penderfynu ar y ffordd orau o'u cyflawni, a hynny dan arweiniad egwyddorion a pholisïau galwedigaethol eang. Disgwylir iddo weithio ar lefel glinigol yn unol â'i lefel cymhwysedd, a gweithio'n hyblyg mewn tîm.
Bydd yn chwarae rôl arweinyddiaeth glinigol allweddol o ran cefnogi gwasanaeth Iechyd yr Esgyrn â phrosesau moderneiddio, a hynny trwy gyfrannu, cynllunio, datblygu a gwerthuso'r gwasanaeth yn ei faes arbenigol. Bydd hyn yn cynnwys arwain agweddau ar archwilio a gwerthuso. Gwneir hyn mewn cydweithrediad â'r Arweinydd Clinigol.
Bydd deiliad y swydd hefyd yn arwain y gwaith o ddatblygu a chynnal safonau clinigol ledled y Bwrdd Iechyd fel y cytunwyd trwy brosesau cynllunio swyddi. Bydd hyn yn cynnwys rheoli perfformiad, darparu hyfforddiant seiliedig ar sgiliau a datblygu fframweithiau sy'n seiliedig ar gymhwysedd ar gyfer ymarferwyr y Gwasanaeth Cyswllt Toresgyrn. Yn gysylltiedig â'r prosesau hyn, bydd yn cynnal dadansoddiadau beirniadol,
gwerthusiadau a synthesisau o ganlyniadau ymchwil cyfredol a/neu lenyddiaeth berthnasol er mwyn cynnal lefelau arbenigol o wybodaeth ac ymarfer yn y maes arbenigol.
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadu ar 14/05/2024
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gweithredu polisi dwyieithog
‘Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir drwy gyfrwng y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau a wneir yn y Saesneg’.
Trwy gyflwyno eich cais i NHS Jobs/Trac, rydych yn gydsynio i elfennau o ddata eich cais gael eu trosglwyddo i Gofnod Staff Electronig (ESR) y GIG a systemau diogel, mewnol Gweithlu’r GIG er mwyn cefnogi a rheoli eich recriwtio a’ch cyflogaeth o fewn y sefydliad sy’n eich cyflogi; i’w defnyddio gan yr adran Recriwtio at ddibenion gwirio eich Cofrestriad Proffesiynol ar-lein (lle bo’n briodol).
Mae’r prosesau hyn yn unol â phrosesu Teg a Chyfreithlon yn unol â Deddfwriaeth Diogelu Data cyfredol yn enwedig y rhai hynny mewn perthynas â’ch data personol neu bersonol sensitif (diffinir data personol sensitif fel unrhyw gyflwr iechyd meddwl neu gorfforol, tarddiad hiliol neu ethnig, cyfeiriadedd rhywiol, aelodaeth undeb llafur, barn wleidyddol neu gred crefyddol datganedig). Fel sefydliad, rydym yn sicrhau bod y ddeddfwriaeth sy’n diffinio cyfrinachedd yn cael ei dilyn megis y defnydd o ddata at ddibenion penodol, diffiniedig, a defnydd o ddata sy’n berthnasol ac nid yn ormodol wrth ymarfer cywirdeb data a diogelwch yr holl wybodaeth bersonol adnabyddadwy a gedwir.
Os cewch eich penodi’n llwyddiannus, trwy lenwi’r ffurflen gais rydych yn awdurdodi’r BIP i gael unrhyw fanylion gwasanaeth blaenorol i’r GIG yn cynnwys yr holl wybodaeth ar salwch a gedwir yn electronig, trwy’r broses Trosglwyddo Rhyng-awdurdod ar y Cofnod Staff Electronig.
I weithio yn y DU, mae angen nawdd ar bob ymgeisydd nad yw'n wladolyn o'r DU neu Weriniaeth Iwerddon i gael naill ai fisa Gweithiwr Iechyd a Gofal neu fisa Gweithiwr Medrus, oni bai bod gennych ganiatâd i weithio trwy lwybr arall. Dylai ymgeiswyr nad ydynt yn rhan o'r DU/Gweriniaeth Iwerddon sy'n dymuno gwneud cais hunanasesu'u tebygolrwydd o gael Tystysgrif Nawdd trwy ymweld â gwefan Fisâu a Mewnfudo'r DU. Os ydych chi'n gymwys i gael y fisa Iechyd a Gofal, mae'r costau ymgeisio yn is ac nid oes angen i chi dalu Gordal Iechyd Mewnfudo blynyddol.
Gofynion yr ymgeisydd
Rhaid bod gennych gofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Addysg hyd at lefel gradd, neu brofiad cyfatebol
- Tystiolaeth o gyrsiau/gymwysterau arweinyddiaeth
- Gradd Meistr neu lefel gyfatebol o brofiad arbenigol yn y maes arbenigedd clinigol
- Cofrestriad proffesiynol (e.e. y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC), y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC), y Cyngor Fferyllol Cyffredinol (GPhC), y Gofrestr Wirfoddol a Reolir ar gyfer Cymdeithion Meddygol (PAMVR).
Meini prawf dymunol
- Presgripsiynydd anfeddygol
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o weithio ym maes Meddygaeth, Orthopedeg neu arbenigedd cysylltiedig
- Tystiolaeth o weithio mewn Tîm Amlddisgyblaethol
- Profiad mewn clinigau dan arweiniad meddygon ymgynghorol
- Profiad sylweddol o weithio yn rôl ymarferydd annibynnol
- Profiad o reoli llwyth achosion cymhleth gan ddefnyddio proses rhesymu clinigol ddatblygedig
- Profiad o gyflawni archwiliadau
- Profiad o ddarparu hyfforddiant i staff ar faterion cymhleth
- Tystiolaeth o ymarfer clinigol uwch mewn maes arbenigol
Meini prawf dymunol
- Profiad o atgyfeirio ar gyfer profion ac o ddadansoddi canlyniadau'r profion hynny
- Profiad o gynorthwyo i arwain datblygiadau i wasanaethau
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Dawn a Gallu
Meini prawf hanfodol
- Tystiolaeth o addysg neu ddatblygiad pellach mewn perthynas ag osteoporosis a gofal toresgyrn
- Profiad o oruchwylio staff iau/myfyrwyr
- Sgiliau asesu a phenderfyniadau clinigol datblygedig
- Sgiliau addysgu a chyflwyno
- Sgiliau TG a chyfrifiadurol da
- Nodi a chymryd rhan yn y broses archwilio/ymchwil
- Y gallu i weithio'n annibynnol
- Y gallu i drefnu a blaenoriaethu anghenion gwrthgyferbyniol y gwasanaeth
- Ymwybyddiaeth o strwythur a threfniadaeth y GIG ehangach
- Yn rhagweithiol o ran datblygu a gwella'r modd y mae gwasanaethau'n cael eu darparu
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Dr Will Backen
- Teitl y swydd
- Consultant Physician-Special Interest Osteoporosis
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Email or TEAMS
Ddim yn derbyn ceisiadau mwyach
Ymddiheuriadau, ond nid yw'r swydd wag hon yn derbyn ceisiadau mwyach.
Gallwch chwilio am swyddi tebyg ar fwrdd swyddi'r cyflogwr, neu fynd i'n bwrdd swyddi cenedlaethol Health Jobs UK.