Mae Trac yn falch o bweru recriwtio ar gyfer
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Gwybodaeth
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd i boblogaeth o tua 372,320 ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. Mae'n darparu gwasanaethau Acìwt, Sylfaenol, Cymunedol, Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu trwy Ysbytai Cyffredinol a Chymunedol, Canolfannau Iechyd, Meddygfeydd Teulu, Deintyddion, Fferyllfeydd, Optometryddion a safleoedd eraill.
Nyrs Gofrestredig
Closed for applications on: 7-Mai-2024 00:04
Statws y swydd wag: Closed
Closed for applications on: 7-Mai-2024 00:04
Manylion allweddol
Lleoliad
- Gwefan
- Ysbyty Cyffredinol Glangwili
- Tref
- Caerfyrddin
- Cod post
- SA31 2AF
- Major / Minor Region
- Sir Gaerfyrddin
Math o gontract a phatrwm gwaith
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser
- Rhan-amser
Cyflog
- Cyflog
- £28,834 - £35,099 y flwyddyn pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Gradd
- (Band 5)
Arbenigedd
- Prif leoliad
- Gofal Meddygol Cyffredinol/Llawfeddygol/Henoed
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Rydym yn chwilio am Nyrsys Cofrestredig brwdfrydig ac ymroddedig i ymuno â'n timau Nyrsio yn Ysbyty Cyffredinol Glangwili, Caerfyrddin.
Mae cyfleoedd ar gael yn y meysydd canlynol:-
Damweiniau ac Achosion Brys – yn cynnwys tair cilfan dadebru, 13 o gilfannau mawr a Brysbennu, a dyma'r Uned Argyfyngau ategol yn y Bwrdd Iechyd ar gyfer pob llwybr arbenigol, gan gynnwys Trawma Mawr, Wroleg, y Glust, y Trwyn a'r Gwddf, Gastroberfeddol, Pediatreg, Gynaecoleg.
Teifi – ward Trawma ac Orthopedig â 30 o welyau (gan gynnwys cleifion Trawma Mawr) sy'n cefnogi adsefydlu ar ôl llawdriniaeth (lan i 17 awr yr wythnos).
Myrddin – ward lawfeddygol â 17 o welyau sy'n arbenigo yn y Glust, y Trwyn a'r Gwddf (gan gynnwys llwybr llawfeddygol dewisol dynodedig y Glust, y Trwyn a'r Gwddf ).
Yr Uned Penderfyniadau Clinigol – Derbyniadau Meddygol Acíwt a drosglwyddir o'r Uned Argyfyngau neu a atgyfeirir gan Ymarferwyr Cyffredinol – bydd yn gweld cleifion ag amrywiaeth eang o broblemau meddygol acíwt, gan gynnwys strôc a chyflyrau'r frest.
Preseli – ward lawfeddygol gyffredinol â 15 o welyau sy'n arbenigo yn y colon a'r rhefr (lan i 30.5 awr yr wythnos).
Dewi - yn ward 20 gwely sy'n arbenigo mewn meddygaeth gyffredinol acíwt (lan i 12 awr yr wythnos).
Advert
Rydym yn chwilio am nyrsys sy'n angerddol ynghylch darparu'r gofal gorau posibl, yn meddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol, ac yn barod i weithio'n rhan o dîm amlddisgyblaethol ymrwymedig a medrus.
Mae gennym amgylchedd cefnogol dros ben ar gyfer nyrsys cofrestredig, sy'n cynnwys nyrs datblygiad proffesiynol ar y safle, yn ogystal â rhaglen breceptoriaeth ragorol ar gyfer nyrsys newydd gymhwyso.
Bydd gennych amodau cyflogaeth rhagorol ac rydym wedi ymrwymo'n llawn i gefnogi gweithwyr i gyflawni'r cydbwysedd priodol rhwng bywyd a gwaith, gan gynnig cyfleoedd ac oriau gwaith hyblyg. Mae mwyafrif y wardiau'n cynnig cyfuniad o sifftiau hir a byr, sy'n cynnwys sifftiau yn ystod y dydd, y nos, ar benwythnosau ac ar wyliau banc.
Mae gweithio yn Ysbyty Cyffredinol Glangwili yn cynnig cyfleoedd gwych, a hynny yn y gwaith a'r tu allan iddo. Mae’r ardal wedi’i lleoli mewn rhan o gefn gwlad hardd Sir Gaerfyrddin, gyda chysylltiadau ag ardaloedd arfordirol Sir Benfro a Cheredigion.
Mae prisiau tai rhesymol ac ysgolion rhagorol yn cyfrannu at ansawdd bywyd uchel. Mae yna gysylltiadau da yn bodoli rhwng yr ardal a Chaerdydd a Llundain hefyd, a hynny ar y ffyrdd a'r rheilffyrdd.
Gweithio i'n sefydliad
Mae Ysbyty Cyffredinol Glangwili, a agorodd ym 1949, yn un prysur a chyfeillgar sydd â chyfarpar da. Mae tua 260 o welyau cleifion mewnol acíwt a dewisol, yn cefnogi derbyniadau llawfeddygol a meddygol brys. Mae yna Uned Argyfyngau 24 awr a Gwasanaeth Dydd Uned Mân Anafiadau. Mae'r wardiau meddygol wedi'u neilltuo i Anadlol, Gastroenteroleg/Haematoleg, Endocrinoleg, Cardioleg, Strôc/Adsefydlu, Meddygaeth Gyffredinol, Gofal yr Henoed, ac Adsefydlu.
Mae Ysbyty Cyffredinol Glangwili hefyd yn darparu ar gyfer Derbyniadau Llawfeddygaeth Gyffredinol Frys, Wroleg, Orthopaedeg/Trawma Mawr, y Glust, y Trwyn a'r Gwddf a Gynaecoleg, ynghyd â derbyniadau gofal dewisol ar gyfer y Glust, y Trwyn a'r Gwddf a Gynaecoleg.
Mae'r cyfuniad o waith tîm ardderchog a chyfleoedd datblygu staff wedi caniatáu cynnydd a datblygiadau arloesol sylweddol o ran gwasanaethau yn Ysbyty Cyffredinol Glangwili. Mae'r Tîm Nyrsio yn ffynnu ar wella ei Ardaloedd Clinigol i sicrhau bod y claf yn cael y profiad gorau posibl. Ein nod yw grymuso'r proffesiwn nyrsio ar bob lefel ymarfer i wella diogelwch ac ansawdd y gwasanaethau. Byddwn yn gwneud hyn trwy fuddsoddi yn ein gweithlu a'i ddatblygu trwy barchu'r cyfraniad y mae ein staff yn ei wneud i'n cleifion a'r sefydliad.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Nodwch yn eich cais pa feysydd sydd o ddiddordeb i chi.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Mynediad ar unwaith i’n budd llesiant ariannol – Wagestream. Mae Wagestream yn adnodd ar gyfer bywyd bob dydd sy’n eich caniatáu i gael eich talu eich ffordd eich hun, a olrain eich cyflog mewn amser real, ffrydio hyd at 50% o’r cyflog rydych wedi ennill yn barod, dysgu awgrymiadau hawdd i reoli eich arian yn well ac arbed eich tâl yn syth o’ch cyflog.
Am rhagor o wybodaeth - https://fb.watch/hzQjE8HzTN/
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gweithredu polisi dwyieithog
‘Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir drwy gyfrwng y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau a wneir yn y Saesneg’.
Trwy gyflwyno eich cais i NHS Jobs/Trac, rydych yn gydsynio i elfennau o ddata eich cais gael eu trosglwyddo i Gofnod Staff Electronig (ESR) y GIG a systemau diogel, mewnol Gweithlu’r GIG er mwyn cefnogi a rheoli eich recriwtio a’ch cyflogaeth o fewn y sefydliad sy’n eich cyflogi; i’w defnyddio gan yr adran Recriwtio at ddibenion gwirio eich Cofrestriad Proffesiynol ar-lein (lle bo’n briodol).
Mae’r prosesau hyn yn unol â phrosesu Teg a Chyfreithlon yn unol â Deddfwriaeth Diogelu Data cyfredol yn enwedig y rhai hynny mewn perthynas â’ch data personol neu bersonol sensitif (diffinir data personol sensitif fel unrhyw gyflwr iechyd meddwl neu gorfforol, tarddiad hiliol neu ethnig, cyfeiriadedd rhywiol, aelodaeth undeb llafur, barn wleidyddol neu gred crefyddol datganedig). Fel sefydliad, rydym yn sicrhau bod y ddeddfwriaeth sy’n diffinio cyfrinachedd yn cael ei dilyn megis y defnydd o ddata at ddibenion penodol, diffiniedig, a defnydd o ddata sy’n berthnasol ac nid yn ormodol wrth ymarfer cywirdeb data a diogelwch yr holl wybodaeth bersonol adnabyddadwy a gedwir.
Os cewch eich penodi’n llwyddiannus, trwy lenwi’r ffurflen gais rydych yn awdurdodi’r BIP i gael unrhyw fanylion gwasanaeth blaenorol i’r GIG yn cynnwys yr holl wybodaeth ar salwch a gedwir yn electronig, trwy’r broses Trosglwyddo Rhyng-awdurdod ar y Cofnod Staff Electronig.
I weithio yn y DU, mae angen nawdd ar bob ymgeisydd nad yw'n wladolyn o'r DU neu Weriniaeth Iwerddon i gael naill ai fisa Gweithiwr Iechyd a Gofal neu fisa Gweithiwr Medrus, oni bai bod gennych ganiatâd i weithio trwy lwybr arall. Dylai ymgeiswyr nad ydynt yn rhan o'r DU/Gweriniaeth Iwerddon sy'n dymuno gwneud cais hunanasesu'u tebygolrwydd o gael Tystysgrif Nawdd trwy ymweld â gwefan Fisâu a Mewnfudo'r DU. Os ydych chi'n gymwys i gael y fisa Iechyd a Gofal, mae'r costau ymgeisio yn is ac nid oes angen i chi dalu Gordal Iechyd Mewnfudo blynyddol.
Gofynion yr ymgeisydd
Rhaid bod gennych gofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Cofrestriad Cyfredol gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth
Meini prawf dymunol
- Gradd mewn Nyrsio
- Tystiolaeth o astudiaeth a hyfforddiant ol-gofrestru, e.e. Amddiffyn Oedolion Agored i Niwed (POVA)
- Tystiolaeth o astudiaeth a hyfforddiant ol-gofrestru, e.e. Amddiffyn Plant
- Triniaeth Cynnal Bywyd Ganolradd os yw'n ofynnol mewn lleoliad clinigol
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Tystiolaeth cyn-gofrestru o ofal nyrsio uniongyrchol
- Profiad o ddarparu gofal nyrsio holistaidd
- Diddordeb mewn meithrin sgiliau nyrsio
Meini prawf dymunol
- Dealltwriaeth glir o'r fframwaith llywodraethu clinigol
- Rhoi arfer seiliedi ar dystiolaeth ar waith
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Iona Evans
- Teitl y swydd
- Assistant Head of Nursing
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
Os ydych yn cael problemau'n gwneud cais, cysylltwch â
- Address
- Resourcing Team
- Hafan Derwen
- Carmarthen
- SA31 3BB
Ddim yn derbyn ceisiadau mwyach
Ymddiheuriadau, ond nid yw'r swydd wag hon yn derbyn ceisiadau mwyach.
Gallwch chwilio am swyddi tebyg ar fwrdd swyddi'r cyflogwr, neu fynd i'n bwrdd swyddi cenedlaethol Health Jobs UK.