Mae Trac yn falch o bweru recriwtio ar gyfer
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
![Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo](https://static.trac.jobs/employer-logos/369.png)
Gwybodaeth
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd i boblogaeth o tua 372,320 ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. Mae'n darparu gwasanaethau Acìwt, Sylfaenol, Cymunedol, Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu trwy Ysbytai Cyffredinol a Chymunedol, Canolfannau Iechyd, Meddygfeydd Teulu, Deintyddion, Fferyllfeydd, Optometryddion a safleoedd eraill.
Therapydd Lleferydd ac Iaith Pediatrig
Accepting applications until: 10-Jul-2024 23:59
Statws y swydd wag: Open
Accepting applications until: 10-Jul-2024 23:59
Manylion allweddol
Lleoliad
- Gwefan
- Canolfan Gofal Integredig Aberaeron
- Cyfeiriad
- Godre Rhiwgoch
- Tref
- Aberaeron
- Cod post
- SA46 0DY
- Major / Minor Region
- Sir Gaerfyrddin
Math o gontract a phatrwm gwaith
- Contract
- 8 mis (Cyfnod penodol/secondiad tan 31/03/2025)
- Oriau
- Llawnamser
- Gweithio hyblyg
Cyflog
- Cyflog
- £28,834 - £35,099 y flwyddyn pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Gradd
- (Gradd 5)
Arbenigedd
- Prif leoliad
- Therapi Lleferydd ac Iaith
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Mae hon yn swydd cyfnod penodol/secondiad tan 31/03/2025. Os ydych chi'n gyflogai i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac yn gwneud cais am y swydd hon fel secondiad, mae angen cytundeb ar gyfer yr secondiad gan eich rheolwr presennol cyn gwneud cais.
Mae hwn yn gyfle cyffrous i Therapydd Lleferydd ac Iaith profiadol ymuno â thîm cymunedol sefydledig wedi'i leoli yng Ngheredigion. Rydym yn hapus i ystyried trefniadau gweithio llawn-amser a threfniadau gweithio hyblyg. Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus brofiad helaeth o weithio gyda phlant oedran ysgol a/neu gyn-ysgol.
Rydym yn chwilio am unigolyn sy'n amlygu sgiliau rhyngbersonol a threfnu rhagorol ac sy'n teimlo'n angerddol ynghylch darparu gofal o safon uchel wrth weithio yng nghalon y gymuned. Byddwch yn gweithio'n rhan o dîm sefydledig o therapyddion, cynorthwywyr a chyd-weithwyr amlasiantaeth.
Advert
Byddwch yn cefnogi tîm o Uwch-therapyddion Lleferydd ac Iaith Arbenigol ac yn cael cyfle i fod yn rhan o'r gwaith o lunio a datblygu gwasanaethau, yn ogystal â darparu goruchwyliaeth i gyd-weithwyr iau.
Bydd y llwyth achosion yn cynnwys plant ag ystod o anghenion o ran Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu, a bydd yna hefyd nifer bach o blant ag anghenion cymhleth.
Byddwch yn gyfrifol am reoli eich llwyth achosion eich hun mewn ysgolion penodol, gan ddarparu asesiadau, ymyriadau, cyngor a hyfforddiant yn ôl y gofyn.Mae'r gallu i feithrin perthnasoedd gwaith cadarn â staff addysgol yn hanfodol.
Bydd hefyd yn ofynnol i chi gysylltu'n agos â rhieni, staff addysgol a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill i sicrhau y gellir ymgorffori strategaethau a dulliau gweithredu gartref ac yn yr ysgol.
Caiff y broses o ddatblygu sgiliau arwain ym mhob swydd ei hybu'n frwd o fewn Gwasanaeth Therapi Lleferydd ac Iaith Hywel Dda. Rydym yn annog ymgysylltiad brwd â Grwpiau Ymarfer Proffesiynol lleol, ynghyd ag ymwneud â datblygiadau arloesol ym maes Therapi Lleferydd ac Iaith
ar lefel Cymru Gyfan/Genedlaethol.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg, fel ei gilydd, wneud cais.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 12,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;
Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;
48 o bractisau cyffredinol (chwech ohonynt yn bractisau a reolir), 47 practis deintyddol (gan gynnwys tri orthodontig), 99 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;
Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn darparu cyfuniad o ddarpariaeth arbenigol, targededig a chyffredinol i blant a'r timau sy'n cefnogi'r plant sydd ag amrywiaeth eang o anghenion o ran lleferydd, iaith a chyfathrebu
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon
Cynhelir y cyfweliadau ar 18/07/2024.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gweithredu polisi dwyieithog
‘Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir drwy gyfrwng y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau a wneir yn y Saesneg’.
Trwy gyflwyno eich cais i NHS Jobs/Trac, rydych yn gydsynio i elfennau o ddata eich cais gael eu trosglwyddo i Gofnod Staff Electronig (ESR) y GIG a systemau diogel, mewnol Gweithlu’r GIG er mwyn cefnogi a rheoli eich recriwtio a’ch cyflogaeth o fewn y sefydliad sy’n eich cyflogi; i’w defnyddio gan yr adran Recriwtio at ddibenion gwirio eich Cofrestriad Proffesiynol ar-lein (lle bo’n briodol).
Mae’r prosesau hyn yn unol â phrosesu Teg a Chyfreithlon yn unol â Deddfwriaeth Diogelu Data cyfredol yn enwedig y rhai hynny mewn perthynas â’ch data personol neu bersonol sensitif (diffinir data personol sensitif fel unrhyw gyflwr iechyd meddwl neu gorfforol, tarddiad hiliol neu ethnig, cyfeiriadedd rhywiol, aelodaeth undeb llafur, barn wleidyddol neu gred crefyddol datganedig). Fel sefydliad, rydym yn sicrhau bod y ddeddfwriaeth sy’n diffinio cyfrinachedd yn cael ei dilyn megis y defnydd o ddata at ddibenion penodol, diffiniedig, a defnydd o ddata sy’n berthnasol ac nid yn ormodol wrth ymarfer cywirdeb data a diogelwch yr holl wybodaeth bersonol adnabyddadwy a gedwir.
Os cewch eich penodi’n llwyddiannus, trwy lenwi’r ffurflen gais rydych yn awdurdodi’r BIP i gael unrhyw fanylion gwasanaeth blaenorol i’r GIG yn cynnwys yr holl wybodaeth ar salwch a gedwir yn electronig, trwy’r broses Trosglwyddo Rhyng-awdurdod ar y Cofnod Staff Electronig.
I weithio yn y DU, mae angen nawdd ar bob ymgeisydd nad yw'n wladolyn o'r DU neu Weriniaeth Iwerddon i gael naill ai fisa Gweithiwr Iechyd a Gofal neu fisa Gweithiwr Medrus, oni bai bod gennych ganiatâd i weithio trwy lwybr arall. Dylai ymgeiswyr nad ydynt yn rhan o'r DU/Gweriniaeth Iwerddon sy'n dymuno gwneud cais hunanasesu'u tebygolrwydd o gael Tystysgrif Nawdd trwy ymweld â gwefan Fisâu a Mewnfudo'r DU. Os ydych chi'n gymwys i gael y fisa Iechyd a Gofal, mae'r costau ymgeisio yn is ac nid oes angen i chi dalu Gordal Iechyd Mewnfudo blynyddol.
Gofynion yr ymgeisydd
Rhaid bod gennych gofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn hanfodol
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Gradd mewn Therapi Lleferydd ac Iaith
- Cofrestriad gyda'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofa
- Aelodaeth o'r RCSLT
- Gwybodaeth am bolisïau a mentrau cenedlaethol a lleol sy'n berthnasol i'r llwyth achosion
- Gwybodaeth am ystod eang o offer asesu a gweithdrefnau arbenigol sy'n berthnasol i'r llwyth achosion
- Gwybodaeth am ddiagnosisau gwahanol sy'n berthnasol i Anghenion Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu (SLCN) plant
- Gwybodaeth am ddewis, gosod a gwerthuso nodau triniaethau
- Gwybodaeth am ymyriadau therapiwtig sy'n berthnasol i'r llwyth achosion, ynghyd â gallu i amlygu'r sail dystiolaeth ar gyfer y dulliau hyn
- Gwybodaeth am weithio mewn tîm amlddisgyblaethol
- Gwybodaeth am faterion cyfreithiol a phroffesiynol sy'n berthnasol i gyfrinachedd a chadw cofnodion
Meini prawf dymunol
- Cwnsela sylfaenol
- Dealltwriaeth o egwyddorion archwiliad/lywodraethu clinigol
- Dulliau ymchwil ansoddol a meintiol sylfaenol
- Gwybodaeth am faterion Iechyd a Diogelwch perthnasol
- Gwybodaeth am ddwyieithrwydd a'r ystyriaethau sy'n angenrheidiol wrth ddarparu therapi mewn amgylchedd dwyieithog
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o weithio gyda phlant ag Anghenion Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu mewn amrywiaeth o leoliadau, yn cynnwys gwaith unigol a gwaith grŵp
- Profiad o weithio mewn ysgolion
- Profiad o amrywiaeth eang o dechnegau asesu a therapi, a'r modd y cânt eu defnyddio
- Profiad o amrywiaeth eang o dechnegau asesu a therapi, a'r modd y cânt eu defnyddio
Meini prawf dymunol
- Profiad o weithio mewn unedau/dosbarthiadau arbenigol
- Darparu hyfforddiant i ystod o gynulleidfaoedd
- Goruchwylio gweithwyr cymorth
- Profiad o gymryd rhan mewn archwiliadau a thechnegau eraill i werthuso gwasanaethau
Sgiliau Iaith
Meini prawf hanfodol
- Siaradwr Cymraeg (Level 4)
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Mererid Jones
- Teitl y swydd
- Clinical Lead Speech and Language Therapist
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01239 801562
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Manon Haf Richards
Arweinydd Gwasanaeth ar gyfer Ceredigion
01239 801562
Dechrau eich cais
Rhaid ichi fewngofnodi i gyfrif Trac cyn y gallwch wneud cais am y swydd hon.
Mewngofnodi
Creu cyfrif
Creu eich cyfrif a gwneud cais am eich swydd newydd!