Mae Trac yn falch o bweru recriwtio ar gyfer
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
![Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo](https://static.trac.jobs/employer-logos/369.png)
Gwybodaeth
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd i boblogaeth o tua 372,320 ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. Mae'n darparu gwasanaethau Acìwt, Sylfaenol, Cymunedol, Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu trwy Ysbytai Cyffredinol a Chymunedol, Canolfannau Iechyd, Meddygfeydd Teulu, Deintyddion, Fferyllfeydd, Optometryddion a safleoedd eraill.
Hyfforddwr Technegol Arbenigol Adsefydlu
Accepting applications until: 17-Jul-2024 23:59
Statws y swydd wag: Open
Accepting applications until: 17-Jul-2024 23:59
Manylion allweddol
Lleoliad
- Gwefan
- Ysbyty Tywysog Philip
- Cyfeiriad
- Bryngwyn Mawr
- Tref
- Llanelli
- Cod post
- SA14 8QF
- Major / Minor Region
- Sir Gaerfyrddin
Math o gontract a phatrwm gwaith
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyflog
- Cyflog
- £25,524 - £28,010 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Gradd
- (Gradd 4)
Arbenigedd
- Prif leoliad
- Ffisiotherapi
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Mae gennym gyfle cyffrous ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i Hyfforddwr Technegol Ffisiotherapi ymuno â'r tîm ffisiotherapi strôc ac adsefydlu. Bydd y rôl newydd gyffrous hon yn cefnogi'r gwaith o gyflenwi gwasanaethau a gofal cleifion ledled gwasanaethau acíwt a chymunedol yn Llanelli, Sir Gaerfyrddin.
Advert
Rydym yn chwilio am unigolion brwdfrydig, llawn cymhellant i ymuno â'n tîm strôc ac adsefydlu i weithio yn ein cymuned yn Hywel Dda.
Rydym yn chwilio am unigolyn cadarnhaol a llawn cymhelliant sydd â'r sgiliau a'r gallu i ymgysylltu'n dda â'i gleifion, sy'n gallu gweithio dan oruchwyliaeth yn ogystal ag yn annibynnol, sy'n gallu cefnogi arloesedd a hyfforddiant, ac sydd â'r gallu i weithio'n hyblyg mewn tîm. Mae tystiolaeth berthnasol o brofiad o ofalu am gleifion a'u hadsefydlu yn ddymunol.
Bydd gennych brofiad o ddefnyddio technegau codi a chario medrus iawn i hwyluso symud cleifion a/neu adsefydlu. Byddwch yn gweithio gydag eraill yn y tîm i ddarparu gwasanaeth adsefydlu i oedolion yn yr amgylchedd acíwt a chymunedol, gan eu helpu i weithio tuag at annibyniaeth weithredol. Bydd agweddau ar y rôl yn cynnwys cyflawni dyletswyddau gweinyddol perthnasol a gweithio'n unigol yn y cartref.
Dylech allu amlygu sgiliau rhesymu clinigol i'ch galluogi i asesu a thrin.
Mae'n bosibl y bydd disgwyl i'r rôl gyflawni gwasanaeth saith niwrnod hyblyg, yn seiliedig ar yr angen am y gwasanaeth.
I wneud cais, dylai fod gennych NVQ lefel 3 neu gymhwyster cyfatebol, ynghyd â phrofiad perthnasol o weithio ym maes adsefydlu mewn lleoliad gofal iechyd corfforol.
Disgwylir i ddeiliad y swydd deithio mewn modd amserol yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 11,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth â’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;
Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;
48 o bractisau cyffredinol (pedwar ohonynt yn bractisau a reolir), 47 practis deintyddol (gan gynnwys tri orthodontig), 99 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;
Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadu ar 29/07/2024
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gweithredu polisi dwyieithog
‘Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir drwy gyfrwng y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau a wneir yn y Saesneg’.
Trwy gyflwyno eich cais i NHS Jobs/Trac, rydych yn gydsynio i elfennau o ddata eich cais gael eu trosglwyddo i Gofnod Staff Electronig (ESR) y GIG a systemau diogel, mewnol Gweithlu’r GIG er mwyn cefnogi a rheoli eich recriwtio a’ch cyflogaeth o fewn y sefydliad sy’n eich cyflogi; i’w defnyddio gan yr adran Recriwtio at ddibenion gwirio eich Cofrestriad Proffesiynol ar-lein (lle bo’n briodol).
Mae’r prosesau hyn yn unol â phrosesu Teg a Chyfreithlon yn unol â Deddfwriaeth Diogelu Data cyfredol yn enwedig y rhai hynny mewn perthynas â’ch data personol neu bersonol sensitif (diffinir data personol sensitif fel unrhyw gyflwr iechyd meddwl neu gorfforol, tarddiad hiliol neu ethnig, cyfeiriadedd rhywiol, aelodaeth undeb llafur, barn wleidyddol neu gred crefyddol datganedig). Fel sefydliad, rydym yn sicrhau bod y ddeddfwriaeth sy’n diffinio cyfrinachedd yn cael ei dilyn megis y defnydd o ddata at ddibenion penodol, diffiniedig, a defnydd o ddata sy’n berthnasol ac nid yn ormodol wrth ymarfer cywirdeb data a diogelwch yr holl wybodaeth bersonol adnabyddadwy a gedwir.
Os cewch eich penodi’n llwyddiannus, trwy lenwi’r ffurflen gais rydych yn awdurdodi’r BIP i gael unrhyw fanylion gwasanaeth blaenorol i’r GIG yn cynnwys yr holl wybodaeth ar salwch a gedwir yn electronig, trwy’r broses Trosglwyddo Rhyng-awdurdod ar y Cofnod Staff Electronig.
I weithio yn y DU, mae angen nawdd ar bob ymgeisydd nad yw'n wladolyn o'r DU neu Weriniaeth Iwerddon i gael naill ai fisa Gweithiwr Iechyd a Gofal neu fisa Gweithiwr Medrus, oni bai bod gennych ganiatâd i weithio trwy lwybr arall. Dylai ymgeiswyr nad ydynt yn rhan o'r DU/Gweriniaeth Iwerddon sy'n dymuno gwneud cais hunanasesu'u tebygolrwydd o gael Tystysgrif Nawdd trwy ymweld â gwefan Fisâu a Mewnfudo'r DU. Os ydych chi'n gymwys i gael y fisa Iechyd a Gofal, mae'r costau ymgeisio yn is ac nid oes angen i chi dalu Gordal Iechyd Mewnfudo blynyddol.
Gofynion yr ymgeisydd
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Manyleb y person
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Defnyddio technegau codi a chario addasedig i wella'n raddol allu cleientiaid i fod yn annibynnol
- Yn amlygu sgiliau codi a chario a thrin datblygedig er mwyn dylanwadu ar ffyrfder cyhyrau, ystum y corff a symudiad
- Yn amlygu craffter golwg a sgiliau canfod datblygedig trwy'r gallu i bennu anomaleddau ym mherfformiad gwybyddol, canfyddiadol, niwrolegol a biomecanyddol cleientiaid
- Sgiliau TG sylfaenol
- Gwybodaeth ymarferol am gyfarpar therapiwtig arbenigol sy'n briodol i'r arbenigedd clinigo
Meini prawf dymunol
- Lefel uwch o sgìl mewn TG, e.e. systemau casglu data
- Sgiliau creadigol
- Yn deall rôl grwpiau staff eraill ym maes iechyd a gofal cymdeithasol
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Meistrolaeth dda ar y Saesneg a Mathemateg sylfaenol
- NVQ lefel 3 neu gymhwyster cyfatebol
- Cyrsiau perthnasol i gefnogi gwaith clinigol, h.y. hydrotherapi, therapi adlamu, bobath, Adsefydlu, cyrsiau cwympiadau
- Yn meddu ar wybodaeth sylweddol am y model ffisiotherapi ac effaith weithredol/systemig cyflwr meddygol y claf er mwyn cefnogi ymyriad therapiwtig gyda goruchwyliaeth hyd braich, h.y. gweithio ar eich pen eich hun
- Amrywiaeth eang o brofiadau yn rôl gweithiwr cymorth mewn gwasanaeth ffisiotherapi neu adsefydlu
Meini prawf dymunol
- Cymhwyster proffesiynol, technegol neu academaidd sy'n ymwneud ag ymarfer clinigol
- Gweithiwr Allweddol/Rheolwr Achosion
- Goruchwylio staff
- Profiad clinigol ychwanegol neu ym maes gofal iechyd
- Profiad o archwilio
- Profiad o weithio gyda grwpiau o gleifion
Arall
Meini prawf hanfodol
- Yn barod i weithio'n hyblyg yn seiliedig ar bwysau gwaith
- Y gallu i deithio i leoliadau eraill ledled y Bwrdd Iechyd mewn modd amserol
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Fiona van Erven
- Teitl y swydd
- Clinical Lead Physiotherapist
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01554783307
Dechrau eich cais
Rhaid ichi fewngofnodi i gyfrif Trac cyn y gallwch wneud cais am y swydd hon.
Mewngofnodi
Creu cyfrif
Creu eich cyfrif a gwneud cais am eich swydd newydd!