Mae Trac yn falch o bweru recriwtio ar gyfer
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Gwybodaeth
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd i boblogaeth o tua 372,320 ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. Mae'n darparu gwasanaethau Acìwt, Sylfaenol, Cymunedol, Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu trwy Ysbytai Cyffredinol a Chymunedol, Canolfannau Iechyd, Meddygfeydd Teulu, Deintyddion, Fferyllfeydd, Optometryddion a safleoedd eraill.
Ffisiotherapydd Arbenigol (Y Gymuned)
Accepting applications until: 29-Sep-2024 23:59
Statws y swydd wag: Open
Accepting applications until: 29-Sep-2024 23:59
Manylion allweddol
Lleoliad
- Gwefan
- i'w gadarnhau
- Tref
- Caerfyrddin
- Cod post
- SA31 2AF
- Major / Minor Region
- Sir Gaerfyrddin
Math o gontract a phatrwm gwaith
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser
- Rhan-amser
Cyflog
- Cyflog
- £35,922 - £43,257 y flwyddyn, pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Gradd
- (Gradd 6)
Arbenigedd
- Prif leoliad
- Ffisiotherapi
- Dyddiad y cyfweliad
- 04/10/2024
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
A ydych yn Ffisiotherapydd dynamig ac ymroddedig sy’n chwilio am gyfle gwerth chweil i gael effaith sylweddol ar fywydau unigolion yng nghymuned Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda?
Does dim angen i chi edrych ymhellach! Ar hyn o bryd rydym yn chwilio am ddau Ffisiotherapydd hynod fedrus, llawn cymhelliant i ymuno â'n Tîm Adsefydlu Cymunedol yn Sir Gaerfyrddin
Yn rôl Ffisiotherapydd Cymunedol Arbenigol, byddwch yn cyfrannu at batrwm sy'n blaenoriaethu unigrywiaeth unigolion ac yn grymuso cleifion i gyflawni'r gweithrediad a'r ffyniant gorau posibl. Mae ein diwylliant yn seiliedig ar gydweithio, tosturi a chydymrwymiad i gyflawni rhagoriaeth. Dyma swydd lle bydd eich angerdd yn cael ei roi ar waith, a daw eich ymrwymiad yn gatalydd i lunio naratif adsefydlu ein cymuned
Mae'r Tîm Cymunedol Ffisiotherapi yn esblygu'n gyflym. Mae'r tîm hwn yn ymroddedig i ymrwymiad y Bwrdd Iechyd i adeiladu capasiti yn y gymuned a gwella mynediad at wasanaeth adfer mor agos at y cartref â phosibl.
Bydd deiliaid y swyddi’n gweithio'n agos yn rhan o dîm amlddisgyblaethol dynamig ehangach, mwy o faint, o Therapyddion Galwedigaethol, Nyrsys, Gweithwyr Cymdeithasol, Deietegwyr, Fferyllwyr Cymunedol a Gwasanaethau'r Trydydd Sector i enwi dim ond rhai. Er mwyn darparu gofal amserol, di-dor sy'n canolbwyntio ar y claf, mae'n hanfodol integreiddio â'r Ysbytai Acíwt, Ysbytai Cymunedol, y Gwasanaethau Blaen Tŷ (TOCALS) a'r Gwasanaethau Gofal Canolraddol
Advert
Bydd deiliaid y swyddi’n asesu, datblygu a gweithredu cynlluniau triniaeth personol, sydd wedi'u cydgynhyrchu, ar gyfer cleifion ag ystod amrywiol o gyflyrau, a hynny yn eu cartrefi eu hunain, mewn dosbarthiadau yn y gymuned (gan gynnwys therapi dyfrol) ac mewn clinigau cleifion allanol. Rydym yn rhoi pwyslais cryf ar ofal sy'n canolbwyntio ar y claf er mwyn meithrin annibyniaeth a llesiant.
A chithau'n fyfyriwr ôl-raddedig amryddawn, bydd gofyn i chi feddu ar sylfaen glinigol gref mewn adsefydlu pobl hŷn a chodi a chario cymhleth, ynghyd â gwybodaeth am gyflyrau amrywiol.
Bydd deiliaid y swyddi’n cyfrannu at y broses o hyrwyddo mentrau i roi strategaethau adsefydlu blaengar ar waith, i ddatblygu gwasanaethau ac i gyfrannu at enw da ein sefydliad am arloesi.
Bydd gofyn i'r ymgeiswyr llwyddiannus feddu ar allu rhagorol i weithio'n annibynnol, gan reoli a blaenoriaethu llwyth achosion amrywiol. Bydd arnynt angen sgiliau rhesymu clinigol/datrys problemau profedig, a'r gallu i ddarparu ymyriadau cynhwysfawr a phroffesiynol
Bydd deiliaid y swyddi’n meddu ar sgiliau cymhellol a datblygiadol i gefnogi a goruchwylio staff Ffisiotherapi iau, gweithwyr cymorth therapi, a myfyrwyr
Bydd yn ofynnol i ddeiliaid y swyddi gymryd rhan yn y gwaith o ddarparu gwasanaeth saith niwrnod hyblyg, yn seiliedig ar anghenion y gwasanaeth ac yn ôl trefn rota. Bydd ganddynt y sgiliau gofynnol i gymryd rhan yn y gwasanaeth anadlol Ar Alwad
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 11,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;
Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;
48 o bractisau cyffredinol (pedwar ohonynt yn bractisau a reolir), 47 practis deintyddol (gan gynnwys tri orthodontig), 99 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;
Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Mae swydd-ddisgrifiad llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol.
I unigolyn brwdfrydig sy'n teimlo'n angerddol ynghylch gwerth ffisiotherapi ac adsefydlu cymunedol, mae hwn yn gyfle cyffrous i gynnal momentwm y gwaith o drawsnewid ein gwasanaethau cymunedol ledled y sefydliad er budd pobl Sir Gaerfyrddin a chenedlaethau'r dyfodol
Rydym yn darparu diwylliant o gydweithio a chymorth lle mae amrywiaeth o syniadau'n ysgogi arloesedd. Nid yn unig y clywir eich syniadau, ond cânt eu hannog yn frwd
Yn ein gwasanaeth, rydym yn cydnabod mai ein staff yw ein hased cryfaf ac yn buddsoddi yn eu twf proffesiynol. Rydym yn darparu cyfleoedd cynhwysfawr ar gyfer datblygiad proffesiynol, yn fewnol ac yn allanol, lle anogir staff i ymgymryd ag astudiaethau ôl-raddedig (cyfleoedd i wneud
cais am gyllid a rennir).
Mae'r pandemig wedi dangos i ni fwy nag erioed bwysigrwydd y cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, ac anogwn drefniadau gweithio o bell pan fo hynny'n briodol, ynghyd â threfniadau gweithio hyblyg.
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadu ar 4/10/2024
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gweithredu polisi dwyieithog
‘Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir drwy gyfrwng y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau a wneir yn y Saesneg’.
Trwy gyflwyno eich cais i NHS Jobs/Trac, rydych yn gydsynio i elfennau o ddata eich cais gael eu trosglwyddo i Gofnod Staff Electronig (ESR) y GIG a systemau diogel, mewnol Gweithlu’r GIG er mwyn cefnogi a rheoli eich recriwtio a’ch cyflogaeth o fewn y sefydliad sy’n eich cyflogi; i’w defnyddio gan yr adran Recriwtio at ddibenion gwirio eich Cofrestriad Proffesiynol ar-lein (lle bo’n briodol).
Mae’r prosesau hyn yn unol â phrosesu Teg a Chyfreithlon yn unol â Deddfwriaeth Diogelu Data cyfredol yn enwedig y rhai hynny mewn perthynas â’ch data personol neu bersonol sensitif (diffinir data personol sensitif fel unrhyw gyflwr iechyd meddwl neu gorfforol, tarddiad hiliol neu ethnig, cyfeiriadedd rhywiol, aelodaeth undeb llafur, barn wleidyddol neu gred crefyddol datganedig). Fel sefydliad, rydym yn sicrhau bod y ddeddfwriaeth sy’n diffinio cyfrinachedd yn cael ei dilyn megis y defnydd o ddata at ddibenion penodol, diffiniedig, a defnydd o ddata sy’n berthnasol ac nid yn ormodol wrth ymarfer cywirdeb data a diogelwch yr holl wybodaeth bersonol adnabyddadwy a gedwir.
Os cewch eich penodi’n llwyddiannus, trwy lenwi’r ffurflen gais rydych yn awdurdodi’r BIP i gael unrhyw fanylion gwasanaeth blaenorol i’r GIG yn cynnwys yr holl wybodaeth ar salwch a gedwir yn electronig, trwy’r broses Trosglwyddo Rhyng-awdurdod ar y Cofnod Staff Electronig.
I weithio yn y DU, mae angen nawdd ar bob ymgeisydd nad yw'n wladolyn o'r DU neu Weriniaeth Iwerddon i gael naill ai fisa Gweithiwr Iechyd a Gofal neu fisa Gweithiwr Medrus, oni bai bod gennych ganiatâd i weithio trwy lwybr arall. Dylai ymgeiswyr nad ydynt yn rhan o'r DU/Gweriniaeth Iwerddon sy'n dymuno gwneud cais hunanasesu'u tebygolrwydd o gael Tystysgrif Nawdd trwy ymweld â gwefan Fisâu a Mewnfudo'r DU. Os ydych chi'n gymwys i gael y fisa Iechyd a Gofal, mae'r costau ymgeisio yn is ac nid oes angen i chi dalu Gordal Iechyd Mewnfudo blynyddol.
Gofynion yr ymgeisydd
Rhaid bod gennych gofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Cofrestru proffesiynol fel y'i cydnabyddir gan y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal
- Tystiolaeth ol-raddedig o addysg arbenigol
- Tystiolaeth o DPP
- Sgilian TG
Meini prawf dymunol
- Cymhwyster ol-raddedig hyd at lefel diploma mewn arbenigedd perthnasol
- Cwrs Hyfforddi Addysg Glinigol
- Yn aelod o'r Gymdeithas Siartredig Ffisiotherapi
- Yn cyfranogi'n frwd i grwpiau diddordeb arbennig
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad ol-raddedig mewn arbenigedd clinigol perthnasol
- Wedi cwblhau'r fframwaith cymhwysedd iau
- Profiad ymarferol hyd at lefel a fyddai'n eich galluogi i gymryd rhan yn y rota ar alwad anadlol
- Trin therapiwtig ac asesiadau risg
- Rheoli llwyth gwaith amrywiol gan ddefnyddio proses rhesymu clinigol
- Gweithio mewn tim rhyng-broffesiynol
- Cysylltiad uniongyrchol â gofalwyr a theuluoedd
- Tystiolaeth o gefnogi cydymffurfedd gwasanaeth a gofynion llywodraethu clinigol
- Profiad o oruchwylio staff
Meini prawf dymunol
- Profiad o oruchwylio myfyrwyr
- Trafod arferion gweithio tim amlddisgyblaethol
- Profiad o ddatblygu gwasanaethau
- Profiad o weithio i'r GIG
Arall
Meini prawf hanfodol
- Tystiolaeth o addysgu/hyfforddiant mewn swydd
- Agwedd hyblyg er mwyn diwallu anghenion y gwasanaeth
- Yn barod i gymryd rhan yn y gwasanaeth ar alwad a'r gwasanaeth estynedig
- Y gallu i deithio rhwng safleoedd mewn modd amserol
Gofynion Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Indeg Jameson
- Teitl y swydd
- Carmarthenshire Community Physiotherapy Lead
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 07837503829
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Os oes gennych ragor o gwestiynau ynghylch y swydd hon, yna mae croeso i chi gysylltu – byddem wrth ein bodd yn dod i'ch adnabod ac yn ateb eich cwestiynau.
Anogir a chroesewir ymweliadau.
Dechrau eich cais
Rhaid ichi fewngofnodi i gyfrif Trac cyn y gallwch wneud cais am y swydd hon.
Mewngofnodi
Creu cyfrif
Creu eich cyfrif a gwneud cais am eich swydd newydd!