Mae Trac yn falch o bweru recriwtio ar gyfer
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Gwybodaeth
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd i boblogaeth o tua 372,320 ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. Mae'n darparu gwasanaethau Acìwt, Sylfaenol, Cymunedol, Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu trwy Ysbytai Cyffredinol a Chymunedol, Canolfannau Iechyd, Meddygfeydd Teulu, Deintyddion, Fferyllfeydd, Optometryddion a safleoedd eraill.
Uwch-ymarferydd Nyrsio – Orthogeriatreg
Accepting applications until: 07-Oct-2024 23:59
Statws y swydd wag: Open
Accepting applications until: 07-Oct-2024 23:59
Manylion allweddol
Lleoliad
- Gwefan
- Ysbyty Cyffredinol Glangwili
- Tref
- Caerfyrddin
- Cod post
- SA31 2AF
- Major / Minor Region
- Sir Gaerfyrddin
Math o gontract a phatrwm gwaith
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyflog
- Cyflog
- £51,706 - £58,210 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Gradd
- (Gradd 8a)
Arbenigedd
- Prif leoliad
- Orthogeriatreg
- Dyddiad y cyfweliad
- 14/10/2024
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Mae cyfle cyffrous wedi dod ar gael i Uwch-ymarferydd Nyrsio Band 8a parhaol ymuno â’n tîm Orthogeriatreg bach yn Ysbyty Cyffredinol Glangwili.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn rheoli llwyth achosion annibynnol o gleifion sy'n dioddef o doresgyrn breuder, gan gynnwys toresgyrn yn y cluniau.
Bydd deiliad y swydd yn gweithio ochr yn ochr â'r Orthogeriatregydd i sicrhau gofal
holistaidd i'r grŵp hwn o gleifion, gwaith a fydd yn cynnwys darparu cymorth i reoli iechyd eu hesgyrn.
Bydd deiliad y swydd yn cefnogi'r gwaith o reoli'r Gronfa Ddata ar Dorri Cluniau. Bydd hyn yn cynnwys adolygu a dilysu data, cyflwyno data ac arwain y gwaith gwella ansawdd.
Caiff deiliad y swydd ei adnabod fel arbenigwr clinigol, ac mae'n ofynnol iddo feddu ar broffil clinigol uchel, gan sicrhau y darperir gofal effeithiol ac effeithlon. Ar y lefel hon, mae disgwyl i ddeiliad y swydd weithio fel uwch-ymarferydd medrus iawn a meddu ar wybodaeth arbenigol.
Disgwylir i ddeiliad y swydd arfer lefel uchel o ymreolaeth broffesiynol bersonol a llunio barn feirniadol i fodloni disgwyliadau a gofynion y rôl. Bydd deiliad y swydd yn cael ei arwain gan bolisïau iechyd, sefydliadol neu alwedigaethol eang, ond yn y rhan fwyaf o sefyllfaoedd bydd angen i ddeiliad y swydd sefydlu'r ffordd y dylid dehongli'r rhain a chynghori rhanddeiliaid perthnasol yn unol â hynny. Disgwylir i ddeiliad y swydd weithio ar lefel glinigol uwch yn unol â'i lefel cymhwysedd, a gweithio'n hyblyg mewn tîm.
Advert
Prif ffocws y rôl yw gweithio fel uwch-ymarferydd annibynnol y mae ei ofal clinigol yn canolbwyntio ar y claf ac yn cwmpasu sgiliau asesu, archwilio, diagnosio a thrin. Bydd yr uwch-ymarferydd yn gweithio ar draws y pedwar piler ymarfer – Arweinyddiaeth a Rheolaeth, Clinigol, Addysg, Ymchwil a Datblygu, fel yr amlinellir yn y Fframwaith Ymarfer Uwch ar gyfer Nyrsio, Bydwreigiaeth a Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd yng Nghymru 2010 (FANMAHPPW). Bwriad y swydd yw darparu gwell canlyniadau i gleifion trwy wella prydlondeb a chysondeb y gofal.
Bydd deiliad y swydd yn gwneud y canlynol:
Archwilio a dadansoddi tystiolaeth, achosion a sefyllfaoedd mewn ymarfer clinigol, gan alluogi prosesau lefel uchel o ran llunio barn a gwneud penderfyniadau
Darparu ymarfer uwch sy'n seiliedig ar dystiolaeth yn y gwasanaeth
Asesu, gwneud diagnosis, trin/rheoli, gwerthuso, atgyfeirio a rhyddhau
Asesu a rheoli risgiau
Amlygu proses gwneud penderfyniadau foesegol
Ymgymryd â phresgripsiynu anfeddygol yn unol â deddfwriaeth
Cynnwys cleifion/defnyddwyr gwasanaethau/y cyhoedd wrth ddatblygu'r
gwasanaeth a'r rôl
Rheoli cymhlethdod, defnyddio sgiliau meddwl yn feirniadol a sgiliau dadansoddi yn sail i farn gadarn, a gwneud penderfyniadau moesegol
Darparu hyfforddiant, cyflwyniadau a gwybodaeth i amrywiaeth o grwpiau, sy'n cynnwys staff, uwch-staff a chyd-weithwyr o sefydliadau partner
Datblygu polisïau, protocolau a chanllawiau gan ddefnyddio sylfaen dystiolaeth gadarn.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 12,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;
Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;
47 o bractisau cyffredinol (6 ohonynt yn bractisau a reolir), 45 practis deintyddol (gan gynnwys 4 orthodontig), 96 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;
Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saeneg wneud cais.
Cyfweliadau i'w cynnal ar 14/10/2024.
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Mynediad ar unwaith i’n budd llesiant ariannol – Wagestream. Mae Wagestream yn adnodd ar gyfer bywyd bob dydd sy’n eich caniatáu i gael eich talu eich ffordd eich hun, a olrain eich cyflog mewn amser real, ffrydio hyd at 50% o’r cyflog rydych wedi ennill yn barod, dysgu awgrymiadau hawdd i reoli eich arian yn well ac arbed eich tâl yn syth o’ch cyflog.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gweithredu polisi dwyieithog
‘Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir drwy gyfrwng y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau a wneir yn y Saesneg’.
Trwy gyflwyno eich cais i NHS Jobs/Trac, rydych yn gydsynio i elfennau o ddata eich cais gael eu trosglwyddo i Gofnod Staff Electronig (ESR) y GIG a systemau diogel, mewnol Gweithlu’r GIG er mwyn cefnogi a rheoli eich recriwtio a’ch cyflogaeth o fewn y sefydliad sy’n eich cyflogi; i’w defnyddio gan yr adran Recriwtio at ddibenion gwirio eich Cofrestriad Proffesiynol ar-lein (lle bo’n briodol).
Mae’r prosesau hyn yn unol â phrosesu Teg a Chyfreithlon yn unol â Deddfwriaeth Diogelu Data cyfredol yn enwedig y rhai hynny mewn perthynas â’ch data personol neu bersonol sensitif (diffinir data personol sensitif fel unrhyw gyflwr iechyd meddwl neu gorfforol, tarddiad hiliol neu ethnig, cyfeiriadedd rhywiol, aelodaeth undeb llafur, barn wleidyddol neu gred crefyddol datganedig). Fel sefydliad, rydym yn sicrhau bod y ddeddfwriaeth sy’n diffinio cyfrinachedd yn cael ei dilyn megis y defnydd o ddata at ddibenion penodol, diffiniedig, a defnydd o ddata sy’n berthnasol ac nid yn ormodol wrth ymarfer cywirdeb data a diogelwch yr holl wybodaeth bersonol adnabyddadwy a gedwir.
Os cewch eich penodi’n llwyddiannus, trwy lenwi’r ffurflen gais rydych yn awdurdodi’r BIP i gael unrhyw fanylion gwasanaeth blaenorol i’r GIG yn cynnwys yr holl wybodaeth ar salwch a gedwir yn electronig, trwy’r broses Trosglwyddo Rhyng-awdurdod ar y Cofnod Staff Electronig.
I weithio yn y DU, mae angen nawdd ar bob ymgeisydd nad yw'n wladolyn o'r DU neu Weriniaeth Iwerddon i gael naill ai fisa Gweithiwr Iechyd a Gofal neu fisa Gweithiwr Medrus, oni bai bod gennych ganiatâd i weithio trwy lwybr arall. Dylai ymgeiswyr nad ydynt yn rhan o'r DU/Gweriniaeth Iwerddon sy'n dymuno gwneud cais hunanasesu'u tebygolrwydd o gael Tystysgrif Nawdd trwy ymweld â gwefan Fisâu a Mewnfudo'r DU. Os ydych chi'n gymwys i gael y fisa Iechyd a Gofal, mae'r costau ymgeisio yn is ac nid oes angen i chi dalu Gordal Iechyd Mewnfudo blynyddol.
Gofynion yr ymgeisydd
Rhaid bod gennych gofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Manyleb y person
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad helaeth blaenorol o weithio o fewn yr ardal o arbenigedd
- Profiad amlwg o gwneud penderfyniadau cymhleth
- Profiad o arweinyddiaeth a rheolaeth
- Profiad sylweddol lle bu rhywfaint o waith ymreolaethol yn ofynnol
- Profiad o weithio amlddisgyblaethol
Meini prawf dymunol
- Profiad o asesu dysgu ac addysg
- Profiad o rheoli pobl
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Gweithiwr Gofal Iechyd Proffesiynol Cofrestredig (e.e. y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal/y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth)
- Gradd Meistr Berthnasol/180 credyd ar lefel 7 (Meistr) mewn maes perthnasol
- Presgripsiynydd Anfeddygol, neu barodrwydd i ymrwymo i hyn yn unol â datblygiad y gwasanaeth yn y dyfodol
Meini prawf dymunol
- Tystiolaeth o lefel uwch o ddatblygu ymarfer ym maes eich arbenigedd
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- James Sheldon
- Teitl y swydd
- Senior Nurse Manger - Scheduled Care
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 07528343821
Dechrau eich cais
Rhaid ichi fewngofnodi i gyfrif Trac cyn y gallwch wneud cais am y swydd hon.
Mewngofnodi
Creu cyfrif
Creu eich cyfrif a gwneud cais am eich swydd newydd!