Mae Trac yn falch o bweru recriwtio ar gyfer
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Gwybodaeth
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd i boblogaeth o tua 372,320 ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. Mae'n darparu gwasanaethau Acìwt, Sylfaenol, Cymunedol, Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu trwy Ysbytai Cyffredinol a Chymunedol, Canolfannau Iechyd, Meddygfeydd Teulu, Deintyddion, Fferyllfeydd, Optometryddion a safleoedd eraill.
Nyrsys Staff Radioleg
Accepting applications until: 03-Oct-2024 23:59
Statws y swydd wag: Open
Accepting applications until: 03-Oct-2024 23:59
Manylion allweddol
Lleoliad
- Gwefan
- Ysbyty Tywysog Philip
- Cyfeiriad
- Bryngwyn Mawr
- Tref
- Llanelli
- Cod post
- SA14 8QF
- Major / Minor Region
- Sir Gaerfyrddin
Math o gontract a phatrwm gwaith
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser
- Rhan-amser
Cyflog
- Cyflog
- £28,834 - £35,099 y flwyddyn pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Gradd
- (Gradd 5)
Arbenigedd
- Prif leoliad
- Radiology
- Dyddiad y cyfweliad
- 17/10/2024
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Bydd deiliad y swydd yn gweithio'n unol â Chodau Ymddygiad Proffesiynol a Chanllawiau Proffesiynol y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth i gynorthwyo Radiolegwyr Ymgynghorol, clinigwyr arbenigol eraill a chyd-weithwyr nyrsio proffesiynol yn ystod gweithdrefnau Diagnostig, Ymyrrol a Therapiwtig, gan gynnal gofal ac urddas cleifion bob amser.
Byddwch yn darparu gofal nyrsio, cyngor a gwybodaeth am weithdrefnau/driniaethau i gleifion sy'n dod i'r adran a hefyd yn esbonio'r triniaethau eraill sydd ar gael. Bod yn eiriolwr dros staff, cleifion a pherthnasau bob amser. Bydd gofyn i chi gwblhau fframwaith cymhwysedd, gan feithrin gwybodaeth a sgiliau yn y maes clinigol. Pan fydd yn gymwys,
bydd deiliad y swydd yn gallu sgrwbio'n annibynnol.
Gyda'r hyfforddiant perthnasol, byddwch yn cynorthwyo yn ystod gweithdrefnau diagnostig, ymyriadol a therapiwtig. Byddwch yn arsylwi cleifion sy’n derbyn gweithdrefnau Radioleg, gan weithredu ar unrhyw newidiadau neu ddirywiad yng nghyflwr y claf. Yn ystod gweithdrefnau archwilio, byddwch yn rhoi unrhyw dawelyddion ychwanegol neu gyffuriau meddyginiaeth priodol eraill o dan gyfarwyddyd y Radiolegydd.
Cynorthwyo gyda thriniaethau therapiwtig, heb fawr o oruchwyliaeth. Rhoi pigiadau isgroenol a mewngyhyrol, rhoi cyffuriau mewnwythiennol a gosod canwlâu. Byddwch yn bresennol ar gyfer gweithdrefnau/triniaethau brys ac yn rhoi cyngor arbenigol i gleifion, perthnasau a staff gofal iechyd eraill ynghylch gweithdrefnau clinigol ac ymyriadau ym maes Radioleg.
Advert
Bydd disgwyl i chi wneud y canlynol:
- Cynllunio eich gweithgareddau eich hun o ddydd i ddydd a dyrannu tasgau i Weithwyr Cymorth Gofal Iechyd a staff Cynorthwywyr Radioleg yn yr Adran.
- Darparu cymorth a chyfarwyddyd i aelodau eraill o staff y Gyfarwyddiaeth, gan fod yn hawdd siarad â chi, yn empathig ac yn gefnogol.
- Cynorthwyo'r Nyrs Glinigol i ymchwilio i gŵynion a phryderon.
- Nodi a chofnodi unrhyw ddigwyddiadau anffafriol neu glinigol, gan ddefnyddio system DATIX mewn modd amserol.
- Cymryd rhan mewn gwaith archwilio a chefnogi a gweithredu unrhyw newidiadau angenrheidiol mewn perthynas â gofal cleifion trwy gymryd rhan mewn ymchwil ac ymarfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth.
- Rhannu eich sgiliau barnu eich hun wrth ddarparu gofal cleifion, gan wneud awgrymiadau ar gyfer gwella gwasanaethau.
- Cyfathrebu â staff y ward ynghylch y gweithdrefnau paratoi gofynnol cyn archwiliadau, gan sicrhau bod cyfarwyddiadau'n cael eu cyfleu'n glir a bod staff y ward yn eu deall.
- Trosglwyddo gwybodaeth gyfrinachol sy'n ymwneud â chyflwr cleifion i gyd
- weithwyr, adrannau eraill yr ysbyty ac, ar adegau, sefydliadau allanol.
- Cyfleu gwybodaeth sensitif am weithdrefnau clinigol i gleifion, gan roi tawelwch meddwl iddynt wrth egluro'r hyn fydd yn digwydd trwy gydol y driniaeth.
- Gall cleifion fod yn drwm eu clyw, yn oedrannus, wedi drysu neu ag anawsterau dysgu, a bydd angen i ddeiliad y swydd oresgyn y rhwystrau hyn gan ddefnyddio tact, empathi a sgiliau trafod.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 12,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;
Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;
47 o bractisau cyffredinol (6 ohonynt yn bractisau a reolir), 45 practis deintyddol (gan gynnwys 4 orthodontig), 96 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;
Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saeneg wneud cais.
Cyfweliadau i'w cynnal ar 17/10/24
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Mynediad ar unwaith i’n budd llesiant ariannol – Wagestream. Mae Wagestream yn adnodd ar gyfer bywyd bob dydd sy’n eich caniatáu i gael eich talu eich ffordd eich hun, a olrain eich cyflog mewn amser real, ffrydio hyd at 50% o’r cyflog rydych wedi ennill yn barod, dysgu awgrymiadau hawdd i reoli eich arian yn well ac arbed eich tâl yn syth o’ch cyflog.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gweithredu polisi dwyieithog
‘Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir drwy gyfrwng y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau a wneir yn y Saesneg’.
Trwy gyflwyno eich cais i NHS Jobs/Trac, rydych yn gydsynio i elfennau o ddata eich cais gael eu trosglwyddo i Gofnod Staff Electronig (ESR) y GIG a systemau diogel, mewnol Gweithlu’r GIG er mwyn cefnogi a rheoli eich recriwtio a’ch cyflogaeth o fewn y sefydliad sy’n eich cyflogi; i’w defnyddio gan yr adran Recriwtio at ddibenion gwirio eich Cofrestriad Proffesiynol ar-lein (lle bo’n briodol).
Mae’r prosesau hyn yn unol â phrosesu Teg a Chyfreithlon yn unol â Deddfwriaeth Diogelu Data cyfredol yn enwedig y rhai hynny mewn perthynas â’ch data personol neu bersonol sensitif (diffinir data personol sensitif fel unrhyw gyflwr iechyd meddwl neu gorfforol, tarddiad hiliol neu ethnig, cyfeiriadedd rhywiol, aelodaeth undeb llafur, barn wleidyddol neu gred crefyddol datganedig). Fel sefydliad, rydym yn sicrhau bod y ddeddfwriaeth sy’n diffinio cyfrinachedd yn cael ei dilyn megis y defnydd o ddata at ddibenion penodol, diffiniedig, a defnydd o ddata sy’n berthnasol ac nid yn ormodol wrth ymarfer cywirdeb data a diogelwch yr holl wybodaeth bersonol adnabyddadwy a gedwir.
Os cewch eich penodi’n llwyddiannus, trwy lenwi’r ffurflen gais rydych yn awdurdodi’r BIP i gael unrhyw fanylion gwasanaeth blaenorol i’r GIG yn cynnwys yr holl wybodaeth ar salwch a gedwir yn electronig, trwy’r broses Trosglwyddo Rhyng-awdurdod ar y Cofnod Staff Electronig.
I weithio yn y DU, mae angen nawdd ar bob ymgeisydd nad yw'n wladolyn o'r DU neu Weriniaeth Iwerddon i gael naill ai fisa Gweithiwr Iechyd a Gofal neu fisa Gweithiwr Medrus, oni bai bod gennych ganiatâd i weithio trwy lwybr arall. Dylai ymgeiswyr nad ydynt yn rhan o'r DU/Gweriniaeth Iwerddon sy'n dymuno gwneud cais hunanasesu'u tebygolrwydd o gael Tystysgrif Nawdd trwy ymweld â gwefan Fisâu a Mewnfudo'r DU. Os ydych chi'n gymwys i gael y fisa Iechyd a Gofal, mae'r costau ymgeisio yn is ac nid oes angen i chi dalu Gordal Iechyd Mewnfudo blynyddol.
Gofynion yr ymgeisydd
Rhaid bod gennych gofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Nyrs Gofrestredig sy'n meddu ar gofrestriad cyfredol gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth.
- Gwybodaeth glinigol broffesiynol a gafwyd trwy Radd neu'n meddu ar sgiliau, gwybodaeth a phrofiad hyd at lefel gyfatebol.
- Gwybodaeth ymarferol am waith tîm amlddisgyblaethol
- Gwybodaeth am archwilio ac ymchwil
- Parodrwydd i gwblhau fframwaith cymhwysedd i allu sgrwbio'n annibynnol.
- Yn meddu ar dystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus
Meini prawf dymunol
- Tystiolaeth o astudiaeth a hyfforddiant ôl-gofrestru
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad ôl-gymhwyso diweddar
- Profiad o oruchwylio staff
Meini prawf dymunol
- Profiad o weithio mewn Adran Radioleg
Sgiliau iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (lefel 1)
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- ANGHARAD HANBURY
- Teitl y swydd
- Lead Radiology Nurse
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01554783265
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Y ffordd orau o gysylltu yw trwy e-bost oherwydd ein bod yn cwmpasu pedwar safle y Bwrdd Iechyd. Gadewch eich enw a'r rhif cyswllt gorau a byddaf yn ateb unrhyw ymholiadau cyn gynted â phosibl.
Dechrau eich cais
Rhaid ichi fewngofnodi i gyfrif Trac cyn y gallwch wneud cais am y swydd hon.
Mewngofnodi
Creu cyfrif
Creu eich cyfrif a gwneud cais am eich swydd newydd!