Mae Trac yn falch o bweru recriwtio ar gyfer
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Gwybodaeth
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd i boblogaeth o tua 372,320 ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. Mae'n darparu gwasanaethau Acìwt, Sylfaenol, Cymunedol, Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu trwy Ysbytai Cyffredinol a Chymunedol, Canolfannau Iechyd, Meddygfeydd Teulu, Deintyddion, Fferyllfeydd, Optometryddion a safleoedd eraill.
Seicolegydd Cynorthwyol mewn Gwasanaeth Poen Cronig
Accepting applications until: 01-Oct-2024 23:59
Statws y swydd wag: Open
Accepting applications until: 01-Oct-2024 23:59
Manylion allweddol
Lleoliad
- Gwefan
- I'w gadarnhau - Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Tref
- I'w gadarnhau
- Cod post
- SA61 2PZ
- Major / Minor Region
- Sir Gaerfyrddin
Math o gontract a phatrwm gwaith
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser
- Rhan-amser
Cyflog
- Cyflog
- £28,834 - £35,099 y flwyddyn (pro rata os rhan-amser)
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Gradd
- (Band 5)
Arbenigedd
- Prif leoliad
- Seicoleg Glinigol yn y Gwasanaethau Poen
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Mae cyfle cyffrous wedi dod ar gael yn ein Gwasanaeth Poen Gronig i seicolegwyr cynorthwyol ymuno â thîm arloesol sy’n gweithio ledled y Bwrdd Iechyd. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio gydag oedolion sydd â phoen barhaus ac a fyddai'n elwa o weithio gyda'r tîm
amlddisgyblaethol, gan ddefnyddio dull bio-seicogymdeithasol o reoli poen.
Rydym yn chwilio am unigolyn â gradd mewn seicoleg sy'n uchel ei gymhelliant, sy'n meddu ar sgiliau cyfathrebu ac empathi rhagorol, ac a all weithio'n annibynnol ac integreiddio i'r Gwasanaeth Poen Gronig amlddisgyblaeth, yn ogystal â bod yn rhagweithiol wrth sefydlu cysylltiadau â gwasanaethau gofal eilaidd a sylfaenol eraill a sefydliadau trydydd sector lleol.
Mae gennym gysylltiadau cryf â Rhaglen Seicoleg Glinigol De Cymru, ac rydym yn annog cyfranogiad mewn grwpiau diddordeb arbennig lleol. I gael rhagor o wybodaeth am yr hyn y gall Hywel Dda ei gynnig ar ben lle hyfryd i fyw ynddo, ewch i'n gwefan.
Advert
Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â’r Gwasanaeth Poen Gronig, sydd â’r nod o weithio gyda phobl a fyddai’n elwa o ddull bio-seicogymdeithasol o reoli poen.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cyfrannu at Wasanaeth Poen Gronig sy'n esblygu a Gwasanaeth Iechyd Clinigol ehangach yn yr
ymddiriedolaeth, a bydd yn cefnogi seicolegydd clinigol ac yn gweithio'n uniongyrchol o dan ei oruchwyliaeth glinigol i helpu i wella'r agwedd seicolegol ar reoli poen yn y Gwasanaeth Poen Gronig. Bydd hyn yn cynnwys cynnal asesiadau, hwyluso ymyriadau grŵp ac unigol, a chyfrannu at y gwaith o werthuso gwasanaethau.
Bydd angen sgiliau cyfrifiadurol a gwerthuso gwasanaethau o lefel uchel er mwyn llunio adroddiadau clinigol, cynorthwyo i ddatblygu systemau, a gwerthuso prosiectau.
Mae'r rôl yn cynnwys gweithio ledled amrywiol safleoedd yn y rhanbarth, felly mae'r gallu i deithio a mabwysiadu wythnos waith hyblyg yn hanfodol. Rhaid bod gan yr ymgeiswyr radd israddedig
gydnabyddedig mewn Seicoleg, a dylent feddu ar y Sail Raddedig ar gyfer cofrestru gyda Chymdeithas Seicolegol Prydain.
Byddai profiad o weithio gyda phoblogaethau clinigol yn fanteisiol.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 11,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth â’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;
Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;
48 o bractisau cyffredinol (pedwar ohonynt yn bractisau a reolir), 47 practis deintyddol (gan gynnwys tri orthodontig), 99 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;
Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae’r claf wrth wraidd y gwasanaeth Poen Gronig ym mhopeth y mae’n ceisio’i gyflawni. Rydym yn credu mewn galluogi pobl i wneud dewisiadau gwybodus am eu hiechyd a’u gofal, gan eu hannog i fyw’r bywydau gorau posibl. Rydym yn wasanaeth tair sir, sy’n rhychwantu’r Bwrdd Iechyd cyfan. Mae gweithio o bell wedi ein galluogi ni fel gwasanaeth i barhau i wasanaethu ein poblogaeth a chynnal safon y gofal drwy gydol y pandemig.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi’i leoli yng Ngorllewin Cymru, sy’n cynnig golygfeydd cwbl syfrdanol, sy'n amrywio o fynyddoedd eang trawiadol, tirweddau gwyrdd hardd a choedwigoedd diarffordd toreithiog, i eangderau helaeth o draethau tywod euraidd nodedig. Ond nid dim ond amgylcheddau hyfryd sydd ar gael yma, oherwydd y cysylltiadau rhagorol â'r M4, nid ydych fyth mor bell â hynny o ganol dinasoedd diwylliannol Abertawe a Chaerdydd. Mae yna hefyd gysylltiadau fferi ar gael ar garreg y drws fel y gallwch deithio'n hawdd i Iwerddon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadu ar 09/10/2024.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gweithredu polisi dwyieithog
‘Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir drwy gyfrwng y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau a wneir yn y Saesneg’.
Trwy gyflwyno eich cais i NHS Jobs/Trac, rydych yn gydsynio i elfennau o ddata eich cais gael eu trosglwyddo i Gofnod Staff Electronig (ESR) y GIG a systemau diogel, mewnol Gweithlu’r GIG er mwyn cefnogi a rheoli eich recriwtio a’ch cyflogaeth o fewn y sefydliad sy’n eich cyflogi; i’w defnyddio gan yr adran Recriwtio at ddibenion gwirio eich Cofrestriad Proffesiynol ar-lein (lle bo’n briodol).
Mae’r prosesau hyn yn unol â phrosesu Teg a Chyfreithlon yn unol â Deddfwriaeth Diogelu Data cyfredol yn enwedig y rhai hynny mewn perthynas â’ch data personol neu bersonol sensitif (diffinir data personol sensitif fel unrhyw gyflwr iechyd meddwl neu gorfforol, tarddiad hiliol neu ethnig, cyfeiriadedd rhywiol, aelodaeth undeb llafur, barn wleidyddol neu gred crefyddol datganedig). Fel sefydliad, rydym yn sicrhau bod y ddeddfwriaeth sy’n diffinio cyfrinachedd yn cael ei dilyn megis y defnydd o ddata at ddibenion penodol, diffiniedig, a defnydd o ddata sy’n berthnasol ac nid yn ormodol wrth ymarfer cywirdeb data a diogelwch yr holl wybodaeth bersonol adnabyddadwy a gedwir.
Os cewch eich penodi’n llwyddiannus, trwy lenwi’r ffurflen gais rydych yn awdurdodi’r BIP i gael unrhyw fanylion gwasanaeth blaenorol i’r GIG yn cynnwys yr holl wybodaeth ar salwch a gedwir yn electronig, trwy’r broses Trosglwyddo Rhyng-awdurdod ar y Cofnod Staff Electronig.
I weithio yn y DU, mae angen nawdd ar bob ymgeisydd nad yw'n wladolyn o'r DU neu Weriniaeth Iwerddon i gael naill ai fisa Gweithiwr Iechyd a Gofal neu fisa Gweithiwr Medrus, oni bai bod gennych ganiatâd i weithio trwy lwybr arall. Dylai ymgeiswyr nad ydynt yn rhan o'r DU/Gweriniaeth Iwerddon sy'n dymuno gwneud cais hunanasesu'u tebygolrwydd o gael Tystysgrif Nawdd trwy ymweld â gwefan Fisâu a Mewnfudo'r DU. Os ydych chi'n gymwys i gael y fisa Iechyd a Gofal, mae'r costau ymgeisio yn is ac nid oes angen i chi dalu Gordal Iechyd Mewnfudo blynyddol.
Gofynion yr ymgeisydd
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Gradd anrhydedd dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth uwch mewn Seicoleg, ynghyd a'r Sail Anrhydedd ar gyfer cofrestru gyda Chymdeithas Seicolegol Prydain (BPS)
Meini prawf dymunol
- Hyfforddiant ol-raddedig pellach mewn maes perthnasol
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Gwaith cyflogedig neu wirfoddol perthnasol gyda phobl a phroblemau iechyd meddwl neu iechyd corfforol
Meini prawf dymunol
- Profiad mewn mwy nag un maes gwaith e.e. Iechyd Meddwl Oedolion, Iechyd Meddwl Pobl Hyn.
- Profiad mewn lleoliad GIG
Arall
Meini prawf hanfodol
- Y gallu i deithio rhwng lleoliadau cymunedol y GIG mewn modd amserol
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Dr Ffion John
- Teitl y swydd
- Clinical Lead, Chronic Pain Service
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01437 834445
Dechrau eich cais
Rhaid ichi fewngofnodi i gyfrif Trac cyn y gallwch wneud cais am y swydd hon.
Mewngofnodi
Creu cyfrif
Creu eich cyfrif a gwneud cais am eich swydd newydd!