Mae Trac yn falch o bweru recriwtio ar gyfer
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Gwybodaeth
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd i boblogaeth o tua 372,320 ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. Mae'n darparu gwasanaethau Acìwt, Sylfaenol, Cymunedol, Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu trwy Ysbytai Cyffredinol a Chymunedol, Canolfannau Iechyd, Meddygfeydd Teulu, Deintyddion, Fferyllfeydd, Optometryddion a safleoedd eraill.
Ymarferydd Cynorthwyol Deieteg – Rheoli Pwysau Oedolion
Accepting applications until: 06-Oct-2024 23:59
Statws y swydd wag: Open
Accepting applications until: 06-Oct-2024 23:59
Manylion allweddol
Lleoliad
- Gwefan
- I'w gadarnhau - Sylfaen i'w gytuno ar benodiad
- Cyfeiriad
- Heol Abergwaun
- Tref
- Hwlffordd
- Cod post
- SA31 2AF
- Major / Minor Region
- Sir Gaerfyrddin
Math o gontract a phatrwm gwaith
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Rhan-amser
- Rhannu swydd
- Gweithio hyblyg
Cyflog
- Cyflog
- £25,524 - £28,010 y flwyddyn (pro rata os yn rhan-amser)
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Gradd
- (Gradd 4)
Arbenigedd
- Prif leoliad
- Deietegol
- Dyddiad y cyfweliad
- 16/10/2024
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
A oes gennych ddiddordeb brwd mewn cynorthwyo pobl i wneud newidiadau o ran ffordd o fyw a newidiadau ymddygiadol i hybu'r broses o reoli pwysau? A ydych yn chwilio am gyfle newydd cyffrous?
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn chwilio am Ymarferydd Cynorthwyol Deieteg Band 4 i fod yn aelod annatod o'r Tîm Rheoli Pwysau amlbroffesiynol.
Mae hwn yn gyfle cyffrous i gyfrannu at broses o weithredu Llwybr Rheoli Pwysau Cymru Gyfan (AWWMP) gan weithio ar y cyd ag aelodau allweddol y tîm amlddisgyblaethol a phartneriaid strategol i gefnogi’r gwaith o gyflawni strategaeth Pwysau Iach Cymru Iach.
Advert
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio gyda'r Tîm Rheoli Pwysau, partneriaid a rhanddeiliaid allweddol i gynllunio, darparu a gwerthuso rhaglenni ac ymyriadau rheoli pwysau ar lefel 2 Llwybr Rheoli Pwysau Cymru Gyfan, darparu addysg a hyfforddiant deietegol a ffordd o fyw i ddefnyddwyr y gwasanaeth a phartneriaid allweddol, a chynnal a
rheoli llwyth achosion o ddefnyddwyr y gwasanaeth yn annibynnol.
Byddwch yn amlygu dealltwriaeth dda o rôl maetheg mewn gofal iechyd, yn gyfathrebwr rhagorol, yn gweithio'n dda mewn tîm ac yn barod i ymgymryd â dysgu a datblygiad pellach i gyflawni cwmpas a gofynion y rôl hon.
Byddwch yn ymuno â'n Tîm Rheoli Pwysau uchel ei barch yn y Bwrdd Iechyd, ac yn elwa ar strwythur sefydledig cyfeillgar a chefnogol, ffocws gweithredol ar ddatblygiad parhaus, a chysylltiadau amlbroffesiynol sefydledig.
Rydym yn hapus i ystyried trefniadau gweithio'n hyblyg, gan eich cefnogi i gyflawni cydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith a bodlonrwydd swydd uchel.
Rydym yn croesawu cyswllt anffurfiol gan ddarpar ymgeiswyr.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 11,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth â’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;
Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;
48 o bractisau cyffredinol (pedwar ohonynt yn bractisau a reolir), 47 practis deintyddol (gan gynnwys tri orthodontig), 99 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;
Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadu ar 16/10/2024
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gweithredu polisi dwyieithog
‘Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir drwy gyfrwng y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau a wneir yn y Saesneg’.
Trwy gyflwyno eich cais i NHS Jobs/Trac, rydych yn gydsynio i elfennau o ddata eich cais gael eu trosglwyddo i Gofnod Staff Electronig (ESR) y GIG a systemau diogel, mewnol Gweithlu’r GIG er mwyn cefnogi a rheoli eich recriwtio a’ch cyflogaeth o fewn y sefydliad sy’n eich cyflogi; i’w defnyddio gan yr adran Recriwtio at ddibenion gwirio eich Cofrestriad Proffesiynol ar-lein (lle bo’n briodol).
Mae’r prosesau hyn yn unol â phrosesu Teg a Chyfreithlon yn unol â Deddfwriaeth Diogelu Data cyfredol yn enwedig y rhai hynny mewn perthynas â’ch data personol neu bersonol sensitif (diffinir data personol sensitif fel unrhyw gyflwr iechyd meddwl neu gorfforol, tarddiad hiliol neu ethnig, cyfeiriadedd rhywiol, aelodaeth undeb llafur, barn wleidyddol neu gred crefyddol datganedig). Fel sefydliad, rydym yn sicrhau bod y ddeddfwriaeth sy’n diffinio cyfrinachedd yn cael ei dilyn megis y defnydd o ddata at ddibenion penodol, diffiniedig, a defnydd o ddata sy’n berthnasol ac nid yn ormodol wrth ymarfer cywirdeb data a diogelwch yr holl wybodaeth bersonol adnabyddadwy a gedwir.
Os cewch eich penodi’n llwyddiannus, trwy lenwi’r ffurflen gais rydych yn awdurdodi’r BIP i gael unrhyw fanylion gwasanaeth blaenorol i’r GIG yn cynnwys yr holl wybodaeth ar salwch a gedwir yn electronig, trwy’r broses Trosglwyddo Rhyng-awdurdod ar y Cofnod Staff Electronig.
I weithio yn y DU, mae angen nawdd ar bob ymgeisydd nad yw'n wladolyn o'r DU neu Weriniaeth Iwerddon i gael naill ai fisa Gweithiwr Iechyd a Gofal neu fisa Gweithiwr Medrus, oni bai bod gennych ganiatâd i weithio trwy lwybr arall. Dylai ymgeiswyr nad ydynt yn rhan o'r DU/Gweriniaeth Iwerddon sy'n dymuno gwneud cais hunanasesu'u tebygolrwydd o gael Tystysgrif Nawdd trwy ymweld â gwefan Fisâu a Mewnfudo'r DU. Os ydych chi'n gymwys i gael y fisa Iechyd a Gofal, mae'r costau ymgeisio yn is ac nid oes angen i chi dalu Gordal Iechyd Mewnfudo blynyddol.
Gofynion yr ymgeisydd
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Cymhwyster mewn maetheg, iechyd neu faes perthnasol arall, sy'n cyfateb i o leiaf 120 credyd ar lefel 4 neu NVQ neu ddiploma lefel 3 neu gymhwyster cyfatebol ac yn barod i gwblhau 120 credyd ar lefel 4 sy'n berthnasol i'r rol cyn pen dwy flynedd o gael eich penodi, gyda phrofiad lefel 4 cyfatebol
- TGAU Mathemateg a Saesneg (graddau A-C) neu Sgiliau Hanfodol Cymru
- Yn hyddysg mewn TG
- Gwybodaeth a dealltwriaeth o'r sylfaen dystiolaeth sy'n sail i faetheg ym maes gofal iechyd
- Meistrolaeth dda ar y Saesneg ac yn gallu cymhwyso Mathemateg sylfaenol
- Further evidence of continual education
- A commitment to undertaking continuous professional development
Meini prawf dymunol
- Prentisiaeth Therapi Lefel 4
- Cyrsiau perthnasol i gefnogi gwaith maetheg/clinigol
- Gwybodaeth TG am systemau casglu data
- Cymhwyster proffesiynol, technegol neu academaidd sy'n berthnasol i faetheg neu ymarfer clinigol hyd at 180 credyd ar lefel 4
- Good knowledge of government initiatives about long term conditions and self-care
- Knowledge of NHS in particular health improvement
- Knowledge of voluntary organisations
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad mewn perthynas a gofal iechyd, llesiant a maetheg, neu o fod yn weithiwr cymorth mewn gwasanaeth nyrsio neu therapi, neu mewn maes cysylltiedig
- Yn meddu ar y gallu i weithio heb oruchwyliaeth, gan ysgwyddo cyfrifoldeb am lwyth gwaith dirprwyedig
- Y gallu i weithio mewn modd effeithiol yn rhan o dim
- Yn deall rol staff gofal iechyd mewn perthynas a gofal maethol
- Experience of delivering group education
Meini prawf dymunol
- Gweithiwr cymorth deieteg
- Profiad clinigol ychwanegol neu ym maes gofal iechyd
- Profiad o weithio gyda grwpiau o gleifion
- Goruchwylio staff
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Claire Jones
- Teitl y swydd
- Weight Management Clinical Pathway Lead
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 07769281135
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Bydd Julie ar wyliau rhwng 2 Awst a 12 Awst, yn eu habsenoldeb gall ymgeiswyr gysylltu â Kathryn Francis, prif ddeietegydd clinigol yn Ysbyty Tywysog Phillip ar 01554 783061
Dechrau eich cais
Rhaid ichi fewngofnodi i gyfrif Trac cyn y gallwch wneud cais am y swydd hon.
Mewngofnodi
Creu cyfrif
Creu eich cyfrif a gwneud cais am eich swydd newydd!