Mae Trac yn falch o bweru recriwtio ar gyfer
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Gwybodaeth
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd i boblogaeth o tua 372,320 ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. Mae'n darparu gwasanaethau Acìwt, Sylfaenol, Cymunedol, Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu trwy Ysbytai Cyffredinol a Chymunedol, Canolfannau Iechyd, Meddygfeydd Teulu, Deintyddion, Fferyllfeydd, Optometryddion a safleoedd eraill.
Cydlynydd Rhestrau Aros Clinig Sgrinio Coluddion Cymru
Accepting applications until: 06-Oct-2024 23:59
Statws y swydd wag: Open
Accepting applications until: 06-Oct-2024 23:59
Manylion allweddol
Lleoliad
- Gwefan
- Ysbyty Cyffredinol Glangwili
- Cyfeiriad
- Heol Dolgwili
- Tref
- Caerfyrddin
- Cod post
- SA31 2AF
- Major / Minor Region
- Sir Gaerfyrddin
Math o gontract a phatrwm gwaith
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Rhan-amser - 25 awr yr wythnos (Dydd Llun i Ddydd Gwener)
Cyflog
- Cyflog
- £25,524 - £28,010 y flwyddyn (pro rata os yn rhan-amser)
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Gradd
- (Gradd 4)
Arbenigedd
- Prif leoliad
- Endosgopi
- Dyddiad y cyfweliad
- 15/10/2024
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Mae cyfle cyffrous wedi dod ar gael yn lleol yn Nhîm Sgrinio Coluddion Cymru. Bydd y rôl band 4 hon ar gyfer Cydlynydd Rhestrau Aros y Clinig wedi'i lleoli yn Ysbyty Glangwili, a bydd yn cefnogi tîm bach, ond tîm sy'n tyfu, sy'n cynnwys 8 Ymarferydd Sgrinio Arbenigol.
Bydd deiliad y swydd yn darparu gwasanaeth gweinyddol effeithlon a chynhwysfawr ar gyfer Sgrinio Coluddion Cymru, gan sicrhau safonau uchel bob amser. Bydd yn gwneud hyn ar y cyd ag arweinwyr adrannol, gan sicrhau gwasanaeth proffesiynol a chyfrinachol bob amser.
Bydd deiliad y swydd yn gallu rheoli ei lwyth gwaith ei hun heb fawr ddim goruchwyliaeth yn unol â chanllawiau y cytunwyd arnynt.
O fod yn uwch-weinyddwr, sicrhau bod holl swyddogaethau a dyletswyddau swyddfa y tîm gweinyddol yn cael eu rheoli.
Advert
Darparu gwasanaeth gweinyddol effeithlon a chynhwysfawr ar gyfer Sgrinio Coluddion Cymru (BSW), gan sicrhau safonau uchel bob amser. Byddwch yn gwneud hyn ar y cyd ag arweinwyr adrannol, gan sicrhau gwasanaeth proffesiynol a chyfrinachol bob amser.
Cyfathrebu â'r rheiny sy'n ymwneud â Sgrinio Coluddion a threfnu apwyntiadau ar eu cyfer, gan ddefnyddio nifer o systemau TG i fewnbynnu data a llunio adroddiadau.
Bydd deiliad y swydd yn darparu ac yn cydlynu gwasanaethau gweinyddol ac ysgrifenyddol, gan gynnwys, er enghraifft, paratoi agendâu a chofnodion a chymryd unrhyw gamau gweithredu dilynol priodol, yn ôl yr angen. Yn ogystal, bydd deiliad y swydd yn darparu cymorth i brosiectau ac yn gyfrifol am reoli cronfeydd data.
Bydd deiliad y swydd yn cefnogi tîm i reoli prosiectau trwy gasglu gwybodaeth, dadansoddi a chyflwyno gwybodaeth, ac ymgymryd ag ymholiadau yn ôl yr angen. Mae'r gwaith yn amrywiol ac yn newidiol.
Mae'n bosibl y bydd deiliad y swydd yn goruchwylio staff eraill.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 12,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;
Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;
47 o bractisau cyffredinol (6 ohonynt yn bractisau a reolir), 45 practis deintyddol (gan gynnwys 4 orthodontig), 96 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;
Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
il
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cael mynediad ar unwaith i'n budd-dal lles ariannol – Wagestream. Mae Wagestream yn offeryn ar gyfer bywyd bob dydd sy'n gadael i chi gael eich talu drwy adael i chi olrhain eich cyflog mewn amser real, ffrydio hyd at 50% o'r arian rydych chi eisoes wedi'i ennill, dysgu awgrymiadau hawdd i reoli'ch arian yn well ac arbed eich cyflog yn syth o'ch cyflog.
https://fb.watch/hzQjE8HzTN/
Cynhelir y cyfweliadu ar 15/10/2024
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gweithredu polisi dwyieithog
‘Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir drwy gyfrwng y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau a wneir yn y Saesneg’.
Trwy gyflwyno eich cais i NHS Jobs/Trac, rydych yn gydsynio i elfennau o ddata eich cais gael eu trosglwyddo i Gofnod Staff Electronig (ESR) y GIG a systemau diogel, mewnol Gweithlu’r GIG er mwyn cefnogi a rheoli eich recriwtio a’ch cyflogaeth o fewn y sefydliad sy’n eich cyflogi; i’w defnyddio gan yr adran Recriwtio at ddibenion gwirio eich Cofrestriad Proffesiynol ar-lein (lle bo’n briodol).
Mae’r prosesau hyn yn unol â phrosesu Teg a Chyfreithlon yn unol â Deddfwriaeth Diogelu Data cyfredol yn enwedig y rhai hynny mewn perthynas â’ch data personol neu bersonol sensitif (diffinir data personol sensitif fel unrhyw gyflwr iechyd meddwl neu gorfforol, tarddiad hiliol neu ethnig, cyfeiriadedd rhywiol, aelodaeth undeb llafur, barn wleidyddol neu gred crefyddol datganedig). Fel sefydliad, rydym yn sicrhau bod y ddeddfwriaeth sy’n diffinio cyfrinachedd yn cael ei dilyn megis y defnydd o ddata at ddibenion penodol, diffiniedig, a defnydd o ddata sy’n berthnasol ac nid yn ormodol wrth ymarfer cywirdeb data a diogelwch yr holl wybodaeth bersonol adnabyddadwy a gedwir.
Os cewch eich penodi’n llwyddiannus, trwy lenwi’r ffurflen gais rydych yn awdurdodi’r BIP i gael unrhyw fanylion gwasanaeth blaenorol i’r GIG yn cynnwys yr holl wybodaeth ar salwch a gedwir yn electronig, trwy’r broses Trosglwyddo Rhyng-awdurdod ar y Cofnod Staff Electronig.
I weithio yn y DU, mae angen nawdd ar bob ymgeisydd nad yw'n wladolyn o'r DU neu Weriniaeth Iwerddon i gael naill ai fisa Gweithiwr Iechyd a Gofal neu fisa Gweithiwr Medrus, oni bai bod gennych ganiatâd i weithio trwy lwybr arall. Dylai ymgeiswyr nad ydynt yn rhan o'r DU/Gweriniaeth Iwerddon sy'n dymuno gwneud cais hunanasesu'u tebygolrwydd o gael Tystysgrif Nawdd trwy ymweld â gwefan Fisâu a Mewnfudo'r DU. Os ydych chi'n gymwys i gael y fisa Iechyd a Gofal, mae'r costau ymgeisio yn is ac nid oes angen i chi dalu Gordal Iechyd Mewnfudo blynyddol.
Gofynion yr ymgeisydd
Bydd y swydd hon yn gofyn am gyflwyno Datgeliad i wirio am unrhyw gollfarnau troseddol sydd heb ddarfod.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Cymhwyster Lefel 3 (e.e. Safon Uwch, Safon UG, NVQ3) neu brofiad amlwg cyfatebol o sgiliau a gwybodaeth gweinyddol/swyddfa
- Profiad o amrediad llawn o ddyletswyddau sy'n ymwneud â gweithio mewn amgylchedd gweinyddol/swyddfa
- Gwybodaeth am derminoleg arbenigol y GIG/sefydliadol
Meini prawf dymunol
- Hyfforddiant ysgrifenyddol
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o weithio mewn amgylchedd gweinyddol/swyddfa
- Yn gyfarwydd â phecynnau TG Microsoft, yn enwedig Word, Excel a PowerPoint, ac yn gymwys i'w defnyddio
- Profiad o sefydlu taenlenni a chronfeydd data
- Yn gyfarwydd â defnyddio system e-bost a chwilio'r Rhyngrwyd, ac yn hyderus wrth wneud hynny
Meini prawf dymunol
- Profiad o weithio mewn tîm amlddisgyblaethol
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gwerthoedd
Meini prawf hanfodol
- Y gallu i goleddu'r gwerthoedd personol a'r ymddygiadau canlynol yn ddyddiol: • Urddas, Parch a Thegwch • Uniondeb, Didwylledd a Gonestrwydd • Gofal, Caredigrwydd a Thosturi Y gallu i amlygu ymrwymiad i'n gwerthoedd sefydliadol
- Cydweithio hyd eithaf ein gallu i roi o'n gorau • Ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol • Rhoi pobl wrth wraidd popeth a wnawn
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Bethan Browning
- Teitl y swydd
- Lead Specialist Screening Practitioner
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01267 283218
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Sara Buckley Ymarferydd Sgrinio Arbenigol Arweiniol 01437 773041
Dechrau eich cais
Rhaid ichi fewngofnodi i gyfrif Trac cyn y gallwch wneud cais am y swydd hon.
Mewngofnodi
Creu cyfrif
Creu eich cyfrif a gwneud cais am eich swydd newydd!