Mae Trac yn falch o bweru recriwtio ar gyfer
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Gwybodaeth
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd i boblogaeth o tua 372,320 ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. Mae'n darparu gwasanaethau Acìwt, Sylfaenol, Cymunedol, Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu trwy Ysbytai Cyffredinol a Chymunedol, Canolfannau Iechyd, Meddygfeydd Teulu, Deintyddion, Fferyllfeydd, Optometryddion a safleoedd eraill.
Cynghorydd Cynhwysiant Digidol
Accepting applications until: 01-Oct-2024 23:59
Statws y swydd wag: Open
Accepting applications until: 01-Oct-2024 23:59
Manylion allweddol
Lleoliad
- Gwefan
- Ty Nant, Ysbyty Cyffredinol Glangwili
- Cyfeiriad
- Heol Dolgwili
- Tref
- Caerfyrddin
- Cod post
- SA31 2AF
- Major / Minor Region
- Sir Gaerfyrddin
Math o gontract a phatrwm gwaith
- Contract
- 8 mis (Cyfnod penodol/ Secondiad tan 04.07.25)
- Oriau
- Llawnamser
- Rhannu swydd
Cyflog
- Cyflog
- £35,922 - £43,257 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Gradd
- (Gradd 6)
Arbenigedd
- Prif leoliad
- Gwasanaethau Digidol
- Dyddiad y cyfweliad
- 10/10/2024
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
MAE’R SWYDD HON AM GYFNOD PENODOL/SECONDIAD TAN 04.07.25 OHERWYDD CYFNOD MAMOLAETH.
OS OES DIDDORDEB GYDA CHI MEWN CEISIO AM SWYDD SECONDIAD, MAE’N RHAID I CHI GAEL CANIATAD EICH RHEOLWR LLINELL PRESENNOL CYN I CHI GEISIO AM Y SWYDD HON.
Mae’r bwrdd iechyd wedi ymrwymo i gymryd camau cadarnhaol i hyrwyddo, arwain, cysylltu a chefnogi dull cydgysylltiedig o wneud gwaith cynhwysiant digidol amrywiol ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro fel rhan o’r Rhaglen Cynhwysiant Digidol. Mae’r Rhaglen Cynhwysiant Digidol yn gweithio tuag at arfogi’r gweithlu a’r boblogaeth ehangach â’r cymhelliant, mynediad, sgiliau a hyder i ymgysylltu â byd cynyddol ddigidol, yn seiliedig ar eu hanghenion. Mae’r gweithgaredd hwn yn cydberthyn yn uniongyrchol â chyfleoedd i BIHDd wneud y defnydd mwyaf posibl o dechnoleg ddigidol i helpu i ddarparu gofal a gwella llesiant ei boblogaeth.
Mae cyfle cyffrous wedi codi i rywun ymuno â’n tîm llawn cymhelliant, angerddol ac ysbrydoledig i ddarparu cyfnod mamolaeth i barhau i ddatblygu gwaith rhagorol a chefnogaeth y Rhaglen Cynhwysiant Digidol ar draws y bwrdd iechyd.
Advert
Rôl y Cynghorydd Cynhwysiant Digidol yw cynorthwyo'r Rheolwr Cynhwysiant Digidol gyda'r gwaith o ddatblygu a darparu rhaglen cynhwysiant digidol uchelgeisiol i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb digidol. Bydd hyn yn torri ar draws yr holl weithgarwch digidol oddi mewn ac oddi allan i leoliad y Bwrdd Iechyd. Mae yna wyth piler i’r rhaglen hon, a
fydd yn cynnwys yr angen i ymgorffori’r themâu canlynol mewn gweithgarwch digidol:
- Cydnabod bod mynediad a sgiliau digidol yn benderfynydd cymdeithasol iechyd
- Cydgynllunio gwasanaethau iechyd digidol
- Gwella llythrennedd iechyd digidol yn y boblogaeth
- Datblygu ‘hybiau iechyd digidol’ i wella cynhwysiant
- Meithrin ymddiriedaeth a pherthnasoedd â grwpiau sy'n cael gwasanaeth gwael
- Harneisio manteision digidol ar gyfer iechyd a llesiant
- Gwella sgiliau digidol yn y gweithlu iechyd a gofal
- Cynnwys cynhwysiant digidol mewn strategaethau iechyd a gofal a llesia
Bydd y rôl yn cynnwys datblygu a gweithredu cymorth a gweithgareddau cynhwysian digidol, cydweithredu ag amrywiaeth o dimau gwahanol yn fewnol ac yn allanol, darparu dull cydlynol o fynd i'r afael ag allgáu digidol, yn ogystal â gweithio'n agos gyda rhanddeiliaid allanol a phartneriaid allweddol i gefnogi datblygiad a thwf gweithgareddau cynhwysiant digidol cynaliadwy.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 11,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth â’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;
Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;
48 o bractisau cyffredinol (pedwar ohonynt yn bractisau a reolir), 47 practis deintyddol (gan gynnwys tri orthodontig), 99 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;
Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadu ar 10/10/2024.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gweithredu polisi dwyieithog
‘Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir drwy gyfrwng y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau a wneir yn y Saesneg’.
Trwy gyflwyno eich cais i NHS Jobs/Trac, rydych yn gydsynio i elfennau o ddata eich cais gael eu trosglwyddo i Gofnod Staff Electronig (ESR) y GIG a systemau diogel, mewnol Gweithlu’r GIG er mwyn cefnogi a rheoli eich recriwtio a’ch cyflogaeth o fewn y sefydliad sy’n eich cyflogi; i’w defnyddio gan yr adran Recriwtio at ddibenion gwirio eich Cofrestriad Proffesiynol ar-lein (lle bo’n briodol).
Mae’r prosesau hyn yn unol â phrosesu Teg a Chyfreithlon yn unol â Deddfwriaeth Diogelu Data cyfredol yn enwedig y rhai hynny mewn perthynas â’ch data personol neu bersonol sensitif (diffinir data personol sensitif fel unrhyw gyflwr iechyd meddwl neu gorfforol, tarddiad hiliol neu ethnig, cyfeiriadedd rhywiol, aelodaeth undeb llafur, barn wleidyddol neu gred crefyddol datganedig). Fel sefydliad, rydym yn sicrhau bod y ddeddfwriaeth sy’n diffinio cyfrinachedd yn cael ei dilyn megis y defnydd o ddata at ddibenion penodol, diffiniedig, a defnydd o ddata sy’n berthnasol ac nid yn ormodol wrth ymarfer cywirdeb data a diogelwch yr holl wybodaeth bersonol adnabyddadwy a gedwir.
Os cewch eich penodi’n llwyddiannus, trwy lenwi’r ffurflen gais rydych yn awdurdodi’r BIP i gael unrhyw fanylion gwasanaeth blaenorol i’r GIG yn cynnwys yr holl wybodaeth ar salwch a gedwir yn electronig, trwy’r broses Trosglwyddo Rhyng-awdurdod ar y Cofnod Staff Electronig.
I weithio yn y DU, mae angen nawdd ar bob ymgeisydd nad yw'n wladolyn o'r DU neu Weriniaeth Iwerddon i gael naill ai fisa Gweithiwr Iechyd a Gofal neu fisa Gweithiwr Medrus, oni bai bod gennych ganiatâd i weithio trwy lwybr arall. Dylai ymgeiswyr nad ydynt yn rhan o'r DU/Gweriniaeth Iwerddon sy'n dymuno gwneud cais hunanasesu'u tebygolrwydd o gael Tystysgrif Nawdd trwy ymweld â gwefan Fisâu a Mewnfudo'r DU. Os ydych chi'n gymwys i gael y fisa Iechyd a Gofal, mae'r costau ymgeisio yn is ac nid oes angen i chi dalu Gordal Iechyd Mewnfudo blynyddol.
Gofynion yr ymgeisydd
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Gradd berthnasol
- Cymhwyster ol-raddedig, neu dystysgrif lefel TAR mewn hyfforddi a datblygu
- Gwybodaeth am feysydd polisi digidol ac iechyd allweddol Llywodraeth Cymru a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, a dealltwriaeth ohonynt
- Dealltwriaeth o'r ardal a wasanaethir gan y Bwrdd Iechyd a'i chymeriad cymdeithasol ac economaidd
- Sgiliau TGCh cadarn, ynghyd a'r gallu i ddefnyddio offer digidol amrywiol yn hyderus i ddangos budd technoleg a chanlyniadau cadarnhaol a buddiol iechyd a llesiant
- Tystiolaeth o ddatblygiad pellach – addysg/hyfforddiant
Meini prawf dymunol
- Dealltwriaeth dda o'r heriau sy'n dod yn sgil allgau digidol
- Dealltwriaeth o'r ardal ddaearyddol y mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn ei gwasanaethu
- Gwybodaeth am ddatblygu a lleoli gwirfoddolwyr a dealltwriaeth o hynny
- Dealltwriaeth dda o swyddogaethau llywodraeth leol, rhanddeiliaid allweddol, a'r cyfleoedd ehangach o ran cymorth yn y cymunedau
- Gwybodaeth am strwythurau sefydliadol, llinellau adrodd rheolwyr, a llwybrau priodol ar gyfer dirprwyo pecynnau gwaith prosiectau
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad amlwg mewn amgylchedd sector cyhoeddus neu o brosiect neu raglen gyflenwi sy'n benodol i Gynhwysiant Digidol
- Profiad o feithrin perthnasoedd a phartneriaethau effeithiol a sefydliadau sy'n arwain at newid cynaliadwy
- Profiad amlwg o gefnogi, cynghori a thywys prosiectau
- Profiad o ddulliau ffurfiol ac anffurfiol o ddatblygu sgiliau pobl eraill
- Profiad blaenorol o gynllunio a datblygu cynnwys a darparu sesiynau/gweithdai ysbrydoledig a diddorol mewn amrywiaeth o ddulliau cyflwyno
Meini prawf dymunol
- Dealltwriaeth o fethodoleg prosiectau
- Profiad o weithio yn amgylchedd y GIG
- Profiad o weithio gydag awdurdodau lleol a sefydliadau trydydd sector
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Michelle Hickin
- Teitl y swydd
- Digital Inclusion Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
Dechrau eich cais
Rhaid ichi fewngofnodi i gyfrif Trac cyn y gallwch wneud cais am y swydd hon.
Mewngofnodi
Creu cyfrif
Creu eich cyfrif a gwneud cais am eich swydd newydd!