Mae Trac yn falch o bweru recriwtio ar gyfer
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Gwybodaeth
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd i boblogaeth o tua 372,320 ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. Mae'n darparu gwasanaethau Acìwt, Sylfaenol, Cymunedol, Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu trwy Ysbytai Cyffredinol a Chymunedol, Canolfannau Iechyd, Meddygfeydd Teulu, Deintyddion, Fferyllfeydd, Optometryddion a safleoedd eraill.
Therapydd Galwedigaethol Profiadol (Gofal Canolraddol)
Accepting applications until: 08-Oct-2024 23:59
Statws y swydd wag: Open
Accepting applications until: 08-Oct-2024 23:59
Manylion allweddol
Lleoliad
- Gwefan
- I'w gadarnhau
- Tref
- Sir Gaefyrddin - I'w gadarnhau
- Cod post
- SA15 3YF
- Major / Minor Region
- Sir Gaerfyrddin
Math o gontract a phatrwm gwaith
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser
- Rhan-amser
- Rhannu swydd
Cyflog
- Cyflog
- £35,922 - £43,257 y flwyddyn (pro rata os rhan-amser)
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Gradd
- (Gradd 6)
Arbenigedd
- Prif leoliad
- Therapi Galwedigaethol
- Dyddiad y cyfweliad
- 17/10/2024
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn cyflwyno cyfle cyffrous i ddau Therapydd Galwedigaethol llawn cymhelliant a phrofiadol ymuno â'n tîm sydd wedi ennill Gwobrau gan y GIG ac Iechyd Cyhoeddus, sef y “Tîm Cartref yn Gyntaf”.
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda – Cyflwyno Tîm Amlddisgyblaethol Gofal Canolraddol, Sir Gaerfyrddin – Iechyd Cyhoeddus Cymru (nhs.wales).
Rydym yn dîm arloesol, cynhwysfawr o Therapyddion Galwedigaethol, Ffisiotherapyddion, Ymarferwyr Cynorthwyol Therapïau, Deietegwyr, Nyrsys, Meddygon Teulu, Uwch-ymarferwyr Parafeddygol, Uwch-ymarferwyr Nyrsio, Cymdeithion Meddygol, Gweithwyr Cymdeithasol, Uwchweithwyr Ailalluogi ac Asiantau Trydydd Sector sy'n ymdrechu i ddarparu'r cymorth iawn, ar yr adeg iawn, yn y lle iawn mor agos i gartref â phosibl.
Bydd y rolau hyn yn rhan o’r Tîm Amlddisgyblaethol “Cartref yn Gyntaf”, sy'n cydweithio i ddarparu ymyriadau cynnar a chyfnodau o adsefydlu ac asesu yn y gymuned er mwyn lliniaru ar unwaith effeithiau unrhyw weithrediad a gollir, y risg o ddatgyflyru, diffyg maeth, a dirywiad
mewn iechyd meddwl pobl, a hynny i gynyddu'r amser y byddant yn ei dreulio gartref yn hytrach nag yn yr ysbyty.
Ein nod yw darparu gofal cleifion mewn modd holistaidd sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, gan gefnogi cleifion, pan fo’n bosibl, i aros yn eu cartrefi eu hunain/ddychwelyd mewn modd diogel i’w cartrefi eu hunain lle gallant barhau i fod yn aelod gwerthfawr o’u cymuned eu hunain, y maent yn gyfarwydd â hi ac yn gyfforddus ynddi.
Advert
Bydd deiliaid y swyddi yn mewnbynnu i'r gwasanaethau gofal canolraddol yn y cartref ac yn y gwely yma yn Sir Gaerfyrddin.
A chithau'n unigolyn ôl-raddedig amryddawn, bydd gennych sylfaen glinigol gadarn ym maes adsefydlu pobl hŷn, codi a chario cymhleth, arbenigedd o ran syndrom eiddilwch, cyflyrau niwrolegol, cyflyrau cardio-anadlol, a dealltwriaeth dda o faterion cyfredol sy'n effeithio ar ofal canolraddol a gwasanaethau cymunedol.
Bydd yn ofynnol i ymgeiswyr llwyddiannus feddu ar allu rhagorol i weithio'n annibynnol, gan reoli a blaenoriaethu llwyth achosion amrywiol ac anrhagweladwy. Bydd hefyd yn ofynnol i chi feddu ar y gallu i addasu i amgylchedd sy'n newid yn gyflym ac sydd dan bwysau, a hynny ochr yn ochr ag aelodau'r tîm amlddisgyblaethol. Disgwylir i ddeiliaid y swyddi gefnogi staff Therapi Galwedigaethol iau, Technegwyr Ffisiotherapi, Cynorthwywyr Ailalluogi/Gweithwyr Cymorth Eiddilwch a myfyrwyr, a chwarae rôl yn y broses o'u goruchwylio.
Mae hwn yn gyfle cyffrous i unigolyn brwdfrydig, sy'n teimlo'n angerddol ynghylch gwerth Therapi Galwedigaethol cymunedol, gynnal momentwm wrth drawsnewid ein gwasanaethau cymunedol ledled sefydliadau er budd pobl Sir Gaerfyrddin a chenedlaethau'r dyfodol.
Os oes gennych ragor o gwestiynau ynghylch y swyddi hyn, yna mae croeso i chi gysylltu – byddem wrth ein bodd yn dod i'ch adnabod ac yn ateb eich cwestiynau.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 11,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth â’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;
Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;
48 o bractisau cyffredinol (pedwar ohonynt yn bractisau a reolir), 47 practis deintyddol (gan gynnwys tri orthodontig), 99 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;
Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
A ninnau'n wasanaeth Therapi Galwedigaethol, sylweddolwn mai ein staff yw ein hased cryfaf, a bod buddsoddi mewn pobl fel unigolion yr un mor bwysig â buddsoddi yn eu datblygiad proffesiynol. Rydym yn mynd ati i hyrwyddo astudiaethau ôl-raddedig gyda chyfleoedd ar gyfer
cyllid a rennir. Mae'r pandemig wedi dangos i ni yn fwy nag erioed bwysigrwydd y cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, ac anogwn drefniadau gweithio o bell pan fo'n briodol, ynghyd â threfniadau gweithio'n hyblyg.
Mae hwn yn gyfle cyffrous i unigolyn brwdfrydig, sy'n teimlo'n angerddol ynghylch gwerth Therapi Galwedigaethol cymunedol, gynnal momentwm wrth drawsnewid ein gwasanaethau cymunedol ledled sefydliadau er budd pobl Sir Gaerfyrddin a chenedlaethau'r dyfodol.
Bydd yn ofynnol i ddeiliad y swydd gymryd rhan yn y gwaith o ddarparu gwasanaeth hyblyg saith niwrnod, yn seiliedig ar angen. Bydd hyn yn ôl trefn rota.
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadu ar 17/10/2024.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gweithredu polisi dwyieithog
‘Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir drwy gyfrwng y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau a wneir yn y Saesneg’.
Trwy gyflwyno eich cais i NHS Jobs/Trac, rydych yn gydsynio i elfennau o ddata eich cais gael eu trosglwyddo i Gofnod Staff Electronig (ESR) y GIG a systemau diogel, mewnol Gweithlu’r GIG er mwyn cefnogi a rheoli eich recriwtio a’ch cyflogaeth o fewn y sefydliad sy’n eich cyflogi; i’w defnyddio gan yr adran Recriwtio at ddibenion gwirio eich Cofrestriad Proffesiynol ar-lein (lle bo’n briodol).
Mae’r prosesau hyn yn unol â phrosesu Teg a Chyfreithlon yn unol â Deddfwriaeth Diogelu Data cyfredol yn enwedig y rhai hynny mewn perthynas â’ch data personol neu bersonol sensitif (diffinir data personol sensitif fel unrhyw gyflwr iechyd meddwl neu gorfforol, tarddiad hiliol neu ethnig, cyfeiriadedd rhywiol, aelodaeth undeb llafur, barn wleidyddol neu gred crefyddol datganedig). Fel sefydliad, rydym yn sicrhau bod y ddeddfwriaeth sy’n diffinio cyfrinachedd yn cael ei dilyn megis y defnydd o ddata at ddibenion penodol, diffiniedig, a defnydd o ddata sy’n berthnasol ac nid yn ormodol wrth ymarfer cywirdeb data a diogelwch yr holl wybodaeth bersonol adnabyddadwy a gedwir.
Os cewch eich penodi’n llwyddiannus, trwy lenwi’r ffurflen gais rydych yn awdurdodi’r BIP i gael unrhyw fanylion gwasanaeth blaenorol i’r GIG yn cynnwys yr holl wybodaeth ar salwch a gedwir yn electronig, trwy’r broses Trosglwyddo Rhyng-awdurdod ar y Cofnod Staff Electronig.
I weithio yn y DU, mae angen nawdd ar bob ymgeisydd nad yw'n wladolyn o'r DU neu Weriniaeth Iwerddon i gael naill ai fisa Gweithiwr Iechyd a Gofal neu fisa Gweithiwr Medrus, oni bai bod gennych ganiatâd i weithio trwy lwybr arall. Dylai ymgeiswyr nad ydynt yn rhan o'r DU/Gweriniaeth Iwerddon sy'n dymuno gwneud cais hunanasesu'u tebygolrwydd o gael Tystysgrif Nawdd trwy ymweld â gwefan Fisâu a Mewnfudo'r DU. Os ydych chi'n gymwys i gael y fisa Iechyd a Gofal, mae'r costau ymgeisio yn is ac nid oes angen i chi dalu Gordal Iechyd Mewnfudo blynyddol.
Gofynion yr ymgeisydd
Rhaid bod gennych gofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Manyleb y person
Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Gwybodaeth am ddeddfwriaeth iechyd a gofal cymdeithasol gyfredol sy'n berthnasol i'r rôl, yn cynnwys: Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014, Deddf Plant 1989, Rheoliadau Gweithrediadau Codi a Chario 1992 a Deddf Tai ac Adfywio 1996, Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, a Cymru Iachach 2018
- Gwybodaeth helaeth am gyfarpar bywyd bob dydd a chodi a chario, addasiadau a nodweddion dylunio a all gynorthwyo defnyddwyr y gwasanaeth a'u gofalwyr i fod mor annibynnol â phosibl
- Gwybodaeth am adnoddau cenedlaethol a lleol a fyddai o fudd i ddefnyddwyr y gwasanaeth
- Gwybodaeth am feddalwedd Microsoft Office, ac yn gallu ei defnyddio
- Gwybodaeth am amrywiaeth o ymyriadau adsefydlu ar draws pob therapi
- Yn deall ac yn gallu cymhwyso dulliau llywodraethu clinigol, gan gynnwys methodoleg ymchwil ac archwilio
- Yn deall ac yn gallu cymhwyso mesurau canlyniadau perthnasol i amlygu effeithiolrwydd
- Dealltwriaeth o rolau grwpiau staff eraill ym maes iechyd a gofal cymdeithasol
Meini prawf dymunol
- Gwybodaeth am wasanaethau eraill sy'n cysylltu ar draws gofal sylfaenol/eilaidd/canolraddol
- Gwybodaeth ymarferol am gyfarpar therapiwtig
- Gwybodaeth am flaenoriaethau gwasanaeth integredig
Cymwysterau, Hyfforddiant Galwedigaethol ac Aelodaeth Broffesiynol
Meini prawf hanfodol
- Gradd mewn Therapi Galwedigaethol (neu Ddiploma cyfatebol)
- Cofrestriad cyfredol gyda'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal
Meini prawf dymunol
- Addysgwr Ymarfer Achrededig
- Asesydd Agored Achrededig
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad ôl-raddedig sylweddol o weithio yn rôl therapydd galwedigaethol ledled ystod o leoliadau ac o dan amrywiaeth o amodau
- Gweithio gyda defnyddwyr y gwasanaeth sy'n agored i niwed, sy'n meddu ar anabledd neu sy'n unigolion hŷn
- Profiad blaenorol o weithio mewn sefydliad iechyd, gwasanaethau cymdeithasol neu dai
Meini prawf dymunol
- Profiad o weithio gyda grwpiau
- Profiad o weithio mewn lleoliad cymunedol
- Profiad o ddefnyddio llwyfannau cyfathrebu rhithwir i ddarparu gwasanaeth
- Profiad yn yr un maes clinigol a'r swydd y gwneir y cais amdani
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg ( Lefel 1)
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Rachel Davey
- Teitl y swydd
- Service Lead Occupational Therapist Community
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 07943 854467
Dechrau eich cais
Rhaid ichi fewngofnodi i gyfrif Trac cyn y gallwch wneud cais am y swydd hon.
Mewngofnodi
Creu cyfrif
Creu eich cyfrif a gwneud cais am eich swydd newydd!