Mae Trac yn falch o bweru recriwtio ar gyfer
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Gwybodaeth
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd i boblogaeth o tua 372,320 ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. Mae'n darparu gwasanaethau Acìwt, Sylfaenol, Cymunedol, Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu trwy Ysbytai Cyffredinol a Chymunedol, Canolfannau Iechyd, Meddygfeydd Teulu, Deintyddion, Fferyllfeydd, Optometryddion a safleoedd eraill.
Therapydd Galwedigaethol Cylchdro
Accepting applications until: 29-Sep-2024 23:59
Statws y swydd wag: Open
Accepting applications until: 29-Sep-2024 23:59
Manylion allweddol
Lleoliad
- Gwefan
- Ysbyty Cyffredinol Glangwili
- Cyfeiriad
- Heol Dolgwili
- Tref
- Caerfyrddin
- Cod post
- SA31 2AF
- Major / Minor Region
- Sir Gaerfyrddin
Math o gontract a phatrwm gwaith
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser
- Rhan-amser
Cyflog
- Cyflog
- £35,922 - £43,257 y flwyddyn pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Gradd
- (Gradd 6)
Arbenigedd
- Prif leoliad
- Therapi Galwedigaethol
- Dyddiad y cyfweliad
- 07/10/2024
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Mae cyfle cyffrous wedi dod ar gael yn ein patrwm cylch Band 6 ar gyfer Therapi Galwedigaethol yn Sir Gaerfyrddin. Mae Sir Gaerfyrddin yn elwa o'r cefn gwlad cyfagos a'r awyr agored.
Mae ein patrwm cylch Band 6 yn 9 mis ac yn cynnwys:
- blaen y tŷ,
- y gymuned,
- meddygol/eiddilwch,
- trawma/orthopede
Mae ein timau yn gefnogol a chyfeillgar ac yn darparu gofal adsefydlu gwerthfawr sy'n canolbwyntio ar anghenion yr unigolyn, gan gefnogi model gofal integredig sy'n hyrwyddo adferiad cyflymach o salwch a phrosesau rhyddhau cleifion yn amserol o'r ysbyty. Yn rhan o dîm integredig, byddwch yn gweithio'n agos gyda chyd-weithwyr gofal canolraddol a gofal cymunedol.
Rydym yn mynd ati'n rhagweithiol i gefnogi hyfforddiant a datblygiad.
Rydym yn bwriadu penodi unigolyn rhagweithiol, llawn cymhelliant a thosturiol, sydd â phrofiad amlwg ac y mae ei werthoedd yn cyd-fynd â gwerthoedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda:
- rhoi pobl wrth wraidd popeth a wnawn
- cydweithio hyd eithaf ein gallu i roi o'n gorau
- ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau gwell
Mae yna opsiwn i hawlio costau milltiredd a defnyddio ceir cronfa.
Advert
Gweithredu yn rôl ymarferydd annibynnol, gyda llwyth achosion amrywiol sy'n aml yn gymhleth, gan ddefnyddio gwybodaeth arbenigol am therapi galwedigaethol ac effaith weithredol cyflyrau iechyd i ddewis, cynllunio, addasu, gweithredu a gwerthuso asesiadau ac ymyriadau mewn modd priodol, a chan addasu'r ymarfer yn seiliedig ar amgylchiadau ac ymgyflwyniad y cleient.
Gweithio mewn tîm, a all fod yn amlbroffesiynol a/neu'n amlasiantaethol, i ddarparu gwasanaeth darbodus, cydlynol sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn.
Fformiwleiddio penderfyniadau ac argymhellion clinigol, a datblygu cynlluniau sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, ac sy'n seiliedig ar dystiolaeth o'r broses asesu, gwybodaeth arbenigol am therapi galwedigaethol, a chanllawiau a llwybrau clinigol perthnasol sy'n seiliedig ar dystiolaeth.
Gweithio'n annibynnol neu ochr yn ochr ag aelodau eraill o'r tîm, lle bo hynny'n berthnasol, i drefnu a chyflawni ymyriadau therapiwtig gydag unigolion neu grwpiau yn yr ysbyty ac mewn cartrefi.
Cynghori/addysgu ac arddangos technegau/strategaethau penodol i'r unigolyn a'i deulu/ofalwyr, os yw hynny'n berthnasol, i gefnogi'r broses barhaus o reoli adferiad yr unigolyn.
Dirprwyo gwaith clinigol i eraill yn y tîm, e.e. Gweithwyr Cymorth a myfyrwyr, gan ddilyn polisïau/canllawiau perthnasol.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a / neu Saesneg wneud cais.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 11,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth â’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;
Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;
48 o bractisau cyffredinol (pedwar ohonynt yn bractisau a reolir), 47 practis deintyddol (gan gynnwys tri orthodontig), 99 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;
Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Bydd deiliad y swydd yn darparu arweinyddiaeth a chyfeiriad ar gyfer tîm y Therapyddion Galwedigaethol mewnol, yn mynd ati'n annibynnol i flaenoriaethu'r llwyth achosion, ac yn dirprwyo i staff iau. Cynnal asesiadau safonol o weithrediad. Darparu adroddiadau ysgrifenedig manwl o weithrediad unigolion i'r tîm amlddisgyblaethol. Datblygu a chynllunio cynlluniau ymyriadau therapiwtig unigol seiliedig ar alwedigaeth. Cwblhau cynlluniau rhyddhau manwl. Cefnogi cleifion i gyrchu gofal cymunedol yn rhan o ymyriad therapiwtig. Darparu ymyriadau grŵp ar y ward, er enghraifft adferiad trwy weithgareddau. Mentora datblygiad gweithwyr cymorth Therapi Galwedigaethol. Cymryd rhan mewn gweithgareddau DPP. Sicrhau bod canllawiau arfer gorau yn cael eu dilyn.
Bydd gan ddeiliad y swydd gofrestriad cyfredol gyda'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal. Bydd disgwyl iddo deithio yn Sir Gaerfyrddin ac, o bosibl, ledled ardal ehangach BIPHDd ar adegau. Mae yna gyfleoedd i ddefnyddio ceir cronfa a hawlio costau milltiredd.
Parodrwydd i weithio'n hyblyg pan fydd y gweithgarwch a lefel y galw yn arwain at newidiadau angenrheidiol a allai gynnwys gweithio saith niwrnod.
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadu ar 07/10/2024.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gweithredu polisi dwyieithog
‘Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir drwy gyfrwng y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau a wneir yn y Saesneg’.
Trwy gyflwyno eich cais i NHS Jobs/Trac, rydych yn gydsynio i elfennau o ddata eich cais gael eu trosglwyddo i Gofnod Staff Electronig (ESR) y GIG a systemau diogel, mewnol Gweithlu’r GIG er mwyn cefnogi a rheoli eich recriwtio a’ch cyflogaeth o fewn y sefydliad sy’n eich cyflogi; i’w defnyddio gan yr adran Recriwtio at ddibenion gwirio eich Cofrestriad Proffesiynol ar-lein (lle bo’n briodol).
Mae’r prosesau hyn yn unol â phrosesu Teg a Chyfreithlon yn unol â Deddfwriaeth Diogelu Data cyfredol yn enwedig y rhai hynny mewn perthynas â’ch data personol neu bersonol sensitif (diffinir data personol sensitif fel unrhyw gyflwr iechyd meddwl neu gorfforol, tarddiad hiliol neu ethnig, cyfeiriadedd rhywiol, aelodaeth undeb llafur, barn wleidyddol neu gred crefyddol datganedig). Fel sefydliad, rydym yn sicrhau bod y ddeddfwriaeth sy’n diffinio cyfrinachedd yn cael ei dilyn megis y defnydd o ddata at ddibenion penodol, diffiniedig, a defnydd o ddata sy’n berthnasol ac nid yn ormodol wrth ymarfer cywirdeb data a diogelwch yr holl wybodaeth bersonol adnabyddadwy a gedwir.
Os cewch eich penodi’n llwyddiannus, trwy lenwi’r ffurflen gais rydych yn awdurdodi’r BIP i gael unrhyw fanylion gwasanaeth blaenorol i’r GIG yn cynnwys yr holl wybodaeth ar salwch a gedwir yn electronig, trwy’r broses Trosglwyddo Rhyng-awdurdod ar y Cofnod Staff Electronig.
I weithio yn y DU, mae angen nawdd ar bob ymgeisydd nad yw'n wladolyn o'r DU neu Weriniaeth Iwerddon i gael naill ai fisa Gweithiwr Iechyd a Gofal neu fisa Gweithiwr Medrus, oni bai bod gennych ganiatâd i weithio trwy lwybr arall. Dylai ymgeiswyr nad ydynt yn rhan o'r DU/Gweriniaeth Iwerddon sy'n dymuno gwneud cais hunanasesu'u tebygolrwydd o gael Tystysgrif Nawdd trwy ymweld â gwefan Fisâu a Mewnfudo'r DU. Os ydych chi'n gymwys i gael y fisa Iechyd a Gofal, mae'r costau ymgeisio yn is ac nid oes angen i chi dalu Gordal Iechyd Mewnfudo blynyddol.
Gofynion yr ymgeisydd
Rhaid bod gennych gofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Gradd/Diploma mewn Therapi Galwedigaethol
- Cofrestriad cyfredol gyda'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal
- Tystiolaeth o bresenoldeb ar gyrsiau byr arbenigol mewn meysydd arbenigol clinigol penodol hyd at lefel diploma ôlraddedi
Meini prawf dymunol
- Hyfforddwr addysg gwaith maes achrededig
- Gwybodaeth am ddefnydd therapiwtig o TG
- Hyfforddiant ALAC
- Methodoleg archwilio ac ymchwil
- Sgiliau uwch gyda chodi a chario gan gynnwys teclynnau codi/slingiau arbenigol
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad GIG/Gwasanaethau Cymdeithasol Perthnasol
- Profiad ol-raddedig helaeth mewn ystod eang o feysydd clinigol
- Sgiliau profedig wrth asesu a thrin cleientiaid/perthnasoedd emosiynol heriol
- Rheoli llwyth achosion cymhleth
- Negodi trefniadau gwaith amlddisgyblaethol
- Tystiolaeth o gefnogaeth gwasanaeth i gydymffurfio a gofynion rheolaeth glinigol
- Gwaith tim rhyngbroffesiynol ac amlasiantaethol
- Triniaeth therapiwtig ac asesiadau risg mewn perthynas a gofal cleifion gan gynnwys cleifion ag anabledd difrifol
- Sgiliau TG sylfaenol
- Meddu ar ddealltwriaeth glir o reoli risg a deddfwriaeth sylfaenol
Meini prawf dymunol
- Tystiolaeth o oruchwyliaeth myfyrwyr
- Goruchwylio staff
- Profiad o ddatblygu gwasanaeth
- Gwybodaeth am offer addasol, dyfeisiau cynorthwyol, cadeiriau olwyn a chlustogau pwysedd
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg ( Lefel 1)
Amgylchiadau
Meini prawf hanfodol
- Agwedd hyblyg at anghenion y gwasanaethau
- Y gallu i deithio rhwng safleoedd mewn modd amserol
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Carol-Anne Davies
- Teitl y swydd
- Service Lead Acute Occupational Therapist
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01267 248608
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Dechrau eich cais
Rhaid ichi fewngofnodi i gyfrif Trac cyn y gallwch wneud cais am y swydd hon.
Mewngofnodi
Creu cyfrif
Creu eich cyfrif a gwneud cais am eich swydd newydd!