Mae Trac yn falch o bweru recriwtio ar gyfer
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Gwybodaeth
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd i boblogaeth o tua 372,320 ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. Mae'n darparu gwasanaethau Acìwt, Sylfaenol, Cymunedol, Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu trwy Ysbytai Cyffredinol a Chymunedol, Canolfannau Iechyd, Meddygfeydd Teulu, Deintyddion, Fferyllfeydd, Optometryddion a safleoedd eraill.
Therapydd Galwedigaethol Cylchdroadol
Accepting applications until: 29-Sep-2024 23:59
Statws y swydd wag: Open
Accepting applications until: 29-Sep-2024 23:59
Manylion allweddol
Lleoliad
- Gwefan
- Ysbyty Cyffredinol Glangwili
- Cyfeiriad
- Heol Dolgwili
- Tref
- Caerfyrddin
- Cod post
- SA31 2AF
- Major / Minor Region
- Sir Gaerfyrddin
Math o gontract a phatrwm gwaith
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyflog
- Cyflog
- £28,834 - £35,099 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Gradd
- (Band 5)
Arbenigedd
- Prif leoliad
- Therapi Galwedigaethol
- Dyddiad y cyfweliad
- 07/10/2024
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Rydym yn chwilio am Therapyddion Galwedigaethol Band 5 sydd â diddordeb mewn datblygu eu gyrfa yn Sir Gaerfyrddin. Mae Gorllewin Cymru yn enghraifft flaenllaw o fodel gofal iechyd gwledig integredig, ac mae'n cynnig cyfleoedd gwych i ddatblygu eich sgiliau mewn sawl maes ymarfer. Mae ein cylchdroadau'n digwydd bob 6 mis, sy'n rhoi cyfleoedd mwy rheolaidd i ddysgu sgiliau newydd a bod yn rhan o dimau cefnogol a chyfeillgar.
Mae Sir Gaerfyrddin yn ardal o harddwch naturiol eithriadol sydd â mynediad i amrywiaeth eang o weithgareddau awyr agored a digwyddiadau diwylliannol, ond hefyd yn agos at yr M4.
Gallwn gynnig profiad i chi mewn amrywiaeth eang o feysydd clinigol, ynghyd ag opsiynau ar gyfer swyddi cylchdro mewn arbenigeddau gan gynnwys:
Gofal Acíwt (Meddygaeth, Llawfeddygaeth, Trawma ac Orthopedeg)
Iechyd Meddwl Acíwt
Gartref yn Gyntaf
Adsefydlu Cleifion Strôc
Adsefydlu Cymunedol
Gofal Cymdeithasol
Damweiniau ac Achosion Brys
Comisiynu Iechyd Meddwl
Wrth i wasanaethau saith niwrnod gael eu datblygu, rhaid i ymgeiswyr fod yn barod i weithio'n rhan o rota sy'n cwmpasu saith niwrnod.
Disgwylir i ddeiliad y swydd deithio o fewn ardal y Bwrdd Iechyd. Mae costau milltiredd yn daladwy ac mae ceir cronfa ar gael.
Advert
Disgwylir i chi weithio fel rhan o dîm i ddarparu therapi galwedigaethol o ansawdd uchel, wedi'i seilio ar dystiolaeth ac sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, gan gefnogi ein model gofal integredig sy'n canolbwyntio ar alluogi pobl i gymryd rhan mewn galwedigaethau ystyrlon.
Bydd gennych gefnogaeth tîm therapi galwedigaethol, gyda chyfleoedd i ddatblygu eich ymarfer a'ch sgiliau mewn amrywiaeth o feysydd.
Rydym yn sefydliad dysgu ac yn goruchwylio gwerth a datblygiad proffesiynol parhaus.
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn rhagweithiol, yn llawn cymhelliant ac yn dosturiol, gyda gwerthoedd wedi'u halinio â gwerthoedd ein Bwrdd Iechyd:
Rhoi pobl wrth galon popeth a wnawn
Cydweithio i fod y gorau y gallwn fod
Ymdrechu i ddarparu a datblygu gwasanaethau rhagorol
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a / neu Saesneg wneud cais.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 11,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;
Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;
48 o bractisau cyffredinol (pedwar ohonynt yn bractisau a reolir), 47 practis deintyddol (gan gynnwys tri orthodontig), 99 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;
Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg a chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadau ar 07/10/2024
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gweithredu polisi dwyieithog
‘Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir drwy gyfrwng y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau a wneir yn y Saesneg’.
Trwy gyflwyno eich cais i NHS Jobs/Trac, rydych yn gydsynio i elfennau o ddata eich cais gael eu trosglwyddo i Gofnod Staff Electronig (ESR) y GIG a systemau diogel, mewnol Gweithlu’r GIG er mwyn cefnogi a rheoli eich recriwtio a’ch cyflogaeth o fewn y sefydliad sy’n eich cyflogi; i’w defnyddio gan yr adran Recriwtio at ddibenion gwirio eich Cofrestriad Proffesiynol ar-lein (lle bo’n briodol).
Mae’r prosesau hyn yn unol â phrosesu Teg a Chyfreithlon yn unol â Deddfwriaeth Diogelu Data cyfredol yn enwedig y rhai hynny mewn perthynas â’ch data personol neu bersonol sensitif (diffinir data personol sensitif fel unrhyw gyflwr iechyd meddwl neu gorfforol, tarddiad hiliol neu ethnig, cyfeiriadedd rhywiol, aelodaeth undeb llafur, barn wleidyddol neu gred crefyddol datganedig). Fel sefydliad, rydym yn sicrhau bod y ddeddfwriaeth sy’n diffinio cyfrinachedd yn cael ei dilyn megis y defnydd o ddata at ddibenion penodol, diffiniedig, a defnydd o ddata sy’n berthnasol ac nid yn ormodol wrth ymarfer cywirdeb data a diogelwch yr holl wybodaeth bersonol adnabyddadwy a gedwir.
Os cewch eich penodi’n llwyddiannus, trwy lenwi’r ffurflen gais rydych yn awdurdodi’r BIP i gael unrhyw fanylion gwasanaeth blaenorol i’r GIG yn cynnwys yr holl wybodaeth ar salwch a gedwir yn electronig, trwy’r broses Trosglwyddo Rhyng-awdurdod ar y Cofnod Staff Electronig.
I weithio yn y DU, mae angen nawdd ar bob ymgeisydd nad yw'n wladolyn o'r DU neu Weriniaeth Iwerddon i gael naill ai fisa Gweithiwr Iechyd a Gofal neu fisa Gweithiwr Medrus, oni bai bod gennych ganiatâd i weithio trwy lwybr arall. Dylai ymgeiswyr nad ydynt yn rhan o'r DU/Gweriniaeth Iwerddon sy'n dymuno gwneud cais hunanasesu'u tebygolrwydd o gael Tystysgrif Nawdd trwy ymweld â gwefan Fisâu a Mewnfudo'r DU. Os ydych chi'n gymwys i gael y fisa Iechyd a Gofal, mae'r costau ymgeisio yn is ac nid oes angen i chi dalu Gordal Iechyd Mewnfudo blynyddol.
Gofynion yr ymgeisydd
Rhaid bod gennych gofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Gradd mewn Therapi Galwedigaethol
- Cofrestriad cyfredol gyda'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal
- Gwybodaeth am ddeddfwriaeth iechyd a gofal cymdeithasol gyfredol sy'n berthnasol i'r rol
- Gwybodaeth am feddalwedd Microsoft Office, ac yn gallu ei defnyddio.
- Dealltwriaeth o rolau grwpiau staff eraill ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.
- Gwybodaeth am lywodraethu clinigol, yn cynnwys ymchwil ac archwilio
- Ymwybyddiaeth o ddulliau mesur canlyniadau perthnasol i amlygu effeithiolrwydd.
Meini prawf dymunol
- Gwybodaeth am wasanaethau eraill sy'n cysylltu ar draws gofal sylfaenol/eilaidd/canolraddol
- Gwybodaeth ymarferol am gyfarpar therapiwtig
- Gwybodaeth am y Bwrdd Iechyd a'i flaenoriaethau
- Gwybodaeth am amrywiaeth o ymyriadau adsefydlu ar draws pob therapi
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o weithio ym maes therapi neu faes perthnasol arall, a all gynnwys addysg ymarfer, cyflogaeth wirfoddol neu gyflogedig
- Profiad o weithio gydag amrywiaeth o bobl ag anghenion gwahanol
- Rheoli llwyth achosion
- Gweithio'n rhan o dim
- Cysylltiad uniongyrchol a gofalwyr a theuluoedd
- Hunanddatblygu a chymhwyso dysgu
- Defnyddio technegau wedi'u haddasu i wella canlyniadau'r claf
Meini prawf dymunol
- Cyfrannu at wella gwasanaethau
- Profiad o weithio gyda grwpiau
- Profiad o weithio mewn lleoliad cymunedol
- Dirprwyo a goruchwylio staff
- Profiad o ymdopi'n annibynnol a sefyllfaoedd trallodus neu emosiynol mewn amgylcheddau gwaith heriol
- Profiad o ddefnyddio llwyfannau cyfathrebu rhithwir i ddarparu gwasanaeth
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Carol-Anne Davies
- Teitl y swydd
- Occupational Therapy Service Lead
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 07811 711414
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Rachel Davey (Cymuned Therapi Galwedigaethol Arweiniol Gwasanaeth)
Dechrau eich cais
Rhaid ichi fewngofnodi i gyfrif Trac cyn y gallwch wneud cais am y swydd hon.
Mewngofnodi
Creu cyfrif
Creu eich cyfrif a gwneud cais am eich swydd newydd!