Mae Trac yn falch o bweru recriwtio ar gyfer
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Gwybodaeth
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd i boblogaeth o tua 372,320 ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. Mae'n darparu gwasanaethau Acìwt, Sylfaenol, Cymunedol, Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu trwy Ysbytai Cyffredinol a Chymunedol, Canolfannau Iechyd, Meddygfeydd Teulu, Deintyddion, Fferyllfeydd, Optometryddion a safleoedd eraill.
Ymarferydd Cynorthwyol
Closed for applications on: 27-Medi-2024 00:02
Statws y swydd wag: Closed
Closed for applications on: 27-Medi-2024 00:02
Manylion allweddol
Lleoliad
- Gwefan
- Ysbyty Cyffredinol Glangwili
- Tref
- Caerfyrddin
- Cod post
- SA31 2AF
- Major / Minor Region
- Sir Gaerfyrddin
Math o gontract a phatrwm gwaith
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser
- Rhan-amser
Cyflog
- Cyflog
- £25,524 - £28,010 y flwyddyn pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Gradd
- (Gradd 4/Annex 21)
Arbenigedd
- Prif leoliad
- Uned Penderfyniadau Clinigol
- Dyddiad y cyfweliad
- 04/10/2024
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Rydym yn chwilio am Ymarferydd Cynorthwyol dynamig a llawn cymhelliant i ymuno â'n tîm o staff ymroddedig a chyfeillgar yn yr Uned Penderfyniadau Clinigol yn Ysbyty Cyffredinol Glangwili.
Mae'r swydd hon yn cael ei hysbysebu ar lefel Band 4, ac yn ddelfrydol bydd yr ymgeiswyr ar gyfer y rôl hon wedi cyflawni Cymhwyster galwedigaethol lefel 4 mewn pwnc perthnasol cysylltiedig a gofal iechyd / Tystysgrif mewn Addysg Uwch Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd
Fodd bynnag, anogir ymgeiswyr nad ydynt ar hyn o bryd yn meddu ar y diploma ar gyfer y rôl Band 4 hon i wneud cais, ac, os byddant yn llwyddiannus, bydd yn ofynnol iddynt gyflawni'r cymhwyster 12 mis a chânt eu penodi o dan reolau Atodiad 21.
Dylid ymgeiswyr fod â modiwlau 1 a 2 sydd eisoes wedi'u cyflawni a chwblhau 3 a 4 o fewn blwyddyn i'w penodi.
Mae hyn yn golygu y byddant yn cael eu cefnogi gan gynllun datblygu. Yn ystod y flwyddyn gyntaf bydd y taliad yn 75% o'r gyfradd cyflog uchaf ym Mand 4, ar ôl llwyddo yn y Cymhwyster galwedigaethol lefel 4 mewn pwnc perthnasol cysylltiedig a gofal iechyd / Tystysgrif mewn Addysg Uwch Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd, yna bydd deiliad y swydd yn cael ei dalu ar Fand 4 (pwynt isaf y raddfa). Darperir cymorth a goruchwyliaeth er mwyn datblygu'r ymgeisydd llwyddiannus i'r rôl Band 4. Gallai peidio â chyflawni'r cymhwyster yn unol â'r amserlen ddynodedig arwain at adleoli.
Advert
Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am ddarparu gofal o safon uchel sy'n berson-ganolog, yn ddiogel, ac yn unigol ei ogwydd, a hynny o dan awdurdod dirprwyedig nyrs gofrestredig.
Cyflawni dyletswyddau a gweithgareddau o fewn fframwaith cynllun gofal.
Cynorthwyo cleifion i gyflawni llesiant a chysur corfforol ac emosiynol.
Sicrhau bod unrhyw newidiadau yng nghyflwr y claf yn cael eu hadrodd ar unwaith i'r Nyrs Gofrestredig briodol.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg, fel ei gilydd, wneud cais.
Cynhelir y cyfweliadau ar 04/10/2024.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 11,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth â’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;
Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;
48 o bractisau cyffredinol (chwech ohonynt yn bractisau a reolir), 47 practis deintyddol (gan gynnwys tri orthodontig), 99 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;
Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Mynediad ar unwaith i’n budd llesiant ariannol – Wagestream. Mae Wagestream yn adnodd ar gyfer bywyd bob dydd sy’n eich caniatáu i gael eich talu eich ffordd eich hun, a olrain eich cyflog mewn amser real, ffrydio hyd at 50% o’r cyflog rydych wedi ennill yn barod, dysgu awgrymiadau hawdd i reoli eich arian yn well ac arbed eich tâl yn syth o’ch cyflog.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gweithredu polisi dwyieithog
‘Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir drwy gyfrwng y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau a wneir yn y Saesneg’.
Trwy gyflwyno eich cais i NHS Jobs/Trac, rydych yn gydsynio i elfennau o ddata eich cais gael eu trosglwyddo i Gofnod Staff Electronig (ESR) y GIG a systemau diogel, mewnol Gweithlu’r GIG er mwyn cefnogi a rheoli eich recriwtio a’ch cyflogaeth o fewn y sefydliad sy’n eich cyflogi; i’w defnyddio gan yr adran Recriwtio at ddibenion gwirio eich Cofrestriad Proffesiynol ar-lein (lle bo’n briodol).
Mae’r prosesau hyn yn unol â phrosesu Teg a Chyfreithlon yn unol â Deddfwriaeth Diogelu Data cyfredol yn enwedig y rhai hynny mewn perthynas â’ch data personol neu bersonol sensitif (diffinir data personol sensitif fel unrhyw gyflwr iechyd meddwl neu gorfforol, tarddiad hiliol neu ethnig, cyfeiriadedd rhywiol, aelodaeth undeb llafur, barn wleidyddol neu gred crefyddol datganedig). Fel sefydliad, rydym yn sicrhau bod y ddeddfwriaeth sy’n diffinio cyfrinachedd yn cael ei dilyn megis y defnydd o ddata at ddibenion penodol, diffiniedig, a defnydd o ddata sy’n berthnasol ac nid yn ormodol wrth ymarfer cywirdeb data a diogelwch yr holl wybodaeth bersonol adnabyddadwy a gedwir.
Os cewch eich penodi’n llwyddiannus, trwy lenwi’r ffurflen gais rydych yn awdurdodi’r BIP i gael unrhyw fanylion gwasanaeth blaenorol i’r GIG yn cynnwys yr holl wybodaeth ar salwch a gedwir yn electronig, trwy’r broses Trosglwyddo Rhyng-awdurdod ar y Cofnod Staff Electronig.
I weithio yn y DU, mae angen nawdd ar bob ymgeisydd nad yw'n wladolyn o'r DU neu Weriniaeth Iwerddon i gael naill ai fisa Gweithiwr Iechyd a Gofal neu fisa Gweithiwr Medrus, oni bai bod gennych ganiatâd i weithio trwy lwybr arall. Dylai ymgeiswyr nad ydynt yn rhan o'r DU/Gweriniaeth Iwerddon sy'n dymuno gwneud cais hunanasesu'u tebygolrwydd o gael Tystysgrif Nawdd trwy ymweld â gwefan Fisâu a Mewnfudo'r DU. Os ydych chi'n gymwys i gael y fisa Iechyd a Gofal, mae'r costau ymgeisio yn is ac nid oes angen i chi dalu Gordal Iechyd Mewnfudo blynyddol.
Gofynion yr ymgeisydd
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Cymhwyster galwedigaethol lefel 4 mewn pwnc perthnasol cysylltiedig a gofal iechyd / Tystysgrif mewn Addysg Uwch Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd
- TGAU Mathemateg a Saesneg gradd C neu uwch neu gymhwyster sgiliau hanfodol cyfatebol lefel 2 neu uwch
- Tystiolaeth o ddatblygiad personol parhaus sy'n berthnasol i'r rol ym maes gofal iechyd
- Yn gallu amlygu dealltwriaeth o God Ymddygiad Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd, canllawiau Cymru Gyfan ar gyfer Dirprwyo, a Fframwaith Llywodraethu Ymarferwyr Cynorthwyol Band 4 Cymru Gyfan
- Gwybodaeth glinigol sy'n berthnasol i'r rol
- Yn amlygu dealltwriaeth o bwysigrwydd dilyn gweithdrefnau a chynlluniau triniaeth
- Yn amlygu dealltwriaeth o'r deddfwriaethau sy'n berthnasol i Ddiogelu, e.e. oedolion a plant, Y Ddeddf Galluedd Meddyliol, a threfniadau diogelu wrth amddifadu o ryddid, er mwyn cadw oedolion sydd o dan ei ofal yn ddiogel
Meini prawf dymunol
- Gwybodaeth leol am wasanaethau statudol neu wirfoddol
- Cymhwyster addysgu neu asesu
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad sylweddol a diweddar o ddarparu gofal clinigol perthnasol
- Sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu, ynghyd a'r gallu i reoli a leddfu sefyllfaoedd heriol neu fygythiol
- Profiad o ymgymryd ag ystod o sgiliau clinigol sy'n berthnasol i'r swydd yn unol a chwmpas ymarfer rol a'r fframwaith llywodraethu cenedlaethol e.e. Gofal Catheter (gan gynnwys cael gwared a hi); Monitro a chofnodi canlyniadau arsylwi a dehongli hanfodol; Adolygu asesiadau risg; Monitro a dehongli glwcos gwaed; Profiad o gefnogi RN gyda gofal clwyfau
Meini prawf dymunol
- Profiad mewn perthynas ag amrywiaeth o sgiliau clinigol, yn cynnwys gofal lliniarol
- Yn achos rolau cymunedol: profiad o ddarparu gofal mewn lleoliad gofal cymunedol neu ofal sylfaenol
- Rhoi meddyginiaethau trwy'r geg, ar gyfer y croen, yn isgroenol a thrwy fewnanadlu
- Sgiliau o ran gofal clwyfau nad ydynt yn gymhleth
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Carys Davies
- Teitl y swydd
- Senior Ward Sister
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01267 248720
Ddim yn derbyn ceisiadau mwyach
Ymddiheuriadau, ond nid yw'r swydd wag hon yn derbyn ceisiadau mwyach.
Gallwch chwilio am swyddi tebyg ar fwrdd swyddi'r cyflogwr, neu fynd i'n bwrdd swyddi cenedlaethol Health Jobs UK.