Mae Trac yn falch o bweru recriwtio ar gyfer
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Gwybodaeth
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd i boblogaeth o tua 372,320 ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. Mae'n darparu gwasanaethau Acìwt, Sylfaenol, Cymunedol, Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu trwy Ysbytai Cyffredinol a Chymunedol, Canolfannau Iechyd, Meddygfeydd Teulu, Deintyddion, Fferyllfeydd, Optometryddion a safleoedd eraill.
Ymarferydd Arbenigol Lymffoedema
Accepting applications until: 17-Nov-2024 23:59
Statws y swydd wag: Open
Accepting applications until: 17-Nov-2024 23:59
Manylion allweddol
Lleoliad
- Gwefan
- Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg
- Cyfeiriad
- Heol Abergwaun
- Tref
- Hwlffordd
- Cod post
- SA61 2PZ
- Major / Minor Region
- Sir Gaerfyrddin
Math o gontract a phatrwm gwaith
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Rhan-amser - 22.5 awr yr wythnos
Cyflog
- Cyflog
- £37,898 - £45,637 y flwyddyn pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Gradd
- (Band 6)
Arbenigedd
- Prif leoliad
- Lymffoedema
- Dyddiad y cyfweliad
- 29/11/2024
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae’r raddfa gyflog uchod wedi’i chytuno fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2024/2025. Bydd yn cael ei rhoi ar waith ym mis Tachwedd 2024 wedi’i hôl-ddyddio i 1 Ebrill 2024 lle bo’n berthnasol.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Dyma gyfle ardderchog a chyffrous i arbenigo eich sgiliau mewn lymffoedema gan y bydd addysg a hyfforddiant llawn yn cael eu darparu ym maes lymffoedema. Rydym yn chwilio am unigolyn profiadol sy'n barod i arbenigo ac ymuno â thîm sy'n meddwl yn rhagweithiol. Mae gennym gefnogaeth lawn y Tim Cenedlaethol a Lymffoedema Cymru yn
darparu hyfforddiant yn rhan o raglen addysg deiliad y swydd.
Bydd deiliad y swydd yn rhan o dîm o ymarferwyr lymffoedema sy'n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau lymffoedema i Sir Gaerfyrddin ar ran Bwrdd Iechyd Hywel Dda. Bydd hyn yn golygu gweithio ar y cyd â thimau amlddisgyblaethol i ddarparu gofal holistaidd. Mae'r rôl yn cynnwys gweithio mewn amryw o safleoedd ar hyd a lled ardal Hywel Dda ond un bennaf yn Sir Benfro.
Advert
Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am reoli ei lwyth achosion ei hun, a fydd yn cynnwys darparu asesiadau a rheolaeth, addysg a chymorth i gleifion sydd â risg bosibl o ddatblygu lymffoedema. Bydd yn weithiwr proffesiynol annibynnol sydd â lefel uchel o sgiliau ac arbenigedd clinigol a thechnegol, ac sy'n defnyddio sylfaen dystiolaeth/egwyddorion sy'n canolbwyntio ar y cleient i gynllunio, gweithredu a gwerthuso'r broses o reoli cleientiaid â
lymffoedema.
Bydd deiliad y swydd yn chwarae rhan allweddol wrth gefnogi'r broses o foderneiddio a datblygu'r gwasanaeth. Bydd hyn yn cynnwys cymryd rhan ym mhrosesau ymchwil, archwilio a gwerthuso y gwasanaeth.
Efallai y bydd yn ofynnol i ddeiliad y swydd gymryd rhan yn y gwaith o ddarparu gwasanaeth hyblyg saith niwrnod, yn seiliedig ar angen.
Cyfeiriwch at y Swydd-ddisgrifiad a Manyleb y Person i weld manylion llawn y swydd hon.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 11,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;
Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;
48 o bractisau cyffredinol (pedwar ohonynt yn bractisau a reolir), 47 practis deintyddol (gan gynnwys tri orthodontig), 99 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;
Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadu ar 29/11/2024.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir drwy gyfrwng y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau a wneir yn y Saesneg.
NODYN PWYSIG I YMGEISWYR: Mae ceisiadau am ein rolau yn cael eu hadolygu'n ofalus a'u rhoi ar restr fer yn seiliedig ar feini prawf penodol, sy'n amrywio o swydd i swydd. Efallai na fydd defnyddio cais generig i wneud cais am rolau lluosog neu ddibynnu ar wasanaethau ceisiadau deallusrwydd artiffisial awtomataidd, fel Lazy Apply neu AI Apply, yn darparu'r wybodaeth angenrheidiol, gan arwain at anwybyddu'ch cais. Er mwyn sicrhau bod eich cais yn cael ystyriaeth lawn, rydym yn argymell cyflwyno cais wedi'i deilwra sy'n mynd i'r afael yn uniongyrchol â'r meini prawf a restrir yn adran Manyleb y Person yr hysbyseb.
Trwy gyflwyno eich cais i NHS Jobs/Trac, rydych yn gydsynio i elfennau o ddata eich cais gael eu trosglwyddo i Gofnod Staff Electronig (ESR) y GIG a systemau diogel, mewnol Gweithlu’r GIG er mwyn cefnogi a rheoli eich recriwtio a’ch cyflogaeth o fewn y sefydliad sy’n eich cyflogi; i’w defnyddio gan yr adran Recriwtio at ddibenion gwirio eich Cofrestriad Proffesiynol ar-lein (lle bo’n briodol).
Mae’r prosesau hyn yn unol â phrosesu Teg a Chyfreithlon yn unol â Deddfwriaeth Diogelu Data cyfredol yn enwedig y rhai hynny mewn perthynas â’ch data personol neu bersonol sensitif (diffinir data personol sensitif fel unrhyw gyflwr iechyd meddwl neu gorfforol, tarddiad hiliol neu ethnig, cyfeiriadedd rhywiol, aelodaeth undeb llafur, barn wleidyddol neu gred crefyddol datganedig). Fel sefydliad, rydym yn sicrhau bod y ddeddfwriaeth sy’n diffinio cyfrinachedd yn cael ei dilyn megis y defnydd o ddata at ddibenion penodol, diffiniedig, a defnydd o ddata sy’n berthnasol ac nid yn ormodol wrth ymarfer cywirdeb data a diogelwch yr holl wybodaeth bersonol adnabyddadwy a gedwir.
Os cewch eich penodi’n llwyddiannus, trwy lenwi’r ffurflen gais rydych yn awdurdodi’r BIP i gael unrhyw fanylion gwasanaeth blaenorol i’r GIG yn cynnwys yr holl wybodaeth ar salwch a gedwir yn electronig, trwy’r broses Trosglwyddo Rhyng-awdurdod ar y Cofnod Staff Electronig.
I weithio yn y DU, mae angen nawdd ar bob ymgeisydd nad yw'n wladolyn o'r DU neu Weriniaeth Iwerddon i gael naill ai fisa Gweithiwr Iechyd a Gofal neu fisa Gweithiwr Medrus, oni bai bod gennych ganiatâd i weithio trwy lwybr arall. Dylai ymgeiswyr nad ydynt yn rhan o'r DU/Gweriniaeth Iwerddon sy'n dymuno gwneud cais hunanasesu'u tebygolrwydd o gael Tystysgrif Nawdd trwy ymweld â gwefan Fisâu a Mewnfudo'r DU. Os ydych chi'n gymwys i gael y fisa Iechyd a Gofal, mae'r costau ymgeisio yn is ac nid oes angen i chi dalu Gordal Iechyd Mewnfudo blynyddol.
Gofynion yr ymgeisydd
Rhaid bod gennych gofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Gradd neu gymhwyster cyfatebol mewn proffesiwn cofrestredig
- Cofrestriad Cofrestriad Proffesiynol
- Tystiolaeth sylweddol o gyrsiau arbenigol hyd at lefel diploma ôlraddedig
- Gwybodaeth neu sgiliau arbenigol ym maes lymffoedema/oedema cronig/gofal clwyfau/oncoleg
- Cymryd rhan mewn sesiynau addysgu/cyflwyno
Meini prawf dymunol
- Cymwysterau ôl-raddedig perthnasol
- Tystiolaeth o DPP
- Cwrs Hyfforddi Addysg Glinigol
- Tystysgrif addysgu
Arall
Meini prawf hanfodol
- Yn barod i weithio'n hyblyg yn seiliedig ar bwysau gwaith
- Y gallu i deithio rhwng safleoedd mewn modd amserol
- Yn barod i weithio ar amrywiaeth o safleoedd yn seiliedig ar angen
Meini prawf dymunol
- Amrywiaeth eang o ddiddordebau
Gofynion Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad ôl-gofrestru sylweddol ym maes Lymffoedema/oedema cronig neu Oncoleg/y Gymuned
- Rheoli llwyth gwaith amrywiol gan ddefnyddio proses rhesymu clinigol
- Gweithio'n rhyng-broffesiynol ac mewn tîm
- Ymwneud yn uniongyrchol â gofalwyr a theuluoedd, ac amlygu sgiliau cyfathrebu da ar lafar ac yn ysgrifenedig yn ystod y rhyngweithiadau hyn
- Tystiolaeth o gefnogi cydymffurfedd gwasanaeth â gofynion llywodraethu clinigol
- Profiad o ddarparu goruchwyliaeth glinigol
- Tystiolaeth o gynorthwyo i gynllunio neu ddatblygu gwasanaeth presennol
- Trin therapiwtig ac asesiadau risg mewn perthynas â gofal cleifion, gan gynnwys cleifion ag anabledd difrifol
Meini prawf dymunol
- Profiad o oruchwylio myfyrwyr
- Trafod arferion gweithio amlddisgyblaethol
- Profiad o addysgu disgyblaethau eraill
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Jennifer Manuel
- Teitl y swydd
- Clinical Lead Lymphoedema for Pembrokeshire
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01437773053
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Dyma rif canolfan alwadau, dewiswch opsiwn 5 a gadewch neges a byddwn yn dychwelyd yr alwad.
Dechrau eich cais
Rhaid ichi fewngofnodi i gyfrif Trac cyn y gallwch wneud cais am y swydd hon.
Mewngofnodi
Creu cyfrif
Creu eich cyfrif a gwneud cais am eich swydd newydd!