Dewis eich dogfennau
Rhaid i'r holl ddogfennau fod yn 'ddilys'. Er enghraifft: rhaid iddynt ddangos yr enw a ddefnyddiwch ar hyn o bryd, y cyfeiriadau yr ydych yn byw ynddynt ar hyn o bryd ac, os ydynt yn cynnwys dyddiad dod i ben, ni ddylent fod wedi dod i ben.
Sicrhewch fod yr holl ddogfennau yn dangos yr enw a ddefnyddioch ar eich cais. Os ydych wedi newid eich enw yn ddiweddar, ac nid ydych yn gallu darparu unrhyw ddogfennau ID gyda'r enw newydd hwn, bydd angen ichi hefyd ddarparu tystiolaeth ddogfennol ar gyfer y newid enw, megis:
- Tystysgrif Priodas/Partneriaeth Sifil
- Tystysgrif Archddyfarniad Absoliwt/Diddymiad Partneriaeth Sifil
- Tystysgrif Gweithred Newid Enw
Statws dewis dogfen: Heb ddechrau
Grŵp 1: Prawf adnabod ffotograffig
Nodwch pa rai o'r dogfennau canlynol y gallwch eu darparu, neu dewiswch Dim o'r uchod os nad oes gennych yr un ohonynt.
Os oes gennych basbort, rydym yn argymell eich bod yn defnyddio hwn fel dogfen adnabod, gan ei fod hefyd yn bodloni'r gofyniad i brofi bod gennych Hawl i Weithio yn y DU.