Mae Trac yn falch o bweru recriwtio ar gyfer
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Gwybodaeth
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd i boblogaeth o tua 372,320 ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. Mae'n darparu gwasanaethau Acìwt, Sylfaenol, Cymunedol, Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu trwy Ysbytai Cyffredinol a Chymunedol, Canolfannau Iechyd, Meddygfeydd Teulu, Deintyddion, Fferyllfeydd, Optometryddion a safleoedd eraill.
Cysylltu
- Address
- Glien House
- Cillefwr Industrial Estate
- Johnstown
- Carmarthen
- Carmarthenshire
- SA31 3RB
- Contact Number
- 0300 303 6138
Prif Reolwr Rhaglen Trawsnewid
Closed for applications on: 29-Meh-2022 00:00
Statws y swydd wag: Closed
Closed for applications on: 29-Meh-2022 00:00
Manylion allweddol
Lleoliad
- Gwefan
- Hafan Derwen
- Cyfeiriad
- Heol Ffynnon Job
- Tref
- Caerfyrddin
- Cod post
- SA31 3HB
- Major / Minor Region
- Sir Gaerfyrddin
Math o gontract a phatrwm gwaith
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser
- Gweithio gartref neu o bell
Cyflog
- Cyflog
- £54,764 - £63,862 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Gradd
- (Band 8b)
Arbenigedd
- Prif leoliad
- Rheoli Prosiectau
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.
Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau.
Trosolwg o'r swydd
A ydych am fod yn rhan o sefydliad arloesol, dynamig sy'n ymrwymedig i ddarparu'r gofal gorau i boblogaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda? Mae cyfle cyffrous wedi dod ar gael i Brif Reolwr Rhaglenni Band 8b llawn cymhelliant a brwdfrydedd ymuno â Swyddfa'r Rhaglen Ymgysylltu a
Thrawsnewid yng Nghyfarwyddiaeth Cynllunio, Perfformiad a Chomisiynu Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
Diben Swyddfa'r Rhaglen Ymgysylltu a Thrawsnewid yw llywio proses trawsnewid y system gyfan ledled y sefydliad. Gwneir hyn trwy sicrhau ymgysylltiad, ynghyd â rheolaeth rhaglen a phrosiect
ar gyfer rhaglenni trawsnewid allweddol, yn unol ag amcanion strategol a chynllunio y Bwrdd Iechyd. Dyma'r blociau adeiladu sy'n helpu i gyflawni ein strategaeth iechyd a gofal hirdymor.
Advert
Bydd gan y Prif Reolwr Rhaglenni rôl allweddol o ran cefnogi'r broses o gyflawni'r rhaglenni trawsnewid, yn unol ag amcanion strategol a chynllunio y Bwrdd Iechyd. Rydym yn chwilio am rywun sy'n brofiadol mewn rheoli rhaglenni, yn uchel ei gymhelliant, ac sydd â'r gallu i ysgogi,
perswadio a dylanwadu ar eraill yn effeithiol. Dylai hefyd amlygu uwch-sgiliau rheoli rhanddeiliaid, egni, angerdd a brwdfrydedd.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn sicrhau bod yr holl brosiectau a ffrydiau gwaith wedi'u strwythuro'n gywir, yr adroddir arnynt, a'u bod yn cael eu holrhain er mwyn cyflawni canlyniadau a buddion y rhaglen. Hefyd, dylai feddu ar ac amlygu sgiliau newid, gwella ansawdd a rheoli
prosiectau. Mae profiad o weithio gyda chlinigwyr, comisiynwyr, cwmnïau allanol a defnyddwyr y gwasanaeth yn hanfodol. Mae gwybodaeth am y GIG a phrofiad o weithio ynddo yn ddymunol.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 11,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth â’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
• Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;
• Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;
• 48 o bractisau cyffredinol (pedwar ohonynt yn bractisau a reolir), 47 practis deintyddol (gan gynnwys tri orthodontig), 99 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;
• Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadu ar 13th /14th .07.2022
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir drwy gyfrwng y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau a wneir yn y Saesneg.
NODYN PWYSIG I YMGEISWYR: Mae ceisiadau am ein rolau yn cael eu hadolygu'n ofalus a'u rhoi ar restr fer yn seiliedig ar feini prawf penodol, sy'n amrywio o swydd i swydd. Efallai na fydd defnyddio cais generig i wneud cais am rolau lluosog neu ddibynnu ar wasanaethau ceisiadau deallusrwydd artiffisial awtomataidd, fel Lazy Apply neu AI Apply, yn darparu'r wybodaeth angenrheidiol, gan arwain at anwybyddu'ch cais. Er mwyn sicrhau bod eich cais yn cael ystyriaeth lawn, rydym yn argymell cyflwyno cais wedi'i deilwra sy'n mynd i'r afael yn uniongyrchol â'r meini prawf a restrir yn adran Manyleb y Person yr hysbyseb.
Trwy gyflwyno eich cais i NHS Jobs/Trac, rydych yn gydsynio i elfennau o ddata eich cais gael eu trosglwyddo i Gofnod Staff Electronig (ESR) y GIG a systemau diogel, mewnol Gweithlu’r GIG er mwyn cefnogi a rheoli eich recriwtio a’ch cyflogaeth o fewn y sefydliad sy’n eich cyflogi; i’w defnyddio gan yr adran Recriwtio at ddibenion gwirio eich Cofrestriad Proffesiynol ar-lein (lle bo’n briodol).
Mae’r prosesau hyn yn unol â phrosesu Teg a Chyfreithlon yn unol â Deddfwriaeth Diogelu Data cyfredol yn enwedig y rhai hynny mewn perthynas â’ch data personol neu bersonol sensitif (diffinir data personol sensitif fel unrhyw gyflwr iechyd meddwl neu gorfforol, tarddiad hiliol neu ethnig, cyfeiriadedd rhywiol, aelodaeth undeb llafur, barn wleidyddol neu gred crefyddol datganedig). Fel sefydliad, rydym yn sicrhau bod y ddeddfwriaeth sy’n diffinio cyfrinachedd yn cael ei dilyn megis y defnydd o ddata at ddibenion penodol, diffiniedig, a defnydd o ddata sy’n berthnasol ac nid yn ormodol wrth ymarfer cywirdeb data a diogelwch yr holl wybodaeth bersonol adnabyddadwy a gedwir.
Os cewch eich penodi’n llwyddiannus, trwy lenwi’r ffurflen gais rydych yn awdurdodi’r BIP i gael unrhyw fanylion gwasanaeth blaenorol i’r GIG yn cynnwys yr holl wybodaeth ar salwch a gedwir yn electronig, trwy’r broses Trosglwyddo Rhyng-awdurdod ar y Cofnod Staff Electronig.
I weithio yn y DU, mae angen nawdd ar bob ymgeisydd nad yw'n wladolyn o'r DU neu Weriniaeth Iwerddon i gael naill ai fisa Gweithiwr Iechyd a Gofal neu fisa Gweithiwr Medrus, oni bai bod gennych ganiatâd i weithio trwy lwybr arall. Dylai ymgeiswyr nad ydynt yn rhan o'r DU/Gweriniaeth Iwerddon sy'n dymuno gwneud cais hunanasesu'u tebygolrwydd o gael Tystysgrif Nawdd trwy ymweld â gwefan Fisâu a Mewnfudo'r DU. Os ydych chi'n gymwys i gael y fisa Iechyd a Gofal, mae'r costau ymgeisio yn is ac nid oes angen i chi dalu Gordal Iechyd Mewnfudo blynyddol.
Gofynion yr ymgeisydd
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Gradd meistr neu brofiad cyfatebol
- Cymhwyster rheoli neu gymhwyster cyfatebol
- Cymhwyster Rheoli Prosiectau e.e. Cymhwyster PRINCE II a Rheoli Rhaglenni Llwyddiannus (MSP) neu gymhwyster cyfatebol.
- Gwybodaeth a dealltwriaeth arbenigol ynghylch y modd y mae rhaglen yn cael ei strwythuro a'i chyflwyno trwy brosiectau a phobl.
- Gwybodaeth am strwythurau llywodraethu a'r modd y mae eu hierarchaeth yn integreiddio i gefnogi'r gwaith o gyflawni rhaglen waith fawr.
- Gwybodaeth weithredol a chorfforaethol am systemau gofal sylfaenol, eilaidd a chymdeithasol.
- Yn deall yr amgylchedd y mae Bwrdd Iechyd y Brifysgol yn gweithredu ynddo 'nawr ac at y dyfodol, ei rol wrth ddarparu gofal iechyd i'r gymuned, a'r agenda heriol ar gyfer gwella gwasanaethau cyhoeddus.
- Tystiolaeth o feithrin a chynnal arbenigedd a gwybodaeth dechnegol a rhannu hyn ag eraill.
Meini prawf dymunol
- Y gallu i ddefnyddio MS Teams, Microsoft Project, Visio, PowerPoint, Excel a Word.
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o arwain, rheoli a gweithredu rhaglenni newid ar draws amgylcheddau cymhleth trwy gylch bywyd llawn prosiectau.
- Profiad o arwain tim prosiect y tu allan i strwythurau rheoli llinell
- Profiad o gefnogi aelodau tim i fod y gorau y gallant fod.
- Llwyddiant blaenorol wrth gyflawni safonau uchel yn gyson a chyflawni amcanion a blaenoriaethau.
- Profiad helaeth o uwch-reoli, gan gynnwys rheoli pobl ac adnoddau ariannol.
- Profiad o reoli gwrthdaro a dod i ddatrysiad.
- Profiad o ymgysylltu a grwp amrywiol o randdeiliaid i ddod i benderfyniad.
Meini prawf dymunol
- Dealltwriaeth glir o dechnegau gwella a chyfleoedd ar gyfer gwasanaethau clinigol ac ailgynllunio gwasanaethau, ac o dechnegau newid/gwella rhaglenni mewn diwydiannau eraill.
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Helen Morgan-Howard
- Teitl y swydd
- Interim Head of ETPO
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 07832 957733
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Helen Morgan-Howard
Ddim yn derbyn ceisiadau mwyach
Ymddiheuriadau, ond nid yw'r swydd wag hon yn derbyn ceisiadau mwyach.
Gallwch chwilio am swyddi tebyg ar fwrdd swyddi'r cyflogwr, neu fynd i'n bwrdd swyddi cenedlaethol Health Jobs UK.