Mae Trac yn falch o bweru recriwtio ar gyfer
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Gwybodaeth
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd i boblogaeth o tua 372,320 ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. Mae'n darparu gwasanaethau Acìwt, Sylfaenol, Cymunedol, Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu trwy Ysbytai Cyffredinol a Chymunedol, Canolfannau Iechyd, Meddygfeydd Teulu, Deintyddion, Fferyllfeydd, Optometryddion a safleoedd eraill.
Cysylltu
- Address
- Glien House
- Cillefwr Industrial Estate
- Johnstown
- Carmarthen
- Carmarthenshire
- SA31 3RB
- Contact Number
- 0300 303 6138
Swyddog Ymchwil a Datblygu Iechyd a Gofal Gwledig Cymru
Closed for applications on: 31-Awst-2022 00:00
Statws y swydd wag: Closed
Closed for applications on: 31-Awst-2022 00:00
Manylion allweddol
Lleoliad
- Gwefan
- Aelybryn
- Cyfeiriad
- Penglais
- Tref
- Aberystwyth
- Cod post
- SY23 2EU
- Major / Minor Region
- Sir Gaerfyrddin
Math o gontract a phatrwm gwaith
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyflog
- Cyflog
- £27,055 - £32,934 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Gradd
- (Band 5)
Arbenigedd
- Prif leoliad
- Gwaith Ymchwil a Datblygu
- Dyddiad y cyfweliad
- 12/09/2022
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.
Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau.
Trosolwg o'r swydd
Mae unigolyn trefnus, brwdfrydig, llawn cymhelliant, sy'n meddu ar agwedd hyblyg at waith yn ofynnol i gefnogi gwaith ymchwil a datblygu Iechyd a Gofal Gwledig Cymru, gan symud y rhaglen waith yn ei blaen o'r cam cynllunio hyd at y cam gweithredu.
Cynhelir Iechyd a Gofal Gwledig Cymru gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIPHDd), ond mae'n gydweithrediad a ariennir yn gyfartal gan BIPHDd, BIP Betsi Cadwaladr a Bwrdd Iechyd Addysgu Powys. Mae Iechyd a Gofal Gwledig Cymru yn adrodd i Gyd-bwyllgor Canolbarth Cymru ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ac mae ganddo grŵp rhanddeiliaid cefnogol sy'n cynnwys cynrychiolwyr o Gyngor Sir Ceredigion, Cyngor Sir Gwynedd, y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol
Bangor, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, yn ogystal â chynrychiolwyr o blith y cyhoedd a chleifion o Wynedd, Ceredigion a Phowys, a chynrychiolaeth meddygon teulu ac Ysbytai Cymunedol.
Mae gan y tîm bach o staff yn Iechyd a Gofal Gwledig Cymru raglen waith amrywiol a chyffrous sy'n canolbwyntio ar faterion iechyd a gofal mewn ardaloedd gwledig, ac mae'n cynnal Cynhadledd flynyddol fawreddog a Gweminarau rheolaidd i ledaenu gwybodaeth.
Mae'r swydd hon yn un lawn-amser (37.5 awr yr wythnos) ac yn benodiad parhaol.
Advert
Gwneud gwaith ymchwil sy'n berthnasol i Raglen Iechyd a Gofal Gwledig Cymru, a chefnogi'r broses o ddatblygu a gweithredu ymchwil a phrosiectau eraill.
Cynorthwyo â'r gwaith o lunio cynlluniau prosiect, cerrig milltir, ac ati a'u diweddaru'n rheolaidd.
Dilyn cynnydd dogfennau allweddol a mynd ar drywydd camau gweithredu sydd heb eu cwblhau lle y bo hynny'n berthnasol, sy'n cynnwys cysylltu â rhanddeiliaid mewnol ac allanol, fel ei gilydd.
Cyfathrebu effeithiol, proffesiynol â'r holl randdeiliaid ar bob lefel, boed yn wyneb yn wyneb, trwy e-bost, dros y ffôn, ac ati. Byddai hyn yn cynnwys ateb ymholiadau, awgrymu atebion posibl, blaenoriaethu a chydnabod pryd i uwchgyfeirio i Bennaeth Iechyd a Gofal Gwledig Cymru.
Darparu gwasanaethau gweinyddol, gan gynnwys trefniadau cyfarfodydd, paratoi agendâu, cymryd cofnodion, mynd ar drywydd camau gweithredu, ac ati.
Coladu a pharatoi adroddiadau a chyflwyniadau sy'n cynnwys graffeg/data a sicrhau eu bod yn cael eu dosbarthu'n briodol.
Ymgymryd â thasgau penodol i gefnogi'r gwaith o gynllunio a gweithredu prosiectau yn ôl y gofyn.
Cymryd rhan mewn nifer o weithgareddau ymchwil a datblygu yn ôl y cyfarwyddyd.
Hyrwyddo a chefnogi'r defnydd effeithiol o ddata, gwybodaeth a thechnoleg.
Meddu ar y gallu i weithio'n annibynnol ac ar eich liwt eich hun, gan rannu gwybodaeth ag aelodau o'r tîm ac eraill fel y bo'n briodol.
Y gallu i flaenoriaethu llwyth gwaith ac i osod/gyfathrebu terfynau amser realistig
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 11,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth â’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
• Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;
• Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;
• 48 o bractisau cyffredinol (pedwar ohonynt yn bractisau a reolir), 47 practis deintyddol (gan gynnwys tri orthodontig), 99 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;
• Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Mae'r swydd-ddisgrifiad a manyleb y person yn amlinelliad o dasgau, cyfrifoldebau a chanlyniadau angenrheidiol y rôl. Bydd deiliad y swydd yn cyflawni unrhyw ddyletswyddau eraill fel sy'n ofynnol yn rhesymol gan ei reolwr llinell.
Caiff y swydd-ddisgrifiad a manyleb y person eu hadolygu'n barhaus un unol ag anghenion newidiol y sefydliad.
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadu ar 06/09/2022
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir drwy gyfrwng y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau a wneir yn y Saesneg.
NODYN PWYSIG I YMGEISWYR: Mae ceisiadau am ein rolau yn cael eu hadolygu'n ofalus a'u rhoi ar restr fer yn seiliedig ar feini prawf penodol, sy'n amrywio o swydd i swydd. Efallai na fydd defnyddio cais generig i wneud cais am rolau lluosog neu ddibynnu ar wasanaethau ceisiadau deallusrwydd artiffisial awtomataidd, fel Lazy Apply neu AI Apply, yn darparu'r wybodaeth angenrheidiol, gan arwain at anwybyddu'ch cais. Er mwyn sicrhau bod eich cais yn cael ystyriaeth lawn, rydym yn argymell cyflwyno cais wedi'i deilwra sy'n mynd i'r afael yn uniongyrchol â'r meini prawf a restrir yn adran Manyleb y Person yr hysbyseb.
Trwy gyflwyno eich cais i NHS Jobs/Trac, rydych yn gydsynio i elfennau o ddata eich cais gael eu trosglwyddo i Gofnod Staff Electronig (ESR) y GIG a systemau diogel, mewnol Gweithlu’r GIG er mwyn cefnogi a rheoli eich recriwtio a’ch cyflogaeth o fewn y sefydliad sy’n eich cyflogi; i’w defnyddio gan yr adran Recriwtio at ddibenion gwirio eich Cofrestriad Proffesiynol ar-lein (lle bo’n briodol).
Mae’r prosesau hyn yn unol â phrosesu Teg a Chyfreithlon yn unol â Deddfwriaeth Diogelu Data cyfredol yn enwedig y rhai hynny mewn perthynas â’ch data personol neu bersonol sensitif (diffinir data personol sensitif fel unrhyw gyflwr iechyd meddwl neu gorfforol, tarddiad hiliol neu ethnig, cyfeiriadedd rhywiol, aelodaeth undeb llafur, barn wleidyddol neu gred crefyddol datganedig). Fel sefydliad, rydym yn sicrhau bod y ddeddfwriaeth sy’n diffinio cyfrinachedd yn cael ei dilyn megis y defnydd o ddata at ddibenion penodol, diffiniedig, a defnydd o ddata sy’n berthnasol ac nid yn ormodol wrth ymarfer cywirdeb data a diogelwch yr holl wybodaeth bersonol adnabyddadwy a gedwir.
Os cewch eich penodi’n llwyddiannus, trwy lenwi’r ffurflen gais rydych yn awdurdodi’r BIP i gael unrhyw fanylion gwasanaeth blaenorol i’r GIG yn cynnwys yr holl wybodaeth ar salwch a gedwir yn electronig, trwy’r broses Trosglwyddo Rhyng-awdurdod ar y Cofnod Staff Electronig.
I weithio yn y DU, mae angen nawdd ar bob ymgeisydd nad yw'n wladolyn o'r DU neu Weriniaeth Iwerddon i gael naill ai fisa Gweithiwr Iechyd a Gofal neu fisa Gweithiwr Medrus, oni bai bod gennych ganiatâd i weithio trwy lwybr arall. Dylai ymgeiswyr nad ydynt yn rhan o'r DU/Gweriniaeth Iwerddon sy'n dymuno gwneud cais hunanasesu'u tebygolrwydd o gael Tystysgrif Nawdd trwy ymweld â gwefan Fisâu a Mewnfudo'r DU. Os ydych chi'n gymwys i gael y fisa Iechyd a Gofal, mae'r costau ymgeisio yn is ac nid oes angen i chi dalu Gordal Iechyd Mewnfudo blynyddol.
Gofynion yr ymgeisydd
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Wedi eich addysgu i lefel gradd mewn pwnc perthnasol neu lefel gyfatebol o brofiad o weithio ar lefel debyg mewn maes arbenigol
- Gwybodaeth am weithdrefnau gweinyddol, rheoli prosiectau neu ddadansoddi gwybodaeth
- Profiad o gymryd cofnodion
- Profiad eglur o ddelio ag amrywiaeth o randdeiliaid, ynghyd â delio â gwybodaeth sensitif a chyfrinachol
Meini prawf dymunol
- Cymhwyster neu brofiad o ymchwil
- Cymhwyster Rheoli Prosiectau ffurfiol
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Sgiliau ar gyfer cyfathrebu gwybodaeth gymhleth a materion gweinyddol, sy'n gofyn am sgiliau rhyngbersonol a sgiliau cyfathrebu llafar/ysgrifenedig datblygedig
- Agwedd gadarnhaol at ddatrys problemau: yn gallu awgrymu a gweithredu opsiynau amgen
- Sgiliau rheoli amser ardderchog, ynghyd â'r gallu i ailflaenoriaethu
- Sgiliau i gefnogi'r gwaith o reoli prosiectau
- Gwybodaeth ymarferol ragorol am Word, PowerPoint ac Outlook
- Y gallu i reoli tasgau amrywiol a chymhleth, gan ddatrys blaenoriaethau sy'n groes i'w gilydd
Meini prawf dymunol
- Y gallu i drin a dadansoddi data mewn modd effeithiol
- Gwybodaeth ymarferol am feddalwedd rheoli prosiectau
Arall
Meini prawf hanfodol
- Agwedd broffesiynol a chadarnhaol iawn
- Ymwybyddiaeth o sensitifrwydd personol a gwleidyddol a'r gallu i addasu'n briodol
- Agwedd arloesol ac adeiladol at reoli prosiectau
- Dealltwriaeth o flaenoriaethau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol a'r gallu i arwain peilot yn briodol
- Yn hyblyg ac addasol er mwyn cyflawni blaenoriaethau sy'n cystadlu â'i gilydd
- Y gallu i gyfarwyddo prosiectau sy'n cael eu cyflawni gan drydydd partïon
- Y gallu i wrando ar anghenion pobl eraill
- Y gallu i deithio rhwng safleoedd mewn modd amserol
Meini prawf dymunol
- Ymrwymiad i ddatblygu agweddau cadarnhaol tuag at heriau a newid
- Y gallu i weithio'n hyblyg
Dawn a Gallu
Meini prawf hanfodol
- Y gallu i weithio'n annibynnol ac ar eich liwt eich hun, gan rannu gwybodaeth ag aelodau o'r tîm ac eraill fel y bo'n briodol
- Y gallu i flaenoriaethu llwyth gwaith ac i osod/gyfathrebu terfynau amser realistig
- Y gallu i gydnabod pryd y dylid uwchgyfeirio unrhyw faterion fel y bo'n briodol
- Y gallu i weithio mewn tîm a chyfathrebu â phobl ar bob lefel
- Sgiliau trefnu ardderchog
- Sgiliau rhyngbersonol ardderchog
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Anna L. Prytherch
- Teitl y swydd
- Head of Rural Health and Care Wales
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 07815746850
Ddim yn derbyn ceisiadau mwyach
Ymddiheuriadau, ond nid yw'r swydd wag hon yn derbyn ceisiadau mwyach.
Gallwch chwilio am swyddi tebyg ar fwrdd swyddi'r cyflogwr, neu fynd i'n bwrdd swyddi cenedlaethol Health Jobs UK.