Mae Trac yn falch o bweru recriwtio ar gyfer
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Gwybodaeth
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd i boblogaeth o tua 372,320 ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. Mae'n darparu gwasanaethau Acìwt, Sylfaenol, Cymunedol, Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu trwy Ysbytai Cyffredinol a Chymunedol, Canolfannau Iechyd, Meddygfeydd Teulu, Deintyddion, Fferyllfeydd, Optometryddion a safleoedd eraill.
Cysylltu
- Address
- Glien House
- Cillefwr Industrial Estate
- Johnstown
- Carmarthen
- Carmarthenshire
- SA31 3RB
- Contact Number
- 0300 303 6138
Gofalwr Cartref/Gweithiwr Cymorth Gofal Integredig
Closed for applications on: 21-Medi-2022 00:00
Statws y swydd wag: Closed
Closed for applications on: 21-Medi-2022 00:00
Manylion allweddol
Lleoliad
- Gwefan
- Sir Gaerfyrddin
- Tref
- Sir Gaerfyrddin
- Cod post
- SA31 3BB
- Major / Minor Region
- Sir Gaerfyrddin
Math o gontract a phatrwm gwaith
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser
- Rhan-amser
Cyflog
- Cyflog
- £21,730 - £23,177 y flwyddyn (pro rata os rhan-amser)
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Gradd
- (Band 3)
Arbenigedd
- Prif leoliad
- Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd Cymunedol
- Dyddiad y cyfweliad
- 29/09/2022
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.
Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau.
Trosolwg o'r swydd
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn falch o allu cynnig y swyddi hyn yn rhan o'r rhaglen i ddatblygu gofal integredig ledled y sir. Mae ein cyfraddau cyflogau yn gystadleuol iawn â swyddi tebyg ledled y sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
Nid yn unig y mae ein cyfradd fesul awr ar gyfer oriau dan gontract gwarantedig ymhlith y cyflog gorau yng Nghymru, rydym hefyd yn gallu cynnig amrywiaeth o fuddion eraill, cymorth gyda theithio, mynediad at gynlluniau gwobrwyo, cynllun pensiwn ag iddo enw da iawn, hawl i wyliau â thâl haul, lwfansau mamolaeth a thadolaeth, a llawer mwy.
Darperir gwisgoedd, bagiau, a chyfarpar diogelu personol (PPE) i bob un o'n gofalwyr Cymorth yn y Cartref/Gofal Integredig, ynghyd â ffonau symudol fel y gallant gyrchu eu hamserlenni a gwybodaeth am yr hyn sy'n digwydd yn y gwasanaeth, y cyngor sir yn ehangach, a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, gan gynnwys cynlluniau gostyngiadau i staff.
Rydym yn chwilio am unigolion sy'n llawn cymhelliant i wneud cyfraniad cadarnhaol i fywydau'r bobl yr ydym yn eu cefnogi, ac sy'n meddu ar ymagwedd bendant a chadarnhaol at waith.
Advert
A chithau'n un o'n Gweithwyr Cymorth Gofal Integredig/Gofalwyr yn y Cartref, bydd eich dyletswyddau'n cynnwys gweithio ochr yn ochr â Therapyddion Galwedigaethol, Ffisiotherapyddion, Nyrsys, Meddygon Teulu, Deietegwyr a gweithwyr proffesiynol eraill ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, yn cyflawni tasgau dirprwyedig ac yn darparu gofal wedi'i gynllunio i bobl, er mwyn eu helpu i aros yn eu cartrefi eu hunain.
Bydd ein Gweithwyr Cymorth Gofal Integredig/Gofalwyr yn y Cartref yn gweithio'n agos gydag asiantaethau eraill i helpu unigolion i gyflawni eu nodau, er enghraifft, Delta, y Groes Goch, y Tîm Ymateb Acíwt, y Tîm Iechyd Meddwl, Timau Cam-drin Sylweddau, a Gweithwyr Cymdeithasol.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 11,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;
Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;
48 o bractisau cyffredinol (pedwar ohonynt yn bractisau a reolir), 47 practis deintyddol (gan gynnwys tri orthodontig), 99 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;
Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cewch eich croesawu i Dîm Gartref Gyntaf Cyngor Sir Caerfyrddin a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
I ddarllen yr hyn y mae eraill wedi'i ddweud amdanom, dilynwch y ddolen i'r adroddiad arolygu diweddaraf arolygiaethgofal.cymru/
Mae bod yn Weithiwr Cymorth Gofal Integredig/Ofalwr yn y Cartref yn swydd werth chweil iawn lle byddwch yn meithrin sgiliau a phrofiad amhrisiadwy. Mae gennym hefyd lawer o gyfleoedd ar gyfer hyfforddi a datblygu. Felly, pa un a ydych am fod yn weithiwr cymorth neu am gael profiad gwerthfawr a meithrin sgiliau pwysig cyn dechrau ar yrfa wahanol neu addysg uwch, yna rydym am glywed gennych.
Mae'n ofynnol i'r unigolion a benodir i'r rolau gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru. Byddwn yn rhoi'r holl gymorth a help y bydd arnoch eu hangen i ddod yn weithiwr gofal cymdeithasol cofrestredig Cofrestru | Gofal Cymdeithasol Cymru
Cynhelir y cyfweliadau ar 28 & 29 Medi 2022.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir drwy gyfrwng y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau a wneir yn y Saesneg.
NODYN PWYSIG I YMGEISWYR: Mae ceisiadau am ein rolau yn cael eu hadolygu'n ofalus a'u rhoi ar restr fer yn seiliedig ar feini prawf penodol, sy'n amrywio o swydd i swydd. Efallai na fydd defnyddio cais generig i wneud cais am rolau lluosog neu ddibynnu ar wasanaethau ceisiadau deallusrwydd artiffisial awtomataidd, fel Lazy Apply neu AI Apply, yn darparu'r wybodaeth angenrheidiol, gan arwain at anwybyddu'ch cais. Er mwyn sicrhau bod eich cais yn cael ystyriaeth lawn, rydym yn argymell cyflwyno cais wedi'i deilwra sy'n mynd i'r afael yn uniongyrchol â'r meini prawf a restrir yn adran Manyleb y Person yr hysbyseb.
Trwy gyflwyno eich cais i NHS Jobs/Trac, rydych yn gydsynio i elfennau o ddata eich cais gael eu trosglwyddo i Gofnod Staff Electronig (ESR) y GIG a systemau diogel, mewnol Gweithlu’r GIG er mwyn cefnogi a rheoli eich recriwtio a’ch cyflogaeth o fewn y sefydliad sy’n eich cyflogi; i’w defnyddio gan yr adran Recriwtio at ddibenion gwirio eich Cofrestriad Proffesiynol ar-lein (lle bo’n briodol).
Mae’r prosesau hyn yn unol â phrosesu Teg a Chyfreithlon yn unol â Deddfwriaeth Diogelu Data cyfredol yn enwedig y rhai hynny mewn perthynas â’ch data personol neu bersonol sensitif (diffinir data personol sensitif fel unrhyw gyflwr iechyd meddwl neu gorfforol, tarddiad hiliol neu ethnig, cyfeiriadedd rhywiol, aelodaeth undeb llafur, barn wleidyddol neu gred crefyddol datganedig). Fel sefydliad, rydym yn sicrhau bod y ddeddfwriaeth sy’n diffinio cyfrinachedd yn cael ei dilyn megis y defnydd o ddata at ddibenion penodol, diffiniedig, a defnydd o ddata sy’n berthnasol ac nid yn ormodol wrth ymarfer cywirdeb data a diogelwch yr holl wybodaeth bersonol adnabyddadwy a gedwir.
Os cewch eich penodi’n llwyddiannus, trwy lenwi’r ffurflen gais rydych yn awdurdodi’r BIP i gael unrhyw fanylion gwasanaeth blaenorol i’r GIG yn cynnwys yr holl wybodaeth ar salwch a gedwir yn electronig, trwy’r broses Trosglwyddo Rhyng-awdurdod ar y Cofnod Staff Electronig.
I weithio yn y DU, mae angen nawdd ar bob ymgeisydd nad yw'n wladolyn o'r DU neu Weriniaeth Iwerddon i gael naill ai fisa Gweithiwr Iechyd a Gofal neu fisa Gweithiwr Medrus, oni bai bod gennych ganiatâd i weithio trwy lwybr arall. Dylai ymgeiswyr nad ydynt yn rhan o'r DU/Gweriniaeth Iwerddon sy'n dymuno gwneud cais hunanasesu'u tebygolrwydd o gael Tystysgrif Nawdd trwy ymweld â gwefan Fisâu a Mewnfudo'r DU. Os ydych chi'n gymwys i gael y fisa Iechyd a Gofal, mae'r costau ymgeisio yn is ac nid oes angen i chi dalu Gordal Iechyd Mewnfudo blynyddol.
Gofynion yr ymgeisydd
Manyleb y person
Cymwysterau, Hyfforddiant Galwedigaethol ac Aelodaeth Broffesiynol
Meini prawf hanfodol
- Lefel 3 mewn iechyd a gofal cymdeithasol (Diploma, QCF neu NVQ) NEU gymhwyster Lefel 2 gyda phrofiad o ymarfer ar y lefel honno (dymunol) a pharodrwydd i gwblhau i Lefel 2/3 o fewn chwe mis cyntaf cyflogaeth. A / NEU Dyfarniad Egwyddorion a Gwerthoedd Gofal Cymdeithasol Cymru NEU Gwybodaeth am y Cod Ymddygiad ar gyfer Gweithwyr Gofal Cymdeithasol Cymru yng Nghymru Fframwaith Sefydlu Cymru Gyfan (AWIF) ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol Mae cofrestru fel Gweithiwr Gofal Cymdeithasol gyda Gofal Cymdeithasol Cymru yn orfodol
Sgiliau a Chymwyseddau Cysylltiedig â Swydd
Meini prawf hanfodol
- Dealltwriaeth o'r sector gofal cymdeithasol ac iechyd, ac o anghenion pobl sy'n defnyddio gwasanaethau Gofal Cartref.
- Y gallu i weithio ar eich menter eich hun a dod o hyd i atebion pragmatig i'r heriau a wynebwyd.
- Y gallu i fagu hyder, ysgogi ac annog pobl i aros yn annibynnol.
- Y gallu i gyfathrebu'n effeithiol ag amrywiaeth o weithwyr proffesiynol, gyda'r bobl sy'n defnyddio'r gwasanaeth a'u teuluoedd.
- Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar da, a'r gallu i wneud cofnodion cywir a nodiadau achos.
- Sgiliau rhifedd da.
- Y gallu i yrru / parodrwydd i ddysgu. – bydd hyfforddiant 4x4 arbenigol yn cael ei ddarparu i alluogi defnyddio ceir cronfa. NEU Mynediad i ddull teithio addas a'r gallu i deithio i ddarparu'r gofal a'r cymorth gofynnol i bobl ar eu hamseroedd penodedig.
Gywbodaeth
Meini prawf hanfodol
- Er bod tystiolaeth o wybodaeth flaenorol a sgiliau dysgu mewn gofal yn ddymunol, er mwyn cyflawni’r rôl yn gymwys, darperir hyfforddiant i sicrhau eich bod yn cyrraedd y safonau gofynnol yn y meysydd a restrir isod o fewn amserlen resymol, ac fel rhan o’ch cyfnod sefydlu. Technegau symud a thrin diogel. Atal a Rheoli Heintiau (IP&C) Rhoi meddyginiaeth yn ddiogel yn unol â Pholisi Cymru Gyfan ar gyfer Rhoi Meddyginiaethau a Rhoi Meddyginiaeth mewn Gofal Cartref (Cymru) Polisi Gwybodaeth gadarn am ystod o gyflyrau clinigol. Ymwybyddiaeth o ddementia Technegau ailalluogi / galluogi. Atal mannau pwyso a rheoli cyfanrwydd croen. Hylendid y geg Hylendid bwyd sylfaenol Cymorth cyntaf sylfaenol. Polisi Diogelu Cymru Gyfan Adrodd a chofnodi mewn nodiadau proffesiynol a chofnodion achos. GDPR. Dealltwriaeth / ymwybyddiaeth o'r egwyddorion a gynhwysir yn o Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 o Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 o Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2017
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Alison Bridland
- Teitl y swydd
- Senior Sister Acute Response Team
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 07813 400409
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Gail Sinclair, Rheolwr Cofrestredig, Ailalluogi - 07989 138660 - [email protected]
Ddim yn derbyn ceisiadau mwyach
Ymddiheuriadau, ond nid yw'r swydd wag hon yn derbyn ceisiadau mwyach.
Gallwch chwilio am swyddi tebyg ar fwrdd swyddi'r cyflogwr, neu fynd i'n bwrdd swyddi cenedlaethol Health Jobs UK.