Mae Trac yn falch o bweru recriwtio ar gyfer
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Gwybodaeth
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd i boblogaeth o tua 372,320 ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. Mae'n darparu gwasanaethau Acìwt, Sylfaenol, Cymunedol, Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu trwy Ysbytai Cyffredinol a Chymunedol, Canolfannau Iechyd, Meddygfeydd Teulu, Deintyddion, Fferyllfeydd, Optometryddion a safleoedd eraill.
Cysylltu
- Address
- Glien House
- Cillefwr Industrial Estate
- Johnstown
- Carmarthen
- Carmarthenshire
- SA31 3RB
- Contact Number
- 0300 303 6138
Uwch-technegydd Fferyllfa Rheoli Meddyginiaethau
Closed for applications on: 11-Hyd-2022 00:00
Statws y swydd wag: Closed
Closed for applications on: 11-Hyd-2022 00:00
Manylion allweddol
Lleoliad
- Gwefan
- Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg
- Cyfeiriad
- Heol Abergwaun
- Tref
- Hwlffordd
- Cod post
- SA61 2PZ
- Major / Minor Region
- Sir Gaerfyrddin
Math o gontract a phatrwm gwaith
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyflog
- Cyflog
- £33,706 - £40,588 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Gradd
- (Band 6/Atodiad 21)
Arbenigedd
- Prif leoliad
- Fferylliaeth
- Dyddiad y cyfweliad
- 17/10/2022
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.
Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau.
Trosolwg o'r swydd
Mae cyfle cyffrous wedi dod ar gael i Dechnegydd Cofrestredig (GPhC) cymwys ymuno â'n Tîm Fferyllol yn yr Uned Aseptig yn Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg.
Byddwch yn gweithio gyda thîm medrus iawn sy'n darparu meddyginiaethau a baratowyd yn aseptig i nifer o feysydd clinigol ledled pob un o'r pedwar safle ysbyty yn Hywel Dda.
Rydym yn chwilio am unigolyn cydwybodol sy'n gweithio'n dda mewn tîm ac sy'n meddu ar agwedd hyblyg at anghenion y gwasanaeth. Rhaid i’r ymgeisydd hefyd fod yn gryf ei gymhelliant, gallu amlygu proffesiynoldeb a bod â sgiliau trefnu a chyfathrebu rhagorol. Mae'r swydd yn llawnamser ac yn barhaol. Bydd gofyn i ymgeiswyr gymryd rhan yn y rota penwythnosau a gwyliau banc.
Bydd deiliad y swydd yn gweithio gyda'r Uwch-dechnegydd Fferyllol Sicrhau Ansawdd i reoli System Ansawdd Fferyllol yr uned. Mae hyn yn cynnwys cynnal ymchwiliadau, rhoi newidiadau ar waith a chasglu data ar gyfer cyfarfodydd ansawdd.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a / neu Saesneg wneud cais.
Advert
Bydd y dyletswyddau'n cynnwys paratoi cynhyrchion meddyginiaethol, cynnal gwiriadau yn ystod y broses, dosbarthu a gwirio cynhyrchion meddyginiaethol o'r tu allan, a chynnal y gwiriad terfynol a rhyddhau cynhyrchion a baratowyd yn aseptig.
Rhaid i'r ymgeiswyr fod yn dechnegwyr fferyllol cofrestredig gyda'r GPhC, a rhaid eu bod wedi cyflawni'r Achrediad Technegydd Gwirio Cywirdeb (ACPT) ym maes Gwasanaethau Technegol a'r Rhaglen Achredu Cymeradwyo Cynnyrch (PAAP). Fodd bynnag, anogir ymgeiswyr nad ydynt wedi cwblhau'r Rhaglen Achredu Cymeradwyo Cynnyrch i wneud cais ac, os byddant yn llwyddiannus, bydd angen iddynt ennill y cymwysterau cyn pen dwy flynedd ar y mwyaf a chânt eu penodi o dan reolau Atodiad 21. Mae hyn yn golygu y byddant yn cael eu cefnogi gan gynllun datblygu. (Yn
ystod y flwyddyn gyntaf bydd y taliad yn 70% o'r gyfradd cyflog uchaf ym mand 6, a'r ail flwyddyn yn 75%). Ar ôl llwyddo yn y cymwysterau, bydd deiliad y swydd yn cael ei dalu ar Fand 6 (pwynt isaf y raddfa). Darperir cymorth a goruchwyliaeth i ddatblygu'r ymgeisydd llwyddiannus i'r rôl
Band 6. Gallai methu â chyflawni'r cymhwyster yn unol â'r amserlen ddynodedig arwain at adleoli.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a / neu Saesneg wneud cais.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 11,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;
Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;
48 o bractisau cyffredinol (pedwar ohonynt yn bractisau a reolir), 47 practis deintyddol (gan gynnwys tri orthodontig), 99 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;
Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Gall y swydd gael ei chynnwys yn y prosiect Trawsnewid Mynediad at y Gwasanaeth Meddyginiaethau. Bydd hyn yn creu Gwasanaeth Gweithgynhyrchu Fferyllol Canolog, i'w ddarparu trwy dri hyb meddyginiaethau rhanbarthol ledled Cymru. Gobeithiwn fod mewn sefyllfa i ddechrau ar yr ymgynghoriad ffurfiol ynghylch y newid sefydliadol arfaethedig yn ystod 2023, yn unol â Pholisi Newid Sefydliadol Cymru Gyfan. Hoffwn bwysleisio na fydd unrhyw swyddi yn cael eu colli o ganlyniad i hyn; bydd y rheolwr recriwtio ar gyfer y swydd hon yn gallu darparu rhagor o wybodaeth.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadu ar 17/10/2022.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir drwy gyfrwng y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau a wneir yn y Saesneg.
NODYN PWYSIG I YMGEISWYR: Mae ceisiadau am ein rolau yn cael eu hadolygu'n ofalus a'u rhoi ar restr fer yn seiliedig ar feini prawf penodol, sy'n amrywio o swydd i swydd. Efallai na fydd defnyddio cais generig i wneud cais am rolau lluosog neu ddibynnu ar wasanaethau ceisiadau deallusrwydd artiffisial awtomataidd, fel Lazy Apply neu AI Apply, yn darparu'r wybodaeth angenrheidiol, gan arwain at anwybyddu'ch cais. Er mwyn sicrhau bod eich cais yn cael ystyriaeth lawn, rydym yn argymell cyflwyno cais wedi'i deilwra sy'n mynd i'r afael yn uniongyrchol â'r meini prawf a restrir yn adran Manyleb y Person yr hysbyseb.
Trwy gyflwyno eich cais i NHS Jobs/Trac, rydych yn gydsynio i elfennau o ddata eich cais gael eu trosglwyddo i Gofnod Staff Electronig (ESR) y GIG a systemau diogel, mewnol Gweithlu’r GIG er mwyn cefnogi a rheoli eich recriwtio a’ch cyflogaeth o fewn y sefydliad sy’n eich cyflogi; i’w defnyddio gan yr adran Recriwtio at ddibenion gwirio eich Cofrestriad Proffesiynol ar-lein (lle bo’n briodol).
Mae’r prosesau hyn yn unol â phrosesu Teg a Chyfreithlon yn unol â Deddfwriaeth Diogelu Data cyfredol yn enwedig y rhai hynny mewn perthynas â’ch data personol neu bersonol sensitif (diffinir data personol sensitif fel unrhyw gyflwr iechyd meddwl neu gorfforol, tarddiad hiliol neu ethnig, cyfeiriadedd rhywiol, aelodaeth undeb llafur, barn wleidyddol neu gred crefyddol datganedig). Fel sefydliad, rydym yn sicrhau bod y ddeddfwriaeth sy’n diffinio cyfrinachedd yn cael ei dilyn megis y defnydd o ddata at ddibenion penodol, diffiniedig, a defnydd o ddata sy’n berthnasol ac nid yn ormodol wrth ymarfer cywirdeb data a diogelwch yr holl wybodaeth bersonol adnabyddadwy a gedwir.
Os cewch eich penodi’n llwyddiannus, trwy lenwi’r ffurflen gais rydych yn awdurdodi’r BIP i gael unrhyw fanylion gwasanaeth blaenorol i’r GIG yn cynnwys yr holl wybodaeth ar salwch a gedwir yn electronig, trwy’r broses Trosglwyddo Rhyng-awdurdod ar y Cofnod Staff Electronig.
I weithio yn y DU, mae angen nawdd ar bob ymgeisydd nad yw'n wladolyn o'r DU neu Weriniaeth Iwerddon i gael naill ai fisa Gweithiwr Iechyd a Gofal neu fisa Gweithiwr Medrus, oni bai bod gennych ganiatâd i weithio trwy lwybr arall. Dylai ymgeiswyr nad ydynt yn rhan o'r DU/Gweriniaeth Iwerddon sy'n dymuno gwneud cais hunanasesu'u tebygolrwydd o gael Tystysgrif Nawdd trwy ymweld â gwefan Fisâu a Mewnfudo'r DU. Os ydych chi'n gymwys i gael y fisa Iechyd a Gofal, mae'r costau ymgeisio yn is ac nid oes angen i chi dalu Gordal Iechyd Mewnfudo blynyddol.
Gofynion yr ymgeisydd
Manyleb y person
Cymwysterau a gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Diploma NVQ Lefel 3 mewn Sgiliau Gwasanaethau Fferyllol neu gymhwyster NVQ Lefel 3 mewn Gwasanaethau Fferyllol neu gymhwyster clinigol cyfwerth
- Achrediad mewn Rheoli Meddyginiaethau neu brofiad cyfwerth
- Achrediad Technegydd Gwirio Cywirdeb os yw’n berthnasol i’r rôl benodol
- Gwybodaeth ddigonol am ymarfer cyfredol ym maes Rheoli Meddyginiaethau ac am faterion proffesiynol
- Yn deall effaith canllawiau cenedlaethol ar wasanaethau rheoli meddyginiaethau
- Sgiliau teipio a defnyddio rhaglenni cyfrifiadurol
- Cymeradwyr Cynnyrch Achrededig os yw'n berthnasol i'w rôl mewn Gwasanaethau Technegol
Meini prawf dymunol
- Cymhwyster ym maes rheoli
- Cymhwyster TG ar lefel ragarweiniol, e.e. ECDL
- Tystysgrif Addysg neu gymhwyster addysgu cyfwerth
- Profiad o weithio ym maes Gwasanaethau Technegol
- Dyfarniad Aseswr A1
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad helaeth o weithio ym maes gofal sylfaenol neu eilaidd
- Profiad helaeth o hyfforddi staff ar wahanol raddau
- Profiad o reoli/goruchwylio staff
- Profiad o weithredu cynlluniau gwella costau
- Profiad o reoli newid
- Profiad o reoli gwasanaeth
- Yn gallu gweithio’n gywir ac yn effeithlon wrth gyflawni gwaith gweinyddu a gwirio ac ym mhob agwedd ar y prosesau rheoli meddyginiaethau ar wardiau
Meini prawf dymunol
- Profiad o weithio mewn mwy nag un sector
- Profiad o recriwtio staff
Amgylchladau
Meini prawf hanfodol
- Rhaid bodloni safonau a gytunwyd ar gyfer golwg a gwisg
- Rhaid ymddwyn yn broffesiynol
- Hyblygrwydd o safbwynt gweithio ar benwythnosau ac ar wyliau banc
- Yn gallu teithio o fewn ardal y Bwrdd Iechyd a ledled Cymru yn ôl yr angen, a chyrraedd yn brydlon
- Yn berson proffesiynol a hawdd mynd ato
- Yn aelod da o dîm
- Yn gallu gweithio mewn amgylchedd prysur heb gynhyrfu
- Wedi ymrwymo i Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Cerith Morgan
- Teitl y swydd
- Senior Pharmacy Manager - Technical Services
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
Ddim yn derbyn ceisiadau mwyach
Ymddiheuriadau, ond nid yw'r swydd wag hon yn derbyn ceisiadau mwyach.
Gallwch chwilio am swyddi tebyg ar fwrdd swyddi'r cyflogwr, neu fynd i'n bwrdd swyddi cenedlaethol Health Jobs UK.