Mae Trac yn falch o bweru recriwtio ar gyfer
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Gwybodaeth
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd i boblogaeth o tua 372,320 ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. Mae'n darparu gwasanaethau Acìwt, Sylfaenol, Cymunedol, Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu trwy Ysbytai Cyffredinol a Chymunedol, Canolfannau Iechyd, Meddygfeydd Teulu, Deintyddion, Fferyllfeydd, Optometryddion a safleoedd eraill.
Ymarferydd Iechyd Meddwl Cymunedol S-CAMHS
Closed for applications on: 20-Maw-2023 00:01
Statws y swydd wag: Closed
Closed for applications on: 20-Maw-2023 00:01
Manylion allweddol
Lleoliad
- Gwefan
- Canolfan Gwili
- Tref
- Caerfyrddin
- Cod post
- SA31 2AF
- Major / Minor Region
- Sir Gaerfyrddin
Math o gontract a phatrwm gwaith
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser
- Rhan-amser
Cyflog
- Cyflog
- £33,706 - £40,588 y flwyddyn (pro rata os yn rhan amser)
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Gradd
- (Band 6)
Arbenigedd
- Prif leoliad
- Y Gwasanaeth Iechyd Meddwl Arbenigol i Blant a'r Glasoed.
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae’r raddfa gyflog uchod wedi’i chytuno fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2024/2025. Bydd yn cael ei rhoi ar waith ym mis Tachwedd 2024 wedi’i hôl-ddyddio i 1 Ebrill 2024 lle bo’n berthnasol.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn chwilio am Ymarferydd Iechyd Meddwl brwdfrydig a dynamig i weithio o fewn CAMHS Arbenigol gyda phlant a phobl ifanc, a hynny mewn tîm amlddisgyblaethol sefydledig. Byddwch yn gyfrifol am lwyth achosion unigol, yn gweithio fel Cydlynydd Gofal a Thriniaeth, ac yn cyfrannu at wella bywydau pobl ifanc sy'n profi trallod meddwl.
Wrth i ni fwrw ymlaen â'n rhaglen gwella gwasanaethau ym maes CAMHS Arbenigol, rydym yn ystyried y swydd bwysig hon yn ganolog i'r broses o drawsnewid y ffordd y mae cymorth a thriniaethau'n cael eu darparu i blant/bobl ifanc a'u teuluoedd. Yn ogystal, rydym yn cynnig y cyfle ar gyfer dysgu pellach a datblygiad proffesiynol o fewn BIPHDd, gyda goruchwyliaeth gadarn a chysylltiadau agos â phrifysgolion lleol i hyrwyddo datblygiad gyrfa.
Gwahoddir ceisiadau gan nyrsys brwdfrydig a phrofiadol iawn sydd â gwybodaeth ymarferol a damcaniaethol am asesu iechyd meddwl, ac sy'n gallu cynnig ymyriadau therapiwtig sy'n seiliedig ar dystiolaeth i bobl ifanc â chyflwyniadau CAMHS Arbenigol.
Bydd hwn yn gam gwych yn eich gyrfa, a fydd yn dod â chyfle i newid eich ffordd o fyw trwy weithio ym mhrydferthwch gorllewin Cymru a phrofi buddion bywyd gwledig ac arfordir ysgubol hardd.
Advert
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio fel rhan o’r tîm, yn cynnal asesiadau cychwynnol ac yn datblygu pecynnau gofal ar gyfer unigolion o dan ei ofal. Bydd yn darparu therapïau seicolegol o dan fodel CAPA, gan gynnal sesiynau Dewis a phartneriaeth i Blant a Phobl Ifanc sydd wedi'u derbyn i wasanaethau CAMHS Arbenigol.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio o dan y mesur Iechyd Meddwl, ac felly’n gweithio fel cydlynydd gofal ac yn ymgymryd â rôl Cynllun Gofal a Thriniaeth (CTP) y bobl ifanc hynny y mae arnynt angen cymorth parhaus o dan Ran 2 o’r Mesur Iechyd Meddwl.
Bydd y rôl yn gofyn am y gallu i weithio'n unigol ond gan hefyd bod yn rhan annatod o'r tîm amlddisgyblaethol ehangach. O fod yn uwch-ymarferydd yn y tîm, byddwch yn gyfrifol am reoli llwythi achosion unigol a chynnal cofnodion clinigol a gwybodaeth mewn perthynas â'r llwyth gwaith. Bydd y rôl yn cynnwys cefnogi a goruchwylio Gweithiwyr Cymorth Gofal Iechyd wrth ddarparu a datblygu pecynnau gofal ar gyfer defnyddwyr gwasanaethau unigol a'u teuluoedd.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saeneg wneud cais.
Cyfweliadau i'w cynnal ar 28/03/23
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 11,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;
Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;
48 o bractisau cyffredinol (pedwar ohonynt yn bractisau a reolir), 47 practis deintyddol (gan gynnwys tri orthodontig), 99 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;
Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Mynediad ar unwaith i’n budd llesiant ariannol – Wagestream. Mae Wagestream yn adnodd ar gyfer bywyd bob dydd sy’n eich caniatáu i gael eich talu eich ffordd eich hun, a olrain eich cyflog mewn amser real, ffrydio hyd at 50% o’r cyflog rydych wedi ennill yn barod, dysgu awgrymiadau hawdd i reoli eich arian yn well ac arbed eich tâl yn syth o’ch cyflog.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir drwy gyfrwng y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau a wneir yn y Saesneg.
NODYN PWYSIG I YMGEISWYR: Mae ceisiadau am ein rolau yn cael eu hadolygu'n ofalus a'u rhoi ar restr fer yn seiliedig ar feini prawf penodol, sy'n amrywio o swydd i swydd. Efallai na fydd defnyddio cais generig i wneud cais am rolau lluosog neu ddibynnu ar wasanaethau ceisiadau deallusrwydd artiffisial awtomataidd, fel Lazy Apply neu AI Apply, yn darparu'r wybodaeth angenrheidiol, gan arwain at anwybyddu'ch cais. Er mwyn sicrhau bod eich cais yn cael ystyriaeth lawn, rydym yn argymell cyflwyno cais wedi'i deilwra sy'n mynd i'r afael yn uniongyrchol â'r meini prawf a restrir yn adran Manyleb y Person yr hysbyseb.
Trwy gyflwyno eich cais i NHS Jobs/Trac, rydych yn gydsynio i elfennau o ddata eich cais gael eu trosglwyddo i Gofnod Staff Electronig (ESR) y GIG a systemau diogel, mewnol Gweithlu’r GIG er mwyn cefnogi a rheoli eich recriwtio a’ch cyflogaeth o fewn y sefydliad sy’n eich cyflogi; i’w defnyddio gan yr adran Recriwtio at ddibenion gwirio eich Cofrestriad Proffesiynol ar-lein (lle bo’n briodol).
Mae’r prosesau hyn yn unol â phrosesu Teg a Chyfreithlon yn unol â Deddfwriaeth Diogelu Data cyfredol yn enwedig y rhai hynny mewn perthynas â’ch data personol neu bersonol sensitif (diffinir data personol sensitif fel unrhyw gyflwr iechyd meddwl neu gorfforol, tarddiad hiliol neu ethnig, cyfeiriadedd rhywiol, aelodaeth undeb llafur, barn wleidyddol neu gred crefyddol datganedig). Fel sefydliad, rydym yn sicrhau bod y ddeddfwriaeth sy’n diffinio cyfrinachedd yn cael ei dilyn megis y defnydd o ddata at ddibenion penodol, diffiniedig, a defnydd o ddata sy’n berthnasol ac nid yn ormodol wrth ymarfer cywirdeb data a diogelwch yr holl wybodaeth bersonol adnabyddadwy a gedwir.
Os cewch eich penodi’n llwyddiannus, trwy lenwi’r ffurflen gais rydych yn awdurdodi’r BIP i gael unrhyw fanylion gwasanaeth blaenorol i’r GIG yn cynnwys yr holl wybodaeth ar salwch a gedwir yn electronig, trwy’r broses Trosglwyddo Rhyng-awdurdod ar y Cofnod Staff Electronig.
I weithio yn y DU, mae angen nawdd ar bob ymgeisydd nad yw'n wladolyn o'r DU neu Weriniaeth Iwerddon i gael naill ai fisa Gweithiwr Iechyd a Gofal neu fisa Gweithiwr Medrus, oni bai bod gennych ganiatâd i weithio trwy lwybr arall. Dylai ymgeiswyr nad ydynt yn rhan o'r DU/Gweriniaeth Iwerddon sy'n dymuno gwneud cais hunanasesu'u tebygolrwydd o gael Tystysgrif Nawdd trwy ymweld â gwefan Fisâu a Mewnfudo'r DU. Os ydych chi'n gymwys i gael y fisa Iechyd a Gofal, mae'r costau ymgeisio yn is ac nid oes angen i chi dalu Gordal Iechyd Mewnfudo blynyddol.
Gofynion yr ymgeisydd
Rhaid bod gennych gofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Nyrs Iechyd Meddwl Gofrestretig neu Nyrs Gofrestredig Anableddau Dysgu neu gymhwyster cyfatebol gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth
- Cofnod da o ddatblygiad proffesiynol parhaus i lefel diploma ol-raddedig
- Gwybodaeth am ddatblygiadau lleol a chenedlaethol mewn perthynas a'r Gwasanaethau Iechyd Meddwl Arbenigol i Blant a Phobl Ifanc
- Gwybodaeth am faterion amddiffyn plant a'r Ddeddf Plant, yn ogystal a deddfwriaeth berthnasol arall
- Gwybodaeth am ddeddfwriaethau a datblygiadau cenedlaethol mewn perthynas â phlant sy'n derbyn gofal
Meini prawf dymunol
- Yn meddu at ddyfarniad ol-gymhwyso mewn gofal plant neu ymarfer therapiwtig
- Cymhwyster ac achrediad therapiwtig cydnabyddedig (h.y. Therapi Teulu/CBT/CAT)
- Gwybodaeth am y maes iechyd meddwl a phrofiad helaeth o weithio ynddo, gan gynnwys gyda phlant a phobl ifanc a phroblemau iechyd meddwl difrifol
- Gwybodaeth am y Dull Dewis a Phartneriaeth (CAPA) a phrofiad o weithio gyda'r dull hwn
- Gwybodaeth am Fesurau Iechyd Meddwl (Cymru) a WARRN
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad amlwg o ddefnyddio amrywiaeth o sgiliau gwaith cymdeithasol ar lefel olgymhwyso, a hynny mewn lleoliad gwaith cymdeithasol statudol ar gyfer plant a theuluoedd a/neu Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed
- Profiad o weithio yn rol Nyrs Gofrestredig/Ymarferydd mewn Gwasanaeth Iechyd Meddwl i Blant a'r Glasoed, ac yn amlygu'r cymwyseddau yn ol y gofyn
- Profiad o ymarfer diogelu, gweithio gyda phlant sy'n destun cynllun amddiffyn plant, a nodi a rheoli risg
- Profiad o fod wedi gweithio mewn modd therapiwtig gyda phlant a phobl ifanc sydd wedi cael profiadau cymhleth a thrawmatig yn gynnar yn eu bywyd
- Yn meddu ar y gallu i fodloni targedau gwasanaeth a bennwyd/y cytunwyd arnynt
- Y gallu i reoli eich llwyth achosion eich hun a'ch amser
- Yn amlygu safonau uchel o ran cyfathrebu ysgrifenedig
- Yn meddu ar y gallu i ysgrifennu adroddiadau a llythyrau clir at atgyfeirwyr
- Profiad o fonitro canlyniadau fel mater o drefn
Meini prawf dymunol
- Profiad o weithio mewn lleoliad amlddisgyblaethol ac o weithio gyda disgyblaethau proffesiynol gwahanol sy'n ymwneud a darparu iechyd, addysg a gofal cymdeithasol i blant a phobl ifanc
- Profiad o addysgu ac o gysylltu a grwpiau proffesiynol eraill
Sgiliau iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (lefel 1)
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Rachael Davies
- Teitl y swydd
- Locality Team Lead - Canolfan Gwili
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01267 674492
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Ddim yn derbyn ceisiadau mwyach
Ymddiheuriadau, ond nid yw'r swydd wag hon yn derbyn ceisiadau mwyach.
Gallwch chwilio am swyddi tebyg ar fwrdd swyddi'r cyflogwr, neu fynd i'n bwrdd swyddi cenedlaethol Health Jobs UK.