Mae Trac yn falch o bweru recriwtio ar gyfer
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Gwybodaeth
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd i boblogaeth o tua 372,320 ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. Mae'n darparu gwasanaethau Acìwt, Sylfaenol, Cymunedol, Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu trwy Ysbytai Cyffredinol a Chymunedol, Canolfannau Iechyd, Meddygfeydd Teulu, Deintyddion, Fferyllfeydd, Optometryddion a safleoedd eraill.
Cysylltu
- Address
- Glien House
- Cillefwr Industrial Estate
- Johnstown
- Carmarthen
- Carmarthenshire
- SA31 3RB
- Contact Number
- 0300 303 6138
Uwch-reolwr Cyflenwi Cynllunio, Sicrhau Ansawdd a Llywodraethu
Closed for applications on: 25-Ebr-2023 00:00
Statws y swydd wag: Closed
Closed for applications on: 25-Ebr-2023 00:00
Manylion allweddol
Lleoliad
- Gwefan
- Adeilad 7, Parc Dewi Sant
- Tref
- Caerfyrddin
- Cod post
- SA31 3BB
- Major / Minor Region
- Sir Gaerfyrddin
Math o gontract a phatrwm gwaith
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyflog
- Cyflog
- £56,164 - £65,262 Y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Gradd
- (NHS AfC: Band 8b)
Arbenigedd
- Prif leoliad
- Cynllunio, Sicrhau Ansawdd a Llywodraethu
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.
Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau.
Trosolwg o'r swydd
Bydd yr Uwch-reolwr Cyflenwi ar gyfer Cynllunio, Sicrhau Ansawdd a Llywodraethu yn ddarpar arweinydd ac yn uwch-gynrychiolydd o Dîm Uwch-reolwyr y Gwasanaethau Integredig.
Bydd deiliad y swydd yn cymryd rôl uwch-arweinydd wrth gefnogi'r Cyfarwyddwr System, y Pennaeth Gwasanaethau Integredig, yr Uwch-reolwyr Cyflenwi, y Nyrsys Arweiniol Clinigol a rheolwyr tîm eraill i gyflawni swyddogaeth fusnes yr adran. Bydd yn gweithio'n annibynnol gan ddarparu gwybodaeth arbenigol tra datblygedig i gyd-weithwyr, wedi'i hategi gan ddamcaniaeth a phrofiad, a hynny er mwyn arddel a hyrwyddo
gwasanaeth rhagorol bob amser ac amlygu uniondeb ac arweinyddiaeth.
Advert
Gan adrodd i'r Pennaeth Gwasanaethau Integredig, bydd gan ddeiliad y swydd gyfrifoldeb 'system gyfan' am gydlynu a gweithredu prosesau sy'n rhoi sicrwydd i'r Pennaeth Gwasanaeth mewn perthynas â sicrhau ansawdd, iechyd a diogelwch, perfformiad a chanlyniadau gwell i boblogaeth Sir Gaerfyrddin, yr Awdurdod Lleol a'n Bwrdd Iechyd.
Bydd yr Uwch-reolwr Cyflenwi yn goruchwylio'r elfennau ystadau, llywodraethu, perfformiad, adrodd, gwella, prosiect a digidol o ran cyflenwi gwasanaethau ar draws y sir, gan alinio â phartneriaid busnes corfforaethol allweddol.
Bydd deiliad y swydd hefyd yn cymryd rôl arweiniol wrth gymhwyso gwybodaeth am sicrwydd ansawdd a pherfformiad i broses gynllunio y Gwasanaethau Integredig, a hynny i sicrhau bod y 'busnes' yn cyd-fynd ag amcanion corfforaethol strategol a blaenoriaethau cynllunio. Bydd yn gweithredu'n annibynnol yn ôl yr angen er mwyn datblygu a chyflawni
amcanion ar gyfer model cymunedol gwell ac integredig ar draws ystod o safleoedd.
Bydd deiliad y swydd yn darparu gwasanaeth gweinyddu busnes cynhwysfawr, yn ogystal â swyddogaeth perfformiad a rheoli i'r gyfarwyddiaeth, a hynny trwy reoli tîm o Swyddogion Cymorth Busnes a staff gweinyddol/ysgrifenyddol cymunedol yn uniongyrchol.
Cyfeiriwch at y swydd-ddisgrifiad atodedig ar gyfer rolau a chyfrifoldebau ychwanegol.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 11,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth â’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
- Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;
- Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;
- 48 o bractisau cyffredinol (pedwar ohonynt yn bractisau a reolir), 47 practis deintyddol (gan gynnwys tri orthodontig), 99 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;
- Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Bydd y swydd yn un integredig yn gweithio i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Chyngor Sir Caerfyrddin.
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn Awdurdod Lleol sy'n gwasanaethu Sir Gaerfyrddin. Mae'n gyfrifol am yr holl wasanaethau a ddarperir ac a gomisiynir gan y Cyngor ar lefel sirol, ac mae'n un o'r cyflogwyr mwyaf a mwyaf amrywiol yn Ne-orllewin Cymru, gan gyflogi dros 9000 o bobl a darparu gwasanaethau ledled sir wledig i boblogaeth o tua 184,000
(Cyfrifiad 2011). Bydd cylch gwaith y swydd hon yn helpu i gyflawni swyddogaethau gofal cymdeithasol oedolion i bobl hŷn a phobl ag amrywiaeth o anableddau corfforol a phobl â nam ar eu synhwyrau.
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadu ar 04/05/2023.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir drwy gyfrwng y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau a wneir yn y Saesneg.
NODYN PWYSIG I YMGEISWYR: Mae ceisiadau am ein rolau yn cael eu hadolygu'n ofalus a'u rhoi ar restr fer yn seiliedig ar feini prawf penodol, sy'n amrywio o swydd i swydd. Efallai na fydd defnyddio cais generig i wneud cais am rolau lluosog neu ddibynnu ar wasanaethau ceisiadau deallusrwydd artiffisial awtomataidd, fel Lazy Apply neu AI Apply, yn darparu'r wybodaeth angenrheidiol, gan arwain at anwybyddu'ch cais. Er mwyn sicrhau bod eich cais yn cael ystyriaeth lawn, rydym yn argymell cyflwyno cais wedi'i deilwra sy'n mynd i'r afael yn uniongyrchol â'r meini prawf a restrir yn adran Manyleb y Person yr hysbyseb.
Trwy gyflwyno eich cais i NHS Jobs/Trac, rydych yn gydsynio i elfennau o ddata eich cais gael eu trosglwyddo i Gofnod Staff Electronig (ESR) y GIG a systemau diogel, mewnol Gweithlu’r GIG er mwyn cefnogi a rheoli eich recriwtio a’ch cyflogaeth o fewn y sefydliad sy’n eich cyflogi; i’w defnyddio gan yr adran Recriwtio at ddibenion gwirio eich Cofrestriad Proffesiynol ar-lein (lle bo’n briodol).
Mae’r prosesau hyn yn unol â phrosesu Teg a Chyfreithlon yn unol â Deddfwriaeth Diogelu Data cyfredol yn enwedig y rhai hynny mewn perthynas â’ch data personol neu bersonol sensitif (diffinir data personol sensitif fel unrhyw gyflwr iechyd meddwl neu gorfforol, tarddiad hiliol neu ethnig, cyfeiriadedd rhywiol, aelodaeth undeb llafur, barn wleidyddol neu gred crefyddol datganedig). Fel sefydliad, rydym yn sicrhau bod y ddeddfwriaeth sy’n diffinio cyfrinachedd yn cael ei dilyn megis y defnydd o ddata at ddibenion penodol, diffiniedig, a defnydd o ddata sy’n berthnasol ac nid yn ormodol wrth ymarfer cywirdeb data a diogelwch yr holl wybodaeth bersonol adnabyddadwy a gedwir.
Os cewch eich penodi’n llwyddiannus, trwy lenwi’r ffurflen gais rydych yn awdurdodi’r BIP i gael unrhyw fanylion gwasanaeth blaenorol i’r GIG yn cynnwys yr holl wybodaeth ar salwch a gedwir yn electronig, trwy’r broses Trosglwyddo Rhyng-awdurdod ar y Cofnod Staff Electronig.
I weithio yn y DU, mae angen nawdd ar bob ymgeisydd nad yw'n wladolyn o'r DU neu Weriniaeth Iwerddon i gael naill ai fisa Gweithiwr Iechyd a Gofal neu fisa Gweithiwr Medrus, oni bai bod gennych ganiatâd i weithio trwy lwybr arall. Dylai ymgeiswyr nad ydynt yn rhan o'r DU/Gweriniaeth Iwerddon sy'n dymuno gwneud cais hunanasesu'u tebygolrwydd o gael Tystysgrif Nawdd trwy ymweld â gwefan Fisâu a Mewnfudo'r DU. Os ydych chi'n gymwys i gael y fisa Iechyd a Gofal, mae'r costau ymgeisio yn is ac nid oes angen i chi dalu Gordal Iechyd Mewnfudo blynyddol.
Gofynion yr ymgeisydd
Manyleb y person
Cymwysterau, Hyfforddiant Galwedigaethol ac Aelodaeth Broffesiynol
Meini prawf hanfodol
- Gradd uwch ar lefel Meistr neu brofiad cyfatebol ar lefel uwch-reolwr
- Gradd uwch ar lefel Meistr neu brofiad cyfatebol ar lefel uwch-reolwr
Sgiliau a Chymwyseddau Cysylltiedig â Swydd
Meini prawf hanfodol
- Rhaid meddu ar y gallu a'r penderfyniad i gyflawni targedau ac amcanion mewn amgylchiadau heriol
- Rhaid i chi allu gwneud penderfyniadau rhesymegol
- Rhaid meddu ar y gallu i ddadansoddi a chyflwyno gwybodaeth i amrywiaeth eang o gynulleidfaoedd
- Rhaid meddu ar y gallu i gyfathrebu'n glir ar lafar ac yn ysgrifenedig, a hynny er mwyn dylanwadu'n gadarnhaol ar unigolion a chyfleu cyfarwyddiadau ac adborth yn glir
- Rhaid meddu ar sgiliau trafod cadarn
- Rhaid meddu ar y gallu i ddehongli canllawiau a deddfwriaeth mewn perthynas â'r rôl
- Rhaid meddu ar sgiliau bysellfwrdd safonol
Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Rhaid meddu ar ddealltwriaeth drylwyr o'r rôl a'i diben yn y sefydliad
- Rhaid meddu ar wybodaeth am strategaethau, polisïau a chynlluniau'r GIG, Awdurdodau Lleol, Llywodraeth Cymru a'r Bwrdd Iechyd, gan gynnwys polisïau adnoddau dynol
- Rhaid meddu ar wybodaeth gyfredol am arfer gorau, a gafwyd trwy wneud gwaith ymchwil personol
- Rhaid meddu ar wybodaeth fanwl am yr agenda gofal iechyd strategol sy'n ymwneud â chyflenwi gwasanaethau
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Rhaid meddu ar ymwybyddiaeth dda o gynllunio a datblygu a rhoi strategaethau ar waith
- Rhaid meddu ar ymwybyddiaeth dda o gynllunio a datblygu a rhoi strategaethau ar waith
- Rhaid meddu ar brofiad o reoli staff ac o weithio gydag Undebau Llafur staff/chynrychiolwyr staff
- Rhaid meddu ar brofiad sylweddol o reolaeth ariannol, ynghyd â gwybodaeth am sut i ddarparu cyllideb yn unol â tharged
- Rhaid meddu ar wybodaeth am sut i gyflawni prosiectau ac yn benodol, sut i reoli cwmpas a chyflawni yn unol ag amcanion y cytunwyd arnynt o ran ansawdd, cost ac amser
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Alex Williams
- Teitl y swydd
- Head of Integrated Services
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01267 228900
Ddim yn derbyn ceisiadau mwyach
Ymddiheuriadau, ond nid yw'r swydd wag hon yn derbyn ceisiadau mwyach.
Gallwch chwilio am swyddi tebyg ar fwrdd swyddi'r cyflogwr, neu fynd i'n bwrdd swyddi cenedlaethol Health Jobs UK.