Mae Trac yn falch o bweru recriwtio ar gyfer
Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru

Gwybodaeth
Croeso i Iechyd Cyhoeddus Cymru - asiantaeth iechyd cyhoeddus genedlaethol Cymru. Rydym yn bodoli i ddiogelu a gwella iechyd a llesiant a lleihau anghydraddoldebau iechyd i bobl yng Nghymru.
I gael gwybod mwy ewch i Iechyd Cyhoeddus Cymru a gwyliwch y fideo hwn am ein Cynllun Strategol
Dilynwch ni ar Twitter, Facebook, Linkedin a Instagram
Gweithio gyda'n gilydd, gydag ymddiriedaeth a pharch, i wneud gwahaniaeth
Ein diben yw ‘gweithio gyda'n gilydd ar gyfer Cymru iachach'. Rydym yn bodoli i helpu pawb yng Nghymru i fyw bywydau hirach, iachach. Gyda'n partneriaid, ein nod yw cynyddu disgwyliad oes iach, gwella iechyd a llesiant, a lleihau anghydraddoldebau i bawb yng Nghymru, nawr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Gyda'i gilydd, mae ein timau'n gweithio i atal clefyd, diogelu iechyd, a darparu arweinyddiaeth, gwasanaethau arbenigol ac arbenigedd iechyd cyhoeddus. Ni yw'r brif ffynhonnell o wybodaeth, ymchwil ac arloesedd iechyd cyhoeddus yng Nghymru.
Cysylltu
- Address
- No.2 Capital Quarter
- Tyndall Street
- Cardiff
- CF10 4BZ
- Contact Number
- 02921 500200
Mae newidiadau mewngofnodi ar ddod
O fis Gorffennaf 2025, bydd proses Dilysu Aml-Ffactor (MFA) yn cael ei chyflwyno i'r wefan hon. Bydd hyn yn ychwanegu cam ychwanegol at y broses mewngofnodi: bydd gofyn i chi fewnbynnu Cod Mynediad Untro (OTP) wrth i chi fewngofnodi i leihau twyll a sicrhau diogelwch. Gweler ein tudalen crynodeb yma am ragor o fanylion.
Pennaeth Nyrsio ar gyfer Heintiau sy'n gysylltiedig â Gofal Iechyd
Closed for applications on: 28-Meh-2023 00:00
Statws y swydd wag: Closed
Closed for applications on: 28-Meh-2023 00:00
Manylion allweddol
Lleoliad
- Gwefan
- Rhif 2 Capital Quarter
- Cyfeiriad
- Stryd Tyndall
- Tref
- Caerdydd
- Cod post
- CF10 4BZ
- Major / Minor Region
- Caerdydd
Math o gontract a phatrwm gwaith
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyflog
- Cyflog
- £80,786 - £93,164 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Gradd
- (Band 8d)
Arbenigedd
- Prif leoliad
- Atal a Rheoli Heintiau
Croeso i Iechyd Cyhoeddus Cymru, asiantaeth iechyd cyhoeddus genedlaethol Cymru
Ein gweledigaeth yw Gweithio i wireddu dyfodol iachach i Gymru
Am ragor o wybodaeth amdanom, ewch i’n tudalen hafan, darllenwch am ein cynllun strategol
Dilynwch ni ar Twitter, Facebook, LinkedIn and Instagram
Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg. I gefnogi ein gwasanaeth i Gymru gyfan, croesawn yn fawr ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.
Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau.
Trosolwg o'r swydd
Mae cyfle cyffrous wedi codi i Uwch-Nyrs Atal Heintiau, hynod frwdfrydig a phrofiadol i ymuno â Rhaglen HARP Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Dyma gyfle newydd i ymuno â sefydliad Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol i arwain y tîm nyrsio atal heintiau cenedlaethol o fewn rhaglen HARP.
Fel pennaeth nyrsio atal heintiau, bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am reoli ac am gyfeiriad strategol y tîm Atal a Rheoli Heintiau o fewn Rhaglen HARP, gan arwain y gwaith o gyflawni uchelgais 3 i Gymru, ‘Lleihau baich haint dynol’, yng nghynllun gweithredu cenedlaethol y DU ar gyfer Ymwrthedd i Wrthfiotigau (AMR), gan gynnwys galluogi a chynorthwyo iechyd a gofal yng Nghymru i leihau heintiau llif y gwaed sy’n adweithio'n negyddol i brofion Gram (GNBSI) a Heintiau sy’n gysylltiedig â Gofal Iechyd (HCAI).
Advert
Mae cydweithio'n ddeinamig ac yn effeithiol gyda’r arweinwyr strategol eraill yn HARP ar gyfer fferylliaeth wrthficrobaidd, epidemioleg, a goruchwyliaeth wrth ddatblygu cynlluniau cydlynol i Gymru, yn allweddol i’r rôl hon.
Bydd deiliad y swydd hefyd yn darparu arweinyddiaeth genedlaethol a gwybodaeth arbenigol ym maes atal a rheoli heintiau. Fe fydd yn ddisgwyliedig i chi gynghori a chefnogi’r gwasanaethau iechyd a gofal yng Nghymru i leihau ar yr heintiau sy’n gysylltiedig a gofal iechyd. Byddwch yn cynghori Llywodraeth Cymru ac yn cydweithio’n agos â swyddfa’r Prif Swyddog Nyrsio a Gweithrediaeth GIG Cymru sydd newydd ei sefydlu. Byddwch hefyd yn dangos arweinyddiaeth allanol ragorol ac yn cyfrannu eich gwybodaeth am atal a rheoli heintiau i ddatblygu strategaethau i’w gweithredu yng Nghymru a thrwy gydweithio ar draws gwledydd y DU a mentrau rhyngwladol.
Bydd y swydd yn cael ei chynnal o fewn yr adran Diogelu Iechyd a Gwasanaethau Sgrinio, a’i lleoli ym mhencadlys Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn ein swyddi newydd yng nghanol Caerdydd, Capital Quarter 2, sydd ond taith gerdded fer o Orsaf reilffordd Caerdydd Canolog.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a / neu Saesneg wneud cais.
Gweithio i'n sefydliad
Iechyd Cyhoeddus Cymru yw Sefydliad Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol Cymru. Ein gweledigaeth yw 'Gweithio i gyflawni dyfodol iachach i Gymru'. Rydym yn chwarae rhan ganolog wrth ysgogi gwelliannau yn iechyd a llesiant y boblogaeth, lleihau anghydraddoldebau iechyd, gwella canlyniadau gofal iechyd, diogelu'r cyhoedd a chefnogi'r gwaith o ddatblygu iechyd ym mhob polisi ledled Cymru.
Nid yw iechyd cyhoeddus erioed wedi bod mor bwysig wrth i ni ddod drwy bandemig y Coronafeirws, wynebu heriau'r argyfwng costau byw a mynd i'r afael ac atal effeithiau niweidiol newid hinsawdd. Rydym yn sefydliad sy'n rhoi ein hunain wrth wraidd cefnogi pobl, cymunedau, partneriaid a Llywodraeth Cymru wrth fynd i'r afael â'r heriau mawr hyn a darparu atebion ar gyfer gweithredu.
Caiff ein sefydliad ei arwain gan ein gwerthoedd “Cydweithio, gydag ymddiriedaeth a pharch, i wneud gwahaniaeth”. Rydym wedi ymrwymo i greu gweithle cynhwysol sy'n rhoi gwerth ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Rydym yn croesawu ceisiadau sy'n cynrychioli amrywiaeth gyfoethog y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu a chan y rhai sy'n dymuno gweithio'n rhan amser neu rannu swydd.
I ddarganfod mwy am weithio i ni a'r buddion rydym yn eu cynnig, ewch i Gyrfaoedd - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)
I gael arweiniad ar y broses ymgeisio, ewch i Gwybodaeth a Chanllawiau i Ymgeiswyr - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Bydd deiliad y swydd yn:
Cymryd cyfrifoldeb dros wneud penderfyniadau clinigol arbenigol annibynnol a chyfarwyddo’r cyngor arbenigol a gynigir i gynorthwyo’r Byrddau Iechyd/Ymddiriedolaethau gyda chlystyrau neu ddigwyddiadau/brigiadau o heintiau.
Datblygu a chyfleu’r weledigaeth ar gyfer rôl arloesi, datblygu strategaeth effeithiol a chydlynol a pholisïau gweithredol i gefnogi’r weledigaeth hon ar draws yr economi iechyd yn ei chyfanrwydd.
Sbarduno arloesedd mewn methodolegau a thechnoleg newydd ar gyfer IPC drwy gydweithio â phartneriaid – er enghraifft Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (NWSSP), Baxter (ICNET), Cymdeithas Ymarfer Aseptig Diogel (ASAP), Labordy Profi Deunyddiau Llawfeddygol (SMTL) ac ati.
Darparu arweinyddiaeth glinigol wrth ddatblygu strategaethau priodol i ymgysylltu’n effeithiol â rhanddeiliaid allweddol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, a gofyn am gyfraniad a barn defnyddwyr gwasanaeth a dinasyddion ar atal HCAI.
Goruchwylio trefniadau llywodraethu a diogelwch ar gyfer ymweliadau clinigol neu sefydliadol sydd wedi cael eu trefnu.
Cyfrannu arbenigedd at y broses o gynllunio a chynnal cyfarfodydd allweddol yn HARP ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, a’r rheini sy’n mynd i’r afael â’r agenda genedlaethol gyda rhanddeiliaid – ee fforwm HCAI, Byrddau Cyflawni Ymwrthedd i Wrthfiotigau a HCAI ac ati.
Helpu arweinwyr nyrsio HARP i ddarparu a chefnogi rhaglenni gwella ar draws yr economi gofal iechyd i leihau HCAI.
Gyrru’r strategaeth ar gyfer cefnogi a sicrhau cysondeb ar draws y system gan hyrwyddo dull gweithredu ‘Unwaith i Gymru’ ac ‘mae pob cyswllt yn cyfrif’.
Arwain y gwaith o ddiwygio a chefnogi newid sefydliadol a’r defnydd o fentrau sy’n cefnogi rhagoriaeth ym maes Atal a Rheoli Heintiau (IP&C) a lleihau HCAI.
Cydweithio â llunwyr polisi strategol allweddol ar lefel ranbarthol, genedlaethol a’r DU i lywio’r gwaith o ddatblygu strategaethau a pholisïau.
Nodi enghreifftiau o arferion gorau ar lefel genedlaethol a rhyngwladol, a sicrhau bod GIG Cymru yn elwa o ddatblygiadau arloesol perthnasol ym maes gofal iechyd.
Cefnogi’r defnydd o newid ymddygiad a’r theori ffactor dynol wrth wella’r broses IP&C.
Cefnogi’r gwaith o ddatblygu seilwaith arloesi yn unol â chapasiti mewn sefydliadau.
Arwain a hyrwyddo mentrau neu brosiectau newydd yn ôl yr angen.
Gweithio gydag AaGIC, darparwyr ac arbenigwyr clinigol i ddylunio cynnyrch hyfforddi newydd, ac i wella’r broses o ddysgu gwersi ar lefel genedlaethol ym maes IP&C ar gyfer yr holl grwpiau staff.
Cynghori cyrff arolygiaeth – ee, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC), Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) – ar y safonau a ddisgwylir ar gyfer IP&C drwy osod.
Darparu arbenigedd ar fethodolegau arferion gorau, gofynion rheoleiddio, hanfodion polisi i gefnogi gwybodaeth rhanddeiliaid.
Cychwyn, arwain a chymryd rhan mewn ymchwil a gwerthuso tystiolaeth.
Cydweithio â gwledydd y DU i ddatblygu polisi ac arferion gorau, gan gynrychioli budd pennaf Cymru ar yr un pryd.
Cyfrannu at y gwaith o ddatblygu’r cynnwys a’r adnoddau sydd ar gael ar gyfer tudalennau gwe HARP a gyrru’r gwaith hwnnw, ac archwilio cyfleoedd yn y cyfryngau i hyrwyddo IP&C.
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac
Ceidw Iechyd Cyhoeddus Cymru yr hawl i gau’r swydd wag hon yn gynnar. Felly rydym yn annog ceisiadau cynnar.
Rhoddir blaenoriaeth i staff sy’n aros i gael eu hadleoli. Rydym yn cadw’r hawl felly i dynnu’r hysbyseb hon yn ôl ar unrhyw adeg.
Os oes gennych anabledd a bod gennych unrhyw anghenion penodol i'ch galluogi i gymryd rhan yn y broses ymgeisio, cysylltwch â [email protected]
NODYN PWYSIG I YMGEISWYR: Mae ceisiadau am ein rolau yn cael eu hadolygu'n ofalus a'u rhoi ar restr fer yn seiliedig ar feini prawf penodol, sy'n amrywio o swydd i swydd.
Ni fydd defnyddio cymhwysiad generig neu gymhwysiad AI awtomatig, fel Lazy Apply neu AI Apply, fel arfer yn darparu digon o dystiolaeth bersonol o'ch sgiliau a'ch profiad sy’n berthnasol i'r rôl. Gall hyn ei gwneud hi'n anodd i ni asesu eich addasrwydd a bydd yn lleihau eich siawns o gael eich rhoi ar y rhestr fer.
Er mwyn sicrhau bod eich cais yn cael ystyriaeth lawn, rydym yn argymell eich bod yn cyflwyno cais wedi'i deilwra sy'n mynd i'r afael yn uniongyrchol â'r meini prawf a restrir yn adran Manyleb y Person yr hysbyseb, gan ddarparu tystiolaeth glir ac enghreifftiau i ddangos sut rydych chi'n bodloni pob gofyniad.
Cymhwysedd ar gyfer Nawdd Fisa
- Os oes angen nawdd arnoch drwy lwybrau Fisa Gweithiwr Medrus neu Fisa Gweithiwr Iechyd a Gofal, gwnewch yn siŵr eich bod yn hunanasesu eich cymhwysedd i gael nawdd ar gyfer y rôl hon cyn gwneud cais.
- Gwiriwch y canllawiau fisa Gweithiwr Medrus neu'r canllawiau fisa Gweithiwr Iechyd a Gofal am fanylion ynghylch cymhwysedd swydd, cyflog, yr iaith Saesneg, a gofynion nawdd.
Os byddwch yn llwyddiannus ac os cewch eich dewis ar gyfer y rhestr fer am gyfweliad, cysylltir â chi ar e-bost gan ddefnyddio’r cyfeiriad a ddefnyddiwyd gennych i gofrestru. Sicrhewch eich bod yn edrych ar eich cyfrif e-bost yn rheolaidd.
Rydym wedi ymrwymo i recriwtio teg a thryloyw ac rydym yn credu mewn cyfle cyfartal yn ein gweithle. Ni fyddwn yn goddef gwahaniaethu ar sail oedran, anabledd, hunaniaeth rywiol, crefydd neu gred, hil neu genedligrwydd, priodas neu bartneriaeth sifil, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, patrwm gwaith, cyfrifoldebau gofalu, gweithgarwch gydag undebau llafur neu gredoau gwleidyddol – nac ar unrhyw sail arall. Croesawn geisiadau gan unigolion a ddymunent weithio’n rhan-amser neu wneud cais i rannu swydd.
I weithio yn y DU, mae angen nawdd ar bob ymgeisydd nad yw'n wladolyn o'r DU neu Weriniaeth Iwerddon i gael naill ai fisa Gweithiwr Iechyd a Gofal neu fisa Gweithiwr Medrus, oni bai bod gennych ganiatâd i weithio trwy lwybr arall. Dylai ymgeiswyr nad ydynt yn rhan o'r DU/Gweriniaeth Iwerddon sy'n dymuno gwneud cais hunanasesu'u tebygolrwydd o gael Tystysgrif Nawdd trwy ymweld â gwefan Fisâu a Mewnfudo'r DU. Os ydych chi'n gymwys i gael y fisa Iechyd a Gofal, mae'r costau ymgeisio yn is ac nid oes angen i chi dalu Gordal Iechyd Mewnfudo blynyddol.
Mae'r raddfa gyflog a ddangosir ar gyfer aelod o staff llawn amser, a chaiff y swm ei addasu pro rata ar gyfer y rhai sy'n gweithio llai na 37.5 awr yr wythnos.
Cytunwyd ar y raddfa gyflog uchod fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2025/2026 a chaiff ei weithredu ym mis Awst 2025 gydag ôl-ddyddio i 1af Ebrill 2025 lle bo'n berthnasol.
Yn gyffredinol, bydd unrhyw un sy'n ymuno â'n Hymddiriedolaeth nad yw wedi gweithio yn y GIG o'r blaen, yn cychwyn ar bwynt cyntaf y band tâl a hysbysebir yn awtomatig. Yna bydd datblygiad cyflog yn cael ei bennu gan Adolygiadau Perfformiad a Datblygu blynyddol yn unol â Pholisi Datblygiad Cyflog GIG Cymru. Gellir ystyried cais am Gredyd Cynyddol, ond dim ond ar sail gwasanaeth cyfrifadwy â thystiolaeth a/neu brofiad cyfatebol, perthnasol y gellir ei ddyfarnu.
Gofynion yr ymgeisydd
Manyleb y person
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- Nyrs Gofrestredig lefel un
- Gradd Meistr berthnasol (180 credyd ar lefel 7) neu gymhwyster Cyfatebol
- Cymhwyster addysgu ol-radd (ENB 998/C&G 7307, TAR neu gymhwyster cyfatebol)
- Cymhwyster cydnabyddedig mewn Atal a Rheoli Heintiau neu gymhwyster tebyg (lefel 6 neu uwch)
- Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus
- Gwobr efydd Gwella Ansawdd Gyda’n Gilydd neu brofiad / cymhwyster Gwella Ansawdd
- Cymhwyster ym maes Arweinyddiaeth a/neu Reoli
Meini prawf dymunol
- Tystiolaeth o ddatblygu ymarfer ar lefel uwch mewn maes arbenigol
- Gwobr arian Gwella Ansawdd Gyda’n Gilydd neu hyfforddiant gwella perthnasol
- Tystiolaeth o hyfforddiant stiwardiaeth, gwrthficrobaidd
- PhD mewn pwnc cysylltiedig neu barodrwydd i wneud hynny
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad helaeth o arwain a rheoli
- Profiad helaeth o syntheseiddio a dadansoddi data’n feirniadol
- Gwybodaeth a phrofiad amlwg o nodi elfennau lle mae angen datblygu polisi
- Dangos y gallu i arwain rhaglen waith ar gyfer Heintiau sy'n gysylltiedig a Gofal Iechyd
- Profiad helaeth o ymgysylltu a chleifion/y cyhoedd
- Profiad helaeth o sgiliau cyflwyno i amrywiaeth o gynulleidfaoedd, yn ffurfiol ac yn anffurfiol
- Profiad amlwg o wneud penderfyniadau cymhleth
- Gallu gweithio fel arbenigwr annibynnol yn rheolaidd
- Profiad o waith aml-broffesiwn/aml-asiantaeth
- Gallu syntheseiddio a dadansoddi tystiolaeth yn feirniadol
- Profiad o weithio ar draws ffiniau/gwlad
- Profiad o fonitro a rheoli perfformiad
- Arbenigedd ar bwnc IPC / Heintiau sy'n gysylltiedig a Gofal Iechyd ar draws nifer o feysydd allweddol: Profiad sylweddol o reoli ar lefel uwch yn y GIG neu mewn diwydiant arall sy’n gysylltiedig a gofal iechyd cyhoeddus – lefel Band 8. Profiad amlwg o arwain a darparu rhaglenni datblygu strategaeth a newid cymhleth ar draws ymddiriedolaeth mewn amgylchedd gwleidyddol sensitif a chymhleth; Hanes llwyddiannus o drosglwyddo prosesau a rolau rhwng lleoliadau; Profiad a dealltwriaeth sylweddol o roi methodolegau rheoli prosiectau ar waith; Darparu rhaglenni gwella ansawdd wedi’u profi sy’n canolbwyntio ar wella gofal cleifion, a phrofiad sylweddol o hynny
Meini prawf dymunol
- Profiad o arwain prosiectau proffesiynol
- Profiad sylweddol o reoli’r broses Atal a Rheoli Heintiau ar draws amrywiaeth o leoliadau
- Profiad sylweddol o reoli newid a gwella ansawdd
- Profiad o arwain/cymryd rhan mewn ymchwil
- Rheoli pobl
- Profiad o asesu hyfforddiant/addysgu
- Cysylltiadau a’r byd academaidd
- Tystiolaeth neu gyhoeddiadau
Sgiliau
Meini prawf hanfodol
- Gallu dangos sefyllfaoedd lle mae sgiliau arwain a rheoli effeithiol wedi cael eu defnyddio i wella gofal ac ymarfer
- Sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu rhagorol
- Gallu cynrychioli tim a chydweithio a sefydliadau proffesiynol eraill
- Gallu arloesi, arwain a gweithredu newid
- Gallu ymgysylltu ag eraill a’u cymell
- Gallu cydweithio’n fedrus
- Sgiliau datrys problemau
- Sgiliau TG (prosesu geiriau, PowerPoint, taenlenni a data) a defnyddio cronfeydd data arbenigol
- Sgiliau pwyso a mesur
- Sgiliau cyfathrebu effeithiol iawn gyda gweithwyr gofal iechyd/cleifion/defnyddwyr gwasanaeth
- Gallu gweithio mewn modd digynnwrf ac effeithlon mewn sefyllfaoedd â llwyth gwaith eithafol
- Hyderus wrth gyflwyno gwybodaeth i amrywiaeth o gynulleidfaoedd lleol a chenedlaethol
- Sgiliau amlwg ym maes rheoli pobl
- Gallu ysgogi, cyd-drefnu ac arwain ar ystod o weithgareddau HARP sy’n cynnwys gweithwyr proffesiynol ac asiantaethau eraill
- Gallu blaenoriaethu ei lwyth gwaith ei hun a llwyth gwaith ei dîm yn effeithiol er mwyn cyrraedd targedau’r rhaglen waith
- Sgiliau cyflwyno llafar ac adrodd effeithiol iawn ar lafar ac ar bapur
- Gallu datblygu cysylltiadau cryf a gweithio ar y cyd ag eraill yn y GIG a thu hwnt ac mewn gwledydd eraill
- Gallu ymateb i lwyth gwaith annisgwyl a chadw at derfynau amser
- Gallu dirprwyo a blaenoriaethu gwaith a’r tîm
- Gallu dadansoddi gwaith ymchwil yn feirniadol a’i roi ar waith yn ymarferol
- Bod yn esiampl
- Bod yn gefnogol o uwch gydweithwyr nyrsio
Meini prawf dymunol
- Tystiolaeth o gyhoeddi gwaith gwyddonol yn ffurfiol, creu posteri neu gyflwyniadau llafar
- Yn graff yn ariannol/yn ymwybodol o faterion busnes
- Arwain cyfarfodydd cenedlaethol yn hyderus ac yn fedrus
Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Gymarferol a damcaniaethol arbenigol helaeth ym maes Atal a Rheoli Heintiau a lleihau Heintiau sy’n gysylltiedig a Gofal Iechyd
- Gwybodaeth sylweddol a manwl am ffactorau sbarduno yng nghyswllt Ymwrthedd i Wrthfiotigau a Heintiau sy'n gysylltiedig â Gofal Iechyd, a disgwyliadau Llywodraeth Cymru
- Gwybodaeth sylweddol a manwl am y camau gweithredu a’r canlyniadau sy’n ofynnol i gyflawni uchelgeisiau Cynllun Gweithredu Cenedlaethol y DU a disgwyliadau Llywodraeth Cymru o ran lleihau, a rol arweinwyr rhaglenni eraill HARP
- Tystiolaeth o brofiad perthnasol sylweddol o arwain
- Gwybodaeth a phrofiad manwl o gefnogi a rheoli brigiadau a digwyddiadau
- Gwybodaeth fanwl am yr ymyriadau clinigol allweddol sydd eu hangen i leihau Ymwrthedd i Wrthfiotigau a Heintiau sy'n gysylltiedig â Gofal Iechyd
- Gwybodaeth a dealltwriaeth gadarn o ymarfer uwch
- Dealltwriaeth o ymarfer sy’n seiliedig ar dystiolaeth a chymhwyso hynny i leihau heintiau sy’n gysylltiedig â gofal iechyd, a rhagnodi cyffuriau gwrthficrobaidd yn briodol
- Gwybodaeth a dealltwriaeth gadarn o faterion nyrsio proffesiynol ehangach
- Gwybodaeth ymarferol am bolisïau/gweithdrefnau AD priodol
- Gallu dirprwyo ar ran uwch arweinydd os oes angen
Meini prawf dymunol
- Dealltwriaeth o fframweithiau strategol sefydliadol a’r ffordd o’u gweithredu
- Gwybodaeth a dealltwriaeth o ddefnyddio’r ffactorau sbarduno i leihau heintiau sy’n gysylltiedig a gofal iechyd mewn gwahanol leoliadau iechyd a gofal cymdeithasol
- Gwybodaeth gadarn am amcan strategol Iechyd Cyhoeddus Cymru sy’n ymwneud a ‘diogelu’r cyhoedd rhag heintiau a bygythiadau amgylcheddol’
- Cyfrannu at faterion nyrsio proffesiynol
- Profiad o gynllunio gweithlu
- Gwybodaeth gadarn am y strwythur nyrsio o fewn Iechyd Cyhoeddus Cymru
Nodweddion Personol
Meini prawf hanfodol
- Gallu cymell ei hun
- Prydlon a dibynadwy iawn
- Gallu gweithio’n annibynnol ac fel aelod o dîm HARP
- Proffesiynol ac agos-atoch
- Gwerthfawrogi cyfraniad eu tîm
- Yn annibynnol yn broffesiynol
- Dyfeisgar ac yn barod i addasu
- Hyderus a gwreiddiol
- Gallu dangos tact a diplomyddiaeth wrth weithio gydag eraill
- Gallu datrys gwrthdaro yn fedrus
- Cydnabod amrywiaeth ac anghenion diwylliannol pobl eraill
Meini prawf dymunol
- Siarad Cymraeg
Arall
Meini prawf hanfodol
- Gallu teithio ledled Cymru a gwledydd y DU pan fydd angen, ac yn rhyngwladol yn ol yr angen
- Gallu a pharodrwydd i deithio’n brydlon rhwng ac i leoliadau Iechyd a gofal cymdeithasol yn rheolaidd
- Gallu gweithio oriau hyblyg i ddiwallu anghenion y gwasanaeth
- Parodrwydd i weithio gartref drwy gytundeb a’r rheolwr llinell a pholisi Iechyd Cyhoeddus Cymru
Dogfennau
- Saesneg Swydd Ddisgrifiad (PDF, 672.3KB)
- Saesneg Manyleb y Person (PDF, 816.3KB)
- Cymraeg Swydd Ddisgrifiad (PDF, 672.3KB)
- Cymraeg Manyleb y Person (PDF, 712.3KB)
- Hyderus o Ran Anabledd Arweinydd (PDF, 180.8KB)
- Canllawiau ar gyfer Ymgeiswyr (PDF, 278.7KB)
- Ein Rhwydweithiau Amrywiaeth (PDF, 330.6KB)
- Gwasanaethau Recriwtio Hysbysiad Preifatrwydd (PDF, 696.3KB)
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Dr Eleri Davies
- Teitl y swydd
- Deputy Medical Director & SRO for HARP programme
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Am fanylion pellach neu i drefnu trafodaeth anffurfiol cysylltwch [email protected] (Cynorthwyydd Gweithredol i Dr Eleri Davies)
Ddim yn derbyn ceisiadau mwyach
Ymddiheuriadau, ond nid yw'r swydd wag hon yn derbyn ceisiadau mwyach.
Gallwch chwilio am swyddi tebyg ar fwrdd swyddi'r cyflogwr, neu fynd i'n bwrdd swyddi cenedlaethol Health Jobs UK.