Mae Trac yn falch o bweru recriwtio ar gyfer
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Gwybodaeth
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd GIG i bobl sy’n byw yn Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion, a siroedd sy’n ffinio.
Mae gennym dros 13,000 o staff a gyda’n gilydd rydym yn darparu gwasanaethau cynradd, cymuned, yn yr ysbyty, iechyd meddwl ac anghenion dysgu.
Gweithiwn mewn partneriaeth gyda’r tri awdurdod lleol, yn ogystal â chydweithwyr cyhoeddus, preifat a trydydd sector, a hefyd ein tîm o wirfoddolwyr gwerthfawr.
Darperir ein gwasanaethau yn:
- Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth; Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin; Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli; ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd
- Pum ysbyty cymunedol: Ysbytai Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gâr; Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion; ac Ysbytai Dinbych y Pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro
- Dau ganolfan gofal integredig: Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a nifer o safleoedd cymunedol arall
- 47 o bractisiau cyffredinol (chwech ohonynt a rheolir gan y Bwrdd Iechyd); practisau deintyddol (gan gynnwys pedwar orthodontig); 99 o fferyllfeydd cymunedol; 43 o bractisau offthalmig cyffredinol; ac 8 o ddarparwyr offthalmig cartref
- Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu
Cysylltu
- Address
- Glien House
- Cillefwr Industrial Estate
- Johnstown
- Carmarthen
- Carmarthenshire
- SA31 3RB
- Contact Number
- 0300 303 6138
Rheolwr Amrywiaeth a Chynhwysiant
Closed for applications on: 6-Tach-2023 00:02
Statws y swydd wag: Closed
Closed for applications on: 6-Tach-2023 00:02
Manylion allweddol
Lleoliad
- Gwefan
- Llanelli, Caerfyrddin, Hwlffordd, Ceredigion
- Tref
- Llanelli, Caerfyrddin, Hwlffordd, Ceredigion
- Cod post
- SA14 8QF
- Major / Minor Region
- Sir Gaerfyrddin
Math o gontract a phatrwm gwaith
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser
- Rhan-amser
Cyflog
- Cyflog
- £51,706 - £58,210 y flwyddyn (pro rata os rhan amser)
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Gradd
- (Gradd 8a)
Arbenigedd
- Prif leoliad
- Partneriaethau Strategol, Amrywiaeth a Chynhwysiant
- Dyddiad y cyfweliad
- 15/11/2023
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Mae'r swydd hon yn rhan annatod o'r swyddogaeth Partneriaethau Strategol, Amrywiaeth a Chynhwysiant, ac yn hybu, hyrwyddo ac arwain rhaglenni gwaith cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ledled y Bwrdd Iechyd i sicrhau cydraddoldeb i staff, cleifion a defnyddwyr y gwasanaeth.
Bydd deiliad y swydd yn arwain ac yn cydgysylltu'r gwaith o ddatblygu strategaethau a pholisïau i gefnogi proses y Bwrdd Iechyd o lywodraethu cydraddoldeb a hybu camau gweithredu i leihau anghydraddoldebau mewn canlyniadau iechyd.
Bydd deiliad y swydd yn darparu mewnbwn arbenigol yn ymwneud â rheoli cydraddoldeb, cydymffurfio â deddfwriaeth a gofynion gorfodol eraill, a hynny mewn perthynas â Deddf Cydraddoldeb 2010, Deddf Hawliau Dynol 1998 a Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011, a’r Ddyletswydd Economaidd-Gymdeithasol, fel bod y Bwrdd Iechyd yn bodloni'r safonau ymarfer uchaf.
Advert
Bydd y rôl yn darparu cefnogaeth uniongyrchol i Gyfarwyddwr Cynorthwyol Partneriaethau Strategol, Amrywiaeth a Chynhwysiant, y Pennaeth Partneriaethau, Amrywiaeth a Chynhwysiant, cadeiryddion rhwydweithiau cymorth staff ac uwch-reolwyr eraill yng nghyfarwyddiaeth y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol yn eu rôl arwain.
Mae'r swydd yn gofyn am gysylltiadau cryf â phartneriaid mewnol ac allanol, e.e. bydd y Tîm Ymgysylltu a'r Tîm Cyfathrebu, Cynllunio Strategol, Partneriaethau Rhanbarthol ac Ardaloedd yn allweddol i'r rôl.
Bydd y rôl yn cynnwys cydgysylltu'r trefniadau monitro sy'n ofynnol gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, a bod yn un o'r Arweinwyr i adrodd ar gydymffurfedd â'r Safonau Gofal Iechyd o ran cydraddoldeb, a hynny'n rhan o'r prosesau asesu blynyddol.
Bydd y rôl yn hybu'r broses o ysgogi gwelliannau mewn arferion cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, a gwelliant parhaus o ran cydymffurfio â gofynion statudol a gorfodol.
Bydd deiliad y swydd yn annog gwelliannau amlwg yng nghanlyniadau cleifion a staff ac yn defnyddio ei brofiad trwy ddarparu arweinyddiaeth weladwy ragweithiol mewn prosiectau, gan gynnwys y rhai sydd â'r nod o leihau anghydraddoldebau iechyd.
Mae'r rôl yn gofyn am weithiwr proffesiynol hynod o brofiadol a medrus sy'n meddu ar y cymwysterau priodol, ynghyd â phrofiad sylweddol o weithio ym maes cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, a chanddo ddealltwriaeth drylwyr o'r cyd-destun polisi a deddfwriaethol.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 11,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;
Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;
48 o bractisau cyffredinol (pedwar ohonynt yn bractisau a reolir), 47 practis deintyddol (gan gynnwys tri orthodontig), 99 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;
Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
A ydych yn ymarferydd cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant profiadol?
A hoffech fod yn rhan o dîm bach dynamig sy'n gweithio mewn partneriaeth ar draws y rhanbarth i wella canlyniadau a phrofiadau i'n poblogaeth?
A oes gennych y profiad eang y mae ei angen i reoli'r tîm sy'n gyfrifol am gydlynu a hyrwyddo camau gweithredu i hybu cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant mewn sefydliad sector cyhoeddus mawr sy'n cwmpasu ardal ddaearyddol fawr?
Mae cyfle cyffrous wedi dod ar gael i ymuno â'n tîm yn rôl Rheolwr Amrywiaeth a Chynhwysiant. Yn y rôl hon byddwch yn llysgennad dros greu diwylliant sefydliadol cadarnhaol, ynghyd â hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ar gyfer staff, defnyddwyr gwasanaethau, gofalwyr a'n poblogaeth ehangach.
Bydd deiliad y swydd yn rheoli tîm o staff arbenigol y mae ganddynt rôl o ddarparu cyngor ar strategaeth a pholisi gan eu bod yn arbenigwyr mewnol ar faterion cydraddoldeb ac amrywiaeth.
Bydd gan ddeiliad y swydd y profiad y mae ei angen i weithio gydag ystod o dimau clinigol ac anghlinigol, gan eu cynghori ar y broses o gynnal asesiadau effaith ar gydraddoldeb sy'n ofynnol i gefnogi datblygiad gwelliannau neu drawsnewidiadau i wasanaethau neu bolisïau sefydliadol. Bydd deiliad y swydd hefyd yn arwain y broses o ddatblygu a darparu hyfforddiant meithrin ymwybyddiaeth mewn sesiynau sefydlu corfforaethol ac i staff ledled ystod eang o ddisgyblaethau, a all hefyd gynnwys sefydliadau
partner. Yn ogystal â hyn, mae'r tîm yn comisiynu cyngor a chymorth arbenigol i feysydd gwasanaeth a thimau, ac yn chwarae rhan allweddol yn y broses o hwyluso ymgysylltiad â rhanddeiliaid a grwpiau â nodweddion gwarchodedig i sicrhau bod llais staff, defnyddwyr gwasanaethau, teuluoedd, gofalwyr a'r boblogaeth ehangach yn cael ei ystyried a'i
ddefnyddio i siapio dyfodol gwasanaethau. Bydd hyn yn golygu gweithio'n agos gyda'r Tîm Ymgysylltu i hyrwyddo a meithrin cysylltiadau ledled yr holl grwpiau gwarchodedig, yn enwedig â'r rhai sydd, yn draddodiadol, yn profi allgáu neu ymyleiddio.
Mae'r portffolio yn amrywiol ac yn gyfnewidiol gan ei fod yn ymateb i flaenoriaethau a meysydd gwaith sy'n dod i'r amlwg.
Rydym yn chwilio am rywun sy'n gallu amlygu sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig rhagorol, ac sydd â'r medr i drafod a dylanwadu ar bob lefel. Bydd yn rhaid i ddeiliad llwyddiannus y swydd allu gweithio'n dda yn rhan o dîm ond hefyd fod â'r gallu i weithio'n annibynnol a blaenoriaethu er mwyn medru cyflawni yn unol â therfynau amser cytunedig. Bydd angen i chi feddu ar ymagwedd hyblyg at waith, gan fod yn barod i addasu a chroesawu newid a chynnydd. Mae gwybodaeth arbenigol am y cyd-destun polisi a
deddfwriaethol yn hanfodol, ynghyd ag angerdd dros wella cydraddoldeb a hawliau dynol.
Mae hon yn swydd lawn-amser am 37.5 awr yr wythnos, gyda pheth gwaith gyda'r nos neu ar benwythnosau i gefnogi gweithgareddau ymgysylltu â'r gymuned.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg, fel ei gilydd, wneud cais.
Anogir ymgeiswyr sydd â diddordeb i ffonio i gael rhagor o wybodaeth er mwyn deall cwmpas y rôl yn llawn.
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd-ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn yn y dogfennau ategol, neu cliciwch ar “Gwneud cais 'nawr” i'w gweld yn Trac.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadu ar 15/11/2023.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir drwy gyfrwng y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau a wneir yn y Saesneg.
NODYN PWYSIG I YMGEISWYR: Mae ceisiadau am ein rolau yn cael eu hadolygu'n ofalus a'u rhoi ar restr fer yn seiliedig ar feini prawf penodol, sy'n amrywio o swydd i swydd. Efallai na fydd defnyddio cais generig i wneud cais am rolau lluosog neu ddibynnu ar wasanaethau ceisiadau deallusrwydd artiffisial awtomataidd, fel Lazy Apply neu AI Apply, yn darparu'r wybodaeth angenrheidiol, gan arwain at anwybyddu'ch cais. Er mwyn sicrhau bod eich cais yn cael ystyriaeth lawn, rydym yn argymell cyflwyno cais wedi'i deilwra sy'n mynd i'r afael yn uniongyrchol â'r meini prawf a restrir yn adran Manyleb y Person yr hysbyseb.
Trwy gyflwyno eich cais i NHS Jobs/Trac, rydych yn gydsynio i elfennau o ddata eich cais gael eu trosglwyddo i Gofnod Staff Electronig (ESR) y GIG a systemau diogel, mewnol Gweithlu’r GIG er mwyn cefnogi a rheoli eich recriwtio a’ch cyflogaeth o fewn y sefydliad sy’n eich cyflogi; i’w defnyddio gan yr adran Recriwtio at ddibenion gwirio eich Cofrestriad Proffesiynol ar-lein (lle bo’n briodol).
Mae’r prosesau hyn yn unol â phrosesu Teg a Chyfreithlon yn unol â Deddfwriaeth Diogelu Data cyfredol yn enwedig y rhai hynny mewn perthynas â’ch data personol neu bersonol sensitif (diffinir data personol sensitif fel unrhyw gyflwr iechyd meddwl neu gorfforol, tarddiad hiliol neu ethnig, cyfeiriadedd rhywiol, aelodaeth undeb llafur, barn wleidyddol neu gred crefyddol datganedig). Fel sefydliad, rydym yn sicrhau bod y ddeddfwriaeth sy’n diffinio cyfrinachedd yn cael ei dilyn megis y defnydd o ddata at ddibenion penodol, diffiniedig, a defnydd o ddata sy’n berthnasol ac nid yn ormodol wrth ymarfer cywirdeb data a diogelwch yr holl wybodaeth bersonol adnabyddadwy a gedwir.
Os cewch eich penodi’n llwyddiannus, trwy lenwi’r ffurflen gais rydych yn awdurdodi’r BIP i gael unrhyw fanylion gwasanaeth blaenorol i’r GIG yn cynnwys yr holl wybodaeth ar salwch a gedwir yn electronig, trwy’r broses Trosglwyddo Rhyng-awdurdod ar y Cofnod Staff Electronig.
I weithio yn y DU, mae angen nawdd ar bob ymgeisydd nad yw'n wladolyn o'r DU neu Weriniaeth Iwerddon i gael naill ai fisa Gweithiwr Iechyd a Gofal neu fisa Gweithiwr Medrus, oni bai bod gennych ganiatâd i weithio trwy lwybr arall. Dylai ymgeiswyr nad ydynt yn rhan o'r DU/Gweriniaeth Iwerddon sy'n dymuno gwneud cais hunanasesu'u tebygolrwydd o gael Tystysgrif Nawdd trwy ymweld â gwefan Fisâu a Mewnfudo'r DU. Os ydych chi'n gymwys i gael y fisa Iechyd a Gofal, mae'r costau ymgeisio yn is ac nid oes angen i chi dalu Gordal Iechyd Mewnfudo blynyddol.
Cytunwyd ar y raddfa gyflog uchod fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2025/2026 a chaiff ei weithredu ym mis Awst 2025 gydag ôl-ddyddio i 1af Ebrill 2025 lle bo'n berthnasol.
Gofynion yr ymgeisydd
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Gradd meistr neu lefel gyfatebol o brofiad ynghyd a thystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus ym maes Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant.
- Gwybodaeth helaeth am ddeddfwriaeth sy'n ymwneud a chydraddoldeb a gweithio gyda grwpiau poblogaeth i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd.
- Gwybodaeth am gymhlethdod darparu gwasanaethau iechyd a gofal, gan gynnwys gofal sylfaenol, cymunedol, eilaidd ac iechyd meddwl, a dealltwriaeth o hynny.
Meini prawf dymunol
- Tystysgrif Datblygiad Proffesiynol/Aelodaeth o gorff proffesiynol.
- Dealltwriaeth o ganllawiau'r GIG ar ymgysylltu ac ymgynghori.
- Cymhwyster hyfforddi/addysgu cydnabyddedig.
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Yn amlygu profiad o arwain gwaith yn ymwneud a chydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ar lefel uwch-reolwr mewn sefydliad amlbroffesiynol mawr a chymhleth.
- Profiad o negodi a dylanwadu ar uwch-reolwyr a staff, gan gynnwys Aelodau'r Bwrdd Gweithredol, i ymgysylltu a'r agenda cydraddoldeb, amrywiaeth a hawliau dynol.
- Profiad o reoli a goruchwylio grwpiau staff, ac ymrwymiad i ddatblygu unigolion a thimau.
- Profiad o ysgrifennu polisiau a gweithdrefnau sy'n ymateb i strategaethau neu ganllawiau cenedlaethol ac yn eu rhoi ar waith.
Meini prawf dymunol
- Profiad o gydgysylltu a chyflwyno sesiynau ymgysylltu a staff, aelodau o'r cyhoedd neu randdeiliaid allanol.
Arall
Meini prawf hanfodol
- Yn rhagweithiol, yn hunanysgogol, yn gallu gweithio ar eich liwt eich hun, ac yn meddu ar y gallu i ysgogi eraill.
- Ymrwymiad i'ch datblygiad proffesiynol eich hun a datblygiad proffesiynol pobl eraill.
- Yn hyblyg, yn gallu ymaddasu, ac yn gallu gweithio'n effeithiol yn erbyn cefndir o newid ac ansicrwydd ac ymateb i anghenion newidiol y tim/gwasanaeth.
- Hanes profedig o ymrwymiad i waith integredig ac amlasiantaethol er mwyn cyflawni gwelliannau o ran profiad a gofal cleifion/defnyddwyr y gwasanaeth.
- Y gallu i deithio mewn modd amserol o amgylch tair sir ardal y Bwrdd Iechyd, yn ogystal ag yn rhanbarthol ac yn genedlaethol yn ol y gofyn.
Meini prawf dymunol
- Sgiliau Cymraeg – Lefel 1
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Helen Sullivan
- Teitl y swydd
- Head of Partnerships, Diversity and Inclusion
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01554 899055
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Anna Bird – Cyfarwyddwr Cynorthwyol Partneriaethau Strategol, Amrywiaeth a Chynhwysiant: [email protected].
Ddim yn derbyn ceisiadau mwyach
Ymddiheuriadau, ond nid yw'r swydd wag hon yn derbyn ceisiadau mwyach.
Gallwch chwilio am swyddi tebyg ar fwrdd swyddi'r cyflogwr, neu fynd i'n bwrdd swyddi cenedlaethol Health Jobs UK.