Mae Trac yn falch o bweru recriwtio ar gyfer
Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru

Gwybodaeth
Croeso i Iechyd Cyhoeddus Cymru - asiantaeth iechyd cyhoeddus genedlaethol Cymru. Rydym yn bodoli i ddiogelu a gwella iechyd a llesiant a lleihau anghydraddoldebau iechyd i bobl yng Nghymru.
I gael gwybod mwy ewch i Iechyd Cyhoeddus Cymru a gwyliwch y fideo hwn am ein Cynllun Strategol
Dilynwch ni ar Twitter, Facebook, Linkedin a Instagram
Gweithio gyda'n gilydd, gydag ymddiriedaeth a pharch, i wneud gwahaniaeth
Ein diben yw ‘gweithio gyda'n gilydd ar gyfer Cymru iachach'. Rydym yn bodoli i helpu pawb yng Nghymru i fyw bywydau hirach, iachach. Gyda'n partneriaid, ein nod yw cynyddu disgwyliad oes iach, gwella iechyd a llesiant, a lleihau anghydraddoldebau i bawb yng Nghymru, nawr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Gyda'i gilydd, mae ein timau'n gweithio i atal clefyd, diogelu iechyd, a darparu arweinyddiaeth, gwasanaethau arbenigol ac arbenigedd iechyd cyhoeddus. Ni yw'r brif ffynhonnell o wybodaeth, ymchwil ac arloesedd iechyd cyhoeddus yng Nghymru.
Cysylltu
- Address
- No.2 Capital Quarter
- Tyndall Street
- Cardiff
- CF10 4BZ
- Contact Number
- 02921 500200
Mae newidiadau mewngofnodi ar ddod
O fis Gorffennaf 2025, bydd proses Dilysu Aml-Ffactor (MFA) yn cael ei chyflwyno i'r wefan hon. Bydd hyn yn ychwanegu cam ychwanegol at y broses mewngofnodi: bydd gofyn i chi fewnbynnu Cod Mynediad Untro (OTP) wrth i chi fewngofnodi i leihau twyll a sicrhau diogelwch. Gweler ein tudalen crynodeb yma am ragor o fanylion.
Pennaeth Dadansoddi - Gweithrediaeth GIG Cymru (CaCA)
Closed for applications on: 25-Hyd-2023 00:00
Statws y swydd wag: Closed
Closed for applications on: 25-Hyd-2023 00:00
Manylion allweddol
Lleoliad
- Gwefan
- Parc Bocam
- Cyfeiriad
- Llawr 2il, Uned 1 Ffordd Y Hên Gae,
- Tref
- Pencoed,
- Cod post
- CF35 5LJ
- Major / Minor Region
- Caerdydd
Math o gontract a phatrwm gwaith
- Contract
- Secondiad: 12 mis
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyflog
- Cyflog
- £51,706 - £58,210 PA
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Gradd
- (Band 8a)
Arbenigedd
- Prif leoliad
- Cyllid
- Dyddiad y cyfweliad
- 02/11/2023
Croeso i Perfformiad a Gwelliant GIG Cymru, swyddogaeth gymorth genedlaethol newydd, yn weithredol o 1 Ebrill 2023
Ein pwrpas allweddol yw...
Ysgogi gwelliannau yn ansawdd a diogelwch gofal - gan arwain at ganlyniadau gwell a thecach, mynediad a phrofiad y claf, llai o amrywiad, a gwelliannau yn iechyd y boblogaeth.
I gael gwybod mwy, ewch i Perfformiad a Gwelliant GIG Cymru.
Ein Gwerthoedd
Gweithio gyda'n gilydd, gydag ymddiriedaeth a pharch, i wneud gwahaniaeth
Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg. I gefnogi ein gwasanaeth i Gymru gyfan, croesawn yn fawr ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Trosolwg o'r swydd
Rheoli, sicrhau ansawdd, ac arwain datblygiad Tîm Dadansoddeg y Gyfarwyddiaeth Cynllunio a Chyflawni Ariannol i ddod yn Ganolfan Rhagoriaeth gydnabyddedig dros Ddadansoddeg Ariannol a Gwyddor Data. Mae gan y Gyfarwyddiaeth Cynllunio a Chyflawni Ariannol rôl genedlaethol allweddol i gefnogi allbynnau uchel eu proffil ar draws y system gyfan sy’n cefnogi arweinyddion clinigol cenedlaethol, Byrddau Iechyd, a Swyddogion Gweithredol GIG Cymru megis Cyfarwyddwr Cyllid y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, a Phrif Weithredwr GIG Cymru. Ymysg y cyfrifoldebau Cynllunio a Chyflawni Ariannol y mae datblygu’r arferion rheoli ariannol gorau ar gyfer GIG Cymru, datblygu’r holl ddeallusrwydd ariannol strategol ar gyfer Cymru, datblygu Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth yn genedlaethol, a chefnogi a herio cyflawniad ariannol GIG Cymru. Y rôl hon, ochr yn ochr â’r Pennaeth Dadansoddi Ariannol, fydd yn arwain y swyddogaeth dadansoddeg sy’n darparu’r holl ddata a’r deallusrwydd i gefnogi’r gofynion hyn.
Dylunio, creu a datblygu fframwaith adrodd nad oes iddo gynsail a fydd yn lledaenu data perfformiad, meincnodi a data ariannol, hynod gymhleth fel sy’n ofynnol i’w ddefnyddio gan randdeiliaid allanol a mewnol megis Llywodraeth Cymru, GIG Cymru, Gweithrediaeth y GIG, arweinyddion polisi yn Llywodraeth Cymru a BILl/Ymddiriedolaethau Cymreig at ddibenion adrodd corfforaethol a darparu gwybodaeth i ddefnyddwyr ar gyfer gwneud penderfyniadau cynllunio strategol/ busnes fel sy’n ofynnol.
Advert
Gweithredu fel arbenigwr pwnc mewn materion sy’n ymwneud â defnyddio a dehongli data yn y gyfarwyddiaeth.
Ysgwyddo rôl arweiniol ar gyfer atebion a datblygiadau technegol, gan gynnwys y system gostio ar lefel cleifion a’r adnodd data cenedlaethol (dan arweiniad Iechyd a Gofal Digidol Cymru).
Darparu i randdeiliaid mewnol ac allanol yn rheolaidd bob lefel o hyfforddiant i adfer, trin a dehongli gwybodaeth gymhleth o systemau sydd newydd eu datblygu, a gweithredu fel cefnogaeth systemau rheng flaen i staff anarbenigol.
Paratoi a chwblhau cronfeydd data a datganiadau costio cyfunol blynyddol, fel y’u cyflwynir i’r gyfarwyddiaeth gan Fyrddau Iechyd y GIG, Ymddiriedolaethau a WHSSC, gan sicrhau bod y gwaith wedi’i gydlynu a’i gwblhau o fewn gofynion Canllawiau Costio Cymru ac amserlenni Llywodraeth Cymru.
Arwain datblygiad y gyfarwyddiaeth gyda DHCW o integreiddio data Costau Lefel Cleifion Cymru gyfan gyda’r holl setiau data clinigol cenedlaethol eraill drwy’r rhaglen Adnoddau Data Cenedlaethol sy’n un o’r blaenoriaethau Gwybodeg Cenedlaethol ac yn un o’r amcanion allweddol yn y strategaeth genedlaethol ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, Cymru Iachach. Bydd hyn yn cynhyrchu adnodd deallusrwydd cenedlaethol arweiniol a thra soffistigedig, i gefnogi GIG Cymru.
Gweithio i'n sefydliad
Mae Gweithrediaeth GIG Cymru yn swyddogaeth gefnogi genedlaethol, sy’n weithredol er 1 Ebrill, 2023. Ein diben allweddol yw: Ysgogi gwelliannau yn ansawdd a diogelwch gofal – gan arwain at ganlyniadau, mynediad a phrofiad cleifion gwell a thecach, llai o amrywiadau, a gwelliannau yn iechyd y boblogaeth. Cynhelir Gweithrediaeth GIG Cymru gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Mae cyfle cyffrous wedi codi i lenwi rôl y Pennaeth Dadansoddi am gyfnod penodol yng nghyfarwyddiaeth Cynllunio a Chyflawni Ariannol Gweithrediaeth y GIG. Cynigir y swydd lanw hon am isafswm o ddeuddeg mis.
Byddwch yn unigolyn brwdfrydig sy’n awyddus i ennill profiad o rôl reoli yn y gyfarwyddiaeth Cynllunio a Chyflawni Ariannol, gan reoli’n uniongyrchol dîm Gwyddor Data ardderchog, a byddwch yn llawn cymhelliant i wneud gwahaniaeth drwy ddefnyddio data a dadansoddeg o ansawdd uchel yn well. Bydd gennych brofiad blaenorol o ddarparu allbynnau a chynhyrchion o ansawdd i amrywiaeth o randdeiliaid gwahanol a byddwch yn arbenigwr ar reoli rhaglen waith, gan gynnwys dyrannu gwaith a delio ag amserlenni. Os ydych chi’n unigolyn sy’n llawn cymhelliant ac yn awyddus i feithrin dealltwriaeth a phrofiad o weithio yn y rôl hon, byddem yn falch iawn o glywed gennych chi.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae’r un croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg ymgeisio.
Mae Swydd-ddisgrifiad llawn a Manyleb y Person ynghlwm ymysg y dogfennau atodol.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Bydd deilydd y swydd:
- Yn dylunio, creu a datblygu cronfeydd data newydd priodol, adroddiadau a phrosesau cipio data i sicrhau bod rhanddeiliaid mewnol ac allanol yn cael gwybodaeth gywir, o ansawdd uchel lle mae’r prif negeseuon allweddol yn cael eu nodi’n glir i lywio rhagolygon, penderfyniadau ynglŷn â newid gwasanaethau a dulliau o gyflawni gofal iechyd seiliedig ar werth yng Nghymru.
- Yn defnyddio gwybodaeth arbenigol am ymchwil gweithredol a dadansoddi ystadegol i gynhyrchu allbynnau ystyrlon yn unol â rhaglen waith yr Uned.
- Yn gyfrifol am gynllunio a chynnal rhaglenni gwaith cymhleth sy’n ymwneud â’r Pecyn Cymorth Gwerth, Dyrannu, Defnyddio a Dysgu (VAULT), gan addasu’r cynlluniau ar sail y gofynion gan randdeiliaid allweddol yn unol â blaenoriaethau strategol.
- Yn cynnal a rheoli rhaglen waith y Tîm Dadansoddeg, gan ddirprwyo a chydlynu gwaith aelodau’r tîm a rheoli’r trefniadau ar gyfer cyflawni’r gwaith hwn yn unol â’r amserlenni gofynnol. Mae hyn yn cynnwys cysoni setiau sgiliau a chymwyseddau’n unol â dadansoddiadau penodol yn ôl y gofyn. Disgwylir i allbynnau’r Tîm Dadansoddeg gyfrannu at yr agenda gwerth y cyfeirir ati yn y strategaeth iechyd a gofal cymdeithasol genedlaethol, Cymru Iachach. Yn benodol, bydd yn newid dadansoddeg y tu hwnt i arbedion costau syml i fod yn asesiad o’r gwerth. Disgwylir i ddeilydd y swydd hefyd wneud archwiliadau ansawdd o’r holl allbynnau a gynhyrcha’r tîm, gan sicrhau eu bod yn gywir ac yn bodloni anghenion defnyddwyr.
- Yn gyfrifol am gynllunio a chyflwyno prosiectau strategol a chymhleth o safbwynt meincnodi’r perfformiad ar draws ymddiriedolaethau GIG Cymru er mwyn canfod cyfleoedd i wella effeithlonrwydd ar draws GIG Cymru.
- Yn gweithio gydag aelodau’r tîm i gynnal a datblygu cofrestr asedau gwybodaeth y gyfarwyddiaeth ac yn meithrin perthnasoedd allweddol gydag arweinydd llywodraethu gwybodaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru, o safbwynt gofynion y gyfarwyddiaeth fel sy’n ofynnol gan ein sefydliad cynhaliol.
- Yn gweithio gydag uwch glinigwyr a rheolwyr i gomisiynu gwaith ar brosiectau Gofal Iechyd seiliedig ar Werth i roi cyngor ar anghenion gwybodaeth a dadansoddi data er mwyn cyfrannu at wneud penderfyniadau a gwella gwasanaethau.
- Yn gyfrifol am gyllideb (gyda therfyn dirprwyedig o £1,000), i gefnogi rheolwyr y tîm dadansoddol gan gynhyrchu adroddiadau misol i Ddirprwy Gyfarwyddwr y gyfarwyddiaeth. Bydd gan ddeilydd y swydd hefyd gyfrifoldeb am ddatblygu argymhellion ar gyfer technoleg neu feddalwedd y gellir eu defnyddio er mwyn gallu deall y negeseuon allweddol sy’n deillio o ddata, gwybodaeth a dadansoddiadau yn well.
- Yn arwain y gwaith o lunio adroddiadau cytbwys ar berfformiad ariannol y GIG gan gefnogi uwch aelodau’r gyfarwyddiaeth yn eu rolau gyda sefydliadau GIG Cymru. Mae hyn yn cynnwys cynhyrchu gwybodaeth i gefnogi cydran ariannol cyfarfodydd uwch-gyfeirio uchel eu proffil ar gyfer y sefydliadau hynny sydd mewn mesurau arbennig, ymyrraeth wedi’i thargedu neu fonitro lefel uwch. Gellid hefyd ddefnyddio’r allbynnau hyn i fwydo cyfarfodydd allanol eraill megis Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
- Yn annog eraill i ddefnyddio gwybodaeth i lywio penderfyniadau a darparu cyngor arbenigol hynod gymhleth gan roi ystyriaeth i faterion sy’n ymwneud â gwybodaeth am weithgareddau cynhennus a sensitif.
- Yn paratoi a chyflwyno gwybodaeth gerbron cyfarfodydd uwch randdeiliaid allweddol mewn ffordd effeithiol a phriodol. Mae hyn yn cynnwys y Bwrdd Gwerth a Chynaliadwyedd Cenedlaethol sydd dan gadeiryddiaeth Cyfarwyddwr Cyffredinol GIG Cymru, sef y fforwm a ddefnyddir i ganfod cyfleoedd effeithlonrwydd ar gyfer Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau’r GIG ac i fonitro i ba raddau y caiff gwelliannau eu cyflawni yn y meysydd hyn. O’r herwydd, mae gofyn i’r wybodaeth hon fod yn gwbl gywir ac mae modd iddi fod yn gynhennus a sensitif. Mae’r allbynnau gwybodaeth, wrth eu natur, yn gymhleth gan eu bod yn golygu cydlynu nifer o ffynonellau data gwahanol, archwilio cywirdeb, cysylltu â sefydliadau meincnodi allanol a chyflwyno data mewn fformat sy’n dangos yn hawdd natur a maint y cyfle.
- Yn ymchwilio, gwerthuso a chyflwyno unrhyw dechnolegau newydd/ rhag gymwysiadau gan gynnwys meddalwedd deallusrwydd busnes a chysylltu gyda Byrddau Iechyd Lleol, Ymddiriedolaethau, DHCW ac unrhyw randdeiliaid allweddol eraill i ganfod eu gofynion gwybodaeth, yna gwneud gwaith datblygu, gan sicrhau bod anghenion defnyddwyr yn cael eu bodloni’n effeithlon ac effeithiol.
- Yn gwneud gweithgareddau ymchwil i wella effeithlonrwydd yn rheolaidd (un diwrnod yr wythnos), gan gynnwys archwiliadau a dadansoddiadau manwl o berfformiad ar draws y GIG yng Nghymru a Lloegr er mwyn cynnig cynhyrchion effeithlonrwydd newydd i Lywodraeth Cymru.
- Yn arwain y gwaith o ddatblygu sgiliau ymchwiliadau data technegol yn y gyfarwyddiaeth, gan gynnwys cynnal gwybodaeth ddiweddar am yr offer a’r technegau dadansoddi sydd ar gael a chanfod cyfleoedd i ddatblygu’r sgiliau hyn yn y tîm. Bydd disgwyl i ddeilydd y swydd hefyd lunio cynllun hyfforddiant cynhwysfawr ar gyfer y tîm dadansoddwyr, gan sicrhau eu bod yn cadw eu datblygiad personol i safon uchel.
- Yn goruchwylio a chynnal cronfa ddata o gostau lefel cleifion, fel y’u cyflwynir yn flynyddol gan Fyrddau Iechyd/Ymddiriedolaethau Cymreig ar ran y gyfarwyddiaeth Cynllunio a Chyflawni Ariannol. Sicrhau bod y system yn cydymffurfio â’r Ddeddf Diogelu Data a pholisi diogelwch TG ICC a chynnal cofrestr ddiweddar o ddefnyddwyr y system.
- Yn defnyddio gwybodaeth arbenigol i greu, dylunio a datblygu rhyngwyneb pen blaen ar gyfer y gronfa ddata lefel cleifion gan roi ystyriaeth i anghenion gwahanol randdeiliaid.
- Yn datblygu perthnasoedd allweddol â chydweithwyr yn DHCW er mwyn meithrin dealltwriaeth o’r prosesau a’r diffiniadau data sydd wrth wraidd y trefniadau i gasglu’r set ddata lefel cleifion Cymru gyfan genedlaethol. Yn cyflawni ymarferiadau cysoni diwedd blwyddyn cymhleth rhwng cronfa ddata gweithgaredd genedlaethol ePEDW a gynhelir gan DHCW a’r gronfa ddata lefel cleifion Cymru gyfan a gynhelir gan y gyfarwyddiaeth ac yn gweithio ar y cyd â chydweithwyr yn Ymddiriedolaethau a Byrddau Iechyd Cymru i ddehongli a deall y rhesymau am unrhyw wahaniaethau.
- Yn diweddaru, moderneiddio ac awtomeiddio prosesau sy’n gysylltiedig â chynhyrchu’r gyfres o ddatganiadau costio blynyddol, gan weithredu polisïau cenedlaethol yn yr arena hon. Yn cysoni datganiadau costio blynyddol, fel y’u cyflwynir i’r gyfarwyddiaeth gan Fyrddau Iechyd y GIG, Ymddiriedolaethau a WHSSC, gan sicrhau bod y gwaith wedi’i gydlynu a’i gwblhau o fewn gofynion Costio Cymru ac amserlenni Llywodraeth Cymru.
- Yn cyfrannu at lunio dangosyddion perfformiad ar gyfer Byrddau Iechyd/Ymddiriedolaethau yng Nghymru a sefydlu fframwaith monitro i sicrhau y gellir mesur ac adrodd ar berfformiad gwasanaethau mewn ymateb i ofynion lleol a chenedlaethol.
- Yn cynnig newid mewn polisïau sy’n effeithio ar bob Ymddiriedolaeth GIG ar draws Cymru. E.e. yn gyfrifol am adolygu, diweddaru a gweithredu’r polisi Defnyddio Mynediad
- Yn cynhyrchu a dosbarthu dadansoddiadau o berfformiad fel mater o drefn er mwyn cefnogi cylch o welliant parhaus.
- Yn llunio adroddiadau sy’n cynnwys gwybodaeth yn ymwneud â chleifion fel sy’n ofynnol gan gynorthwyo â rhagolygon gweithgareddau Cymru gyfan a chynllunio strategol Cymru gyfan.
- Yn dylunio a pharatoi adroddiadau newydd ar gais uwch aelodau’r gyfarwyddiaeth i ddatrys problemau penodol ac ymholiadau dadansoddol pan godant.
- Yn gwneud adolygiadau dadansoddol yn aml ac fel mater o drefn ar gronfeydd data mawr o ddata costio Cymru gyfan cymhleth, gwneud archwiliad o’r broses gostio gyfredol a chanfod unrhyw anghysondebau. Bydd hyn yn gofyn am gyfnodau o ganolbwyntio dwys iawn yn aml i sicrhau cywirdeb yr allbynnau.
- Yn darparu cyngor arbenigol a hyfforddiant ar wybodaeth ddadansoddol ac ystadegol gymhleth iawn i randdeiliaid fel y bo’n briodol, gan weithredu fel cefnogaeth systemau rheng flaen ar gyfer datblygiadau newydd a’i gwneud yn haws i wybodaeth feincnodi a chostio ariannol gael ei defnyddio ar draws y sefydliad a gan randdeiliaid allweddol eraill.
- Yn datblygu delweddiadau data a’r technegau delweddu/dadansoddi mwyaf effeithiol i gefnogi allbynnau’r gyfarwyddiaeth.
- Yn cefnogi’r gwaith o ddatblygu data i gefnogi’r agenda gofal iechyd seiliedig ar werth, gan gyplysu ag arweinyddion clinigol cenedlaethol i ddeall y gofynion gwybodaeth er mwyn bwrw blaenoriaethau allweddol ymlaen.
- Yn cyplysu â’r gyfarwyddiaeth Perfformiad a Sicrwydd a’r tîm Deallusrwydd Digidol ar ddulliau dadansoddol, methodoleg a chyd-ddarnau o waith dadansoddol.
Yn ogystal, bydd y swydd hon yn defnyddio fframwaith ymarfer gorau “Managing Successful Programmes”, Swyddfa Masnach y Llywodraeth (OGC), wedi’i ategu gan drefniadau rheoli prosiectau sy’n defnyddio methodoleg “PRINCE2”.
Mae gan Perfformiad a Gwelliant GIG Cymru yr hawl i gau’r swydd wag hon yn gynnar. Felly rydym yn annog ceisiadau cynnar.
Rhoddir blaenoriaeth i staff sy’n aros i gael eu hadleoli. Rydym yn cadw’r hawl felly i dynnu’r hysbyseb hon yn ôl ar unrhyw adeg.
Os oes gennych anabledd a bod gennych unrhyw anghenion penodol i'ch galluogi i gymryd rhan yn y broses ymgeisio, cysylltwch â [email protected]
Os byddwch yn llwyddiannus ac os cewch eich dewis ar gyfer y rhestr fer am gyfweliad, cysylltir â chi ar e-bost gan ddefnyddio’r cyfeiriad a ddefnyddiwyd gennych i gofrestru. Sicrhewch eich bod yn edrych ar eich cyfrif e-bost yn rheolaidd.
Rydym wedi ymrwymo i recriwtio teg a thryloyw ac rydym yn credu mewn cyfle cyfartal yn ein gweithle. Ni fyddwn yn goddef gwahaniaethu ar sail oedran, anabledd, hunaniaeth rywiol, crefydd neu gred, hil neu genedligrwydd, priodas neu bartneriaeth sifil, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, patrwm gwaith, cyfrifoldebau gofalu, gweithgarwch gydag undebau llafur neu gredoau gwleidyddol – nac ar unrhyw sail arall. Croesawn geisiadau gan unigolion a ddymunent weithio’n rhan-amser neu wneud cais i rannu swydd.
I weithio yn y DU, mae angen nawdd ar bob ymgeisydd nad yw'n wladolyn o'r DU neu Weriniaeth Iwerddon i gael naill ai fisa Gweithiwr Iechyd a Gofal neu fisa Gweithiwr Medrus, oni bai bod gennych ganiatâd i weithio trwy lwybr arall. Dylai ymgeiswyr nad ydynt yn rhan o'r DU/Gweriniaeth Iwerddon sy'n dymuno gwneud cais hunanasesu'u tebygolrwydd o gael Tystysgrif Nawdd trwy ymweld â gwefan Fisâu a Mewnfudo'r DU. Os ydych chi'n gymwys i gael y fisa Iechyd a Gofal, mae'r costau ymgeisio yn is ac nid oes angen i chi dalu Gordal Iechyd Mewnfudo blynyddol.
Mae'r raddfa gyflog a ddangosir ar gyfer aelod o staff llawn amser, a chaiff y swm ei addasu pro rata ar gyfer y rhai sy'n gweithio llai na 37.5 awr yr wythnos.
Gellir gweld Graddfeydd Cyflog GIG Cymru yma.
Yn gyffredinol, bydd unrhyw un sy'n ymuno â'n sefydliad nad yw wedi gweithio yn y GIG o'r blaen, yn cychwyn ar bwynt cyntaf y band tâl a hysbysebir yn awtomatig. Yna bydd datblygiad cyflog yn cael ei bennu gan Adolygiadau Perfformiad a Datblygu blynyddol yn unol â Pholisi Datblygiad Cyflog GIG Cymru. Gellir ystyried cais am Gredyd Cynyddol, ond dim ond ar sail gwasanaeth cyfrifadwy â thystiolaeth a/neu brofiad cyfatebol, perthnasol y gellir ei ddyfarnu.
Gofynion yr ymgeisydd
Manyleb y person
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- Cymwysterau Hanfodol
Meini prawf dymunol
- Cymwysterau Dymunol
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad Hanfodol
Meini prawf dymunol
- 2.2. Profiad Dymunol
Sgiliau
Meini prawf hanfodol
- Sgiliau Hanfodol
Meini prawf dymunol
- Sgiliau Dymunol
Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Gwybodaeth Hanfodol
Meini prawf dymunol
- Gwybodaeth Ddymunol
Dogfennau
- Job Description - English (PDF, 416.4KB)
- Personal Specification - English (PDF, 472.4KB)
- Ffurflen Gofynion Gweithredol Iechyd Galwedigaethol (PDF, 656.5KB)
- Job Description Welsh (PDF, 416.4KB)
- Welsh Language Assessment Form (PDF, 704.3KB)
- Personal Specification Welsh (PDF, 464.4KB)
- Hyderus o Ran Anabledd Arweinydd (PDF, 180.8KB)
- Canllawiau ar gyfer Ymgeiswyr (PDF, 278.7KB)
- Ein Rhwydweithiau Amrywiaeth (PDF, 330.6KB)
- Gwasanaethau Recriwtio Hysbysiad Preifatrwydd (PDF, 696.3KB)
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Alex Thomson
- Teitl y swydd
- Head of Analysis
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
Ddim yn derbyn ceisiadau mwyach
Ymddiheuriadau, ond nid yw'r swydd wag hon yn derbyn ceisiadau mwyach.
Gallwch chwilio am swyddi tebyg ar fwrdd swyddi'r cyflogwr, neu fynd i'n bwrdd swyddi cenedlaethol Health Jobs UK.