Mae Trac yn falch o bweru recriwtio ar gyfer
Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru

Gwybodaeth
Croeso i Iechyd Cyhoeddus Cymru - asiantaeth iechyd cyhoeddus genedlaethol Cymru. Rydym yn bodoli i ddiogelu a gwella iechyd a llesiant a lleihau anghydraddoldebau iechyd i bobl yng Nghymru.
I gael gwybod mwy ewch i Iechyd Cyhoeddus Cymru a gwyliwch y fideo hwn am ein Cynllun Strategol
Dilynwch ni ar Twitter, Facebook, Linkedin a Instagram
Gweithio gyda'n gilydd, gydag ymddiriedaeth a pharch, i wneud gwahaniaeth
Ein diben yw ‘gweithio gyda'n gilydd ar gyfer Cymru iachach'. Rydym yn bodoli i helpu pawb yng Nghymru i fyw bywydau hirach, iachach. Gyda'n partneriaid, ein nod yw cynyddu disgwyliad oes iach, gwella iechyd a llesiant, a lleihau anghydraddoldebau i bawb yng Nghymru, nawr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Gyda'i gilydd, mae ein timau'n gweithio i atal clefyd, diogelu iechyd, a darparu arweinyddiaeth, gwasanaethau arbenigol ac arbenigedd iechyd cyhoeddus. Ni yw'r brif ffynhonnell o wybodaeth, ymchwil ac arloesedd iechyd cyhoeddus yng Nghymru.
Cysylltu
- Address
- No.2 Capital Quarter
- Tyndall Street
- Cardiff
- CF10 4BZ
- Contact Number
- 02921 500200
Mae newidiadau mewngofnodi ar ddod
O fis Gorffennaf 2025, bydd proses Dilysu Aml-Ffactor (MFA) yn cael ei chyflwyno i'r wefan hon. Bydd hyn yn ychwanegu cam ychwanegol at y broses mewngofnodi: bydd gofyn i chi fewnbynnu Cod Mynediad Untro (OTP) wrth i chi fewngofnodi i leihau twyll a sicrhau diogelwch. Gweler ein tudalen crynodeb yma am ragor o fanylion.
Peiriannydd Data
Closed for applications on: 8-Ion-2024 00:04
Statws y swydd wag: Closed
Closed for applications on: 8-Ion-2024 00:04
Manylion allweddol
Lleoliad
- Gwefan
- Capital Quarter 2
- Cyfeiriad
- Tyndall Stryd
- Tref
- Caerdydd
- Cod post
- CF10 4BZ
- Major / Minor Region
- Caerdydd
Math o gontract a phatrwm gwaith
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser
- Gweithio hyblyg
- Gweithio gartref neu o bell
Cyflog
- Cyflog
- £51,706 - £58,210 pa
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Gradd
- (Gradd 8a)
Arbenigedd
- Prif leoliad
- Beiriannydd Data
Croeso i Iechyd Cyhoeddus Cymru, asiantaeth iechyd cyhoeddus genedlaethol Cymru
Ein gweledigaeth yw Gweithio i wireddu dyfodol iachach i Gymru
Am ragor o wybodaeth amdanom, ewch i’n tudalen hafan, darllenwch am ein cynllun strategol
Dilynwch ni ar Twitter, Facebook, LinkedIn and Instagram
Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg. I gefnogi ein gwasanaeth i Gymru gyfan, croesawn yn fawr ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.
Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau.
Trosolwg o'r swydd
Prif Beiriannydd Data
Cyfarwyddiaeth Data, Gwybodaeth ac Ymchwil – Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Band: 8a x 1 swydd – Amser llawn, Parhaol
Cau: 07/01/2024
Cyfweliad: Cynhelir y cyfweliad yn rhithiol. w/c 15/01/2024
Ydych chi’n angerddol am ddefnyddio eich sgiliau data er budd y cyhoedd? Ydych chi’n llawn cyffro am arloesi, a’r cyfle i archwilio offer, technegau a ffynonellau data i ddatrys heriau diddorol gyda data? Ydych chi’n ffynnu mewn amgylchedd amlddisgyblaethol, cydweithredol? Ydych chi’n chwilfrydig am y byd, ac yn chwilio am ffyrdd i’w wella gan ddefnyddio data? Os felly, gallai’r swydd hon fod yn ddelfrydol i chi!
Rydym yn chwilio am beiriannydd data medrus a brwdfrydig i ymuno a Thîm Data Iechyd y Cyhoedd. Os hoffech drafod y rôl ymhellach, cysylltwch â Fliss Bennee, Pennaeth Data, [email protected] .
Advert
Fel peiriannydd profiadol, byddwch yn cymhwyso eich sgiliau ymrafael â data a datrys problemau i ddefnyddio ffynonellau data newydd a thraddodiadol a chefnogi cenhadaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru: I ddiogelu a gwella iechyd a llesiant a lleihau anghydraddoldebau iechyd ar gyfer pobl Cymru.
Gan weithio mewn timau amlddisgyblaethol, traws-sefydliadol Ystwyth, byddwch yn gweithio ar y cyd â gwyddonwyr data, ymchwilwyr ac ymgynghorwyr iechyd y cyhoedd i gwmpasu, dylunio a chyflwyno atebion wedi eu sbarduno gan ddata i rai o broblemau mwyaf milain Iechyd y Cyhoedd. Byddwch yn fedrus yn gweithio gyda defnyddwyr i ddeall eu hanghenion a dehongli’r rhain i gyflwyno cynnyrch data gydag effaith.
Yn ogystal â sgiliau Python cadarn, byddwch yn brofiadol mewn o leiaf un, ond mwy na thebyg nid pob un o’r canlynol: trin data cymhleth, cyfaint uchel, dimensiwn uchel; cronfeydd data perthynol ac amherthynol; cronfeydd data SQL / NoSQL; storfa gwmwl a rheoli data (Azure/GCP/AWS); cyswllt data; profiad gyda data heb ei strwythuro; diffinio a gweithredu data a chofnodi ffrydiau a llwybrau gwaith; awtomeiddio glanhau syml a gwneud yn ddi-enw/ffugenwi. Gall fod gennych rywfaint o brofiad hefyd o ddadansoddi data, yn cynnwys prosesu iaith naturiol, dysgu peirianyddol wedi ei oruchwylio a heb ei oruchwylio, datblygu dangosfyrddau a delweddau, adeiladu llwybrau dadansoddi y gellir eu hatgynhyrchu.
Gweithio i'n sefydliad
Iechyd Cyhoeddus Cymru yw Sefydliad Iechyd y Cyhoedd cenedlaethol Cymru. Ein gweledigaeth yw ‘Gweithio i wireddu dyfodol iachach i Gymru’. Rydym yn chwarae rhan ganolog mewn ysgogi gwelliannau o ran iechyd a llesiant y boblogaeth, lleihau anghydraddoldebau iechyd, gwella canlyniadau gofal iechyd, diogelu'r cyhoedd a chefnogi datblygiad iechyd ym mhob polisi ledled Cymru.
Caiff ein sefydliad ei arwain gan ein gwerthoedd “Cydweithio, gydag ymddiriedaeth a pharch, i wneud gwahaniaeth”. Rydym wedi ymrwymo i greu gweithle cynhwysol sy'n rhoi gwerth ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Rydym yn croesawu ceisiadau sy'n cynrychioli amrywiaeth gyfoethog y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu a chan y rhai sy'n dymuno gweithio'n rhan amser neu rannu swydd.
I gael rhagor o wybodaeth am weithio i ni, y buddion a gynigiwn a'r arweiniad ar y broses ymgeisio, ewch i https://icc.gig.cymru/gweithio-i-ni/gwybodaeth-a-chanllawiau-i-ymgeiswyr/
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn arwain y gwaith o gyflwyno modelau data ffisegol a’r safbwyntiau sy’n ofynnol ar gyfer defnyddwyr data er mwyn galluogi delweddu metrigau a rhoi dadansoddiad craff ar gyfer prosiectau gwyddor data.
Chi fydd yr arweinydd technegol ar gyfer maes gwaith yr adran a’r fframwaith rheoli data cyffredinol.
Byddwch yn sefydlu ffyrdd gwell o weithio gyda data ar draws y tîm a’r sefydliad, yn cynnwys awtomeiddio tasgau llaw a sicrwydd data.
Byddwch yn defnyddio eich profiad cadarn o weithio gyda data a chronfeydd data, yn cynnwys datblygu ffynonellau data newydd a phresennol mewn amgylchedd Warws Data. Bydd eich dealltwriaeth o dechnegau Warws Data, yn cynnwys modelu data dimensiynol a dylunio a chysyniadau cronfeydd data perthynol (e.e., Kimball), yn cael eu defnyddio’n helaeth.
Byddwch yn arddangos eich arbenigedd mewn SQL a chronfeydd data perthynol fel Cronfa Ddata Oracle a PL/SQL neu Microsoft T-SQL.
Byddwch yn defnyddio eich gwybodaeth a’ch arbenigedd o raglennu R a Python ac yn cynnal adolygiadau cod ac yn sicrhau bod safonau’n cael eu cymhwyso a’u bodloni.
Byddwch yn diffinio ac yn cofnodi ffrydiau gwaith data ar draws systemau a gweithrediadau, yn cynnwys cipio a chofnodi diffiniadau data a rheolau busnes cymhleth.
Byddwch yn cydweithredu’n uniongyrchol a thrwy bartneriaid i ddatblygu systemau data, yn arwain ar ddatblygiadau fel y bo angen efallai.
Byddwch yn rhoi cyngor arbenigol i’r gyfarwyddiaeth a’r sefydliad ar faterion llwyfannau data, integreiddio data ac offer delweddu.
Byddwch yn defnyddio eich sgiliau cysylltu helaeth i gyfathrebu i a rhwng rhanddeiliaid technegol ac anhechnegol, ac yn hwyluso trafodaethau mewn tîm amlddisgyblaethol, yn cynnwys gwyddonwyr/dadansoddwyr data.
Byddwch yn helpu i ddatblygu a gweithredu Strategaeth Ddata lwyddiannus ar gyfer y sefydliad.
Byddwch yn sbarduno eich perfformiad eich hun i sicrhau cyflawni yn erbyn prosiectau ac amcanion allweddol.
Dyletswyddau/Cyfrifoldebau
- Arwain ar gyflwyno safbwyntiau a modelau data ffisegol sy’n ofynnol ar gyfer defnyddwyr data er mwyn galluogi delweddau metrigau a darparu dadansoddiad craff ar gyfer prosiectau gwyddor data.
- Arweinydd technegol ar gyfer maes gwaith adrannol a fframwaith rheoli data cyffredinol.
- Sefydlu ffyrdd gwell o weithio gyda data ar draws y tîm ehangach, yn cynnwys awtomeiddio tasgau llaw a sicrwydd data.
- Sgiliau cadarn yn dadansoddi, diffinio, tarddu a chipio data ar draws systemau busnes strategol, prosesau a meysydd sefydliad
- Tystiolaeth gadarn o weithio gyda data a chronfeydd data, yn ddelfrydol yn cynnwys datblygu ffynonellau data newydd a phresennol mewn amgylchedd Warws Data.
- Dealltwriaeth dda o dechnegau Warws Data, yn cynnwys modelu data dimensiynol a dyluniad a chysyniadau cronfeydd data perthynol (e.e. Kimball).
- Profiad sylweddol o SQL ac arbenigedd technegol o gronfeydd data gan ddefnyddio cronfeydd perthynol fel Cronfa Ddata Oracle a PL/SQL neu Microsoft T-SQL.
- Gwybodaeth ragorol a phrofiad o raglennu R a Python
- Profiad o adolygiadau cod a sicrhau bod safonau codio’n cael eu cymhwyso a’u bodloni.
- Profiad o ddiffinio a chofnodi ffrydiau gwaith data ar draws systemau a gweithrediadau, yn cynnwys cipio a chofnodi diffiniadau data cymhleth a rheolau busnes.
- Rhoi cyngor arbenigol i’r Gyfarwyddiaeth ar faterion llwyfannau data, integreiddio data ac offer delweddu.
- Datblygu, yn uniongyrchol a thrwy bartneriaid, data sydd yn hygyrch yn eang ar gyfer dadansoddi gan wydonwyr data a dadansoddwyr yn y sefydliad, cwsmeriaid a phartneriaid
- Nodi ac arwain ar ailbeiriannu ffrydiau data â llaw i alluogi graddio a’r gallu i adrifo.
- Yn uniongyrchol a thrwy bartneriaid, datblygu haenau ETL a gwneud y gorau ohonynt.
- Gwybodaeth am offer rheoli gwaith/cydweithredu fel MS Teams, Trello a Miro ac ati
Mae Swydd-ddisgrifiad a Manyleb Person llawn wedi eu cynnwys gyda’r dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Ceidw Iechyd Cyhoeddus Cymru yr hawl i gau’r swydd wag hon yn gynnar. Felly rydym yn annog ceisiadau cynnar.
Rhoddir blaenoriaeth i staff sy’n aros i gael eu hadleoli. Rydym yn cadw’r hawl felly i dynnu’r hysbyseb hon yn ôl ar unrhyw adeg.
Os oes gennych anabledd a bod gennych unrhyw anghenion penodol i'ch galluogi i gymryd rhan yn y broses ymgeisio, cysylltwch â [email protected]
NODYN PWYSIG I YMGEISWYR: Mae ceisiadau am ein rolau yn cael eu hadolygu'n ofalus a'u rhoi ar restr fer yn seiliedig ar feini prawf penodol, sy'n amrywio o swydd i swydd.
Ni fydd defnyddio cymhwysiad generig neu gymhwysiad AI awtomatig, fel Lazy Apply neu AI Apply, fel arfer yn darparu digon o dystiolaeth bersonol o'ch sgiliau a'ch profiad sy’n berthnasol i'r rôl. Gall hyn ei gwneud hi'n anodd i ni asesu eich addasrwydd a bydd yn lleihau eich siawns o gael eich rhoi ar y rhestr fer.
Er mwyn sicrhau bod eich cais yn cael ystyriaeth lawn, rydym yn argymell eich bod yn cyflwyno cais wedi'i deilwra sy'n mynd i'r afael yn uniongyrchol â'r meini prawf a restrir yn adran Manyleb y Person yr hysbyseb, gan ddarparu tystiolaeth glir ac enghreifftiau i ddangos sut rydych chi'n bodloni pob gofyniad.
Cymhwysedd ar gyfer Nawdd Fisa
- Os oes angen nawdd arnoch drwy lwybrau Fisa Gweithiwr Medrus neu Fisa Gweithiwr Iechyd a Gofal, gwnewch yn siŵr eich bod yn hunanasesu eich cymhwysedd i gael nawdd ar gyfer y rôl hon cyn gwneud cais.
- Gwiriwch y canllawiau fisa Gweithiwr Medrus neu'r canllawiau fisa Gweithiwr Iechyd a Gofal am fanylion ynghylch cymhwysedd swydd, cyflog, yr iaith Saesneg, a gofynion nawdd.
Os byddwch yn llwyddiannus ac os cewch eich dewis ar gyfer y rhestr fer am gyfweliad, cysylltir â chi ar e-bost gan ddefnyddio’r cyfeiriad a ddefnyddiwyd gennych i gofrestru. Sicrhewch eich bod yn edrych ar eich cyfrif e-bost yn rheolaidd.
Rydym wedi ymrwymo i recriwtio teg a thryloyw ac rydym yn credu mewn cyfle cyfartal yn ein gweithle. Ni fyddwn yn goddef gwahaniaethu ar sail oedran, anabledd, hunaniaeth rywiol, crefydd neu gred, hil neu genedligrwydd, priodas neu bartneriaeth sifil, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, patrwm gwaith, cyfrifoldebau gofalu, gweithgarwch gydag undebau llafur neu gredoau gwleidyddol – nac ar unrhyw sail arall. Croesawn geisiadau gan unigolion a ddymunent weithio’n rhan-amser neu wneud cais i rannu swydd.
I weithio yn y DU, mae angen nawdd ar bob ymgeisydd nad yw'n wladolyn o'r DU neu Weriniaeth Iwerddon i gael naill ai fisa Gweithiwr Iechyd a Gofal neu fisa Gweithiwr Medrus, oni bai bod gennych ganiatâd i weithio trwy lwybr arall. Dylai ymgeiswyr nad ydynt yn rhan o'r DU/Gweriniaeth Iwerddon sy'n dymuno gwneud cais hunanasesu'u tebygolrwydd o gael Tystysgrif Nawdd trwy ymweld â gwefan Fisâu a Mewnfudo'r DU. Os ydych chi'n gymwys i gael y fisa Iechyd a Gofal, mae'r costau ymgeisio yn is ac nid oes angen i chi dalu Gordal Iechyd Mewnfudo blynyddol.
Mae'r raddfa gyflog a ddangosir ar gyfer aelod o staff llawn amser, a chaiff y swm ei addasu pro rata ar gyfer y rhai sy'n gweithio llai na 37.5 awr yr wythnos.
Cytunwyd ar y raddfa gyflog uchod fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2025/2026 a chaiff ei weithredu ym mis Awst 2025 gydag ôl-ddyddio i 1af Ebrill 2025 lle bo'n berthnasol.
Yn gyffredinol, bydd unrhyw un sy'n ymuno â'n Hymddiriedolaeth nad yw wedi gweithio yn y GIG o'r blaen, yn cychwyn ar bwynt cyntaf y band tâl a hysbysebir yn awtomatig. Yna bydd datblygiad cyflog yn cael ei bennu gan Adolygiadau Perfformiad a Datblygu blynyddol yn unol â Pholisi Datblygiad Cyflog GIG Cymru. Gellir ystyried cais am Gredyd Cynyddol, ond dim ond ar sail gwasanaeth cyfrifadwy â thystiolaeth a/neu brofiad cyfatebol, perthnasol y gellir ei ddyfarnu.
Gofynion yr ymgeisydd
Manyleb y person
CYMWYSTERAU A GWYBODAETH
Meini prawf hanfodol
- Addysg i lefel Meistr neu lefel gyfwerth neu brofiad cyfwerth o weithio ar lefel uwch mewn maes arbenigol, a chymhwyster diploma rheoli Ôl-radd.
- Gwybodaeth a phrofiad helaeth o ETL ac integreiddio data.
- Tystioaleth o ddatblygiad proffesiynol parhaus.
- Gwybodaeth ac arbenigedd o bensaernïaeth ac isadeiledd TG.
- Gwybodaeth ac arbenigedd o wybodaeth iechyd (yn cynnwys systemau a chymhwyso).
- Gwybodaeth gyfredol o’r sector cyhoeddus/GIG.
- Gwybodaeth am offer rheoli gwaith/cydweithredu fel MS Teams, Trello a Miro ac ati
Meini prawf dymunol
- Gwybodaeth am y GIG, Llywodraeth Cymru a strategaethau, polisïau a chynlluniau.
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o allforio data o systemau data amrywiol, trawsnewid data yn erbyn rheolau busnes a modelau data, neu ofynion storio a dadansoddi data, a llwytho data mewn llwyfannau storio amrywiol.
- Sgiliau cyfathrebu a chydweithredu rhagorol i bennu gofynion data. .
- Profiad o weithredu rhaglenni newid digidol/gwybodaeth/data.
- Profiad o ddatblygu cynlluniau cyflwyno, sefydlu blaenoriaethau gwaith, dirprwyo’n effeithiol, sicrhau gallu i gyflawni, monitro perfformiad a rhoi adborth l
- Dealltwriaeth dda o dechnegau Warws Data, yn cynnwys modelu data dimensiynol a dyluniad a chysyniadau modelu data a pherthynol (e.e. Kimball).
- Profiad sylweddol o SQL ac arbenigedd cronfeydd data technegol gan ddefnyddio cronfeydd data perthynol fel Cronfa Ddata Oracle a PL/SQL neu Microsoft T-SQL.
- Gallu datblygu partneriaethau ar draws Sefydliadau a sbarduno cydweithredu rhwng pobl i gyflawni canlyniadau dymuno
Meini prawf dymunol
- Profiad o ysgrifennu cod wedi ei baramedru naill mewn iaith rhaglennu neu sgriptio fel SQL/PL-SQL a/neu Python/Spark.
- Profiadol yn cyflwyno prosesau datblygu wedi eu sbarduno gan metadata.
- Profiad o ddatblygu llwybrau mewn technolegau cwmwl fel Azure Data Factory/Databricks.
- Profiad o ddefnyddio technegau a phrosesau CI/CD Profiad o reoli hyrwyddo a newid cod ystorfa DevOps/Git.
Doniau a Galluoedd (SGILIAU)
Meini prawf hanfodol
- Sgiliau dadansoddi, Bysellfwrdd TG a rhifedd rhagorol – yn hyderus gydag ystadegau a’u cyflwyno.
- Sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig rhagorol (yn cynnwys cyflwyno).
- Gallu i ddadansoddi materion cymhleth iawn lle mae deunydd yn gwrthdaro ac yn defnyddio ffynonellau lluosog (llafar, ysgrifenedig a rhifol).
- Gallu sylweddol i ddadansoddi data rhifol ac ysgrifenedig, asesu opsiynau a defnyddio mentrau priodol
- Gallu y gellir ei arddangos i gynllunio dros gyfnodau amser byr, canolig a hirdymor ac addasu cynlluniau ac adnoddau yn unol â hynny
- Demonstrable ability to work effectively between competing activities where required.
- Gallu y gellir ei arddangos i weithio’n effeithiol rhwng gweithgareddau cystadleuol lle bo angen.
- Gallu y gellir ei arddangos i reoli eich llwyth gwaith eich hun a gwneud penderfyniadau gwybodus yn absenoldeb gwybodaeth ofynnol, gan weithio i raddfeydd amser caeth a newidiol yn aml.
- Sgiliau rhyng-bersonol rhagorol a’r gallu i gynnal perthnasoedd gwaith llwyddiannus. Sgiliau rheoli amser a dibynadwyedd yn cyflawni’n barhaus yn erbyn terfynau amser.
Meini prawf dymunol
- Y gallu i siarad Cymraeg neu barodrwydd i ddysgu
NODWEDDION A GWERTHOEDD PERSONOL
Meini prawf hanfodol
- Gallu i wneud cysylltiad rhwng eu gwaith a’r budd i gleifion a’r cyhoedd.
- Arddangos y gallu i weithio o dan bwysau.
- Gweithio’n dda gydag eraill, yn gadarnhaol ac yn llawn cymorth, yn gwrando, yn cynnwys, yn parchu ac yn dysgu o gyfraniad eraill.
- Lefel uchel o Drefnu, hunanysgogiad a hyblygrwydd o ran ymagwedd ac agwedd.
- Teimlad cryf o atebolrwydd.
- Yn ceisio gwella’r hyn y maent yn ei wneud yn barhaus.
- Gwerthfawrogi amrywiaeth a gwahaniaeth. Yn gweithredu’n agored gydag uniondeb
- Gwerthfawrogi amrywiaeth a gwahaniaeth.
- Yn gweithredu’n agored gydag uniondeb
- Hunanymwybyddiaeth o ran deallusrwydd emosiynol, rhagfarn a sbardunau personol gyda sensitifrwydd ac ymwybyddiaeth ddiwylliannol.
Meini prawf dymunol
- Datblygiad Personol Parhaus
Arall
Meini prawf hanfodol
- Parodrwydd a gallu i deithio rhwng safleoedd.
Dogfennau
- Job Description and Person Specification - English (PDF, 569.3KB)
- Job Description and Person Specification - Cymraeg (PDF, 706.3KB)
- Occupational Health - FRF (PDF, 656.5KB)
- Hyderus o Ran Anabledd Arweinydd (PDF, 180.8KB)
- Canllawiau ar gyfer Ymgeiswyr (PDF, 278.7KB)
- Ein Rhwydweithiau Amrywiaeth (PDF, 330.6KB)
- Gwasanaethau Recriwtio Hysbysiad Preifatrwydd (PDF, 696.3KB)
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Fliss Bennee
- Teitl y swydd
- Head of Data,
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Fliss Bennee, Pennaeth Data [email protected] .
Ddim yn derbyn ceisiadau mwyach
Ymddiheuriadau, ond nid yw'r swydd wag hon yn derbyn ceisiadau mwyach.
Gallwch chwilio am swyddi tebyg ar fwrdd swyddi'r cyflogwr, neu fynd i'n bwrdd swyddi cenedlaethol Health Jobs UK.