Mae Trac yn falch o bweru recriwtio ar gyfer
Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru

Gwybodaeth
Croeso i Iechyd Cyhoeddus Cymru - asiantaeth iechyd cyhoeddus genedlaethol Cymru. Rydym yn bodoli i ddiogelu a gwella iechyd a llesiant a lleihau anghydraddoldebau iechyd i bobl yng Nghymru.
I gael gwybod mwy ewch i Iechyd Cyhoeddus Cymru a gwyliwch y fideo hwn am ein Cynllun Strategol
Dilynwch ni ar Twitter, Facebook, Linkedin a Instagram
Gweithio gyda'n gilydd, gydag ymddiriedaeth a pharch, i wneud gwahaniaeth
Ein diben yw ‘gweithio gyda'n gilydd ar gyfer Cymru iachach'. Rydym yn bodoli i helpu pawb yng Nghymru i fyw bywydau hirach, iachach. Gyda'n partneriaid, ein nod yw cynyddu disgwyliad oes iach, gwella iechyd a llesiant, a lleihau anghydraddoldebau i bawb yng Nghymru, nawr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Gyda'i gilydd, mae ein timau'n gweithio i atal clefyd, diogelu iechyd, a darparu arweinyddiaeth, gwasanaethau arbenigol ac arbenigedd iechyd cyhoeddus. Ni yw'r brif ffynhonnell o wybodaeth, ymchwil ac arloesedd iechyd cyhoeddus yng Nghymru.
Cysylltu
- Address
- No.2 Capital Quarter
- Tyndall Street
- Cardiff
- CF10 4BZ
- Contact Number
- 02921 500200
Mae newidiadau mewngofnodi ar ddod
O fis Gorffennaf 2025, bydd proses Dilysu Aml-Ffactor (MFA) yn cael ei chyflwyno i'r wefan hon. Bydd hyn yn ychwanegu cam ychwanegol at y broses mewngofnodi: bydd gofyn i chi fewnbynnu Cod Mynediad Untro (OTP) wrth i chi fewngofnodi i leihau twyll a sicrhau diogelwch. Gweler ein tudalen crynodeb yma am ragor o fanylion.
Cydlynydd Cyfathrebu
Closed for applications on: 22-Ion-2024 00:01
Statws y swydd wag: Closed
Closed for applications on: 22-Ion-2024 00:01
Manylion allweddol
Lleoliad
- Gwefan
- 2 Capital Quarter
- Cyfeiriad
- Stryd Tyndall
- Tref
- Caerdydd
- Cod post
- CF10 4BZ
- Major / Minor Region
- Caerdydd
Math o gontract a phatrwm gwaith
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyflog
- Cyflog
- £28,834 - £35,099 per annum
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Gradd
- (GIG AAGN: Band 5)
Arbenigedd
- Prif leoliad
- Cyfathrebu
Croeso i Iechyd Cyhoeddus Cymru, asiantaeth iechyd cyhoeddus genedlaethol Cymru
Ein gweledigaeth yw Gweithio i wireddu dyfodol iachach i Gymru
Am ragor o wybodaeth amdanom, ewch i’n tudalen hafan, darllenwch am ein cynllun strategol
Dilynwch ni ar Twitter, Facebook, LinkedIn and Instagram
Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg. I gefnogi ein gwasanaeth i Gymru gyfan, croesawn yn fawr ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.
Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau.
Trosolwg o'r swydd
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn chwilio am Swyddog Cyfathrebu Cynorthwyol/Cydlynydd Cyfathrebu ymrwymedig, galluog a phrofiadol i ymuno â'i dîm Cyfathrebu ac Ymgysylltu.
Gan weithio gyda thimau o bob rhan o'r sefydliad, gan gynnwys Sgrinio, Iechyd Rhywiol ac Iechyd Cyhoeddus Amgylcheddol, bydd y Cydlynydd Cyfathrebu yn cynorthwyo wrth gynllunio a chyflawni ymgyrchoedd sy'n ceisio gwella iechyd a llesiant poblogaeth Cymru.
Bydd y Cydlynydd Cyfathrebu yn hyderus wrth ddefnyddio fframweithiau Gwasanaeth Cyfathrebu'r Llywodraeth i lywio eu cynllunio ymgyrchu. Bydd yn gyfforddus yn gweithio gydag arbenigwyr ym maes iechyd cyhoeddus a gwyddor ymddygiad i gynllunio ymgyrchoedd sy'n cael eu hysgogi gan ddealltwriaeth ac sy'n cael effaith.
Bydd y Swyddog Cyfathrebu yn cydweithio â rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys Llywodraeth Cymru a byrddau iechyd yng Nghymru, i gynllunio a chydlynu gweithgareddau. Bydd hefyd yn gweithio'n agos gyda'r Adran Gyfathrebu ehangach gan gynnwys y timau Digidol, Newyddion a Materion Allanol, a Mewnol a Chorfforaethol, i gydlynu gweithgarwch ymgyrchoedd.
Rydym yn dîm angerddol, gofalgar sy'n cael ei arwain gan werthoedd. Rydym yn ffynnu ar wneud gwahaniaeth. Byddwch yn ymuno â thîm sy'n ymrwymedig i ddysgu a gwella parhaus.
Os oes gennych brofiad o gynorthwyo'r gwaith o gyflwyno ymgyrchoedd cyfathrebu ac rydych am chwarae rhan allweddol wrth gyflawni Cymru iachach, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
Advert
Byddwch yn cynorthwyo wrth gynllunio a chyflawni ymgyrchoedd sy'n ceisio gwella iechyd a llesiant poblogaeth Cymru.
Bydd eich dyletswyddau'n cynnwys:
- Cynorthwyo'r Rheolwr Cyfathrebu wrth gynllunio a chyflawni ymgyrchoedd cyfathrebu iechyd cyhoeddus
- Darparu cyngor a chymorth cyfathrebu arbenigol i staff o bob rhan o'r sefydliad
- Cynorthwyo cydweithwyr i ddarparu gweithgareddau cyfathrebu ac ymgysylltu â rhanddeiliaid
- Cynorthwyo'r Uwch-reolwr Cyfathrebu wrth weinyddu gweithgareddau cyfathrebu
- Ysgrifennu a golygu copi ar gyfer amrywiaeth o sianeli
- Gweithio gyda'r tîm Cyfathrebu Digidol i ddatblygu a darparu asedau digidol a phrint
Gweithio i'n sefydliad
Ni yw Iechyd Cyhoeddus Cymru - asiantaeth iechyd cyhoeddus genedlaethol Cymru. Ein diben yw ‘gweithio gyda'n gilydd ar gyfer Cymru iachach'. Rydym yn bodoli i helpu pawb yng Nghymru i fyw bywydau hirach, iachach. Gyda'n partneriaid, ein nod yw cynyddu disgwyliad oes iach, gwella iechyd a llesiant, a lleihau anghydraddoldebau i bawb yng Nghymru, nawr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Gyda'i gilydd, mae ein timau'n gweithio i atal clefyd, diogelu iechyd, a darparu arweinyddiaeth, gwasanaethau arbenigol ac arbenigedd iechyd cyhoeddus. Ni yw'r brif ffynhonnell o wybodaeth, ymchwil ac arloesedd iechyd cyhoeddus yng Nghymru. Nid yw iechyd cyhoeddus erioed wedi bod mor bwysig wrth i ni ddod drwy bandemig y Coronafeirws, wynebu heriau'r argyfwng costau byw a mynd i'r afael ac atal effeithiau niweidiol newid hinsawdd.
Caiff ein sefydliad ei arwain gan ein gwerthoedd 'Cydweithio, gydag ymddiriedaeth a pharch, i wneud gwahaniaeth'. Rydym wedi ymrwymo i greu gweithle cynhwysol sy'n rhoi gwerth ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Rydym yn croesawu ceisiadau sy'n cynrychioli amrywiaeth gyfoethog y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu a chan y rhai sy'n dymuno gweithio'n rhan amser neu rannu swydd.
I ddarganfod mwy am weithio i ni a'r buddion rydym yn eu cynnig, ewch i Gyrfaoedd - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)
I gael arweiniad ar y broses ymgeisio, ewch i Gwybodaeth a Chanllawiau i Ymgeiswyr - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Rydym yn hysbysebu am Swyddog Cyfathrebu Cynorthwyol/Cydlynydd Cyfathrebu Band 5
Byddwch yn cynorthwyo wrth gynllunio a chyflawni ymgyrchoedd sy'n ceisio gwella iechyd a llesiant poblogaeth Cymru.
Ymhlith eich prif ddyletswyddau fydd:
- Cynorthwyo'r Rheolwr Cyfathrebu wrth gynllunio a chyflawni ymgyrchoedd cyfathrebu iechyd cyhoeddus
- Darparu cyngor a chymorth cyfathrebu arbenigol i staff o bob rhan o'r sefydliad
- Cynorthwyo cydweithwyr i ddarparu gweithgareddau cyfathrebu ac ymgysylltu â rhanddeiliaid
- Cynorthwyo'r Uwch-reolwr Cyfathrebu wrth weinyddu gweithgareddau cyfathrebu
- Ysgrifennu a golygu copi ar gyfer amrywiaeth o sianeli
- Gweithio gyda'r tîm Cyfathrebu Digidol i ddatblygu a darparu asedau digidol a phrint
DYLETSWYDDAU A CHYFRIFOLDEBAU
Sgiliau Cyfathrebu a Pherthnasoedd
- Darparu a derbyn gwybodaeth gymhleth; rhoi cyngor, cyfarwyddyd neu hyfforddiant i grwpiau
- Meddu ar sgiliau llafar ac ysgrifenedig da, yn ddelfrydol yn Gymraeg ac yn Saesneg
- Derbyn gwybodaeth gymhleth i'w defnyddio mewn ymgyrchoedd Iechyd Cyhoeddus Cymru, ar wefannau ac mewn cyfathrebu cyhoeddus, system ac sy'n wynebu staff
- Gweithio gyda'r tîm Ymgyrchoedd a Chynllunio a'r Tîm Cyfathrebu ehangach a rhoi cymorth iddynt
Gwybodaeth, Hyfforddiant a Phrofiad
- Arbenigedd mewn arbenigaeth neu ddisgyblaeth, gyda theori yn sail i hyn
- Gwybodaeth am dechnegau, dulliau, gweithdrefnau cyfathrebu, cysylltiadau cyhoeddus, newyddiaduraeth a marchnata: a gaffaelwyd drwy hyfforddiant i lefel gradd berthnasol neu gyfwerth, a phrofiad
Sgiliau Dadansoddol a Beirniadol
- Amrywiaeth o ffeithiau neu sefyllfaoedd sydd angen eu dadansoddi
- Llunio barn sy'n cynnwys amrywiaeth o opsiynau am addasrwydd adnoddau i ddiwallu anghenion defnyddwyr
- Fel y bo'n briodol, mynd ati i gasglu, dadansoddi a chyflwyno ystadegau ar ymgyrchoedd, cyfryngau, digidol a'r defnydd o blatfformau perthnasol
Sgiliau Cynllunio a Threfnu
- Cynllunio a threfnu gweithgareddau neu raglenni cymhleth, sydd angen eu llunio a'u haddasu
- Llunio ac addasu cynlluniau gweithredol pan fydd sefyllfaoedd yn gofyn am hynny, yn aml ar fyr rybudd
- Trefnu cyfarfodydd, digwyddiadau, cynadleddau i'r wasg, cyfleoedd i dynnu lluniau/cydlynu ymgyrchoedd cyfathrebu
Sgiliau Corfforol
- Sgiliau bysellfwrdd a chyfrifiadurol uwch ar gyfer mewnbynnu data/cynnal chwiliadau
- Efallai y bydd angen rhywfaint o deithio.
Cyfrifoldeb am Ofal Cleifion/Cleientiaid
- Cynorthwyo cleifion, defnyddwyr gwasanaethau a'r cyhoedd â chyngor iechyd cyhoeddus achlysurol a chyffredinol
Cyfrifoldeb am Bolisi a Datblygu Gwasanaeth
- Dadansoddi goblygiadau cyfathrebu cynigion polisi (o'r tu mewn i Iechyd Cyhoeddus Cymru a rhanddeiliaid) a rhoi cyngor ar reoli'r goblygiadau
Cyfrifoldeb am Adnoddau Ariannol a Ffisegol
- Archebu a phrynu gwasanaethau argraffu, cyfieithu, dylunio a gwasanaethau tebyg
- Cymryd cyfrifoldeb am reoli cyllidebau prosiect enwebedig
Cyfrifoldeb am Adnoddau Dynol
- Dyrannu a rhannu tasgau wrth weithio fel aelod o nifer o dimau
- Gallu dangos dyletswyddau i staff newydd neu aelodau eraill o staff
Cyfrifoldeb am Adnoddau Gwybodaeth
- Gofyniad rheolaidd i ddefnyddio meddalwedd i greu adroddiadau; cynnal un neu ragor o systemau gwybodaeth, cyfrifoldeb swydd sylweddol.
- Datblygu datganiadau i'r wasg, cyhoeddiadau, cyflwyniadau gan ddefnyddio meddalwedd cyhoeddi pen desg, gwefannau; os caiff systemau eu datblygu, bydd angen cynnal toriadau o'r wasg, llyfrgell ffotograffau, a chronfeydd data adrannol tebyg yn ôl yr angen.
Cyfrifoldeb am Ymchwil a Datblygu
- Cynnal arolygon ac archwiliadau fel y bo'n angenrheidiol ar gyfer gwaith cyfathrebu
- Darparu sylfaen wybodaeth am fentrau cyfathrebu allweddol i lywio ymchwil a gweithredu ymarfer effeithiol
Rhyddid i Weithredu
- Disgwylir i chi weithio'n annibynnol ar y cyfan i gynllunio a chyflawni gwaith y tîm cyfathrebu, o dan arweiniad safonau proffesiynol a diwydiant ond gan wneud eich penderfyniadau eich hun ynghylch y ffordd orau o ddehongli'r rhain ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru.
- Bydd y gwaith yn cael ei reoli, nid ei oruchwylio. Bydd angen i chi benderfynu ar eich amserlen waith eich hun a gwneud eich penderfyniadau eich hun ynghylch blaenoriaethu.
- Datblygu partneriaethau priodol ym maes cyfathrebu ar draws is-adrannau Iechyd Cyhoeddus Cymru
Ymdrech Gorfforol
- Eistedd yn aml mewn ystum cyfyngedig; ymdrech ysgafn am sawl cyfnod byr
- Gwaith desg gan ddefnyddio bysellfwrdd, llygoden a monitor am gyfnodau hir bob dydd.
- Teithio achlysurol ledled Cymru ar gyfer cyfarfodydd.
Ymdrech Feddyliol
- Gofyniad aml i ganolbwyntio lle mae'r patrwm gwaith yn rhagweladwy/canolbwyntio aml, patrwm gwaith anrhagweladwy.
- Bydd angen canolbwyntio er mwyn ysgrifennu copi, mewnbynnu data, gwirio gwybodaeth ac ateb ymholiadau.
- Gofyniad aml i newid tasgau er mwyn cynnig cymorth i gydweithwyr eraill, cleientiaid mewnol, asiantaethau a rhanddeiliaid eraill fel y bo'n briodol.
Ymdrech Emosiynol
- Amgylchiadau gofidus neu emosiynol anuniongyrchol achlysurol/aml
- Yn ymdrin â deunyddiau â delweddau graffig o gyflyrau meddygol neu astudiaethau achos ysgrifenedig sy'n cofnodi gwybodaeth ofidus e.e. clefydau yn ystod plentyndod
- Yn ymateb i sefyllfaoedd sefydliadol anodd
Amodau Gwaith
- Ymgymryd â chyfathrebu a gwaith cysylltiedig gartref ac mewn amgylchedd swyddfa fodern. Yn ystod pob diwrnod gwaith bydd gofyniad aml i ddefnyddio cyfrifiadur a TG ac offer cysylltiedig.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Ceidw Iechyd Cyhoeddus Cymru yr hawl i gau’r swydd wag hon yn gynnar. Felly rydym yn annog ceisiadau cynnar.
Rhoddir blaenoriaeth i staff sy’n aros i gael eu hadleoli. Rydym yn cadw’r hawl felly i dynnu’r hysbyseb hon yn ôl ar unrhyw adeg.
Os oes gennych anabledd a bod gennych unrhyw anghenion penodol i'ch galluogi i gymryd rhan yn y broses ymgeisio, cysylltwch â [email protected]
NODYN PWYSIG I YMGEISWYR: Mae ceisiadau am ein rolau yn cael eu hadolygu'n ofalus a'u rhoi ar restr fer yn seiliedig ar feini prawf penodol, sy'n amrywio o swydd i swydd.
Ni fydd defnyddio cymhwysiad generig neu gymhwysiad AI awtomatig, fel Lazy Apply neu AI Apply, fel arfer yn darparu digon o dystiolaeth bersonol o'ch sgiliau a'ch profiad sy’n berthnasol i'r rôl. Gall hyn ei gwneud hi'n anodd i ni asesu eich addasrwydd a bydd yn lleihau eich siawns o gael eich rhoi ar y rhestr fer.
Er mwyn sicrhau bod eich cais yn cael ystyriaeth lawn, rydym yn argymell eich bod yn cyflwyno cais wedi'i deilwra sy'n mynd i'r afael yn uniongyrchol â'r meini prawf a restrir yn adran Manyleb y Person yr hysbyseb, gan ddarparu tystiolaeth glir ac enghreifftiau i ddangos sut rydych chi'n bodloni pob gofyniad.
Cymhwysedd ar gyfer Nawdd Fisa
- Os oes angen nawdd arnoch drwy lwybrau Fisa Gweithiwr Medrus neu Fisa Gweithiwr Iechyd a Gofal, gwnewch yn siŵr eich bod yn hunanasesu eich cymhwysedd i gael nawdd ar gyfer y rôl hon cyn gwneud cais.
- Gwiriwch y canllawiau fisa Gweithiwr Medrus neu'r canllawiau fisa Gweithiwr Iechyd a Gofal am fanylion ynghylch cymhwysedd swydd, cyflog, yr iaith Saesneg, a gofynion nawdd.
Os byddwch yn llwyddiannus ac os cewch eich dewis ar gyfer y rhestr fer am gyfweliad, cysylltir â chi ar e-bost gan ddefnyddio’r cyfeiriad a ddefnyddiwyd gennych i gofrestru. Sicrhewch eich bod yn edrych ar eich cyfrif e-bost yn rheolaidd.
Rydym wedi ymrwymo i recriwtio teg a thryloyw ac rydym yn credu mewn cyfle cyfartal yn ein gweithle. Ni fyddwn yn goddef gwahaniaethu ar sail oedran, anabledd, hunaniaeth rywiol, crefydd neu gred, hil neu genedligrwydd, priodas neu bartneriaeth sifil, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, patrwm gwaith, cyfrifoldebau gofalu, gweithgarwch gydag undebau llafur neu gredoau gwleidyddol – nac ar unrhyw sail arall. Croesawn geisiadau gan unigolion a ddymunent weithio’n rhan-amser neu wneud cais i rannu swydd.
I weithio yn y DU, mae angen nawdd ar bob ymgeisydd nad yw'n wladolyn o'r DU neu Weriniaeth Iwerddon i gael naill ai fisa Gweithiwr Iechyd a Gofal neu fisa Gweithiwr Medrus, oni bai bod gennych ganiatâd i weithio trwy lwybr arall. Dylai ymgeiswyr nad ydynt yn rhan o'r DU/Gweriniaeth Iwerddon sy'n dymuno gwneud cais hunanasesu'u tebygolrwydd o gael Tystysgrif Nawdd trwy ymweld â gwefan Fisâu a Mewnfudo'r DU. Os ydych chi'n gymwys i gael y fisa Iechyd a Gofal, mae'r costau ymgeisio yn is ac nid oes angen i chi dalu Gordal Iechyd Mewnfudo blynyddol.
Mae'r raddfa gyflog a ddangosir ar gyfer aelod o staff llawn amser, a chaiff y swm ei addasu pro rata ar gyfer y rhai sy'n gweithio llai na 37.5 awr yr wythnos.
Cytunwyd ar y raddfa gyflog uchod fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2025/2026 a chaiff ei weithredu ym mis Awst 2025 gydag ôl-ddyddio i 1af Ebrill 2025 lle bo'n berthnasol.
Yn gyffredinol, bydd unrhyw un sy'n ymuno â'n Hymddiriedolaeth nad yw wedi gweithio yn y GIG o'r blaen, yn cychwyn ar bwynt cyntaf y band tâl a hysbysebir yn awtomatig. Yna bydd datblygiad cyflog yn cael ei bennu gan Adolygiadau Perfformiad a Datblygu blynyddol yn unol â Pholisi Datblygiad Cyflog GIG Cymru. Gellir ystyried cais am Gredyd Cynyddol, ond dim ond ar sail gwasanaeth cyfrifadwy â thystiolaeth a/neu brofiad cyfatebol, perthnasol y gellir ei ddyfarnu.
Gofynion yr ymgeisydd
Manyleb y person
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- Gradd neu lefel gyfwerth mewn pwnc perthnasol, neu brofiad cyfwerth
Meini prawf dymunol
- Cymwysterau perthnasol eraill (cysylltiadau cyhoeddus, marchnata, newyddiaduraeth)
- Aelodaeth broffesiynol berthnasol (CIPR, CIM, IOIC, PRCA)
- ECDL
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o weithio ym maes cyfathrebu, neu rôl debyg.
Meini prawf dymunol
- Profiad o weithio mewn amgylchedd GIG/Gofal Iechyd neu Sector Cyhoeddus.
Sgiliau
Meini prawf hanfodol
- Hyfedredd wrth ddefnyddio meddalwedd safonol Microsoft Office a'r rhyngrwyd
- Ysgrifennu ar gyfer y we, print, y wasg a'r cyfryngau cymdeithasol
- Cyfathrebu gwybodaeth gymhleth yn Saesneg ar lafar ac yn ysgrifenedig
- Gallu trefnu eich gwaith eich hun yn effeithiol a gweithio ar eich menter eich hun
Meini prawf dymunol
- Sgiliau Cymraeg
GWYBODAETH
Meini prawf hanfodol
- Gwybodaeth a dealltwriaeth o sut y mae cyfryngau print, darlledu a digidol yn gweithio
- Dealltwriaeth o safonau'r Gymraeg ar gyfer GIG Cymru
Meini prawf dymunol
- Gwybodaeth am strwythurau a chysylltiadau'r GIG gyda phartneriaid
- Gwybodaeth am asesu risg, cyfathrebu a chanfyddiad.
RHINWEDDAU PERSONOL
Meini prawf hanfodol
- Hunangymhelliant
- Dull proffesiynol, diplomatig a chadarnhaol tuag at waith
- Yn hyblyg ac yn gallu addasu i'r gwasanaeth
- Gallu rhwydweithio a chydweithio ag amrywiaeth o weithwyr proffesiynol iechyd a chysylltiedig
- Yn barod i ddysgu sgiliau newydd
- Gallu gweithio ar eich menter eich hun, wrth fod yn aelod effeithiol o dîm amlddisgyblaethol.
Meini prawf dymunol
- Gallu siarad ac ysgrifennu yn Gymraeg.
Dogfennau
- Job Description and Person Specification - English (PDF, 328.4KB)
- Job Description and Person Specification - Cymraeg (PDF, 328.4KB)
- Occupational Health - FRF (PDF, 656.5KB)
- Hyderus o Ran Anabledd Arweinydd (PDF, 180.8KB)
- Canllawiau ar gyfer Ymgeiswyr (PDF, 278.7KB)
- Ein Rhwydweithiau Amrywiaeth (PDF, 330.6KB)
- Gwasanaethau Recriwtio Hysbysiad Preifatrwydd (PDF, 696.3KB)
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Samuel Humphrey
- Teitl y swydd
- Communications Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
Ddim yn derbyn ceisiadau mwyach
Ymddiheuriadau, ond nid yw'r swydd wag hon yn derbyn ceisiadau mwyach.
Gallwch chwilio am swyddi tebyg ar fwrdd swyddi'r cyflogwr, neu fynd i'n bwrdd swyddi cenedlaethol Health Jobs UK.