Mae Trac yn falch o bweru recriwtio ar gyfer
Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC)

Gwybodaeth
Wedi'i sefydlu ar 1 Hydref 2018, mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn Awdurdod Iechyd Arbennig sy'n eistedd ochr yn ochr â'r Byrddau Iechyd a'r Ymddiriedolaethau o fewn GIG Cymru ac sydd â rôl arweiniol mewn addysg, hyfforddiant, datblygu a siapio'r gweithlu gofal iechyd yn Cymru, er mwyn sicrhau gofal o ansawdd uchel i bobl Cymru.
Cysylltu
- Address
Darganfod rhagor
open_in_new SwyddiMae newidiadau mewngofnodi ar ddod
O fis Gorffennaf 2025, bydd proses Dilysu Aml-Ffactor (MFA) yn cael ei chyflwyno i'r wefan hon. Bydd hyn yn ychwanegu cam ychwanegol at y broses mewngofnodi: bydd gofyn i chi fewnbynnu Cod Mynediad Untro (OTP) wrth i chi fewngofnodi i leihau twyll a sicrhau diogelwch. Gweler ein tudalen crynodeb yma am ragor o fanylion.
Cyfarwyddwr Strategaeth Addysg a Thrawsnewid
Closed for applications on: 26-Chwef-2024 00:05
Statws y swydd wag: Closed
Closed for applications on: 26-Chwef-2024 00:05
Manylion allweddol
Lleoliad
- Gwefan
- Ty Dysgu
- Cyfeiriad
- Nantgarw
- Tref
- Caerdydd
- Cod post
- CF15 7QQ
- Major / Minor Region
- Caerdydd
Math o gontract a phatrwm gwaith
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser
- Gweithio hyblyg
Cyflog
- Cyflog
- £101,390 - £116,673 Y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Gradd
- (Gradd 9)
Arbenigedd
- Prif leoliad
- Cyfarwyddwr Anweithredol
Rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo cynhwysiant yn AaGIC ac rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb sy'n cydnabod y gwerth y mae amrywiaeth yn ei roi i'n gweithlu. I weithio yn y DU, mae angen i ymgeiswyr nad ydynt yn ddinasyddion y DU neu Weriniaeth Iwerddon (ROI) gael eu noddi trwy Fisa Gweithiwr Medrus, oni bai bod ganddynt ganiatâd i weithio trwy lwybr arall. Sylwch nad oes gan AaGIC drwydded ar hyn o bryd i benodi gweithwyr medrus o dramor drwy eu noddi i weithio yn y DU. Os byddant yn llwyddiannus, byddai ymgeiswyr o'r tu allan i'r DU neu ROI yn gyfrifol am gael eu nawdd neu fisa eu hunain i'w galluogi i weithio i AaGIC - Gweithio yn y DU - Work in the UK
Trosolwg o'r swydd
Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn chwilio am Gyfarwyddwr Strategaeth a Thrawsnewid Addysg newydd. Bydd yr unigolyn llwyddiannus yn weithiwr proffesiynol deinamig wedi’i gymell gan ganlyniadau. Bydd yn helpu i gyflunio'r gweithlu iechyd yng Nghymru er budd cenhedlaeth i ddod.
Dyma rôl newydd o fewn AaGIC sef corff gweithlu strategol GIG Cymru, Awdurdod Iechyd Arbennig sy'n darparu ystod eang o swyddogaethau cenedlaethol yn ymwneud ag addysg, hyfforddiant a gweithlu’r gwasanaeth iechyd. Bydd y rôl hon yn ei gwneud yn ofynnol i'r unigolyn llwyddiannus feddu ar brofiad ym maes uwch-arweinyddiaeth a chymwysterau i ddatblygu a chyfannu timau newydd, gan sefydlu perthnasau gwaith effeithiol ag amrediad o bartneriaid lleol a chenedlaethol. Bydd iddo hanes o ddatblygu a gweithredu cynlluniau a datblygiadau strategol arloesol ac uchelgeisiol. Bydd hefyd yn gallu arfer y grefft o gyfarwyddo a rheoli newid yn llwyddiannus. Bydd gan yr unigolyn llwyddiannus adnabyddiaeth a dealltwriaeth gadarn a thrylwyr o addysg a hyfforddiant. Bydd yn chwarae rhan ganolog yn y broses o lunio ein Strategaeth Addysg i adlewyrchu amgylchedd sy'n prysur newid ac anghenion poblogaeth Cymru a'n gweithlu GIG i’r dyfodol.
O'r herwydd, bydd angen i'r unigolyn llwyddiannus fod yn arweinydd ysbrydoledig a thosturiol ac yn aelod ymroddedig o'r tîm, gyda brwdfrydedd ac angerdd dros wella ansawdd.
Advert
Bydd portffolio'r Cyfarwyddwr hwn yn cynnwys cyfrifoldebau trawsbynciol er budd datblygu a gweithredu strategaeth a thrawsffurfiad addysg, gan gynnwys datblygu seilwaith addysgol a modelau cyflawni newydd yn cynnwys dulliau academïaidd ac atebion digidol. Bydd y Cyfarwyddwr hefyd yn goruchwylio’n strategol yr orchwyl o gomisiynu addysg a rheoli ansawdd ar gyfer y Proffesiynau Iechyd (Nyrsio, Bydwreigiaeth, AHP, Gwyddor Gofal Iechyd ac ati) gan gynnwys rhaglenni israddedig ac ôl-gofrestru. Mae dysgu’n seiliedig ar waith a phrentisiaethau yn swyddogaeth allweddol arall, gydag AaGIC yn bartner datblygu ar gyfer Fframweithiau Prentisiaethau Iechyd. Mae'r Gyfarwyddiaeth yn gyfrifol am ddefnyddio oddeutu hanner cyllideb comisiynu addysg AaGIC yn effeithiol. Mae hyn yn dibynnu ar fframweithiau llywodraethu a chaffael cadarn, yn ogystal â chydweithiad effeithiol â sefydliadau addysg uwch (SAU) a rheoleiddwyr.
Bydd y Cyfarwyddwr yn gweithio'n agos gyda'r Cyfarwyddwr Meddygol a'r Cyfarwyddwr Nyrsio a Phroffesiynau Iechyd i fanteisio i'r eithaf ar gyfleoedd ar gyfer addysg a hyfforddiant rhyngbroffesiynol ac i ddatblygu rhwydweithiau a chydweithrediadau effeithiol ar lefel y DU. Bydd angen gweithio'n agos hefyd gydag arweinwyr polisi ac arweinwyr proffesiynol perthnasol yn Llywodraeth Cymru.
Er nad yw profiad o weithio i’r GIG yn hanfodol ar gyfer y rôl, bydd dealltwriaeth o'r cyd-destun ar gyfer gofal iechyd yng Nghymru a'i weithlu yn hanfodol.
Gweithio i'n sefydliad
Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yw'r corff gweithlu strategol ar gyfer GIG Cymru sydd â swyddogaethau statudol sy'n cynnwys addysg a hyfforddiant, cynllunio'r gweithlu, datblygu a thrawsnewid y gweithlu, arweinyddiaeth a chynllunio olyniaeth, a gyrfaoedd. Ein diben yw datblygu gweithlu sy'n darparu gofal rhagorol i gleifion/defnyddwyr gwasanaethau ac iechyd rhagorol yn y boblogaeth. Rydym yn Awdurdod Iechyd Arbennig sy'n gweithio'n agos gyda'n partneriaid; Gofal Cymdeithasol Cymru, darparwyr addysg, cyrff proffesiynol a rheoleiddiol a Llywodraeth Cymru.
Mae AaGIC wedi ymrwymo i ddatblygu diwylliant mewnol o ddewis. Mae ein Gwerthoedd yn adlewyrchu ein meddyliau, ein teimladau a'n credoau o ran sut y byddwn, ac na fyddwn, yn ymddwyn ac yn trin eraill:
- Parch i Bawb ym mhob cyswllt sydd gennym ag eraill,
- Syniadau sy'n Gwella: Harneisio creadigrwydd ac arloesi, gwerthuso a gwella'n barhaus,
- Gyda'n Gilydd fel Tîm
Derbyniodd AaGIC Wobr HPMA ar gyfer Ymgysylltu â Gweithwyr yn 2019.
Yr hyn y gallwch ei ddisgwyl:
- cyfnod ymsefydlu corfforaethol ag amserlen Croeso 90 diwrnod,
- arweinyddiaeth dosturiol,
- proses arfarnu perfformiad ystyrlon sy'n seiliedig ar werthoedd,
- y cyfle i effeithio ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a bywydau a lles pobl Cymru.
Mae llawer o'n cydweithwyr a'n rhanddeiliaid wedi gwneud sylwadau ar y cyffro a'r awyrgylch a olygwn drwy gydweithio fel "Un Tîm AaGIC". Ydych chi am ymuno â'r tîm hwnnw?
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan unigolion o'r proffesiwn Meddygol a Deintyddol a byddem yn ystyried penodi ar y raddfa gyflog Meddygol a Deintyddol gyfatebo
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus arddull gydweithredol, tosturiol a chynhwysol a bydd yn gweithredu fel esiampl gweladwy o werthoedd ac ymddygiadau AaGIC. Rydym yn ymroddedig i gyflunio gweithlu amrywiaethol sy’n adlewyrchu pobl a chymunedau Cymru. Rydym yn gwerthfawrogi unigrywiaeth ac amrywiaeth pob unigolyn a chredwn fod hyn yn ein helpu i ddarparu gwasanaethau sy'n adlewyrchu anghenion pawb yn ein cymuned. Ein nod yw bod yn gyflogwr hygyrch a chynhwysol wrth gyflawni ein gorchwyl a thrwy gyfrwng ein gweithredoedd unigol, ein harferion, polisïau a’n gweithdrefnau. Rydym yn awyddus i gynyddu cynrychiolaeth pobl o wahanol hunaniaethau, cefndiroedd a diwylliannau ac annog ceisiadau gan grwpiau nad oes ganddynt gynrychiolaeth ddigonol.
Rhaid ymgeisio drwy gyfrwng TRAC a rhaid cyflwyno ceisiadau cyn hanner nos, 25 Chwefror 2024.
Bydd y broses asesu'n cynnwys cyflwyniad gerbron Panel Rhanddeiliaid yn ogystal â mynychu panel staff yn ystod yr wythnos sy’n dechrau 18 Mawrth 2024. Cynhelir Cyfweliad Ffurfiol ar 25 Mawrth 2024.
Cytunwyd ar y raddfa gyflog uchod fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2025/2026 a chaiff ei weithredu ym mis Awst 2025 gydag ôl-ddyddio i 1af Ebrill 2025 lle bo'n berthnasol.
Mae'n hanfodol bod eich cais yn dangos sut rydych chi'n cwrdd â'r disgrifiad swydd / manyleb person ar gyfer y swydd hon.
Gofynion yr ymgeisydd
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- • Cofrestru presennol fel Nyrs/Bydwraig / Proffesiwn Perthynol Iechyd/ Fferyllydd / Gwyddonydd Gofal Iechyd / Optometrydd
- Addysgwyd i lefel gradd meistr
- Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus
- Dyfnder o wybodaeth a sgiliau proffesiwn ar draws ystod o ddisgyblaethau megis rheoli addysg, rheoli ariannol, rheoli perfformiad, systemau gwybodaeth a rheoli staff
- Cofrestru presennol gyda'r GMC neu GDC
Meini prawf dymunol
- Gweithio ar lefel uwch naill ai yn y sector Addysg neu'r GIG
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad arweinyddiaeth a rheoli helaeth ar lefel uwch yn y GIG neu'r sector Addysg sydd â hanes amlwg o gyflawni
- Dealltwriaeth fanwl o gomisiynu addysg a hyfforddiant, cyd-destun gofal iechyd yng Nghymru a'i weithlu
- Profiad ac arbenigedd mewn dylanwadu, datblygu, dehongli ac adolygu polisi a strategaeth ar lefel genedlaethol a DU
- Lefel uchel o sensitifrwydd gwleidyddol a phrofiad o ddelio ag ystod o faterion cymhleth o fewn amgylchedd gwleidyddol neu heriol i randdeiliaid
- Profiad o arwain tîm aml-broffesiynol a phrofiad o arwain ar faterion penodol o fewn eich cylch gwaith heb wybodaeth arbenigol
- Profiad o feithrin hygrededd personol a phroffesiynol gyda chlinigwyr eraill, aelodau'r Bwrdd, timau rheoli a staff
- Hanes profedig o arwain newid sylweddol o fewn systemau cymhleth a gweithio ar draws ffiniau
Meini prawf dymunol
- Cychwyn a hwyluso gwaith partneriaeth strategol a chynghreiriau yn llwyddiannus drwy sgiliau rheoli perthynas ardderchog
- Dealltwriaeth dda o'r amgylchedd darparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru a rolau a chyfrifoldebau ynddo.
- Profiad o gynnal trafodaethau sensitif
- Dealltwriaeth o'r agenda gwleidyddol ar gyfer iechyd a gofal yng Nghymru ac ar lefel y DU ac yn benodol i'r materion addysg, hyfforddiant a'r gweithlu o fewn cylch gwaith y Cyfarwyddwr
Sgiliau a Phriodoleddau
Meini prawf hanfodol
- Y gallu i feithrin ymddiriedaeth a hyder gyda staff a rhanddeiliaid
- Y gallu i gydweithio ac ar y cyd â phartneriaid i gyflawni canlyniadau
- Deallusrwydd emosiynol ac ymwybyddiaeth wleidyddol sydd wedi'i datblygu'n dda
- Ymrwymiad i addysg, hyfforddiant a datblygiad gweithlu a'i frwdfrydedd i gefnogi gwell gofal cleifion
- Yn arloesol, yn greadigol ac yn gallu rheoli'r risgiau cysylltiedig yn effeithiol
- Dull cadarn sy'n canolbwyntio ar y gwasanaeth gydag ymrwymiad i wella'r ddarpariaeth o ofal i gleifion
- Sgiliau cyfathrebu, rhyngbersonol, negodi a dylanwadu eithriadol
- Y gallu i ddarparu arweinyddiaeth effeithiol, agored, ddiffuant a gweladwy i adeiladu ysbryd tîm cadarnhaol ac ysbrydoli, cymell a chefnogi cydweithwyr
- Ymarfer barn gadarn a gwneud penderfyniadau ac yn barod i gael eu dwyn i gyfrif am benderfyniadau, gweithredoedd a dewisiadau a wneir yn bersonol a chan staff
- Gweithredu fel model rôl i staff ac mae'n ymrwymedig i werthoedd ac ymddygiad y GIG
- Y gallu i feddwl yn strategol a mynegi ymdeimlad clir o gyfeiriad a gweledigaeth i staff a rhanddeiliaid
- Yn fanwl datrys problemau a sgiliau dadansoddi cymhwyso creadigrwydd i nodi atebion amgen i faterion cymhleth
- Tystiolaeth o uniondeb personol a phroffesiynol, cywirdeb a hydwythedd
Meini prawf dymunol
- Mae Sgiliau Iaith Gymraeg yn ddymunol lefelau 1 i 5 o ran deall, siarad, darllen ac ysgrifennu yn Gymraeg
Arall
Meini prawf hanfodol
- Y gallu i deithio ledled Cymru a'r DU
- Ymrwymiad i ddarparu arweinyddiaeth mewn gweithio ystwyth a chael proffil gweladwy yn y Pencadlys (Tŷ Dysgu)
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Ross O'Keef
- Teitl y swydd
- Executive Search Consultant, Goodson Thomas
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 029 2167 4422
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Os oes gennych ddiddordeb yn y rôl hon, cysylltwch â'n hymgynghorwyr (argadwedig) chwilio am weithredwyr, Goodson Thomas, drwy gyfrwng 029 2167 4422 neu [email protected]. Gallwch ymofyn copi o'r Pecyn Ymgeisio, trafodaeth bellach neu drefnu sgwrs gyda Phrif Swyddog Gweithredol a Chadeirydd AaGIC.
Ddim yn derbyn ceisiadau mwyach
Ymddiheuriadau, ond nid yw'r swydd wag hon yn derbyn ceisiadau mwyach.
Gallwch chwilio am swyddi tebyg ar fwrdd swyddi'r cyflogwr, neu fynd i'n bwrdd swyddi cenedlaethol Health Jobs UK.