Mae Trac yn falch o bweru recriwtio ar gyfer
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Gwybodaeth
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd i boblogaeth o tua 372,320 ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. Mae'n darparu gwasanaethau Acìwt, Sylfaenol, Cymunedol, Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu trwy Ysbytai Cyffredinol a Chymunedol, Canolfannau Iechyd, Meddygfeydd Teulu, Deintyddion, Fferyllfeydd, Optometryddion a safleoedd eraill.
Cysylltu
- Address
- Glien House
- Cillefwr Industrial Estate
- Johnstown
- Carmarthen
- Carmarthenshire
- SA31 3RB
- Contact Number
- 0300 303 6138
Rheolwr Tîm Gwasanaeth Iechyd Meddwl Cymunedol (Gorwelion)
Closed for applications on: 18-Maw-2024 11:35
Statws y swydd wag: Closed
Closed for applications on: 18-Maw-2024 11:35
Manylion allweddol
Lleoliad
- Gwefan
- Canolfan Ddydd Gorwelion
- Tref
- Aberystwyth
- Cod post
- SY23 1HB
- Major / Minor Region
- Sir Gaerfyrddin
Math o gontract a phatrwm gwaith
- Contract
- 3 mis (Mae'r swydd hon yn secondiad tan 09.06.2024)
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyflog
- Cyflog
- £44,398 - £50,807 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Gradd
- (GIG AfC: Band 7)
Arbenigedd
- Prif leoliad
- Gwasanaethau Iechyd Meddwl
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.
Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau.
Trosolwg o'r swydd
Mae'r swydd hon yn secondiad tan 09/06/2024.
Os ydych yn gyflogai i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac yn gwneud cais am secondiad i'r swydd hon, bydd angen i'ch rheolwr presennol gytuno i'r secondiad cyn i chi gyflwyno eich cais.
Mae hwn yn gyfle cyffrous i secondiad 3 mis, i chwarae rhan allweddol wrth lunio a moderneiddio gwasanaethau Iechyd Meddwl ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Fel Rheolwr Tîm Band 7 byddwch yn cymryd rôl arweiniol mewn canolfan iechyd meddwl cymunedol a rheoli tîm amlddisgyblaethol.
Mae CMHT Gogledd Ceredigion yn cael eu cydleoli â CRHT Gogledd Ceredigion yng Nghanolfan Ddydd Gorwelion ac yn gweithio tuag at ddull ar y cyd o ymdrin â gofal cleifion gyda'r nod o ddatblygu un gwasanaeth di-dor i ddiwallu anghenion ein cleifion yn unigol o fewn y CMHC.
Bydd angen i chi feddu ar sgiliau arwain rhagorol, ynghyd â'r egni a'r brwdfrydedd i reoli'r tîm, tra'n cynnal lefel ardderchog o ofal i'n cleifion gofal eilaidd presennol.
Advert
Bydd angen i chi allu rheoli eich llwyth gwaith eich hun, gweithio'n dda dan bwysau, a gallu gweithio mewn tîm amlddisgyblaethol. Byddwch hefyd yn cydweithio â nifer o asiantaethau. Bydd angen i chi ddangos sgiliau rhyngbersonol rhagorol ac ymwybyddiaeth o Bolisïau a Gweithdrefnau ar draws y Bwrdd Iechyd.
Bydd y Rheolwr Tîm yn gyfrifol am gydlynu a rheoli'r gwasanaeth o ddydd i ddydd. Byddwch yn darparu arweiniad gweladwy a hygyrch i staff yn y Gwasanaeth. Byddwch yn rheolwr profiadol sy'n gallu darparu arweinyddiaeth a hyfforddiant rhagweithiol i gynorthwyo datblygiad y tîm, yn unol â gwerthoedd craidd y sefydliad i ddarparu gwasanaeth diogel ac effeithlon i'r rhai sy'n ei ddefnyddio a sicrhau profiad da i gleifion yn ein gwasanaethau.
Bydd cefnogaeth a datblygiad proffesiynol parhaus yn cael eu darparu ochr yn ochr â datblygiad personol.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg, fel ei gilydd, wneud cais.
Cynhelir y cyfweliadau ar 28/03/2024.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 11,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;
Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;
48 o bractisau cyffredinol (chwech ohonynt yn bractisau a reolir), 47 practis deintyddol (gan gynnwys tri orthodontig), 99 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;
Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Mynediad ar unwaith i’n budd llesiant ariannol – Wagestream. Mae Wagestream yn adnodd ar gyfer bywyd bob dydd sy’n eich caniatáu i gael eich talu eich ffordd eich hun, a olrain eich cyflog mewn amser real, ffrydio hyd at 50% o’r cyflog rydych wedi ennill yn barod, dysgu awgrymiadau hawdd i reoli eich arian yn well ac arbed eich tâl yn syth o’ch cyflog.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir drwy gyfrwng y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau a wneir yn y Saesneg.
NODYN PWYSIG I YMGEISWYR: Mae ceisiadau am ein rolau yn cael eu hadolygu'n ofalus a'u rhoi ar restr fer yn seiliedig ar feini prawf penodol, sy'n amrywio o swydd i swydd. Efallai na fydd defnyddio cais generig i wneud cais am rolau lluosog neu ddibynnu ar wasanaethau ceisiadau deallusrwydd artiffisial awtomataidd, fel Lazy Apply neu AI Apply, yn darparu'r wybodaeth angenrheidiol, gan arwain at anwybyddu'ch cais. Er mwyn sicrhau bod eich cais yn cael ystyriaeth lawn, rydym yn argymell cyflwyno cais wedi'i deilwra sy'n mynd i'r afael yn uniongyrchol â'r meini prawf a restrir yn adran Manyleb y Person yr hysbyseb.
Trwy gyflwyno eich cais i NHS Jobs/Trac, rydych yn gydsynio i elfennau o ddata eich cais gael eu trosglwyddo i Gofnod Staff Electronig (ESR) y GIG a systemau diogel, mewnol Gweithlu’r GIG er mwyn cefnogi a rheoli eich recriwtio a’ch cyflogaeth o fewn y sefydliad sy’n eich cyflogi; i’w defnyddio gan yr adran Recriwtio at ddibenion gwirio eich Cofrestriad Proffesiynol ar-lein (lle bo’n briodol).
Mae’r prosesau hyn yn unol â phrosesu Teg a Chyfreithlon yn unol â Deddfwriaeth Diogelu Data cyfredol yn enwedig y rhai hynny mewn perthynas â’ch data personol neu bersonol sensitif (diffinir data personol sensitif fel unrhyw gyflwr iechyd meddwl neu gorfforol, tarddiad hiliol neu ethnig, cyfeiriadedd rhywiol, aelodaeth undeb llafur, barn wleidyddol neu gred crefyddol datganedig). Fel sefydliad, rydym yn sicrhau bod y ddeddfwriaeth sy’n diffinio cyfrinachedd yn cael ei dilyn megis y defnydd o ddata at ddibenion penodol, diffiniedig, a defnydd o ddata sy’n berthnasol ac nid yn ormodol wrth ymarfer cywirdeb data a diogelwch yr holl wybodaeth bersonol adnabyddadwy a gedwir.
Os cewch eich penodi’n llwyddiannus, trwy lenwi’r ffurflen gais rydych yn awdurdodi’r BIP i gael unrhyw fanylion gwasanaeth blaenorol i’r GIG yn cynnwys yr holl wybodaeth ar salwch a gedwir yn electronig, trwy’r broses Trosglwyddo Rhyng-awdurdod ar y Cofnod Staff Electronig.
I weithio yn y DU, mae angen nawdd ar bob ymgeisydd nad yw'n wladolyn o'r DU neu Weriniaeth Iwerddon i gael naill ai fisa Gweithiwr Iechyd a Gofal neu fisa Gweithiwr Medrus, oni bai bod gennych ganiatâd i weithio trwy lwybr arall. Dylai ymgeiswyr nad ydynt yn rhan o'r DU/Gweriniaeth Iwerddon sy'n dymuno gwneud cais hunanasesu'u tebygolrwydd o gael Tystysgrif Nawdd trwy ymweld â gwefan Fisâu a Mewnfudo'r DU. Os ydych chi'n gymwys i gael y fisa Iechyd a Gofal, mae'r costau ymgeisio yn is ac nid oes angen i chi dalu Gordal Iechyd Mewnfudo blynyddol.
Gofynion yr ymgeisydd
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Cymhwyster proffesiynol - RMN, CQSW/Gweithiwr Cymdeithasol Dip, Therapi Galwedigaethol
- Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus
- Profiad ar Fand 6 neu uwch mewn maes ymarfer
- Rhaid bod yn barod i ddilyn cyrsiau/diwrnodau astudio lleol a hyfforddiant gorfodol
Meini prawf dymunol
- Profiad uwch neu reoli Band 7 CMHT
- Profiad Archwilio Clinigol
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad profedig ym maes ymarfer proffesiynol cofrestredig
- Cymhwyster ol-raddedig neu brofiad cyfatebol
- WNB 998/Addysgu ac Asesu neu gymhwyster cyfatebol neu barodrwydd i ymgymryd a hyfforddiant
- Rhaid meddu ar ddealltwriaeth gysyniadol o'r angen i weithio o fewn fframwaith nyrsio
- Gwybodaeth gadarn am faterion clinigol o fewn maes ymarfer
- Rhaid gallu gweithio'n ddiogel a dangos dealltwriaeth o Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974. Cynnal safonau uchel yn y gweithle yn unol a chyfarwyddyd polisiau a gweithdrefnau gan gynnwys salwch
- Gwybodaeth am oruchwyliaeth glinigol ac ymwybyddiaeth o effeithiolrwydd clinigol yn y maes gwaith
Meini prawf dymunol
- Cyrsiau cydnabyddedig mewn cwnsela
- Meddu ar ddealltwriaeth a gwybodaeth am ardal leol a chyfleusterau o fewn yr ardal y gall cleientiaid gael mynediad iddynt.
- Gradd/diploma mewn Gofal Iechyd Cymunedol Cymhwyster clinigol uwch sy'n berthnasol i faes ymarfer
Sgiliau iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Andrew Littlejohns
- Teitl y swydd
- Senior Nurse
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 07890 918394
Ddim yn derbyn ceisiadau mwyach
Ymddiheuriadau, ond nid yw'r swydd wag hon yn derbyn ceisiadau mwyach.
Gallwch chwilio am swyddi tebyg ar fwrdd swyddi'r cyflogwr, neu fynd i'n bwrdd swyddi cenedlaethol Health Jobs UK.