Mae Trac yn falch o bweru recriwtio ar gyfer
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Gwybodaeth
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd i boblogaeth o tua 372,320 ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. Mae'n darparu gwasanaethau Acìwt, Sylfaenol, Cymunedol, Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu trwy Ysbytai Cyffredinol a Chymunedol, Canolfannau Iechyd, Meddygfeydd Teulu, Deintyddion, Fferyllfeydd, Optometryddion a safleoedd eraill.
Cysylltu
- Address
- Glien House
- Cillefwr Industrial Estate
- Johnstown
- Carmarthen
- Carmarthenshire
- SA31 3RB
- Contact Number
- 0300 303 6138
Dirprwy Gyfarwyddwr y Proffesiynau Perthynol i Iechyd
Closed for applications on: 8-Ebr-2024 00:03
Statws y swydd wag: Closed
Closed for applications on: 8-Ebr-2024 00:03
Manylion allweddol
Lleoliad
- Gwefan
- Hafan Derwen, Parc Dewi Sant
- Cyfeiriad
- Heol Ffynnon Job
- Tref
- Caerfyrddin
- Cod post
- SA31 3BB
- Major / Minor Region
- Sir Gaerfyrddin
Math o gontract a phatrwm gwaith
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyflog
- Cyflog
- £101,390 - £116,673 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Gradd
- (Band 9)
Arbenigedd
- Prif leoliad
- Therapïau a Gwyddor Iechyd
- Dyddiad y cyfweliad
- 24/04/2024
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.
Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau.
Trosolwg o'r swydd
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn awyddus i recriwtio Dirprwy Gyfarwyddwr y Proffesiynau Perthynol i Iechyd.
Ar y cyd â’r Cyfarwyddwr Gweithredol Therapïau a Gwyddor Iechyd, bydd gan Ddirprwy Gyfarwyddwr y Proffesiynau Perthynol i Iechyd atebolrwydd proffesiynol am y Gweithlu Proffesiynol Perthynol i Iechyd, a bydd yn gyfrifol am osod y cyfeiriad strategol ar gyfer y Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd a gweithwyr cymorth y Proffesiynau Perthynol i Iechyd ledled y Bwrdd Iechyd.
Mae hon yn rôl broffesiynol gorfforaethol ac mae'r unigolyn yn aelod allweddol o strwythurau corfforaethol, gweithredol a chlinigol y Bwrdd Iechyd, gan gynrychioli llais a chyfraniad y Gweithlu Proffesiynol Perthynol i Iechyd ar draws y Bwrdd Iechyd, a hynny'n lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol.
Advert
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn darparu arweiniad proffesiynol a chlinigol gweladwy a hygyrch ar lefelau corfforaethol a gweithredol, gan roi cyngor strategol a chymorth, ac ysgogi arloesedd ledled y Gweithlu Proffesiynol Perthynol i Iechyd. Bydd yn ysbrydoli, yn cymell ac yn grymuso’r Gweithlu Proffesiynol Perthynol i Iechyd i fynd ati ymhellach i ddatblygu gwasanaethau diogel, amserol, effeithiol sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, ac sy’n deg ac yn effeithlon.
Bydd deiliad y swydd yn asiant newid yn y Bwrdd Iechyd, gan drosi strategaeth genedlaethol yn ddarpariaeth weithredol a sicrhau bod y Gweithlu Proffesiynol Perthynol i Iechyd yn cyfrannu at fentrau strategol, yn hyrwyddo diwylliant o ddysgu, ac, ar y cyd ag aelodau eraill o'r tîm amlbroffesiynol, yn ymdrechu i wella ansawdd yn barhaus.
Rhaid i'r unigolyn feddu ar brofiad helaeth o weithio ar lefel strategol, a hynny ledled ystod o wasanaethau a chan oruchwylio newid cymhleth i wasanaethau.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn arweinydd tosturiol a chynhwysol, yn gweithio gydag uwch-arweinwyr (clinigol ac anghlinigol) eraill ar draws y Bwrdd Iechyd, ac yn sicrhau dull amlbroffesiynol o gyflawni ein huchelgeisiau strategol, gan gadw at werthoedd ac ymddygiadau’r Bwrdd Iechyd ar yr un pryd.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 11,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;
Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;
48 o bractisau cyffredinol (pedwar ohonynt yn bractisau a reolir), 47 practis deintyddol (gan gynnwys tri orthodontig), 99 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;
Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Darparu dylanwad strategol ac arweinyddiaeth broffesiynol, a sicrhau bod adnoddau perthynol i iechyd yn cael eu defnyddio mewn modd medrus i gyflenwi gwasanaethau diogel, effeithiol, ymatebol a gofalgar a arweinir yn dda, a hynny gan gydweithio â’r holl arweinwyr proffesiynol.
Ymgorffori diwylliant lle mae defnyddwyr gwasanaethau, gofalwyr a theuluoedd yn rhan annatod o'r prosesau cynllunio, darparu a gwella gwasanaethau.
Sicrhau presenoldeb gweladwy, hygyrch a phroffesiynol ar lefelau clinigol a chorfforaethol, gan ddarparu cyngor, cymorth, arloesedd ac arweinyddiaeth broffesiynol, ac ysbrydoli, cymell a grymuso Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd a gweithwyr cymorth y proffesiynau perthynol i iechyd i ddarparu gwasanaethau effeithiol sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn.
Dylanwadu ar y gwaith o ddarparu gwasanaethau'r sefydliad, ac ar safonau a gweithgarwch, ynghyd â chyfrannu yn hynny o beth, gan annog gweithio amlddisgyblaethol, cydweithio â rhanddeiliaid eraill, a chydgynhyrchu â defnyddwyr gwasanaethau, gofalwyr a theuluoedd.
Sicrhau cyfraniad y Gweithlu Proffesiynol Perthynol i Iechyd at ddarparu mentrau a datblygiadau sefydliadol sy’n ymdrechu i wella gwasanaethau’n barhaus, gan fodloni gofynion defnyddwyr gwasanaethau a gofynion a gomisiynir, a hynny'n unol â'r adnoddau y cytunwyd arnynt.
Gofalu bod gwasanaethau'n cael eu darparu'n unol â mentrau rhanbarthol a chenedlaethol, gan fonitro cynnydd yn ôl dangosyddion perfformiad allweddol.
Cyfrannu safbwynt y Gweithlu Proffesiynol Perthynol i Iechyd a gwybodaeth a sgiliau ym mhwyllgorau’r Bwrdd/Is-fyrddau, gan sicrhau bod y Bwrdd Iechyd yn cael gwybod am arferion a gwasanaethau'r Gweithlu Proffesiynol Perthynol i Iechyd.
Arwain y gwaith o ddarparu gofal o ansawdd uchel, gan sicrhau bod Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd yn cael yr effaith fwyaf posibl ar brofiad cleifion a chanlyniadau i’r boblogaeth leol.
Arwain y gwaith o ddadansoddi, cynllunio, gweithredu a gwerthuso'r gwasanaethau a ddarperir gan y Gweithlu Proffesiynol Perthynol i Iechyd, a hynny trwy ailgynllunio rolau a chyllid newydd sy’n bodloni gofynion rhanddeiliaid.
Bydd y diwrnod asesu yn cynnwys cyfweliad a sesiwn rhanddeiliaid (yn y cnawd) ar 24 Ebrill 2024.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir drwy gyfrwng y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau a wneir yn y Saesneg.
NODYN PWYSIG I YMGEISWYR: Mae ceisiadau am ein rolau yn cael eu hadolygu'n ofalus a'u rhoi ar restr fer yn seiliedig ar feini prawf penodol, sy'n amrywio o swydd i swydd. Efallai na fydd defnyddio cais generig i wneud cais am rolau lluosog neu ddibynnu ar wasanaethau ceisiadau deallusrwydd artiffisial awtomataidd, fel Lazy Apply neu AI Apply, yn darparu'r wybodaeth angenrheidiol, gan arwain at anwybyddu'ch cais. Er mwyn sicrhau bod eich cais yn cael ystyriaeth lawn, rydym yn argymell cyflwyno cais wedi'i deilwra sy'n mynd i'r afael yn uniongyrchol â'r meini prawf a restrir yn adran Manyleb y Person yr hysbyseb.
Trwy gyflwyno eich cais i NHS Jobs/Trac, rydych yn gydsynio i elfennau o ddata eich cais gael eu trosglwyddo i Gofnod Staff Electronig (ESR) y GIG a systemau diogel, mewnol Gweithlu’r GIG er mwyn cefnogi a rheoli eich recriwtio a’ch cyflogaeth o fewn y sefydliad sy’n eich cyflogi; i’w defnyddio gan yr adran Recriwtio at ddibenion gwirio eich Cofrestriad Proffesiynol ar-lein (lle bo’n briodol).
Mae’r prosesau hyn yn unol â phrosesu Teg a Chyfreithlon yn unol â Deddfwriaeth Diogelu Data cyfredol yn enwedig y rhai hynny mewn perthynas â’ch data personol neu bersonol sensitif (diffinir data personol sensitif fel unrhyw gyflwr iechyd meddwl neu gorfforol, tarddiad hiliol neu ethnig, cyfeiriadedd rhywiol, aelodaeth undeb llafur, barn wleidyddol neu gred crefyddol datganedig). Fel sefydliad, rydym yn sicrhau bod y ddeddfwriaeth sy’n diffinio cyfrinachedd yn cael ei dilyn megis y defnydd o ddata at ddibenion penodol, diffiniedig, a defnydd o ddata sy’n berthnasol ac nid yn ormodol wrth ymarfer cywirdeb data a diogelwch yr holl wybodaeth bersonol adnabyddadwy a gedwir.
Os cewch eich penodi’n llwyddiannus, trwy lenwi’r ffurflen gais rydych yn awdurdodi’r BIP i gael unrhyw fanylion gwasanaeth blaenorol i’r GIG yn cynnwys yr holl wybodaeth ar salwch a gedwir yn electronig, trwy’r broses Trosglwyddo Rhyng-awdurdod ar y Cofnod Staff Electronig.
I weithio yn y DU, mae angen nawdd ar bob ymgeisydd nad yw'n wladolyn o'r DU neu Weriniaeth Iwerddon i gael naill ai fisa Gweithiwr Iechyd a Gofal neu fisa Gweithiwr Medrus, oni bai bod gennych ganiatâd i weithio trwy lwybr arall. Dylai ymgeiswyr nad ydynt yn rhan o'r DU/Gweriniaeth Iwerddon sy'n dymuno gwneud cais hunanasesu'u tebygolrwydd o gael Tystysgrif Nawdd trwy ymweld â gwefan Fisâu a Mewnfudo'r DU. Os ydych chi'n gymwys i gael y fisa Iechyd a Gofal, mae'r costau ymgeisio yn is ac nid oes angen i chi dalu Gordal Iechyd Mewnfudo blynyddol.
Gofynion yr ymgeisydd
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Cymhwyster proffesiynol Gweithiwr Proffesiynol Perthynol i Iechyd a chofrestriad cyfredol gyda'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal
- Gradd meistr neu gymhwyster cyfatebol
- Cwrs arweinyddiaeth neu brofiad cyfatebol
- Cymhwyster rheoli neu brofiad cyfatebol
- Tystiolaeth o DPP sy'n berthnasol i'r swydd
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad helaeth o weithio ar lefel uwch gyda phortffolio tebyg mewn sefydliad mawr a chymhleth
- Profiad helaeth o ddarparu gwasanaethau safon uchel amlwg sy'n canolbwyntio ar y claf
- Profiad helaeth o wella diogelwch cleifion, profiad y claf a chanlyniadau cleifion
- Gwybodaeth fanwl am ddyletswydd ansawdd, a dealltwriaeth fanwl yn hynny o beth
- Profiad sylweddol o gynllunio a datblygu strategaethau, a dylanwadu arnynt a'u gweithredu, ynghyd â hanes blaenorol profedig o reolaeth strategol
- Hanes blaenorol o weithio mewn partneriaeth i gyflwyno gwelliannau i wasanaethau a newid trawsnewidiol, ac i ailgynllunio a chyflawni prosiectau mawr cymhleth
- Profiad sylweddol o reolaeth ariannol, ynghyd â gwybodaeth am y modd i ddarparu cyllideb yn unol â tharged
- Profiad sylweddol o reoli staff ac o gynllunio a datblygu gweithlu
- Profiad sylweddol o ddefnyddio prosesau rheoli perfformiad
- Profiad o gyflawni amcanion yn unol â thargedau perfformiad heriol ac o gefnogi eraill i gyfrannu at y nodau hyn
- Y gallu i reoli/ddylanwadu ar faterion clinigol a phersonél heriol, sensitif a chymhleth
Sgiliau a Rhinweddau
Meini prawf hanfodol
- Y gallu i hyrwyddo llais a chyfraniad y Gweithlu Proffesiynol Perthynol i Iechyd ar lefel strategol
- Y gallu i drosi'r agenda genedlaethol yn weithredu lleol
- Y gallu i fodloni terfynau amser heriol
- Sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig rhagorol
- Sgiliau ysgogi datblygedig iawn ac ymrwymiad cryf i rymuso/ gynnwys staff
- Asiant newid sy'n herio'r status quo yn gyson
- Sgiliau ymchwilio, ysgrifennu adroddiadau a chyflwyno uwch
Arall
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- James Severs
- Teitl y swydd
- Executive Director of Therapies and Health Science
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch y broses ddethol ar gyfer y rôl hon, cysylltwch ag:
Alison Thomas, Uwch-reolwr y Gweithlu (Recriwtio) yn [email protected]
Ddim yn derbyn ceisiadau mwyach
Ymddiheuriadau, ond nid yw'r swydd wag hon yn derbyn ceisiadau mwyach.
Gallwch chwilio am swyddi tebyg ar fwrdd swyddi'r cyflogwr, neu fynd i'n bwrdd swyddi cenedlaethol Health Jobs UK.