Mae Trac yn falch o bweru recriwtio ar gyfer
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Gwybodaeth
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd i boblogaeth o tua 372,320 ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. Mae'n darparu gwasanaethau Acìwt, Sylfaenol, Cymunedol, Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu trwy Ysbytai Cyffredinol a Chymunedol, Canolfannau Iechyd, Meddygfeydd Teulu, Deintyddion, Fferyllfeydd, Optometryddion a safleoedd eraill.
Nyrsio Cymunedol
Closed for applications on: 2-Mai-2024 00:05
Statws y swydd wag: Closed
Closed for applications on: 2-Mai-2024 00:05
Manylion allweddol
Lleoliad
- Gwefan
- Ty Elwyn
- Tref
- Llanelli
- Cod post
- SA15 3AP
- Major / Minor Region
- Sir Gaerfyrddin
Math o gontract a phatrwm gwaith
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser
- Rhan-amser
Cyflog
- Cyflog
- £35,922 - £43,257 y flwyddyn (pro rata os yn rhan amser)
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Gradd
- (Gradd 6)
Arbenigedd
- Prif leoliad
- Nyrsio Cymunedol
- Dyddiad y cyfweliad
- 16/05/2024
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae’r raddfa gyflog uchod wedi’i chytuno fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2024/2025. Bydd yn cael ei rhoi ar waith ym mis Tachwedd 2024 wedi’i hôl-ddyddio i 1 Ebrill 2024 lle bo’n berthnasol.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
I nyrs frwdfrydig uchel ei chymhelliant ac â chymwysterau addas, mae cyfle wedi dod ar gael i ymuno â'n Tîm Cymunedol ar gyfer Pobl ag Anableddau Dysgu, a hynny ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Llanelli.
Daw’r swydd hon ar gael yn ystod cyfnod o Drawsnewid Gwasanaethau mewn ymateb i anghenion newidiol pobl ag anabledd dysgu a’r agenda genedlaethol ar gyfer gwella. Os byddwch yn llwyddiannus, byddwch yn chwarae rhan hanfodol yn y cyfnod cyffrous hwn o newid, a hynny trwy gyfrannu at gynllunio model gwasanaeth newydd sy'n darparu gwasanaethau hyblyg ac ymatebol.
Disgwylir i chi weithio mewn modd rhagweithiol a chreadigol ac yn rhan o dîm amlddisgyblaethol i ddarparu gofal nyrsio o ansawdd uchel, seiliedig ar dystiolaeth, i oedolion a phobl ifanc sydd ag anabledd dysgu, a hynny mewn partneriaeth â nhw a'u teuluoedd/gofalwyr.
Byddwch yn cael y cyfle i weithio'n agos gyda chyd-weithwyr eraill yn y tîm
amlddisgyblaethol, a byddwch yn darparu cyngor, cymorth a hyfforddiant arbenigol i'r rheiny sy'n rhan o'ch llwyth achosion, eu teuluoedd a'u gofalwyr, ynghyd ag i'ch cydweithwyr ledled y Bwrdd Iechyd.
Dylai ymgeiswyr feddu ar brofiad ôl-raddedig o weithio yn rôl Nyrs Anableddau Dysgu Gofrestredig mewn lleoliad gofal iechyd, dylent feddu ar wybodaeth eang am arbenigeddau clinigol, a dylent feddu ar dystiolaeth o Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus. Rydym yn cynnig goruchwyliaeth reolaidd, datblygiad proffesiynol, a mynediad at gymorth nyrsio gan gymheiriaid.
Advert
Ysgwyddo atebolrwydd a chyfrifoldeb proffesiynol parhaus am ddarparu gofal iechyd, triniaeth a chyngor arbenigol yn y gymuned ar gyfer llwyth achosion diffiniedig o gleientiaid ag anableddau dysgu a chanddynt anghenion iechyd cymhleth, ynghyd â'u gofalwyr.
Cydlynu a chydweithio ag asiantaethau eraill i ddarparu gwasanaeth hyblyg ac ymatebol sy'n diwallu anghenion y boblogaeth leol o bobl ag anabledd dysgu, ynghyd ag anghenion gofalwyr.
Darparu cyngor, cymorth a hyfforddiant arbenigol ar ystod o faterion iechyd i asiantaethau eraill sy'n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau/gofal i bobl ag anableddau dysgu, a hynny gyda'r nod o leihau anghydraddoldebau iechyd i bobl ag anabledd dysgu.
Byddem yn disgwyl i unrhyw un sydd â diddordeb fod yn gyfarwydd â
pholisi/deddfwriaeth gyfredol ac amlygu gallu i wella'r modd y darperir gwasanaethau trwy hyrwyddo newid mewn prosiectau cysylltiedig ag iechyd.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg, fel ei gilydd, wneud cais.
Cynhelir y cyfweliadau ar 16/05/2024.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 11,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth â’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
• Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;
• Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;
• 48 o bractisau cyffredinol (chwech ohonynt yn bractisau a reolir), 47 practis deintyddol (gan gynnwys tri orthodontig), 99 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;
• Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;
• Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Mynediad ar unwaith i’n budd llesiant ariannol – Wagestream. Mae Wagestream yn adnodd ar gyfer bywyd bob dydd sy’n eich caniatáu i gael eich talu eich ffordd eich hun, a olrain eich cyflog mewn amser real, ffrydio hyd at 50% o’r cyflog rydych wedi ennill yn barod, dysgu awgrymiadau hawdd i reoli eich arian yn well ac arbed eich tâl yn syth o’ch cyflog.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir drwy gyfrwng y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau a wneir yn y Saesneg.
NODYN PWYSIG I YMGEISWYR: Mae ceisiadau am ein rolau yn cael eu hadolygu'n ofalus a'u rhoi ar restr fer yn seiliedig ar feini prawf penodol, sy'n amrywio o swydd i swydd. Efallai na fydd defnyddio cais generig i wneud cais am rolau lluosog neu ddibynnu ar wasanaethau ceisiadau deallusrwydd artiffisial awtomataidd, fel Lazy Apply neu AI Apply, yn darparu'r wybodaeth angenrheidiol, gan arwain at anwybyddu'ch cais. Er mwyn sicrhau bod eich cais yn cael ystyriaeth lawn, rydym yn argymell cyflwyno cais wedi'i deilwra sy'n mynd i'r afael yn uniongyrchol â'r meini prawf a restrir yn adran Manyleb y Person yr hysbyseb.
Trwy gyflwyno eich cais i NHS Jobs/Trac, rydych yn gydsynio i elfennau o ddata eich cais gael eu trosglwyddo i Gofnod Staff Electronig (ESR) y GIG a systemau diogel, mewnol Gweithlu’r GIG er mwyn cefnogi a rheoli eich recriwtio a’ch cyflogaeth o fewn y sefydliad sy’n eich cyflogi; i’w defnyddio gan yr adran Recriwtio at ddibenion gwirio eich Cofrestriad Proffesiynol ar-lein (lle bo’n briodol).
Mae’r prosesau hyn yn unol â phrosesu Teg a Chyfreithlon yn unol â Deddfwriaeth Diogelu Data cyfredol yn enwedig y rhai hynny mewn perthynas â’ch data personol neu bersonol sensitif (diffinir data personol sensitif fel unrhyw gyflwr iechyd meddwl neu gorfforol, tarddiad hiliol neu ethnig, cyfeiriadedd rhywiol, aelodaeth undeb llafur, barn wleidyddol neu gred crefyddol datganedig). Fel sefydliad, rydym yn sicrhau bod y ddeddfwriaeth sy’n diffinio cyfrinachedd yn cael ei dilyn megis y defnydd o ddata at ddibenion penodol, diffiniedig, a defnydd o ddata sy’n berthnasol ac nid yn ormodol wrth ymarfer cywirdeb data a diogelwch yr holl wybodaeth bersonol adnabyddadwy a gedwir.
Os cewch eich penodi’n llwyddiannus, trwy lenwi’r ffurflen gais rydych yn awdurdodi’r BIP i gael unrhyw fanylion gwasanaeth blaenorol i’r GIG yn cynnwys yr holl wybodaeth ar salwch a gedwir yn electronig, trwy’r broses Trosglwyddo Rhyng-awdurdod ar y Cofnod Staff Electronig.
I weithio yn y DU, mae angen nawdd ar bob ymgeisydd nad yw'n wladolyn o'r DU neu Weriniaeth Iwerddon i gael naill ai fisa Gweithiwr Iechyd a Gofal neu fisa Gweithiwr Medrus, oni bai bod gennych ganiatâd i weithio trwy lwybr arall. Dylai ymgeiswyr nad ydynt yn rhan o'r DU/Gweriniaeth Iwerddon sy'n dymuno gwneud cais hunanasesu'u tebygolrwydd o gael Tystysgrif Nawdd trwy ymweld â gwefan Fisâu a Mewnfudo'r DU. Os ydych chi'n gymwys i gael y fisa Iechyd a Gofal, mae'r costau ymgeisio yn is ac nid oes angen i chi dalu Gordal Iechyd Mewnfudo blynyddol.
Gofynion yr ymgeisydd
Rhaid bod gennych gofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Nyrs Gofrestredig Anableddau Dysgu (RNLD) ac yn meddu ar gofrestriad cyfredol gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth
- Hyfforddiant ôl-gofrestru, gyda thystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus ym maes anableddau dysgu
- Tystiolaeth o Dystysgrif neu Ddiploma ôl-raddedig neu'n gweithio tuag at hynny, neu brofiad clinigol cyfatebol
- Dealltwriaeth gynhwysfawr o bolisi ac arfer cyfredol mewn perthynas â phobl ag anableddau dysgu
- Cymhwyster addysgu neu gymhwyster cyfatebol, neu brofiad diweddar o ddarparu hyfforddiant i staff iechyd
- Profiad o asesu risgiau, ynghyd â sgiliau rheoli risgiau
Meini prawf dymunol
- Dealltwriaeth gynhwysfawr o sbardunau lleol a chenedlaethol ar gyfer newid ym maes anableddau dysgu
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad helaeth o weithio gyda phobl ag anabledd dysgu, a hynny ar Fand 5 neu uwch
- Profiad o asesu a rheoli pobl sy'n byw â chydafiacheddau ac anghenion iechyd cymhleth
- Profiad diweddar o weithio gyda thîm cymunedol ar Fand 5, neu brofiad helaeth o weithio mewn tîm amlddisgyblaethol
- Profiad diweddar o oruchwylio staff cymorth nad ydynt wedi'u cofrestru
- Tystiolaeth o weithio gyda phobl sy'n amlygu ymddygiadau sy'n herio
Meini prawf dymunol
- Tystiolaeth o arweinyddiaeth glinigo
- Tystiolaeth o gymryd rhan mewn cylchoedd archwilio
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Kevin Clark
- Teitl y swydd
- Team Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01554 742311
Ddim yn derbyn ceisiadau mwyach
Ymddiheuriadau, ond nid yw'r swydd wag hon yn derbyn ceisiadau mwyach.
Gallwch chwilio am swyddi tebyg ar fwrdd swyddi'r cyflogwr, neu fynd i'n bwrdd swyddi cenedlaethol Health Jobs UK.