Mae Trac yn falch o bweru recriwtio ar gyfer
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Gwybodaeth
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd i boblogaeth o tua 372,320 ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. Mae'n darparu gwasanaethau Acìwt, Sylfaenol, Cymunedol, Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu trwy Ysbytai Cyffredinol a Chymunedol, Canolfannau Iechyd, Meddygfeydd Teulu, Deintyddion, Fferyllfeydd, Optometryddion a safleoedd eraill.
Arweinydd Tîm Adeiladu
Closed for applications on: 7-Mai-2024 00:03
Statws y swydd wag: Closed
Closed for applications on: 7-Mai-2024 00:03
Manylion allweddol
Lleoliad
- Gwefan
- Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg
- Cyfeiriad
- Heol Abergwaun
- Tref
- Hwlffordd
- Cod post
- SA61 2PZ
- Major / Minor Region
- Sir Gaerfyrddin
Math o gontract a phatrwm gwaith
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyflog
- Cyflog
- £28,834 - £35,099 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Gradd
- (Gradd 5)
Arbenigedd
- Prif leoliad
- Arweinydd y Tîm
- Dyddiad y cyfweliad
- 16/05/2024
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
• Cynorthwyo i ddatblygu datrysiadau ym maes adeiladu ar gyfer materion gweithredol.
• Datblygu perthnasoedd gwaith ardderchog ar draws yr holl adrannau yn yr ardal i alluogi grwpiau staff amrywiol i ddod i gytundeb ar faterion yn ymwneud â gwasanaethau gweithredol.
• Darparu a chael gwybodaeth gymhleth, sensitif a dadleuol i sicrhau bod staff, contractwyr, ac ati, yn cyflawni eu dyletswyddau yn ddiogel ac yn effeithiol.
Advert
Gweithio'n annibynnol fel aelod allweddol o dîm cynnal a chadw ardal y safle i ddarparu amgylchedd diogel a chyfforddus i gleifion, staff ac ymwelwyr. Sicrhau bod yr holl wasanaethau hanfodol yn cael eu cynnal er mwyn cefnogi adrannau clinigol yn eu prif dasg o drin cleifion, gan hefyd sicrhau y cydymffurfir â'r holl ddeddfwriaethau statudol. Sicrhau bod y rhaglen adeiladu gwaith cynnal a chadw ataliol gynlluniedig ar gyfer safleoedd y Bwrdd Iechyd yn cael ei chynnal er mwyn sicrhau bod gofynion statudol yn cael eu bodloni a bod gwasanaethau cleifion yn cael eu cefnogi. Cymryd y rôl adeiladu gweithredol arweiniol wrth reoli, ar y cyd â rheolwyr gweithredol y safle, elfen adeiladu rhaglenni cynnal a chadw statudol mewn ardaloedd hollbwysig, megis Theatrau, i sicrhau bod yr Amgylchedd Gweithredu yn cael ei gynnal i safonau gofynnol, gan leihau'r angen i gau ac amharu ar wasanaethau.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 11,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;
Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;
48 o bractisau cyffredinol (pedwar ohonynt yn bractisau a reolir), 47 practis deintyddol (gan gynnwys tri orthodontig), 99 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;
Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadu ar 16/05/2024.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gweithredu polisi dwyieithog
‘Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir drwy gyfrwng y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau a wneir yn y Saesneg’.
Trwy gyflwyno eich cais i NHS Jobs/Trac, rydych yn gydsynio i elfennau o ddata eich cais gael eu trosglwyddo i Gofnod Staff Electronig (ESR) y GIG a systemau diogel, mewnol Gweithlu’r GIG er mwyn cefnogi a rheoli eich recriwtio a’ch cyflogaeth o fewn y sefydliad sy’n eich cyflogi; i’w defnyddio gan yr adran Recriwtio at ddibenion gwirio eich Cofrestriad Proffesiynol ar-lein (lle bo’n briodol).
Mae’r prosesau hyn yn unol â phrosesu Teg a Chyfreithlon yn unol â Deddfwriaeth Diogelu Data cyfredol yn enwedig y rhai hynny mewn perthynas â’ch data personol neu bersonol sensitif (diffinir data personol sensitif fel unrhyw gyflwr iechyd meddwl neu gorfforol, tarddiad hiliol neu ethnig, cyfeiriadedd rhywiol, aelodaeth undeb llafur, barn wleidyddol neu gred crefyddol datganedig). Fel sefydliad, rydym yn sicrhau bod y ddeddfwriaeth sy’n diffinio cyfrinachedd yn cael ei dilyn megis y defnydd o ddata at ddibenion penodol, diffiniedig, a defnydd o ddata sy’n berthnasol ac nid yn ormodol wrth ymarfer cywirdeb data a diogelwch yr holl wybodaeth bersonol adnabyddadwy a gedwir.
Os cewch eich penodi’n llwyddiannus, trwy lenwi’r ffurflen gais rydych yn awdurdodi’r BIP i gael unrhyw fanylion gwasanaeth blaenorol i’r GIG yn cynnwys yr holl wybodaeth ar salwch a gedwir yn electronig, trwy’r broses Trosglwyddo Rhyng-awdurdod ar y Cofnod Staff Electronig.
I weithio yn y DU, mae angen nawdd ar bob ymgeisydd nad yw'n wladolyn o'r DU neu Weriniaeth Iwerddon i gael naill ai fisa Gweithiwr Iechyd a Gofal neu fisa Gweithiwr Medrus, oni bai bod gennych ganiatâd i weithio trwy lwybr arall. Dylai ymgeiswyr nad ydynt yn rhan o'r DU/Gweriniaeth Iwerddon sy'n dymuno gwneud cais hunanasesu'u tebygolrwydd o gael Tystysgrif Nawdd trwy ymweld â gwefan Fisâu a Mewnfudo'r DU. Os ydych chi'n gymwys i gael y fisa Iechyd a Gofal, mae'r costau ymgeisio yn is ac nid oes angen i chi dalu Gordal Iechyd Mewnfudo blynyddol.
Gofynion yr ymgeisydd
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Cymhwyster ONC mewn adeiladu o leiaf
- HNC/HND mewn gweithgarwch sy'n ymwneud ag adeiladu
Meini prawf dymunol
- Gradd mewn gweithgarwch sy'n gysylltiedig ag adeiladu
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad sylweddol mewn tîm cynnal a chadw gweithredol
- Wedi cwblhau rhaglen hyfforddi strwythuredig a/neu brentisiaeth
- Gwybodaeth gynhwysfawr ar draws yr holl grefftau adeiladu.
- Gwybodaeth drylwyr am ddeddfwriaethau adeiladu, rheoliadau, iechyd a diogelwch, Nodiadau Adeiladau Iechyd, ac ati
- Profiad o rôl debyg mewn sefydliad gofal iechyd arall, ynghyd â rolau a chyfrifoldebau goruchwylio a rheoli. (sefydliad ar raddfa lai o bosibl).
Sgiliau a Phriodweddau
Meini prawf hanfodol
- Sgiliau cyfathrebu a negodi da
- Y gallu i flaenoriaethu llwyth gwaith yr unigolyn a'r tîm.
- Y gallu i ysgogi eraill, gan arwain trwy esiampl
- Sgiliau bysellfwrdd TG da a'r gallu i lunio dogfennau wedi'u teipio a gwybodaeth mewn taenlenni data
- Y gallu i arwain heb fawr o oruchwyliaeth.
- Gwybodaeth gadarn am adeiladu a rheoli cynlluniau.
- Yn amlygu dealltwriaeth gadarn o DDA, Rheoli Contractau, rheoliadau adeiladu, HBN, HTM ac ati.
- Ymwybyddiaeth o Asbestos.
- Sgiliau trefnu da, y gallu i drefnu'n effeithlon.
- Yn hunan-ysgogol ac yn gallu ysgogi eraill, gan osod esiampl i bobl eraill ac arwain trwy esiampl
Meini prawf dymunol
- Mae Sgiliau Iaith Gymraeg yn ddymunol, sef lefelau 1 i 5 o ran deall, siarad, darllen ac ysgrifennu yn Gymraeg.
Arall
Meini prawf hanfodol
- Y gallu i weithio ar uchder gan ddefnyddio mynediad o ysgolion, sgaffald ac ati
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Malcolm Arnold
- Teitl y swydd
- Estates Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01437 773411
Ddim yn derbyn ceisiadau mwyach
Ymddiheuriadau, ond nid yw'r swydd wag hon yn derbyn ceisiadau mwyach.
Gallwch chwilio am swyddi tebyg ar fwrdd swyddi'r cyflogwr, neu fynd i'n bwrdd swyddi cenedlaethol Health Jobs UK.