Mae Trac yn falch o bweru recriwtio ar gyfer
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Gwybodaeth
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd i boblogaeth o tua 372,320 ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. Mae'n darparu gwasanaethau Acìwt, Sylfaenol, Cymunedol, Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu trwy Ysbytai Cyffredinol a Chymunedol, Canolfannau Iechyd, Meddygfeydd Teulu, Deintyddion, Fferyllfeydd, Optometryddion a safleoedd eraill.
Dietegydd Cymunedol
Closed for applications on: 21-Mai-2024 00:00
Statws y swydd wag: Closed
Closed for applications on: 21-Mai-2024 00:00
Manylion allweddol
Lleoliad
- Gwefan
- Canolfan Iechyd Aberdaugleddau
- Cyfeiriad
- Yorke Stryde
- Tref
- Aberdaugleddau
- Cod post
- SA73 2LL
- Major / Minor Region
- Sir Gaerfyrddin
Math o gontract a phatrwm gwaith
- Contract
- Cyfnod Penodol: 12 mis (Cyfnod penydol tan 01.04.2025)
- Oriau
- Rhan-amser - 18.75 awr yr wythnos
Cyflog
- Cyflog
- £35,922 - £43,257 y flwyddyn pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Gradd
- (Gradd 6)
Arbenigedd
- Prif leoliad
- Dieteteg
- Dyddiad y cyfweliad
- 28/05/2024
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae’r raddfa gyflog uchod wedi’i chytuno fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2024/2025. Bydd yn cael ei rhoi ar waith ym mis Tachwedd 2024 wedi’i hôl-ddyddio i 1 Ebrill 2024 lle bo’n berthnasol.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
MAE’R SWYDD HON AM GYFNOD PENODOL/SECONDIAD AM 12 MIS (01.04.25) OHERWYDD CYFNOD MAMOLAETH
OS OES DIDDORDEB GYDA CHI MEWN CEISIO AM SWYDD SECONDIAD, MAE’N RHAID I CHI GAEL CANIATAD EICH RHEOLWR LLINELL PRESENNOL CYN I CHI GEISIO AM Y SWYDD HON.
A ydych yn Ddeietegydd brwdfrydig a dynamig sy'n meddu ar sgiliau rhagorol o ran gweithio mewn tîm? Mae cyfle wedi dod ar gael i ymuno â’n tîm cymunedol Deieteg blaengar a dynamig ledled Hywel Dda, a hynny er mwyn mynd i’r afael â diffyg maeth yn rhan o’n hachos busnes Diffyg Maeth. Mae’r gwasanaeth wedi cael buddsoddiad sylweddol i fynd i’r afael â diffyg maeth, ac, o ganlyniad, mae’r swydd hon yn cynnig cyfle cyffrous i gydweithio â’r tîm cymunedol ehangach i ddelio â diffyg maeth yn y gymuned, yn ogystal â chefnogi gwaith prosiect cyffrous ac arloesol megis hunansgrinio ar gyfer diffyg maeth, clinigau rhithwir, llwyfannau digidol a ffyrdd newydd o weithio.
Advert
Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am lwyth achosion cymhleth o gleifion cymorth maethol cymunedol, a bydd hefyd yn ymgysylltu â chyfarfodydd tîm amlbroffesiynol dan arweiniad meddygon teulu i ymgorffori gofal maethol, ac yn darparu cyngor a chymorth maethol arbenigol i'r tîm ehangach o ran sgrinio maethol, llwybrau atgyfeirio a chynllunio gofal maethol. Bydd hyfforddiant ac addysg yn rhan allweddol o'r rôl hon. Mae'r swydd hon yn cynnig y gallu i weithio'n hyblyg gartref wedi'i gydbwyso â'r cyfle i gael eich lleoli ar y safle (o leiaf un diwrnod yr wythnos). Bydd deiliad y swydd yn cynnal ymweliadau cymunedol, yn mynychu cyfarfodydd tîm amlddisgyblaethol ac yn mynychu apwyntiadau 'Attend Anywhere' neu glinigau wyneb yn wyneb.
Rydym yn ymfalchïo yn y gwasanaeth ein bod yn dîm cefnogol, ac rydym yn croesawu ymgeiswyr sy'n dymuno trafod cyfleoedd ar gyfer gweithio'n hyblyg a gweithio o bell.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a / neu Saesneg wneud cais.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 11,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;
Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;
48 o bractisau cyffredinol (chwech ohonynt yn bractisau a reolir), 47 practis deintyddol (gan gynnwys tri orthodontig), 99 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;
Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Lleolir y swydd yn Sir Benfro, sy'n ardal o harddwch naturiol eithriadol, wedi'i hamgylchynu gan arfordir syfrdanol, sy'n ddelfrydol ar gyfer y rhai sy'n hoff o weithgareddau awyr agored a gweithgareddau ar y môr. Mae gennym hefyd ein theatrau, ein sinemâu a'n bwytai gwych ein hunain ledled y Sir. Ar ôl i chi fyw yma ni fyddwch byth am adael!
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadu ar 28.05.2024
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir drwy gyfrwng y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau a wneir yn y Saesneg.
NODYN PWYSIG I YMGEISWYR: Mae ceisiadau am ein rolau yn cael eu hadolygu'n ofalus a'u rhoi ar restr fer yn seiliedig ar feini prawf penodol, sy'n amrywio o swydd i swydd. Efallai na fydd defnyddio cais generig i wneud cais am rolau lluosog neu ddibynnu ar wasanaethau ceisiadau deallusrwydd artiffisial awtomataidd, fel Lazy Apply neu AI Apply, yn darparu'r wybodaeth angenrheidiol, gan arwain at anwybyddu'ch cais. Er mwyn sicrhau bod eich cais yn cael ystyriaeth lawn, rydym yn argymell cyflwyno cais wedi'i deilwra sy'n mynd i'r afael yn uniongyrchol â'r meini prawf a restrir yn adran Manyleb y Person yr hysbyseb.
Trwy gyflwyno eich cais i NHS Jobs/Trac, rydych yn gydsynio i elfennau o ddata eich cais gael eu trosglwyddo i Gofnod Staff Electronig (ESR) y GIG a systemau diogel, mewnol Gweithlu’r GIG er mwyn cefnogi a rheoli eich recriwtio a’ch cyflogaeth o fewn y sefydliad sy’n eich cyflogi; i’w defnyddio gan yr adran Recriwtio at ddibenion gwirio eich Cofrestriad Proffesiynol ar-lein (lle bo’n briodol).
Mae’r prosesau hyn yn unol â phrosesu Teg a Chyfreithlon yn unol â Deddfwriaeth Diogelu Data cyfredol yn enwedig y rhai hynny mewn perthynas â’ch data personol neu bersonol sensitif (diffinir data personol sensitif fel unrhyw gyflwr iechyd meddwl neu gorfforol, tarddiad hiliol neu ethnig, cyfeiriadedd rhywiol, aelodaeth undeb llafur, barn wleidyddol neu gred crefyddol datganedig). Fel sefydliad, rydym yn sicrhau bod y ddeddfwriaeth sy’n diffinio cyfrinachedd yn cael ei dilyn megis y defnydd o ddata at ddibenion penodol, diffiniedig, a defnydd o ddata sy’n berthnasol ac nid yn ormodol wrth ymarfer cywirdeb data a diogelwch yr holl wybodaeth bersonol adnabyddadwy a gedwir.
Os cewch eich penodi’n llwyddiannus, trwy lenwi’r ffurflen gais rydych yn awdurdodi’r BIP i gael unrhyw fanylion gwasanaeth blaenorol i’r GIG yn cynnwys yr holl wybodaeth ar salwch a gedwir yn electronig, trwy’r broses Trosglwyddo Rhyng-awdurdod ar y Cofnod Staff Electronig.
I weithio yn y DU, mae angen nawdd ar bob ymgeisydd nad yw'n wladolyn o'r DU neu Weriniaeth Iwerddon i gael naill ai fisa Gweithiwr Iechyd a Gofal neu fisa Gweithiwr Medrus, oni bai bod gennych ganiatâd i weithio trwy lwybr arall. Dylai ymgeiswyr nad ydynt yn rhan o'r DU/Gweriniaeth Iwerddon sy'n dymuno gwneud cais hunanasesu'u tebygolrwydd o gael Tystysgrif Nawdd trwy ymweld â gwefan Fisâu a Mewnfudo'r DU. Os ydych chi'n gymwys i gael y fisa Iechyd a Gofal, mae'r costau ymgeisio yn is ac nid oes angen i chi dalu Gordal Iechyd Mewnfudo blynyddol.
Gofynion yr ymgeisydd
Rhaid bod gennych gofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Manyleb y person
Amgylchiadau
Meini prawf hanfodol
- Y gallu i deithio rhwng safleoedd mewn modd amserol
- Agwedd hyblyg at anghenion y gwasanaeth
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Gradd gydnabyddedig mewn Deieteg, ynghyd a chofrestriad proffesiynol
- Cofrestriad gyda'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (yr HCPC)
- Tystiolaeth o bresenoldeb ar gyrsiau arbenigol achrededig a/neu gyrsiau hyfforddiant uwch mewn perthynas a deieteg, a hynny ar lefel diploma ol-raddedig
- Yn amlygu gwybodaeth a sgiliau deieteg clinigol wedi'u cydgrynhoi ym maes dieteteg oedolion
- Yn meddu ar wybodaeth arbenigol a amlygir gan gymhwyster deieteg a dysgu ffurfiol ychwanegol/ phrofiad amlwg ym maes deieteg acíwt ac yn y gymuned yn achos oedolion
- Sgiliau o ran dulliau o ymdrin a newid ymddygiad, gan gynnwys cyf-weld ysgogiadol
- Yn amlygu gwybodaeth dda am y sail dystiolaeth mewn perthynas ag ymarfer deietegol a datblygu ymarfer, ac yn gallu cymhwyso'r wybodaeth honno
- Sgiliau arfarnu beirniadol: gwybodaeth am y sail dystiolaeth gyfredol a datblygol, ac am bolisïau, canllawiau ac arfer gorau cenedlaethol a phroffesiynol mewn perthynas â darparu a datblygu maes arbenigol gwaith deieteg
- Sgiliau datrys problemau clinigol sefydledig
- Yn amlygu sgiliau trefnu effeithiol, sy'n cynnwys blaenoriaethu'r llwyth gwaith a rheoli'r llwyth achosion mewn modd effeithiol
- Sgiliau addysgu a chyflwyno sefydledig
Meini prawf dymunol
- Wedi cwblhau hyfforddiant ar Sgiliau Goruchwylio Clinigol
- Cymhwyster proffesiynol, technegol neu academaidd arall sy'n berthnasol i'r maes ymarfer deieteg clinigol
- ECDL
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Yn amlygu profiad clinigol ym maes deieteg oedolion
- Profiad o weithio mewn lleoliadau aciwt, yn y gymuned a chyda chleifion allanol i ddarparu gofal deietig
- Profiad o ddarparu hyfforddiant a sesiynau addysgol i staff, yn ogystal ag addysg grwp i gleifion
- Profiad o weithio mewn timau amlddisgyblaethol
- Tystiolaeth o gymryd rhan mewn gwaith datblygu mewn gwasanaethau deieteg, e.e. archwilio, gweithredu newid mewn ymarfer, darparu ymyriad deietegol newydd
- Profiad o archwiliad clinigol
Meini prawf dymunol
- Profiad o ddirprwyo gwaith i weithwyr cymorth/fyfyrwyr/staff deietig iau, a'u cefnogi/goruchwylio
- Profiad o newid gwasanaeth
- Profiad o ymchwil
- Profiad o gyflawni gwaith prosiect
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Elizabeth Green
- Teitl y swydd
- Clinical Lead Dietitian
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01437 774356
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Paul Makin
07813 400372
Ddim yn derbyn ceisiadau mwyach
Ymddiheuriadau, ond nid yw'r swydd wag hon yn derbyn ceisiadau mwyach.
Gallwch chwilio am swyddi tebyg ar fwrdd swyddi'r cyflogwr, neu fynd i'n bwrdd swyddi cenedlaethol Health Jobs UK.