Mae Trac yn falch o bweru recriwtio ar gyfer
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Gwybodaeth
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd i boblogaeth o tua 372,320 ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. Mae'n darparu gwasanaethau Acìwt, Sylfaenol, Cymunedol, Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu trwy Ysbytai Cyffredinol a Chymunedol, Canolfannau Iechyd, Meddygfeydd Teulu, Deintyddion, Fferyllfeydd, Optometryddion a safleoedd eraill.
Cysylltu
- Address
- Glien House
- Cillefwr Industrial Estate
- Johnstown
- Carmarthen
- Carmarthenshire
- SA31 3RB
- Contact Number
- 0300 303 6138
Prentis Gofal Iechyd - Ysbyty Tywysog Philip
Closed for applications on: 10-Meh-2024 00:01
Statws y swydd wag: Closed
Closed for applications on: 10-Meh-2024 00:01
Manylion allweddol
Lleoliad
- Gwefan
- Ysbyty Tywysog Philip
- Tref
- Llanelli
- Cod post
- SA14 8QF
- Major / Minor Region
- Sir Gaerfyrddin
Math o gontract a phatrwm gwaith
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyflog
- Cyflog
- £6.40 yr awr
- Cyfnod cyflog
- Bob awr
- Gradd
- (Prentisiaeth)
Arbenigedd
- Prif leoliad
- Academi Prentisiaeth
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.
Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau.
Trosolwg o'r swydd
Mae'r rhaglen Prentisiaethau Gofal Iechyd yn gyfle cyffrous a fydd yn eich galluogi i hyfforddi i ddod yn Nyrs Gofrestredig lawn trwy drefniant dysgu yn y gwaith.
Mae nyrsio yn yrfa gwerth chweil, sy'n gyfle i wneud gwahaniaeth sylweddol i fywydau pobl. Mae sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol yn hanfodol, yn ogystal ag amlygu gwerthoedd y Bwrdd Iechyd ym mhopeth a wnewch.
Mae rhaglenni Prentisiaethau Gofal Iechyd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cyfuno amrywiaeth o gyrsiau yn un, gan ddarparu llwybr uniongyrchol i nyrsio. Ar ôl cwblhau'r rhaglen, byddwch yn nyrs gymwysedig, heb fod gennych ddyled prifysgol. Byddwch yn ennill arian ac yn dysgu trwy gydol yr amser y byddwch yn cymryd rhan yn y rhaglen.
Bydd yna Adolygiadau Porth yn ystod y rhaglen, a bydd yr un cyntaf yn digwydd ar ôl i chi ddilyn y brentisiaeth am dri mis. Mae'r Adolygiadau Gateway yn gwirio eich cynnydd i sicrhau eich bod yn cael y cymorth cywir i lwyddo, a bod eich cymhelliant a'ch ymrwymiad yn cael eu cynnal.
Mae yna gynyddrannau cyflog (yn amodol ar newid yn unol ag adolygiadau cyflog yr Agenda ar gyfer Newid) yn gysylltiedig â llwyddo yn eich Adolygiad Porth. Ar ôl cyflawni eich cymwyseddau, bydd eich cyflog yn adlewyrchu'r sgiliau a amlygwyd.
Advert
Gan weithio ochr yn ochr â nyrsys cofrestredig a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill, bydd y rhaglen hon yn rhoi cipolwg i chi ar ofal iechyd ar lefel ragarweiniol yn y lle cyntaf, yn cynnwys gweithio gyda mentor yn ardaloedd y cleifion, yn paratoi ac yn darparu gofal i gleifion.
Bydd y rôl hon yn eich galluogi i ymgyfarwyddo â chynllun yr ysbyty, yn ogystal â'r safonau a ddisgwylir mewn amgylchedd gofal iechyd. Byddwch yn rhyngweithio â chleifion ac yn meithrin eich sgiliau cyfathrebu, gan amlygu'r rhinweddau y mae eu hangen i fod yn nyrs.
Trwy gydol hyn oll, byddwch yn dal i gael eich cefnogi gan eich mentor, y coleg, a thîm yr Academi Prentisiaethau.
Wrth i'ch rôl fynd yn ei blaen, bydd eich cymwyseddau'n cynyddu yn unol â'ch dysgu.
Rhaglen Lawn y Llwybr Cymhwyso
Prentisiaeth Sylfaen: Lefel 2 → Prentisiaeth mewn Gofal Iechyd Clinigol: Lefel 3 →
Tystysgrif mewn Gofal Iechyd: Lefel 4 → Gradd mewn Nyrsio Cyffredinol Oedolion
Pan fyddwch wedi dod yn Nyrs Gofrestredig, disgwylir i chi barhau'n gyflogedig gyda'r Bwrdd Iechyd am o leiaf ddwy flynedd.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 11,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;
Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;
48 o bractisau cyffredinol (chwech ohonynt yn bractisau a reolir), 47 practis deintyddol (gan gynnwys tri orthodontig), 99 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;
Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Beth y mae'r Rhaglen Prentisiaeth Gofal Iechyd yn ei olygu?
- Cwrs cynefino cynhwysfawr, a fydd yn eich paratoi ar gyfer lleoliadau gwaith yn y Bwrdd Iechyd
- Byddwch yn cael cymorth gan fentor yn y gweithle, a fydd yn weithiwr gofal iechyd proffesiynol profiadol
- Byddwch yn cael amser o'r gwaith â thâl er mwyn datblygu eich dysgu trwy astudio gyda'r darparwyr dysgu
- Bydd yna fentor academaidd yn cael ei neilltuo i chi o blith y darparwyr dysgu ar bob cam
- Byddwch yn mynd i weithdai, lle bydd gennych gyfle i drafod a rhannu syniadau
- Byddwch yn gweithio tuag at gael cymwysterau galwedigaethol, gan ddatblygu trwy'r lefelau wrth i chi feithrin hyder a phrofiad
Pa gymwysterau y byddaf yn eu hennill?
- Prentisiaeth Sylfaen Lefel 2 (os ydych yn rhan o'r rhaglen lawn)
o Tystysgrif Lefel 2 mewn Gofal Iechyd Clinigol o Sgiliau Hanfodol Lefel 1 mewn Cymhwyso Rhif |
o Sgiliau Hanfodol Lefel 1 mewn Cyfathrebu
o Sgiliau Hanfodol Lefel 1 mewn Llythrennedd Digidol
- Prentisiaeth Lefel 3
o Diploma Lefel 3 mewn Cymorth Gofal Iechyd Clinigol
o Sgiliau Hanfodol Lefel 2 mewn Cymhwyso Rhif
o Sgiliau Hanfodol Lefel 2 mewn Cyfathrebu
o Sgiliau Hanfodol Lefel 2 mewn Llythrennedd Digidol
- Tystysgrif Lefel 4 mewn Gofal Iechyd
- BSc mewn Nyrsio Oedolio
Beth yw'r gofynion mynediad ar gyfer y Rhaglen Prentisiaethau Gofal Iechyd?
- Rhaid i chi fod yn 16 oed neu'n hŷn ym mis Medi 2024
- Rhaid bod gennych yr hawl i weithio yn y DU ar hyn o bryd, a rhaid i chi fod wedi byw yn y DU am y tair blynedd ddiwethaf
- Rhaid i chi fod yn unigolyn caredig a gofalgar sy'n frwd dros helpu pobl eraill
- Rhaid i chi feddu ar sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol
- Rhaid i chi allu amlygu parodrwydd i weithio'n galed ac ymrwymiad i nyrsio
- Rhaid i chi fod yn ymrwymedig i astudio a gweithio ar yr un pryd, sy'n gofyn am lefel uchel o ymroddiad
- Ni ddylech fod mewn unrhyw addysg ffurfiol a ariennir gan y llywodraeth ar adeg dechrau'r Rhaglen Prentisiaeth Gofal Iechyd
Os oes gennych ddiddordeb yn y rhaglen hon, llenwch y ffurflen gais sydd wedi'i hatodi, a hynny cyn y dyddiad cau. Yn yr adran 'Gwybodaeth Ategol', dywedwch wrthym pam yr ydych yn credu y dylech gael eich dethol ar gyfer y cyfle hwn, a hynny mewn dim mwy na 100 gair y cwestiwn.
- Beth sy'n gwneud gweithiwr cymorth gofal iechyd da yn eich barn chi?
- Pam yr ydych yn credu y byddech yn ddysgwr da?
- Pam yr hoffech fod yn Nyrs Gofrestredig?
Ar ôl y dyddiad cau, estynnir gwahoddiad i’r rheiny a fydd wedi cyrraedd y rhestr fer yn llwyddiannus ddod i ddiwrnod asesu. Bydd y diwrnod asesu yn cynnwys amrywiaeth o weithgareddau, gan gynnwys cyfweliad a gwaith senario. Bydd y diwrnod asesu yn rhoi cyfle i chi gwrdd â staff y Bwrdd Iechyd, gan gynnwys Tîm yr Academi Prentisiaethau.
Mae manylion y diwrnod asesu fel a ganlyn:
Sir Gaerfyrddin – 24/06/2024
Sir Benfro – 27/06/2024
Ceredigion – 25/06/2024
Bydd pawb a fydd yn bresennol ar y diwrnod asesu yn cael gwahoddiad i ddiwrnod adborth, lle y byddwn yn trafod canlyniad y diwrnod asesu â chi. Mae'r dyddiadau fel a ganlyn:
Sir Gaerfyrddin – 08/07/2024
Sir Benfro – 10/07/2024
Ceredigion – 11/07/2024
Os cewch eich recriwtio’n llwyddiannus, byddwch yn dechrau eich cyflogaeth o fod yn Brentis Gofal Iechyd gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ym mis Medi 2024. Bydd y rheiny nad oeddent yn llwyddiannus y tro hwn yn cael cynnig cymorth gennym ni a'u coleg lleol, Canolfan Gyrfa Cymru a'r Ganolfan Waith.
Pam y dylech wneud cais am brentisiaeth ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda?
· Mae prentisiaethau'n ffordd wych o ddechrau ar yrfa yn y GIG
· Mae prentisiaethau'n cyfuno hyfforddiant ymarferol â chyflogaeth am dâl (‘dysgu wrth ennill’)
· Mae prentisiaethau'n cynnig cyfle i weithio ochr yn ochr â staff profiadol a fydd yn eich cefnogi ac yn eich helpu i feithrin y sgiliau ymarferol y mae arnoch eu hangen
· Byddwch yn ennill cymwysterau sy'n cael eu cydnabod yn genedlaethol, a hynny heb orfod talu ffioedd dysgu
· Mae'n gam cyntaf posibl tuag at hyfforddiant proffesiynol
· Mae'n brofiad gwych – gweithio mewn tîm, a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol
Buddsoddwch yn eich dyfodol. Dewch i ymuno â theulu Hywel Dda. Nid oes yr un lle gwell i #HyfforddiGweithioByw
Os bydd arnoch angen rhagor o wybodaeth cysylltwch â'r canlynol: Tîm yr Academi Prentisiaethau: 07971 480755 [email protected]
Rydym wedi ymrwymo i fod yn dryloyw ac yn gefnogol o ran ein prosesau recriwtio. Rydym am eich cefnogi i berfformio ar eich gorau trwy nodi a chefnogi addasiadau rhesymol lle bo hynny'n briodol. Os hoffech drafod hyn ymhellach, ar unrhyw gam yn y broses recriwtio, cysylltwch â thîm yr Academi Prentisiaethau ymlaen llaw: [email protected]
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir drwy gyfrwng y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau a wneir yn y Saesneg.
NODYN PWYSIG I YMGEISWYR: Mae ceisiadau am ein rolau yn cael eu hadolygu'n ofalus a'u rhoi ar restr fer yn seiliedig ar feini prawf penodol, sy'n amrywio o swydd i swydd. Efallai na fydd defnyddio cais generig i wneud cais am rolau lluosog neu ddibynnu ar wasanaethau ceisiadau deallusrwydd artiffisial awtomataidd, fel Lazy Apply neu AI Apply, yn darparu'r wybodaeth angenrheidiol, gan arwain at anwybyddu'ch cais. Er mwyn sicrhau bod eich cais yn cael ystyriaeth lawn, rydym yn argymell cyflwyno cais wedi'i deilwra sy'n mynd i'r afael yn uniongyrchol â'r meini prawf a restrir yn adran Manyleb y Person yr hysbyseb.
Trwy gyflwyno eich cais i NHS Jobs/Trac, rydych yn gydsynio i elfennau o ddata eich cais gael eu trosglwyddo i Gofnod Staff Electronig (ESR) y GIG a systemau diogel, mewnol Gweithlu’r GIG er mwyn cefnogi a rheoli eich recriwtio a’ch cyflogaeth o fewn y sefydliad sy’n eich cyflogi; i’w defnyddio gan yr adran Recriwtio at ddibenion gwirio eich Cofrestriad Proffesiynol ar-lein (lle bo’n briodol).
Mae’r prosesau hyn yn unol â phrosesu Teg a Chyfreithlon yn unol â Deddfwriaeth Diogelu Data cyfredol yn enwedig y rhai hynny mewn perthynas â’ch data personol neu bersonol sensitif (diffinir data personol sensitif fel unrhyw gyflwr iechyd meddwl neu gorfforol, tarddiad hiliol neu ethnig, cyfeiriadedd rhywiol, aelodaeth undeb llafur, barn wleidyddol neu gred crefyddol datganedig). Fel sefydliad, rydym yn sicrhau bod y ddeddfwriaeth sy’n diffinio cyfrinachedd yn cael ei dilyn megis y defnydd o ddata at ddibenion penodol, diffiniedig, a defnydd o ddata sy’n berthnasol ac nid yn ormodol wrth ymarfer cywirdeb data a diogelwch yr holl wybodaeth bersonol adnabyddadwy a gedwir.
Os cewch eich penodi’n llwyddiannus, trwy lenwi’r ffurflen gais rydych yn awdurdodi’r BIP i gael unrhyw fanylion gwasanaeth blaenorol i’r GIG yn cynnwys yr holl wybodaeth ar salwch a gedwir yn electronig, trwy’r broses Trosglwyddo Rhyng-awdurdod ar y Cofnod Staff Electronig.
I weithio yn y DU, mae angen nawdd ar bob ymgeisydd nad yw'n wladolyn o'r DU neu Weriniaeth Iwerddon i gael naill ai fisa Gweithiwr Iechyd a Gofal neu fisa Gweithiwr Medrus, oni bai bod gennych ganiatâd i weithio trwy lwybr arall. Dylai ymgeiswyr nad ydynt yn rhan o'r DU/Gweriniaeth Iwerddon sy'n dymuno gwneud cais hunanasesu'u tebygolrwydd o gael Tystysgrif Nawdd trwy ymweld â gwefan Fisâu a Mewnfudo'r DU. Os ydych chi'n gymwys i gael y fisa Iechyd a Gofal, mae'r costau ymgeisio yn is ac nid oes angen i chi dalu Gordal Iechyd Mewnfudo blynyddol.
Gofynion yr ymgeisydd
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Saesneg a Mathemateg i safon resymol
- Parodrwydd i ymgymryd a chwblhau'r cymhwyster prentisiaeth
Gwybodaeth Ategol
Meini prawf hanfodol
- Beth sy'n gwneud gweithiwr cymorth gofal iechyd da yn eich barn chi?
- Pam yr ydych yn credu y byddech yn ddysgwr da?
- Pam yr hoffech fod yn Nyrs Gofrestredig?
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Y gallu i weithio mewn amgylchedd tim
- Deall pwysigrwydd ymddygiad proffesiynol
Meini prawf dymunol
- Profiad y gellir ei ddangos mewn amgylchedd gofalgar: gall fod o wirfoddoli neu brofiad gwaith
- Profiad y gellir ei ddangos o weithio gyda gosodiadau TG yn cynnwys Microsoft Office
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Claire Steel
- Teitl y swydd
- Future Workforce Programme Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Os oes angen unrhyw wybodaeth bellach arnoch, cysylltwch â: Tîm yr Academi Brentisiaethau ar [email protected]
Ddim yn derbyn ceisiadau mwyach
Ymddiheuriadau, ond nid yw'r swydd wag hon yn derbyn ceisiadau mwyach.
Gallwch chwilio am swyddi tebyg ar fwrdd swyddi'r cyflogwr, neu fynd i'n bwrdd swyddi cenedlaethol Health Jobs UK.