Mae Trac yn falch o bweru recriwtio ar gyfer
Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru
![Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru logo](https://static.trac.jobs/employer-logos/200.png)
Gwybodaeth
Croeso i Iechyd Cyhoeddus Cymru - asiantaeth iechyd cyhoeddus genedlaethol Cymru. Rydym yn bodoli i ddiogelu a gwella iechyd a llesiant a lleihau anghydraddoldebau iechyd i bobl yng Nghymru.
I gael gwybod mwy ewch i Iechyd Cyhoeddus Cymru a gwyliwch y fideo hwn am ein Cynllun Strategol
Dilynwch ni ar Twitter, Facebook, Linkedin a Instagram
Gweithio gyda'n gilydd, gydag ymddiriedaeth a pharch, i wneud gwahaniaeth
Ein diben yw ‘gweithio gyda'n gilydd ar gyfer Cymru iachach'. Rydym yn bodoli i helpu pawb yng Nghymru i fyw bywydau hirach, iachach. Gyda'n partneriaid, ein nod yw cynyddu disgwyliad oes iach, gwella iechyd a llesiant, a lleihau anghydraddoldebau i bawb yng Nghymru, nawr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Gyda'i gilydd, mae ein timau'n gweithio i atal clefyd, diogelu iechyd, a darparu arweinyddiaeth, gwasanaethau arbenigol ac arbenigedd iechyd cyhoeddus. Ni yw'r brif ffynhonnell o wybodaeth, ymchwil ac arloesedd iechyd cyhoeddus yng Nghymru.
Pennaeth Rhaglen Staff Nyrsio Cymru Gyfan
Accepting applications until: 10-Jul-2024 23:59
Statws y swydd wag: Open
Accepting applications until: 10-Jul-2024 23:59
Manylion allweddol
Lleoliad
- Gwefan
- Unrhyw ganolfan Iechyd Cyhoeddus Cymru. I'w gytuno ar benodiad
- Tref
- Caerdydd/Wrecsam/Abertawe
- Cod post
- CF10 4BZ
- Major / Minor Region
- Caerdydd
Math o gontract a phatrwm gwaith
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser
- Rhannu swydd
Cyflog
- Cyflog
- £71,473 - £82,355 Y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Gradd
- (NHS AfC: Band 8c)
Arbenigedd
- Prif leoliad
- Gweithrediaeth y GIG
- Dyddiad y cyfweliad
- 19/07/2024
Croeso i Weithrediaeth GIG Cymru, swyddogaeth gymorth genedlaethol newydd, yn weithredol o 1 Ebrill 2023
Ein pwrpas allweddol yw...
Ysgogi gwelliannau yn ansawdd a diogelwch gofal - gan arwain at ganlyniadau gwell a thecach, mynediad a phrofiad y claf, llai o amrywiad, a gwelliannau yn iechyd y boblogaeth.
I gael gwybod mwy, ewch i Weithrediaeth GIG Cymru.
Ein Gwerthoedd
Gweithio gyda'n gilydd, gydag ymddiriedaeth a pharch, i wneud gwahaniaeth
Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg. I gefnogi ein gwasanaeth i Gymru gyfan, croesawn yn fawr ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Trosolwg o'r swydd
Mae cyfle unigryw a chyffrous wedi codi ar gyfer uwch nyrs frwdfrydig a phrofiadol, sydd â phrofiad o reoli prosiect neu raglen ar lefel strategol i arwain Rhaglen Staff Nyrsio Cymru Gyfan ar ran GIG Cymru.
Bydd y deiliad swydd yn chwarae rôl arweinyddiaeth strategol wrth ddatblygu ymhellach a chefnogi gweithrediad Rhaglen Staff Nyrsio Cymru Gyfan ar gyfer GIG Cymru. Mae'r rhaglen waith genedlaethol yn adlewyrchu'r nod strategol o hyrwyddo darpariaeth effeithiol o ofal o safon drwy ddarparu lefelau o staff nyrsio yn seiliedig ar dystiolaeth glinigol ac anghenion cleifion.
Mae hon yn swydd arweiniol allweddol o fewn GIG Cymru ac mae ganddi gylch gwaith clir o ddiffinio, llunio a datblygu’r rhaglen staff nyrsio yng Nghymru o fewn cyd-destun y gweithlu amlbroffesiynol ehangach. Gan weithredu fel arloeswr, ysgogydd, asiant newid allweddol a model rôl bydd y deiliad swydd yn chwarae rhan ganolog wrth gefnogi a dylanwadu ar staff nyrsio yng Nghymru gan gynnwys gwella ansawdd, mentrau cenedlaethol, ad-drefnu gwasanaethau a modelau gofal digidol newydd.
Advert
Rydym yn chwilio am berson eithriadol sydd â'r sgiliau i reoli ac arwain prosiectau cymhleth, cynllunio a monitro cynlluniau ffrwd waith, cyflwyno adroddiadau lefel uchel a chyfathrebu'n effeithiol ag ystod o gynulleidfaoedd. Gan fod y rôl yn cynnwys gweithio gyda thimau nyrsio a rheoli, mae'r gallu i ymgysylltu â thimau nyrsio rheng flaen a dangos digon o fewnwelediad a phrofiad wrth ymdrin â'r materion a'r heriau sy'n codi, yn hanfodol.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn rhan o dîm cyfeillgar, cefnogol ac arloesol o fewn y Weithrediaeth GIG newydd a bydd yn derbyn rhaglen sefydlu gynhwysfawr, yn cael mynediad i ystod o fecanweithiau cefnogol a chyfoeth o gyfleoedd i ddatblygu eu gwybodaeth a'u sgiliau.
Mae’r Weithrediaeth GIG yn cefnogi trefniadau gweithio hyblyg ac ystwyth gyda phresenoldeb rhan-amser yn eu prif swyddfa (Capital Quarter, Caerdydd). Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg ymgeisio.
Mae hwn yn gyfle unigryw a chyffrous i chi ymuno â'n tîm cynyddol o fewn sefydliad newydd ac arloesol sy'n gwerthfawrogi cyfraniad eu holl staff. Os ydych chi’n barod am her newydd a chyffrous ac os hoffech chi ddatblygu eich gwybodaeth a’ch sgiliau drwy weithio ar lefel strategol o fewn GIG Cymru i ddylanwadu a chyflwyno rhaglen waith arloesol a phroffil uchel, yna hoffem glywed gennych.
Dyddiad cyfweliad: 19/07/2024
Gweithio i'n sefydliad
Mae Gweithrediaeth y GIG yn gweithio mewn partneriaeth ar gyfer Llywodraeth Cymru yn a chyda GIG Cymru ac mae’n cael ei lletya gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Ein prif bwrpas yw ysgogi gwelliannau o ran ansawdd a diogelwch gofal - gan arwain at ganlyniadau, mynediad a phrofiad gwell a thecach i’r claf gyda llai o amrywiad, a gwelliannau o ran iechyd y boblogaeth.
Gwnawn hyn drwy ddarparu arweinyddiaeth a chyfeiriad strategol cryf – gan alluogi, cefnogi a chyfarwyddo GIG Cymru i drawsnewid gwasanaethau clinigol yn unol â blaenoriaethau a safonau cenedlaethol.
I ddarganfod mwy am weithio i ni a'r buddion rydym yn eu cynnig, ewch i Gyrfaoedd - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)
I gael arweiniad ar y broses ymgeisio, ewch i Gwybodaeth a Chanllawiau i Ymgeiswyr - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a / neu Saesneg wneud cais.
Mae gan Gweithrediaeth GIG Cymru yr hawl i gau’r swydd wag hon yn gynnar. Felly rydym yn annog ceisiadau cynnar.
Rhoddir blaenoriaeth i staff sy’n aros i gael eu hadleoli. Rydym yn cadw’r hawl felly i dynnu’r hysbyseb hon yn ôl ar unrhyw adeg.
Os oes gennych anabledd a bod gennych unrhyw anghenion penodol i'ch galluogi i gymryd rhan yn y broses ymgeisio, cysylltwch â [email protected]
Os byddwch yn llwyddiannus ac os cewch eich dewis ar gyfer y rhestr fer am gyfweliad, cysylltir â chi ar e-bost gan ddefnyddio’r cyfeiriad a ddefnyddiwyd gennych i gofrestru. Sicrhewch eich bod yn edrych ar eich cyfrif e-bost yn rheolaidd.
Rydym wedi ymrwymo i recriwtio teg a thryloyw ac rydym yn credu mewn cyfle cyfartal yn ein gweithle. Ni fyddwn yn goddef gwahaniaethu ar sail oedran, anabledd, hunaniaeth rywiol, crefydd neu gred, hil neu genedligrwydd, priodas neu bartneriaeth sifil, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, patrwm gwaith, cyfrifoldebau gofalu, gweithgarwch gydag undebau llafur neu gredoau gwleidyddol – nac ar unrhyw sail arall. Croesawn geisiadau gan unigolion a ddymunent weithio’n rhan-amser neu wneud cais i rannu swydd.
I weithio yn y DU, mae angen nawdd ar bob ymgeisydd nad yw'n wladolyn o'r DU neu Weriniaeth Iwerddon i gael naill ai fisa Gweithiwr Iechyd a Gofal neu fisa Gweithiwr Medrus, oni bai bod gennych ganiatâd i weithio trwy lwybr arall. Dylai ymgeiswyr nad ydynt yn rhan o'r DU/Gweriniaeth Iwerddon sy'n dymuno gwneud cais hunanasesu'u tebygolrwydd o gael Tystysgrif Nawdd trwy ymweld â gwefan Fisâu a Mewnfudo'r DU. Os ydych chi'n gymwys i gael y fisa Iechyd a Gofal, mae'r costau ymgeisio yn is ac nid oes angen i chi dalu Gordal Iechyd Mewnfudo blynyddol.
Mae'r raddfa gyflog a ddangosir ar gyfer aelod o staff llawn amser, a chaiff y swm ei addasu pro rata ar gyfer y rhai sy'n gweithio llai na 37.5 awr yr wythnos.
Gellir gweld Graddfeydd Cyflog GIG Cymru yma.
Yn gyffredinol, bydd unrhyw un sy'n ymuno â'n sefydliad nad yw wedi gweithio yn y GIG o'r blaen, yn cychwyn ar bwynt cyntaf y band tâl a hysbysebir yn awtomatig. Yna bydd datblygiad cyflog yn cael ei bennu gan Adolygiadau Perfformiad a Datblygu blynyddol yn unol â Pholisi Datblygiad Cyflog GIG Cymru. Gellir ystyried cais am Gredyd Cynyddol, ond dim ond ar sail gwasanaeth cyfrifadwy â thystiolaeth a/neu brofiad cyfatebol, perthnasol y gellir ei ddyfarnu.
Gofynion yr ymgeisydd
Rhaid bod gennych gofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Manyleb y person
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- Nyrs Gofrestredig ar Gofrestr Broffesiynol NMC.
- Meddu ar Gymhwyster Lefel Gradd Meistr (e.e. Gradd Meistr mewn pwnc cysylltiedig ag Iechyd / gweithio tuag at ennill Cymhwyster MSc neu allu dangos profiad cyfatebol.
- Cymhwyster rheoli ôl-raddedig neu dystiolaeth gyfatebol o brofiad gwaith mewn meysydd rheoli allweddol, h.y. cyllid, adnoddau dynol, llywodraethu.
- Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus.
Meini prawf dymunol
- Cwrs hwyluso.
- Rheoli portffolio prosiect
- Cymwysterau rheoli rhaglenni perthnasol (e.e.: Proffesiynol - PRINCE2 neu gyfwerth) neu brofiad priodol y gellir ei ddangos.
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad sylweddol o reoli mewn rôl uwch, yn y GIG yn ddelfrydol.
- Profiad mewn gwella ansawdd/gwybodaeth am brofiad y claf/cymhwyster NEU brofiad priodol y gellir ei ddangos.
- Gwybodaeth am y gweithlu/Staffio/dulliau ac offer aciwtedd cleifion.
- Profiad sylweddol o arwain a gweithredu prosiectau/rhaglenni yn llwyddiannus ar lefel ranbarthol neu genedlaethol.
- Tystiolaeth o gyflwyno mentrau rheoli newid a gwella ansawdd tra arbenigol.
- Arbenigedd mewn darparu gwasanaethau rheoli prosiectau a rhaglenni a theilwra methodolegau i weddu i'r amgylchedd lleol.
- Profiad o weithio gydag ystod eang o randdeiliaid mewnol ac asiantaethau allanol.
- Hanes o reolaeth ariannol gadarn a phrofiad o reoli cyllideb, ynghyd â phrofiad o ddatblygu achosion busnes effeithiol i sicrhau cyllid o ffynonellau allanol.
- Profiad y gellir ei ddangos o arwain, rheoli a datblygu tîm o bobl.
Meini prawf dymunol
- Profiad o weithio ar lefel genedlaethol ar brosiect/ rhaglenwaith gymhleth.
Sgiliau a Galluoedd
Meini prawf hanfodol
- Y gallu i ddeall a chynnal dadansoddiad ystadegol o ddata cymhleth gan gynnwys cyflwyno synthesis tystiolaeth ac adroddiadau data.
- Y gallu i gyfathrebu cysyniadau a dadansoddiadau technegol cymhleth iawn yn effeithiol i sefydliadau a chynulleidfaoedd gwahanol; gan gynnwys cyflwyniadau ffurfiol e.e. cynadleddau lefel Bwrdd a ledled y DU.
- Dangos gallu i ddarparu, derbyn a chofnodi cyfathrebiadau arferol a chymhleth iawn yn electronig, ar lafar ac yn ysgrifenedig.
- Y gallu i oresgyn rhwystrau sy’n gysylltiedig â chyfleu gwybodaeth dechnegol gymhleth iawn i gynulleidfa annhechnegol.
- Y gallu i drefnu, cynllunio a blaenoriaethu rhaglen strategol gymhleth i gwrdd ag amserlenni sy'n ymwneud â disgyblaethau/sefydliadau eraill.
- Y gallu i weithio'n agos, datblygu a chynnal perthnasoedd gwaith proffesiynol effeithiol gydag aelodau'r tîm ac aelodau o'r tîm amlddisgyblaethol a'r gallu i weithredu mewn amgylchedd o berthnasoedd cymhleth.
- Dangos gallu i ddadansoddi, dehongli a chymharu materion cymhleth sy’n ymwneud â staffio/rheoli newid a datblygu’r gweithlu proffesiynol, a gweithredu fel pwynt cyfeirio arbenigol.
- Y gallu i hyfforddi grwpiau amlddisgyblaethol ar faterion yn ymwneud â lefelau staff nyrsio.
- Y gallu i gyfathrebu’n effeithiol ar draws gwahanol lefelau sefydliad.
- Y gallu i ddangos menter, creadigrwydd, a dull hyblyg o ddiwallu anghenion y rhaglen waith ar lefel genedlaethol a lleol.
- Y gallu i droi strategaeth yn weithred.
- Gwybodaeth ac arbenigedd arbenigol ychwanegol amlwg e.e. sgiliau cyflwyno a hwyluso uwch.
- Y gallu i ffocysu, canolbwyntio a chwblhau tasgau’n gywir o fewn amserlenni penodol wrth ymdrin ag ymyriadau heb eu trefnu e.e. blaenoriaethau sy’n newid.
- Y gallu i gyflwyno ac arddangos cyflawniadau a chynnydd yr agenda staff nyrsio i amrywiaeth o gynulleidfaoedd.
- Gwybodaeth am y GIG ac agenda a methodolegau proffesiynol, gan gynnwys gwybodaeth am strategaethau cyfredol gan gynnwys gweithlu GIG Cymru a strategaethau proffesiynol y DU.
- Arddangos sgiliau bysellfwrdd safonol a bod â gwybodaeth ymarferol o becynnau Microsoft Office. ECDL Lefel 2 neu gyfwerth.
Meini prawf dymunol
- Cyhoeddi erthyglau mewn cyfnodolyn/cyfnodolion proffesiynol.
Rhinweddau Personol
Meini prawf hanfodol
- Y gallu i fodloni gofynion teithio aml y swydd.
- Agwedd hyblyg at ddiwallu anghenion y gwasanaeth.
- Y gallu i weithredu’n annibynnol, yn bendant ac yn effeithiol wrth arwain rhaglen.
- Y gallu i wylio a gwrando ar negeseuon allweddol, a'u dehongli ac ymateb yn briodol.
- Y gallu i ymdrin â beirniadaeth a phobl a sefyllfaoedd heriol yn effeithiol ac yn briodol. Y gallu i herio’r farn gyffredinol yn gadarnhaol ac yn greadigol er mwyn datblygu polisïau ac arferion gwaith gweithredol newydd a gwell.
- Ymrwymiad i egwyddorion gwella profiad y claf a rheoli newid.
- Y gallu i addasu i sefyllfaoedd a gallu gweithio'n dda yn erbyn cefndir o newid ac ansicrwydd.
- Ymrwymiad personol cryf i weithio ar y cyd a'r gallu i adeiladu perthnasoedd effeithiol â phobl o bob gallu a meddylfryd.
- Ymrwymiad i weithio mewn tîm, a pharchu ac ystyried sgiliau pobl eraill. Agwedd gadarnhaol a chreadigol. Yn hunan-gymhellol, yn rhagweithiol ac yn angerddol am ddarparu gofal cleifion o ansawdd uchel.
- Safonau uchel o gywirdeb proffesiynol.
- Yn cymell ac yn annog pobl i ymdrechu i wella gwasanaethau a gwelliant personol.
- Y gallu i addasu i sefyllfaoedd, uniaethu â phobl o bob gallu a chefndir.
- Meddwl yn glir ac yn huawdl gyda’r gallu i ddelio â sefyllfaoedd anodd.
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg
Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Gwybodaeth am bolisïau datblygu'r gweithlu a'r sefydliad, gweithdrefnau gan gynnwys rheoli perfformiad, y broses ddisgyblu, cynllunio a datblygu'r sefydliad.
- Gwybodaeth a dealltwriaeth o egwyddorion rheoli rhaglenni a phrosiectau.
Cyfathrebu
Meini prawf hanfodol
- Sgiliau rhyngbersonol datblygedig, gyda'r gallu i gyfleu cyfarwyddiadau, syniadau a barn mewn modd clir a chryno.
- Y gallu i baratoi a chyflwyno gwybodaeth, sy’n amrywio o ran cynnwys a chyd-destun (yn aml yn gymhleth), i wahanol gynulleidfaoedd mewn modd y gall staff ar bob lefel ei deall.
- Y gallu i gyfleu gwybodaeth mewn ffordd nad yw'n wrthdrawol, dangos empathi, tact, sensitifrwydd a dealltwriaeth.
- Sgiliau trafod a dylanwadu da.
- Y gallu i ymgysylltu â staff a'u cynnwys yn y Rhaglen waith i gyflawni'r canlyniad a ddymunir.
Cynllunio a Threfniadaeth
Meini prawf hanfodol
- Y gallu i ddatblygu cynlluniau strategol a gweithredol, a chofrestrau risg, nodi a gosod amcanion a chynlluniau gweithredu ar gyfer cyflawni.
- Y gallu i weithio'n ddibynadwy ac yn effeithlon ar eich liwt eich hun neu fel rhan o dîm ar wahanol lefelau o fewn y sefydliad.
- Sgiliau rheoli amser da a'r gallu i flaenoriaethu, cynllunio a rheoli eich amser eich hun ac eraill i gwrdd â therfynau amser ac amserlenni tynn. Agwedd systematig a threfnus at waith.
- Y gallu i ddadansoddi a gwerthuso sefyllfaoedd, tystiolaeth, data a gwybodaeth e.e: datrys problemau, gwneud penderfyniadau a thrafod.
- Yn arloesol ac yn gallu datblygu a gweithredu atebion creadigol i broblemau cymhleth.
- Y gallu i ddylunio a chyflwyno gwelliannau ac ysgogi newid.
Datblygu eich hun ac eraill
Meini prawf hanfodol
- Y gallu i gynnig a derbyn adborth adeiladol a defnyddio adborth i ddatblygu eich hun ac eraill a gwneud newidiadau cadarnhaol.
- Y gallu i greu amgylchedd sy'n annog datblygiad proffesiynol a phersonol, yn cefnogi arloesi, adeiladu tîm a phartneriaethau creadigol.
- Ymrwymiad i weithio mewn tîm, a pharchu a bod yn ystyriol o sgiliau pobl eraill. Hunanymwybyddiaeth dda, deall yr effaith a geir ar eraill.
Arweinyddiaeth
Meini prawf hanfodol
- Y gallu i roi cyfeiriad ac arwain y gwaith o reoli'r rhaglen a chyflwyno'r rhaglen.
- Y gallu i lunio, dylanwadu ar farn, gweithredoedd ac ysgogi pobl i gyflawni canlyniadau.
- Y gallu i reoli pobl yn effeithiol a'r gallu i reoli staff ar bob lefel.
Dogfennau
- Job Description and Person Specification - English (PDF, 280.4KB)
- Job Description and Person Specification - Cymraeg (PDF, 272.4KB)
- Occupational Health - FRF (PDF, 672.5KB)
- Hyderus o Ran Anabledd Arweinydd (PDF, 180.8KB)
- Canllawiau ar gyfer Ymgeiswyr (PDF, 278.7KB)
- Ein Rhwydweithiau Amrywiaeth (PDF, 330.6KB)
- Gwasanaethau Recriwtio Hysbysiad Preifatrwydd (PDF, 696.3KB)
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Jo Doyle
- Teitl y swydd
- Head of All Wales Nurse Staffing Programme
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 07901568365
Dechrau eich cais
Rhaid ichi fewngofnodi i gyfrif Trac cyn y gallwch wneud cais am y swydd hon.
Mewngofnodi
Creu cyfrif
Creu eich cyfrif a gwneud cais am eich swydd newydd!