Mae Trac yn falch o bweru recriwtio ar gyfer
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
![Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo](https://static.trac.jobs/employer-logos/369.png)
Gwybodaeth
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd i boblogaeth o tua 372,320 ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. Mae'n darparu gwasanaethau Acìwt, Sylfaenol, Cymunedol, Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu trwy Ysbytai Cyffredinol a Chymunedol, Canolfannau Iechyd, Meddygfeydd Teulu, Deintyddion, Fferyllfeydd, Optometryddion a safleoedd eraill.
Deietegydd Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu
Accepting applications until: 09-Jul-2024 23:59
Statws y swydd wag: Open
Accepting applications until: 09-Jul-2024 23:59
Manylion allweddol
Lleoliad
- Gwefan
- Ar draws Bwrdd Iechyd
- Tref
- Ar draws Bwrdd Iechyd
- Cod post
- SA31 2AF
- Major / Minor Region
- Sir Gaerfyrddin
Math o gontract a phatrwm gwaith
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser
- Rhan-amser
- Gweithio hyblyg
Cyflog
- Cyflog
- £35,922 - £43,257 y flwyddyn (pro rata os rhan-amser)
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Gradd
- (Gradd 6)
Arbenigedd
- Prif leoliad
- Deitegydd
- Dyddiad y cyfweliad
- 17/07/2024
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
A ydych yn Ddeietegydd brwdfrydig a dynamig sy'n meddu ar sgiliau rhagorol o ran gweithio mewn tîm? A ydych yn chwilio am gyfle i weithio'n rhan o dîm arbenigol, gan ar yr un pryd gynnal profiad o gefnogi unigolion â nifer o ddiagnosisau gwahanol yn ymwneud â maetheg? Mae cyfle
wedi dod ar gael i ymuno â'n tîm Deieteg Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu dynamig, uchel ei barch, sy'n meddu ar weledigaeth ledled Hywel Dda. Bydd gan ddeiliad y swydd rywfaint o brofiad o weithio gydag unigolion â salwch meddwl a/neu anableddau dysgu, a bydd ganddo ymagwedd dosturiol a hyblyg at ofal Deietig; bydd yn cael cyfle i gymryd rhan mewn goruchwyliaeth a hyfforddiant clinigol yn rhan o'r broses o wella ei set sgiliau a'i ddatblygiad.
Bydd deiliad y swydd yn cefnogi defnyddwyr y gwasanaeth yn y gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu sydd ag ystod o gyflyrau, gan weithio'n rhan o dîm un proffesiwn ac amlbroffesiwn.
Bydd hyfforddiant ac addysg yn rhan ganolog o'r rôl hon, yn ogystal â darparu cymorth i hyfforddi myfyrwyr, a datblygu a gweithredu rolau ein gweithwyr cymorth Deieteg.
Rydym ni, y gwasanaeth, yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod yn dîm cefnogol sy'n cefnogi llesiant staff a chydbwysedd rhwng bywyd a gwaith. Rydym yn croesawu ymgeiswyr sy'n dymuno trafod cyfleoedd i weithio'n hyblyg ac o bell.
Bydd gwaith llawn amser neu ran-amser (o leiaf 22.5 awr) yn cael ei ystyried.
Advert
Gweithio yn rôl deietegydd arbenigol iechyd meddwl ac anableddau dysgu ac yn aelod o dimau amlddisgyblaethol iechyd meddwl ac anableddau dysgu, yn rheoli llwyth achosion cymhleth ac amrywiol o gleifion, ac yn cefnogi eraill i weithio mewn modd effeithiol gyda phobl ag anghenion iechyd meddwl ac anableddau dysgu.
Defnyddio gwybodaeth a sgiliau arbenigol mewn perthynas â deieteg i wneud y canlynol: asesu, cynllunio a gweithredu triniaethau, a darparu ymyriadau deietig mewn amrywiaeth o leoliadau, gan gynnwys y gymuned, cleifion allanol, ac mewn ysbytai a lleoliadau grŵp, yn unol ag anghenion y claf, ei deulu a'i ofalwyr.
Darparu addysg, hyfforddiant a chymorth arbenigol i ddatblygu gwybodaeth a sgiliau unigolion eraill sy'n gweithio gyda phobl ag anghenion iechyd meddwl neu anableddau dysgu, a hynny mewn perthynas â deiet a maetheg. Cyfrannu at waith y gwasanaethau deieteg ac iechyd meddwl, gan fynd ati i gymryd rhan yn y gwaith o'u datblygu, eu gwerthuso a'u gwella, ac o weithredu polisi, canllawiau a safonau.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 11,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;
Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;
48 o bractisau cyffredinol (pedwar ohonynt yn bractisau a reolir), 47 practis deintyddol (gan gynnwys tri orthodontig), 99 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;
Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a / neu Saesneg wneud cais.
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadu ar 17/07/2024.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gweithredu polisi dwyieithog
‘Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir drwy gyfrwng y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau a wneir yn y Saesneg’.
Trwy gyflwyno eich cais i NHS Jobs/Trac, rydych yn gydsynio i elfennau o ddata eich cais gael eu trosglwyddo i Gofnod Staff Electronig (ESR) y GIG a systemau diogel, mewnol Gweithlu’r GIG er mwyn cefnogi a rheoli eich recriwtio a’ch cyflogaeth o fewn y sefydliad sy’n eich cyflogi; i’w defnyddio gan yr adran Recriwtio at ddibenion gwirio eich Cofrestriad Proffesiynol ar-lein (lle bo’n briodol).
Mae’r prosesau hyn yn unol â phrosesu Teg a Chyfreithlon yn unol â Deddfwriaeth Diogelu Data cyfredol yn enwedig y rhai hynny mewn perthynas â’ch data personol neu bersonol sensitif (diffinir data personol sensitif fel unrhyw gyflwr iechyd meddwl neu gorfforol, tarddiad hiliol neu ethnig, cyfeiriadedd rhywiol, aelodaeth undeb llafur, barn wleidyddol neu gred crefyddol datganedig). Fel sefydliad, rydym yn sicrhau bod y ddeddfwriaeth sy’n diffinio cyfrinachedd yn cael ei dilyn megis y defnydd o ddata at ddibenion penodol, diffiniedig, a defnydd o ddata sy’n berthnasol ac nid yn ormodol wrth ymarfer cywirdeb data a diogelwch yr holl wybodaeth bersonol adnabyddadwy a gedwir.
Os cewch eich penodi’n llwyddiannus, trwy lenwi’r ffurflen gais rydych yn awdurdodi’r BIP i gael unrhyw fanylion gwasanaeth blaenorol i’r GIG yn cynnwys yr holl wybodaeth ar salwch a gedwir yn electronig, trwy’r broses Trosglwyddo Rhyng-awdurdod ar y Cofnod Staff Electronig.
I weithio yn y DU, mae angen nawdd ar bob ymgeisydd nad yw'n wladolyn o'r DU neu Weriniaeth Iwerddon i gael naill ai fisa Gweithiwr Iechyd a Gofal neu fisa Gweithiwr Medrus, oni bai bod gennych ganiatâd i weithio trwy lwybr arall. Dylai ymgeiswyr nad ydynt yn rhan o'r DU/Gweriniaeth Iwerddon sy'n dymuno gwneud cais hunanasesu'u tebygolrwydd o gael Tystysgrif Nawdd trwy ymweld â gwefan Fisâu a Mewnfudo'r DU. Os ydych chi'n gymwys i gael y fisa Iechyd a Gofal, mae'r costau ymgeisio yn is ac nid oes angen i chi dalu Gordal Iechyd Mewnfudo blynyddol.
Gofynion yr ymgeisydd
Rhaid bod gennych gofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Gradd gydnabyddedig mewn Deieteg
- Wed'ich cofrestru gyda'r Cyngor Proffesiynol Iechyd a Gofal (HCPC)
- Wedi cwblhau hyfforddiant sgiliau goruchwylio clinigol
- Yn amlygu gwybodaeth a sgiliau deieteg glinigol eang ac wedi'u cydgrynhoi
- Tystiolaeth o wybodaeth a/neu hyfforddiant pellach mewn perthynas ag iechyd meddwl ac anableddau dysgu
- Wedi meithrin rhywfaint o wybodaeth arbenigol a amlygir gan gymhwyster deieteg a/neu ddysgu ôl-raddedig ffurfiol ychwanegol
- Yn gallu dangos y modd y gellir trosglwyddo gwybodaeth a sgiliau cyfredol i faes ymarfer deieteg arbenigol
- Yn amlygu gwybodaeth dda am y sail dystiolaeth mewn perthynas ag ymarfer deieteg, ac yn gallu cymhwyso'r wybodaeth honno
- Sgiliau arfarnu beirniadol: yn gallu dehongli sail dystiolaeth gyfredol a sail dystiolaeth newydd, polisi cenedlaethol a phroffesiynol, canllawiau ac arfer gorau wrth ddarparu deieteg
- Sgiliau datrys problemau clinigol sefydledig
- Yn amlygu sgiliau trefnu effeithiol, gan gynnwys blaenoriaethu'r llwyth gwaith, rheoli'r llwyth achosion mewn modd effeithiol, a dirprwyo tasgau
- Sgiliau addysgu a chyflwyno sefydledig
Meini prawf dymunol
- Cymhwyster proffesiynol, technegol neu academaidd arall sy'n berthnasol i'r maes ymarfer Deieteg glinigol
- Wedi cwblhau hyfforddiant/modiwlau Arbenigwr y BDA/Deieteg Achrededig sy'n berthnasol i'r rol
- ECDL neu gyfwerth
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o weithio ym maes deieteg glinigol
- Profiad o weithio gyda phobl ag anghenion iechyd meddwl a/neu anableddau dysgu
- Tystiolaeth o weithio yn aelod o dîm amlddisgyblaethol
- Profiad o ddarparu addysg a hyfforddiant
- Profiad o gymryd rhan yn y broses o ddatblygu/wella/archwilio/weithredu newid mewn ymarfer neu ddarparu/werthuso ffordd newydd o weithio
- Profiad o roi goruchwyliaeth a chymorth clinigol i staff gofal iechyd eraill
Meini prawf dymunol
- Profiad o ddirprwyo gwaith i staff iau, ynghyd â'u cefnogi/goruchwylio
- Profiad o ymchwil
- Profiad o gyflawni gwaith prosiect
- Deietegydd iechyd meddwl neu anableddau dysgu
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Sgiliau Cymraeg – Lefel 1
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Karen Thomas
- Teitl y swydd
- Joint Head of Dietetics
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 07530 930846
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Alanna Noble
Dietegydd Arweiniol Clinigol Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu
Dechrau eich cais
Rhaid ichi fewngofnodi i gyfrif Trac cyn y gallwch wneud cais am y swydd hon.
Mewngofnodi
Creu cyfrif
Creu eich cyfrif a gwneud cais am eich swydd newydd!