Mae Trac yn falch o bweru recriwtio ar gyfer
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
![Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo](https://static.trac.jobs/employer-logos/369.png)
Gwybodaeth
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd i boblogaeth o tua 372,320 ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. Mae'n darparu gwasanaethau Acìwt, Sylfaenol, Cymunedol, Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu trwy Ysbytai Cyffredinol a Chymunedol, Canolfannau Iechyd, Meddygfeydd Teulu, Deintyddion, Fferyllfeydd, Optometryddion a safleoedd eraill.
Ymarferydd Cynorthwyol Therapïau
Closed for applications on: 17-Gorff-2024 00:02
Statws y swydd wag: Closed
Closed for applications on: 17-Gorff-2024 00:02
Manylion allweddol
Lleoliad
- Gwefan
- Ysbyty Cyffredinol Glangwili
- Cyfeiriad
- Heol Dolgwili
- Tref
- Caerfyrddin
- Cod post
- SA31 2AF
- Major / Minor Region
- Sir Gaerfyrddin
Math o gontract a phatrwm gwaith
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (Dydd Llun - Dydd Gwener)
Cyflog
- Cyflog
- £25,524 - £28,010 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Gradd
- (Gradd 4)
Arbenigedd
- Prif leoliad
- Gwasanaeth Ffisiotherapi Blaen Tŷ
- Dyddiad y cyfweliad
- 24/07/2024
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Mae cyfle cyffrous wedi dod ar gael ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i ymuno â'n tîm blaen tŷ, TOCALS (Y Gwasanaeth Cyngor a Chyswllt ar gyfer Trosglwyddo Gofal). Mae hwn yn dîm arloesol sy'n canolbwyntio ar eiddilwch a sefydlwyd i atal derbyniadau diangen i ofal acíwt, ac sy'n
deall y risgiau y gall derbyniadau o'r fath eu hachosi i gleifion. Bydd y swydd yn golygu gweithio yng ngwasanaethau blaen tŷ Ysbyty Glangwili, gan gynnwys yr Adran Damweiniau ac Achosion Brys, Gofal Brys ar yr Un Diwrnod, yr Uned Mân Anafiadau, a'r Uned Penderfyniadau Clinigol.
Bydd deiliad y swydd yn gweithio mewn tîm amlddisgyblaethol sy'n cynnwys Ffisiotherapyddion, Therapyddion Galwedigaethol, Gweithwyr Cymdeithasol, Nyrsys Cyswllt Rhyddhau, a Gweithwyr Delta.
Rhaid i ymgeiswyr fod yn llawn cymhelliant a meddu ar ysgogiad cryf i gyflawni gofal holistaidd, tosturiol sy'n canolbwyntio ar y claf. Gyda'r amrywiaeth eang o gleifion a chyflyrau a welir yn y gwasanaethau blaen tŷ, a thrwy weithio ochr yn ochr ag amrywiaeth eang o staff amlddisgyblaethol, daw'r swydd hon â chyfoeth o gyfleoedd dysgu. Oherwydd cyflymder uchel yr amgylcheddau, bydd rhad i'r ymgeiswyr fod yn barod i addasu a gallu gweithio mewn amgylcheddau prysur, llawn pwysau.
Advert
Bydd y dyletswyddau'n cynnwys cefnogi a chynnal asesiadau holistaidd o gleifion, gan ystyried strategaethau/opsiynau i gynorthwyo prosesau rhyddhau diogel ac amserol.
Bydd deiliad y swydd yn chwarae rôl ganolog wrth ddarparu gwasanaeth adsefydlu i gleifion a dderbynnir i'r Uned Penderfyniadau Clinigol er mwyn hyrwyddo annibyniaeth pob claf. Gallai hyn gynnwys gweithgareddau yn y gwely, mewn cadair ac wrth sefyll, ailaddysgu cerddediad, a
rhaglenni ymarfer corff yn y gampfa.
Bydd disgwyl i chi gefnogi cleifion ar eich pen eich hun ar adegau, ond bydd yr holl waith a wneir yn cael ei wneud dan arweiniad Ffisiotherapyddion cymwysedig. Mae cydnabod cwmpas eich ymarfer yn hanfodol bwysig er mwyn gweld pa gymorth cymwysedig sy'n ofynnol.
I hwyluso parhad gofal cleifion, bydd y swydd yn cynnwys rhywfaint o fewngymorth yn ardaloedd wardiau acíwt, ynghyd ag allgymorth yn y gymuned.
Mae Bwrdd Iechyd y Brifysgol yn mynd ati'n rhagweithiol i gefnogi hyfforddiant a datblygiad, a hynny'n rhan o DPP mewnol ac allanol, fel ei gilydd, a bydd disgwyl i chi gwblhau hyfforddiant gorfodol priodol.
Gan fod y gwasanaeth yn gweithio tag at ddarparu gwasanaeth saith niwrnod, nodwch y bydd yn ofynnol bod ymgeiswyr yn gallu cefnogi rota saith niwrnod pan ddaw hyn i rym.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 11,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth â’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;
Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;
48 o bractisau cyffredinol (pedwar ohonynt yn bractisau a reolir), 47 practis deintyddol (gan gynnwys tri orthodontig), 99 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;
Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadu ar 24/07/2024.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gweithredu polisi dwyieithog
‘Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir drwy gyfrwng y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau a wneir yn y Saesneg’.
Trwy gyflwyno eich cais i NHS Jobs/Trac, rydych yn gydsynio i elfennau o ddata eich cais gael eu trosglwyddo i Gofnod Staff Electronig (ESR) y GIG a systemau diogel, mewnol Gweithlu’r GIG er mwyn cefnogi a rheoli eich recriwtio a’ch cyflogaeth o fewn y sefydliad sy’n eich cyflogi; i’w defnyddio gan yr adran Recriwtio at ddibenion gwirio eich Cofrestriad Proffesiynol ar-lein (lle bo’n briodol).
Mae’r prosesau hyn yn unol â phrosesu Teg a Chyfreithlon yn unol â Deddfwriaeth Diogelu Data cyfredol yn enwedig y rhai hynny mewn perthynas â’ch data personol neu bersonol sensitif (diffinir data personol sensitif fel unrhyw gyflwr iechyd meddwl neu gorfforol, tarddiad hiliol neu ethnig, cyfeiriadedd rhywiol, aelodaeth undeb llafur, barn wleidyddol neu gred crefyddol datganedig). Fel sefydliad, rydym yn sicrhau bod y ddeddfwriaeth sy’n diffinio cyfrinachedd yn cael ei dilyn megis y defnydd o ddata at ddibenion penodol, diffiniedig, a defnydd o ddata sy’n berthnasol ac nid yn ormodol wrth ymarfer cywirdeb data a diogelwch yr holl wybodaeth bersonol adnabyddadwy a gedwir.
Os cewch eich penodi’n llwyddiannus, trwy lenwi’r ffurflen gais rydych yn awdurdodi’r BIP i gael unrhyw fanylion gwasanaeth blaenorol i’r GIG yn cynnwys yr holl wybodaeth ar salwch a gedwir yn electronig, trwy’r broses Trosglwyddo Rhyng-awdurdod ar y Cofnod Staff Electronig.
I weithio yn y DU, mae angen nawdd ar bob ymgeisydd nad yw'n wladolyn o'r DU neu Weriniaeth Iwerddon i gael naill ai fisa Gweithiwr Iechyd a Gofal neu fisa Gweithiwr Medrus, oni bai bod gennych ganiatâd i weithio trwy lwybr arall. Dylai ymgeiswyr nad ydynt yn rhan o'r DU/Gweriniaeth Iwerddon sy'n dymuno gwneud cais hunanasesu'u tebygolrwydd o gael Tystysgrif Nawdd trwy ymweld â gwefan Fisâu a Mewnfudo'r DU. Os ydych chi'n gymwys i gael y fisa Iechyd a Gofal, mae'r costau ymgeisio yn is ac nid oes angen i chi dalu Gordal Iechyd Mewnfudo blynyddol.
Gofynion yr ymgeisydd
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Meistrolaeth dda ar y Saesneg, a Mathemateg sylfaenoll
- NVQ lefel 3 neu gymhwyster cyfatebol
- Cyrsiau ychwanegol perthnasol i gefnogi gwaith clinigol
- Yn meddu ar wybodaeth a phrofiad sylweddol o'r model ffisiotherapi, ac yn gallu cefnog ymyriadau therapiwtig â goruchwyliaeth hyd braich, h.y. gweithio unigol
- Amrywiaeth eang o brofiadau yn rôl gweithiwr cymorth mewn gwasanaeth therapi neu faes cysylltiedig
- Sgiliau TG sylfaenol
Meini prawf dymunol
- Gwybodaeth TG am systemau casglu data
- Cymhwyster proffesiynol, technegol neu academaidd sy'n berthnasol i ymarfer clinigol hyd at 180 credyd ar lefel 4
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Yn amlygu sgiliau codi a chario a thrin datblygedig i helpu i adfer gallu cleifion i weithredu
- Yn amlygu craffter golwg a sgiliau canfod datblygedig
- Y gallu i weithio heb oruchwyliaeth mewn amrywiaeth o leoliadau, gan ysgwyddo cyfrifoldeb am lwyth gwaith dirprwyedig
- Gwybodaeth ymarferol am gyfarpar therapiwtig arbenigol sy'n briodol i'r arbenigedd clinigol
Meini prawf dymunol
- Yn deall rôl grwpiau staff eraill ym maes iechyd a gofal cymdeithaso
- Goruchwylio staff
- Profiad clinigol ychwanegol neu ym maes gofal iechyd
- Profiad clinigol ychwanegol neu ym maes gofal iechyd
Arall
Meini prawf hanfodol
- Yn hyblyg i anghenion y gwasanaeth a'r angen posibl i weithio ar amryw o safleoedd
- Y gallu i deithio rhwng safleoedd mewn modd amserol
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Sarah Davies
- Teitl y swydd
- TOCALS Team Lead
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01267 227808
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Ddim yn derbyn ceisiadau mwyach
Ymddiheuriadau, ond nid yw'r swydd wag hon yn derbyn ceisiadau mwyach.
Gallwch chwilio am swyddi tebyg ar fwrdd swyddi'r cyflogwr, neu fynd i'n bwrdd swyddi cenedlaethol Health Jobs UK.