Mae Trac yn falch o bweru recriwtio ar gyfer
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
![Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo](https://static.trac.jobs/employer-logos/369.png)
Gwybodaeth
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd i boblogaeth o tua 372,320 ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. Mae'n darparu gwasanaethau Acìwt, Sylfaenol, Cymunedol, Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu trwy Ysbytai Cyffredinol a Chymunedol, Canolfannau Iechyd, Meddygfeydd Teulu, Deintyddion, Fferyllfeydd, Optometryddion a safleoedd eraill.
Ffisiolegydd/Gwyddonydd Anadlol Uwch
Closed for applications on: 12-Gorff-2024 00:03
Statws y swydd wag: Closed
Closed for applications on: 12-Gorff-2024 00:03
Manylion allweddol
Lleoliad
- Gwefan
- Ysbyty Cyffredinol Bronglais
- Cyfeiriad
- Heol Caradoc
- Tref
- Aberystwyth
- Cod post
- SY23 1ER
- Major / Minor Region
- Sir Gaerfyrddin
Math o gontract a phatrwm gwaith
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser
- Rhan-amser
Cyflog
- Cyflog
- £44,398 - £50,807 y flwyddyn (pro rata os rhan amser)
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Gradd
- (Gradd 7)
Arbenigedd
- Prif leoliad
- Gwyddor/Ffisioleg Anadlol
- Dyddiad y cyfweliad
- 25/07/2024
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Mae'r swydd hon yn cynnig cyfle cyffrous i arweinydd profiadol neu ddarpar arweinydd ddatblygu diagnosteg anadlol a gwasanaethau cwsg yng Ngheredigion. Bydd yn gweithio'n annibynnol i ddarparu gwasanaethau yn ardal Ceredigion, gan gefnogi hyfforddeion STP a PTP. Bydd Ffisiolegydd neu Wyddonydd Anadlol Uwch yn y Bwrdd Iechyd yn darparu arweiniad clinigol ar gyfer y timau ffisiolegwyr anadlol yn Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin, a bydd yn gweithio gydag uwchffisiolegwyr cwsg yn Ne Sir Gaerfyrddin.
Rydym yn cynnig ystod o ymchwiliadau diagnostig anadlol ac yn darparu gwasanaeth cwsg lleol. Mae ein gwasanaeth yn cael ei gefnogi gan feddygon ymgynghorol anadlol a nyrsys arbenigol brwdfrydig a blaengar yn y Bwrdd Iechyd. Rydym yn cynnal cysylltiadau cadarn â'n darparwr addysg lleol.
Dylai fod yn barod i ymgymryd â heriau arweinyddiaeth a datblygu gwasanaethau mewn tîm llawn cymhelliant sydd wedi'i wasgaru ledled ardal ddaearyddol eang Hywel Dda. Rydym yn chwilio am ymgeisydd sy'n rhannu ein gwerthoedd a'n hymrwymiad i sicrhau ansawdd ein gwasanaethau. Rydym yn annog ymchwil ac ymgysylltiad agored wrth gynllunio a darparu gwasanaethau.
Advert
Bydd yn amlygu cymhwysedd ac ymreolaeth wrth gyflawni ei waith, yn ymgymryd ag amrywiaeth o ymchwiliadau anadlol manwl, cymhleth iawn ym meysydd arbenigeddau anadlol a chwsg, gan ddehongli'r canlyniadau yn seiliedig ar sgiliau a gwybodaeth ddamcaniaethol ddatblygedig iawn.
Cynllunio a chyflenwi gwasanaethau diagnostig a darparu cyngor arbenigol iawn i gleifion a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol. Dehongli safonau lleol a chenedlaethol er mwyn darparu gwasanaeth effeithiol ac effeithlon i'r safon uchaf posibl.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 12,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;
Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;
48 o bractisau cyffredinol (chwech ohonynt yn bractisau a reolir), 47 practis deintyddol (gan gynnwys tri orthodontig), 99 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;
Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Bod yn arweinydd clinigol ledled y Bwrdd Iechyd ar gyfer diagnosteg anadlol, a chydweithio'n agos â’r timau anadlol ar draws safleoedd i ddatblygu a gwella gwasanaethau ledled Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
Cydweithio'n agos ag arweinydd y gwyddorau cwsg i ddatblygu a gwella gwasanaethau ledled rhanbarth Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
Bydd yr arweinydd clinigol yn gweithredu yn rôl mentor i staff sy'n cynnal ymchwiliadau anadlol, gan fynd ati i annog amgylchedd dysgu a chefnogi myfyrwyr a staff iau i feithrin eu gwybodaeth a'u sgiliau.
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadu ar 25/07/2024.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gweithredu polisi dwyieithog
‘Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir drwy gyfrwng y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau a wneir yn y Saesneg’.
Trwy gyflwyno eich cais i NHS Jobs/Trac, rydych yn gydsynio i elfennau o ddata eich cais gael eu trosglwyddo i Gofnod Staff Electronig (ESR) y GIG a systemau diogel, mewnol Gweithlu’r GIG er mwyn cefnogi a rheoli eich recriwtio a’ch cyflogaeth o fewn y sefydliad sy’n eich cyflogi; i’w defnyddio gan yr adran Recriwtio at ddibenion gwirio eich Cofrestriad Proffesiynol ar-lein (lle bo’n briodol).
Mae’r prosesau hyn yn unol â phrosesu Teg a Chyfreithlon yn unol â Deddfwriaeth Diogelu Data cyfredol yn enwedig y rhai hynny mewn perthynas â’ch data personol neu bersonol sensitif (diffinir data personol sensitif fel unrhyw gyflwr iechyd meddwl neu gorfforol, tarddiad hiliol neu ethnig, cyfeiriadedd rhywiol, aelodaeth undeb llafur, barn wleidyddol neu gred crefyddol datganedig). Fel sefydliad, rydym yn sicrhau bod y ddeddfwriaeth sy’n diffinio cyfrinachedd yn cael ei dilyn megis y defnydd o ddata at ddibenion penodol, diffiniedig, a defnydd o ddata sy’n berthnasol ac nid yn ormodol wrth ymarfer cywirdeb data a diogelwch yr holl wybodaeth bersonol adnabyddadwy a gedwir.
Os cewch eich penodi’n llwyddiannus, trwy lenwi’r ffurflen gais rydych yn awdurdodi’r BIP i gael unrhyw fanylion gwasanaeth blaenorol i’r GIG yn cynnwys yr holl wybodaeth ar salwch a gedwir yn electronig, trwy’r broses Trosglwyddo Rhyng-awdurdod ar y Cofnod Staff Electronig.
I weithio yn y DU, mae angen nawdd ar bob ymgeisydd nad yw'n wladolyn o'r DU neu Weriniaeth Iwerddon i gael naill ai fisa Gweithiwr Iechyd a Gofal neu fisa Gweithiwr Medrus, oni bai bod gennych ganiatâd i weithio trwy lwybr arall. Dylai ymgeiswyr nad ydynt yn rhan o'r DU/Gweriniaeth Iwerddon sy'n dymuno gwneud cais hunanasesu'u tebygolrwydd o gael Tystysgrif Nawdd trwy ymweld â gwefan Fisâu a Mewnfudo'r DU. Os ydych chi'n gymwys i gael y fisa Iechyd a Gofal, mae'r costau ymgeisio yn is ac nid oes angen i chi dalu Gordal Iechyd Mewnfudo blynyddol.
Gofynion yr ymgeisydd
Rhaid bod gennych gofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- BSc mewn Ffisioleg Glinigol (Anadlol) neu gymhwyster cyfatebol, a phrofiad clinigol.
- Cofrestriad Proffesiynol Perthnasol, e.e. Y Cyngor Cofrestru ar gyfer Ffisiolegwyr Clinigol (RCCP), Y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC).
- Y Gymdeithas Technoleg a Ffisioleg Anadlol (ARTP), Rhan 1 a 2, cyfunol neu gyfatebol, a phrofiad clinigol.
- Tystiolaeth o gymhwyster ôl-raddedig perthnasol mewn arbenigedd cysylltiedig hyd at lefel meistr, neu brofiad cyfatebol.
Meini prawf dymunol
- Cymhwyster neu ddysgu cydnabyddedig mewn addysgu neu fentora.
- Cymhwyster neu ddysgu cydnabyddedig mewn arwain neu reoli.
- Cymhwyster neu ddysgu cydnabyddedig mewn gwella neu newid gwasanaethau.
- Sgiliau asesu clinigol.
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Cymhwysedd ac ymreolaeth brofedig wrth gyflawni ymchwiliadau anadlol a chwsg arbenigol iawn a amlinellir yn y disgrifiad swydd, ac adrodd arnynt.
- Profiad o hyfforddi a goruchwylio myfyrwyr ac eraill.
- Profiad o arwain neu reoli maes neu wasanaeth.
Meini prawf dymunol
- Profiad o ddarparu clinigau uwch.
- Profiad o arwain a rheoli tîm.
- Profiad o reoli cymwyseddau clinigol mewn tîm.
- Pofiad o reoli ansawdd a chylchoedd gwelliant neu newid.
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Arall
Meini prawf hanfodol
- Yn gallu teithio a chludo cyfarpar i glinigau oddi ar y safle mewn modd amserol.
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Nerys James
- Teitl y swydd
- Cardiac & Respiratory Healthcare Sciences Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01267 266300
Ddim yn derbyn ceisiadau mwyach
Ymddiheuriadau, ond nid yw'r swydd wag hon yn derbyn ceisiadau mwyach.
Gallwch chwilio am swyddi tebyg ar fwrdd swyddi'r cyflogwr, neu fynd i'n bwrdd swyddi cenedlaethol Health Jobs UK.