Mae Trac yn falch o bweru recriwtio ar gyfer
Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru
![Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru logo](https://static.trac.jobs/employer-logos/200.png)
Gwybodaeth
Croeso i Iechyd Cyhoeddus Cymru - asiantaeth iechyd cyhoeddus genedlaethol Cymru. Rydym yn bodoli i ddiogelu a gwella iechyd a llesiant a lleihau anghydraddoldebau iechyd i bobl yng Nghymru.
I gael gwybod mwy ewch i Iechyd Cyhoeddus Cymru a gwyliwch y fideo hwn am ein Cynllun Strategol
Dilynwch ni ar Twitter, Facebook, Linkedin a Instagram
Gweithio gyda'n gilydd, gydag ymddiriedaeth a pharch, i wneud gwahaniaeth
Ein diben yw ‘gweithio gyda'n gilydd ar gyfer Cymru iachach'. Rydym yn bodoli i helpu pawb yng Nghymru i fyw bywydau hirach, iachach. Gyda'n partneriaid, ein nod yw cynyddu disgwyliad oes iach, gwella iechyd a llesiant, a lleihau anghydraddoldebau i bawb yng Nghymru, nawr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Gyda'i gilydd, mae ein timau'n gweithio i atal clefyd, diogelu iechyd, a darparu arweinyddiaeth, gwasanaethau arbenigol ac arbenigedd iechyd cyhoeddus. Ni yw'r brif ffynhonnell o wybodaeth, ymchwil ac arloesedd iechyd cyhoeddus yng Nghymru.
Arweinydd Profiad Cleifion ac Ymgysylltu
Closed for applications on: 23-Gorff-2024 00:00
Statws y swydd wag: Closed
Closed for applications on: 23-Gorff-2024 00:00
Manylion allweddol
Lleoliad
- Gwefan
- Ty Afon
- Cyfeiriad
- Ynysbridge Road
- Tref
- Gwaelod-y-Garth, Caerdydd
- Cod post
- CF15 9SS
- Major / Minor Region
- Caerdydd
Math o gontract a phatrwm gwaith
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyflog
- Cyflog
- £35,922 - £43,257 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Gradd
- (Band 6)
Arbenigedd
- Prif leoliad
- Rhwydwaith Canser Cymru
Croeso i Weithrediaeth GIG Cymru, swyddogaeth gymorth genedlaethol newydd, yn weithredol o 1 Ebrill 2023
Ein pwrpas allweddol yw...
Ysgogi gwelliannau yn ansawdd a diogelwch gofal - gan arwain at ganlyniadau gwell a thecach, mynediad a phrofiad y claf, llai o amrywiad, a gwelliannau yn iechyd y boblogaeth.
I gael gwybod mwy, ewch i Weithrediaeth GIG Cymru.
Ein Gwerthoedd
Gweithio gyda'n gilydd, gydag ymddiriedaeth a pharch, i wneud gwahaniaeth
Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg. I gefnogi ein gwasanaeth i Gymru gyfan, croesawn yn fawr ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Trosolwg o'r swydd
Ydych chi'n angerddol am wneud pethau'n well ar gyfer profiad y claf ac ymgysylltu â gofal iechyd? A oes gennych gefndir cryf mewn canser/oncoleg ac awydd i wneud gwahaniaeth ym mywydau pobl sy’n dioddef o canser? Os felly, efallai y bydd gennym y cyfle perffaith i chi.
Rydym yn chwilio am arweinydd Profiad ac Ymgysylltu Cleifion ar gyfer y Rhwydwaith Clinigol Strategol Cenedlaethol Canser. Byddwch yn datblygu perthnasoedd gwaith cryf a phartneriaethau gyda chlinigwyr, bwrdd/ymddiriedolaeth iechyd, elusennau canser, gofal sylfaenol, a rhanddeiliaid eraill i hwyluso cymuned o cleifion cancer I ymgysylltu ledled Cymru.
Mae Gweithrediaeth y GIG yn gweithio mewn partneriaeth ar gyfer Llywodraeth Cymru yn a chyda GIG Cymru ac mae'n cael ei lletya gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Ein prif bwrpas yw ysgogi gwelliannau o ran ansawdd a diogelwch gofal - gan arwain at ganlyniadau, mynediad a phrofiad gwell a thecach i'r claf gyda llai o amrywiad, a gwelliannau o ran iechyd y boblogaeth.
Gwnawn hyn drwy ddarparu arweinyddiaeth a chyfeiriad strategol cryf - gan alluogi, cefnogi a chyfarwyddo GIG Cymru i drawsnewid gwasanaethau clinigol yn unol â blaenoriaethau a safonau cenedlaethol.
Cysylltwch â Bethan Hawkes, Pennaeth ansawdd, profiad cleifion ac ymgysylltu
([email protected] ) neu Hannah Edwards-Jones, ([email protected]) Rheolwr y rhaglen, am ragor o wybodaeth.
Advert
· Cefnogi’r broses o ddatblygu, gweithredu a gwerthuso strategaeth Rhwydwaith Clinigol Strategol Cenedlaethol ar gyfer Profiad Cleifion Canser ac Ymgysylltu, cynghori arni a’i lledaenu i randdeiliaid allweddol.
- Rhoi cyngor, hyfforddiant a chymorth i staff Rhwydwaith Clinigol Strategol Cenedlaethol ar gyfer Profiad Cleifion Canser ac Ymgysylltu sy’n ymgymryd â gweithgareddau Profiad Cleifion ac Ymgysylltu o fewn eu rhaglenni gwaith. Arwain cyrsiau hyfforddi ar ymgysylltu â chleifion a hyfforddiant/digwyddiadau eraill yn ôl gofynion y gwasanaeth.
- Darparu adroddiadau llafar ac ysgrifenedig yn unol â’r hyn y gofynnir amdano gan Weithrediaeth y GIG, Rhwydwaith Clinigol Strategol Cenedlaethol ar gyfer Profiad Cleifion Canser ac Ymgysylltu, Llywodraeth Cymru, Grŵp Gweithredu ar Ganser a rhaglenni eraill o ran Profiad Chleifion Canser ac Ymgysylltu.
- Dadansoddi gwybodaeth gymhleth (gwybodaeth ansoddol, meintiol ac ystadegol) i lywio a mesur effeithiolrwydd prosiectau a ffrydiau gwaith o ran profiad cleifion.
- Cynllunio a threfnu amrywiaeth eang o weithgareddau Profiad Cleifion Canser ac Ymgysylltu cymhleth o fewn y sefydliad.
- Bod â rôl allweddol wrth sefydlu a gweithio gyda grwpiau cymunedol dan arweiniad cleifion a gofalwyr a sefydliadau’r trydydd sector i feithrin cysylltiadau gwaith partneriaeth.
Gweithio i'n sefydliad
Mae Gweithrediaeth y GIG yn gweithio mewn partneriaeth ar gyfer Llywodraeth Cymru yn a chyda GIG Cymru ac mae’n cael ei lletya gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Ein prif bwrpas yw ysgogi gwelliannau o ran ansawdd a diogelwch gofal - gan arwain at ganlyniadau, mynediad a phrofiad gwell a thecach i’r claf gyda llai o amrywiad, a gwelliannau o ran iechyd y boblogaeth.
Gwnawn hyn drwy ddarparu arweinyddiaeth a chyfeiriad strategol cryf – gan alluogi, cefnogi a chyfarwyddo GIG Cymru i drawsnewid gwasanaethau clinigol yn unol â blaenoriaethau a safonau cenedlaethol.
I ddarganfod mwy am weithio i ni a'r buddion rydym yn eu cynnig, ewch i Gyrfaoedd - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)
I gael arweiniad ar y broses ymgeisio, ewch i Gwybodaeth a Chanllawiau i Ymgeiswyr - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Bydd y rôl hon yn rhoi cyngor a chymorth arbenigol i lywio, ysgogi a darparu gwasanaeth profiad cleifion canser ac ymgysylltu yn Rhwydwaith Clinigol Strategol Cenedlaethol ar gyfer Canser (NSCNC) i ddarparu amgylchedd cenedlaethol ar gyfer hyrwyddo a chefnogi Lleisiau Cleifion i fod yn rhan annatod o wella a datblygu’r Gwasanaeth Canser ledled holl sefydliadau rhanddeiliaid perthnasol.
Bydd deiliad y swydd yn darparu dealltwriaeth ac adborth cenedlaethol i brofiadau cleifion canser a gofalwyr gwasanaethau canser yng Nghymru. Bydd deiliad y swydd yn hyrwyddo pwysigrwydd cynnwys cleifion a gofalwyr canser a’r cyhoedd yn ehangach wrth weithio ar y cyd i wella gwasanaethau canser yng Nghymru.
Bydd deiliad y swydd yn cynghori ac yn arwain ar ddarparu Profiadau Cleifion Canser ac Ymgysylltu ar gyfer y Rhwydwaith Clinigol Strategol Cenedlaethol ar gyfer Canser ac yn rhoi cyngor ac arweinyddiaeth ledled yr holl brosiectau a ffrydiau gwaith o ran profiad cleifion ac ymgysylltu.
Bydd deiliad y swydd yn arwain ar ymgysylltu â rhanddeiliaid, gan feithrin cysylltiadau effeithiol â chydweithwyr mewnol ac allanol i’r Rhwydwaith Clinigol Strategol Cenedlaethol ar gyfer Canser, gyda staff ar draws disgyblaethau a lefelau, gan roi cyngor i sicrhau bod gwasanaethau canser yn cael eu darparu a’u gwella ledled Cymru, gan ddefnyddio data’r adborth.
Bydd deiliad y swydd yn gweithio’n agos gyda’r Rheolwr Rhwydwaith, Arweinwyr Clinigol, Tîm ehangach y Rhwydwaith a rhanddeiliaid allweddol i sicrhau bod lleisiau cleifion yn cael eu cynnwys ym mhob system gwaith sy’n hwyluso gwella gwasanaethau yn unol â’r fframwaith ansawdd, profiad cleifion ac ymgysylltu.
Ni fwriedir i’r dyletswyddau a’r cyfrifoldebau isod fod yn gynhwysfawr, ond maent yn nodi’r prif feysydd gweithgarwch a ddisgwylir ar hyn o bryd. Disgwylir y bydd deiliad y swydd yn mabwysiadu dull hyblyg o gefnogi’r Rhwydwaith fel sy’n briodol, gyda chytundeb Rheolwr y Rhwydwaith.
Mae gan Gweithrediaeth GIG Cymru yr hawl i gau’r swydd wag hon yn gynnar. Felly rydym yn annog ceisiadau cynnar.
Rhoddir blaenoriaeth i staff sy’n aros i gael eu hadleoli. Rydym yn cadw’r hawl felly i dynnu’r hysbyseb hon yn ôl ar unrhyw adeg.
Os oes gennych anabledd a bod gennych unrhyw anghenion penodol i'ch galluogi i gymryd rhan yn y broses ymgeisio, cysylltwch â [email protected]
Os byddwch yn llwyddiannus ac os cewch eich dewis ar gyfer y rhestr fer am gyfweliad, cysylltir â chi ar e-bost gan ddefnyddio’r cyfeiriad a ddefnyddiwyd gennych i gofrestru. Sicrhewch eich bod yn edrych ar eich cyfrif e-bost yn rheolaidd.
Rydym wedi ymrwymo i recriwtio teg a thryloyw ac rydym yn credu mewn cyfle cyfartal yn ein gweithle. Ni fyddwn yn goddef gwahaniaethu ar sail oedran, anabledd, hunaniaeth rywiol, crefydd neu gred, hil neu genedligrwydd, priodas neu bartneriaeth sifil, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, patrwm gwaith, cyfrifoldebau gofalu, gweithgarwch gydag undebau llafur neu gredoau gwleidyddol – nac ar unrhyw sail arall. Croesawn geisiadau gan unigolion a ddymunent weithio’n rhan-amser neu wneud cais i rannu swydd.
I weithio yn y DU, mae angen nawdd ar bob ymgeisydd nad yw'n wladolyn o'r DU neu Weriniaeth Iwerddon i gael naill ai fisa Gweithiwr Iechyd a Gofal neu fisa Gweithiwr Medrus, oni bai bod gennych ganiatâd i weithio trwy lwybr arall. Dylai ymgeiswyr nad ydynt yn rhan o'r DU/Gweriniaeth Iwerddon sy'n dymuno gwneud cais hunanasesu'u tebygolrwydd o gael Tystysgrif Nawdd trwy ymweld â gwefan Fisâu a Mewnfudo'r DU. Os ydych chi'n gymwys i gael y fisa Iechyd a Gofal, mae'r costau ymgeisio yn is ac nid oes angen i chi dalu Gordal Iechyd Mewnfudo blynyddol.
Mae'r raddfa gyflog a ddangosir ar gyfer aelod o staff llawn amser, a chaiff y swm ei addasu pro rata ar gyfer y rhai sy'n gweithio llai na 37.5 awr yr wythnos.
Gellir gweld Graddfeydd Cyflog GIG Cymru yma.
Yn gyffredinol, bydd unrhyw un sy'n ymuno â'n sefydliad nad yw wedi gweithio yn y GIG o'r blaen, yn cychwyn ar bwynt cyntaf y band tâl a hysbysebir yn awtomatig. Yna bydd datblygiad cyflog yn cael ei bennu gan Adolygiadau Perfformiad a Datblygu blynyddol yn unol â Pholisi Datblygiad Cyflog GIG Cymru. Gellir ystyried cais am Gredyd Cynyddol, ond dim ond ar sail gwasanaeth cyfrifadwy â thystiolaeth a/neu brofiad cyfatebol, perthnasol y gellir ei ddyfarnu.
Gofynion yr ymgeisydd
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn hanfodol
Manyleb y person
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- Gradd Anrhydedd neu lefel o brofiad cyfatebol.
- Tystysgrif Cyfathrebu mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol/ Cymhwyster tebyg neu brofiad amlwg.
Meini prawf dymunol
- IQT Arian (neu gymhwyster cyfatebol).
- Cymhwyster Cyflwyniad i Ystadegau. (neu brofiad cyfatebol).
- Cwrs Sylfeini profiad cleifion.
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad sylweddol o weithio mewn Sefydliad Trydydd Sector sy’n benodol i’r GIG neu ganser.
- Profiad o ymgymryd ag amrywiaeth eang o ymarferion Profiad Cleifion ac Ymgysylltu.
- Profiad o ymdrin â data cyfrinachol a sensitif a’i gynnal a’i storio priodol.
- Profiad o fethodolegau Profiad Cleifion ac Ymgysylltu a chynhyrchu adroddiadau gwybodaeth i ledaenu adborth i gefnogi gwella gwasanaethau canser ledled Cymru.
- Profiad o reoli, cynnal a datblygu systemau a gweithdrefnau i gefnogi cynnwys lleisiau cleifion a gofalwyr.
Meini prawf dymunol
- Hanes blaenorol a phrofiad sylweddol o gydweithio a chyfathrebu â phob lefel o weithwyr gofal iechyd proffesiynol, cleifion, gofalwyr ac aelodau’r cyhoedd.
- Hanes o arwain rhaglen strategol Profiad Cleifion Canser ac Ymgysylltu.
- Profiad o weithredu a chyflwyno Strategaeth Profiad Cleifion Canser ac Ymgysylltu.
- Profiad o weithio ar y cyd rhwng sefydliadau’r GIG a’r trydydd sector.
- Profiad o ddefnyddio Microsoft Office.
Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Gwybodaeth am ddeddfwriaeth a strategaethau Cynnwys Cleifion a’r Cyhoedd.
- Gwybodaeth am strwythurau a pholisïau allweddol GIG Cymru - yn enwedig gwasanaethau canser.
- Gwybodaeth am yr heriau a’r rhwystrau i hwyluso grwpiau ffocws cleifion a phrofiad ohonynt.
Meini prawf dymunol
- Gwybodaeth a dealltwriaeth o ddiwylliannau, strwythur a pholisïau’r GIG a Llywodraeth Leol.
Sgiliau a Gallu
Meini prawf hanfodol
- Dangos dealltwriaeth o anghenion pobl sy’n byw gyda chanser.
- Sgiliau cyfathrebu, negodi a chyflwyno rhagorol.
- Dangos y gallu i gyfathrebu materion sensitif, cymhleth a dadleuol iawn.
- Dangos arweinyddiaeth a’r gallu i weithio’n effeithiol gydag amrywiaeth eang o randdeiliaid, gan gynnwys y sectorau iechyd a chymdeithasol, y trydydd sector a’r sector cymunedol.
- Profiad o drefnu, hwyluso a chadeirio digwyddiadau Profiad Cleifion ac Ymgysylltu.
- Profiad o weithio’n annibynnol a chymryd cyfrifoldeb dros weithredoedd eich hun.
- Gallu gweithio dan bwysau i derfynau amser tyn a blaenoriaethu gwaith.
- Sgiliau TG / bysellfwrdd rhagorol.
Meini prawf dymunol
- Yn gallu siarad Cymraeg / yn barod i ddysgu.
- Yn gallu rheoli unrhyw gyllideb enwebedig.
Priodoleddau Personol
Meini prawf hanfodol
- Gweithiwr tîm profedig sy’n gallu ysgogi eraill i gyflawni safonau uchel a gweithio ar y cyd.
- Cadw at amser yn ardderchog.
- Parchu cyfrinachedd.
- Parodrwydd i ddysgu a datblygu sgiliau gydag agwedd hyblyg/gadarnhaol tuag at waith ac ymdeimlad cryf o egni, penderfyniad a chadernid personol.
- Wedi ymrwymo i wella ansawdd.
Arall
Meini prawf hanfodol
- Parodrwydd a’r gallu i deithio.
- Yn croesawu syniadau creadigol i helpu i lunio a gweithredu dull cynhwysol a hyblyg o gynnwys cleifion/gofalwyr
- Yn wleidyddol ymwybodol ac yn sensitif.
Meini prawf dymunol
- Yn gallu cludo adnoddau.
Dogfennau
- Job Description and Person Specification - English (PDF, 520.3KB)
- Job Description and Person Specification - Cymraeg (PDF, 592.3KB)
- Occupational Health - FRF (PDF, 664.5KB)
- Hyderus o Ran Anabledd Arweinydd (PDF, 180.8KB)
- Canllawiau ar gyfer Ymgeiswyr (PDF, 278.7KB)
- Ein Rhwydweithiau Amrywiaeth (PDF, 330.6KB)
- Gwasanaethau Recriwtio Hysbysiad Preifatrwydd (PDF, 696.3KB)
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Ann Hosken
- Teitl y swydd
- Business Support Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
Ddim yn derbyn ceisiadau mwyach
Ymddiheuriadau, ond nid yw'r swydd wag hon yn derbyn ceisiadau mwyach.
Gallwch chwilio am swyddi tebyg ar fwrdd swyddi'r cyflogwr, neu fynd i'n bwrdd swyddi cenedlaethol Health Jobs UK.