Mae Trac yn falch o bweru recriwtio ar gyfer
GIG Cymru Partneriaeth Cydwasanaethau

Gwybodaeth
Ein nod yw cynorthwyo GIG Cymru trwy greu sefydliad cydwasanaethau pwrpasol sydd â hunaniaeth unigryw, sydd:
• yn rhannu safonau gweithredu cyffredin yn unol â’r arferion gorau.
• yn ddigon mawr i fanteisio ar arbedion maint a phŵer prynu wrth wella ansawdd
• yn meddu ar ethos gofal cwsmeriaid rhagorol ac yn canolbwyntio ar ansawdd gwasanaethau.
Mae darparu gofal rhagorol i gwsmeriaid wrth wraidd ein gwasanaethau i unigolion a chymunedau. Rydym yn ymrwymedig i feithrin ymagwedd gadarnhaol at wasanaethau cwsmeriaid, lle rydym yn ymdrechu i ragori ar ddisgwyliadau ein cwsmeriaid bob tro a chreu amgylchedd lle mae gwasanaethau cwsmeriaid yn elfen greiddiol o sut rydym yn rheoli ac yn darparu’r gwasanaethau hyn.
I’n helpu i sicrhau bod ein gwasanaethau’n gwella’n barhaus er mwyn diwallu anghenion ein defnyddwyr, rydym yn adolygu perfformiad trwy drafod â’n cwsmeriaid a llunio adroddiadau perfformiad unigol gyda phob Bwrdd Iechyd ac Ymddiriedolaeth. Rydym yn sefydliad ymroddgar sy’n cefnogi cyrff statudol GIG Cymru drwy ddarparu ystod gynhwysfawr o swyddogaethau a gwasanaethau cymorth o ansawdd uchel ac sy’n canolbwyntio ar y cwsmer
Cysylltu
- Address
- NHS Wales Shared Services Partnership
- 4-5 Charnwood Court
- Heol Billingsley
- Parc Nantgarw
- Cardiff
- CF15 7QZ
- Contact Number
- 01443 848585
Dirprwy Bennaeth Gwasanaethau Trafodion
Closed for applications on: 19-Gorff-2024 00:01
Statws y swydd wag: Closed
Closed for applications on: 19-Gorff-2024 00:01
Manylion allweddol
Lleoliad
- Gwefan
- Tŷ'r Cwmnïau
- Cyfeiriad
- 4ydd Llawr, Tŷ'r Cwmnïau, Ffordd y Goron,
- Tref
- Caerdydd
- Cod post
- CF14 3UB
- Major / Minor Region
- Caerdydd
Math o gontract a phatrwm gwaith
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser
- Gweithio hyblyg
Cyflog
- Cyflog
- £59,857 - £69,553 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Gradd
- (Gradd 8b)
Arbenigedd
- Prif leoliad
- Gweinyddu Gwasanaethau
Os ydych am ymuno â PCGC, gweler yr wybodaeth ychwanegol isod a allai fod o ddiddordeb i chi:-
Mae ein fideo “Buddion” wedi’i greu i amlygu ac arddangos rhai o fuddion gweithio i’r GIG a PCGC:- https://youtu.be/f0uCOjau8K0?si=yTKfnEKoWJ1kWyWz
Mae’r fideo “Awgrymiadau Da – Byddwch yn chi’ch Hun” wedi’i gynllunio i gefnogi ymgeiswyr sy’n gwneud cais am rolau gyda PCGC. Rydym wedi amlinellu 8 cam allweddol i helpu ymgeiswyr i fynegi eu galluoedd a’u profiad wrth gwblhau ceisiadau gyda PCGC. - https://youtu.be/ZawLc_IvcX8?si=xR89FCPYJTEiU1kM
Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg. Ni chaiff cais sydd wedi ei gyflwyno yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais sydd wedi ei gyflwyno yn y Saesneg.
Trosolwg o'r swydd
Bydd deiliad y swydd yn chwarae rhan annatod fel rhan o uwch dîm rheoli’r Gwasanaethau Gofal Sylfaenol wrth osod a chyflawni’r agenda strategol ar gyfer yr isadran. Bydd hyn wedi’i gysylltu’n gynhenid, â gweledigaeth gyffredinol y Bartneriaeth Cydwasanaethau o ddod yn sefydliad o safon fyd-eang, ynghyd ag agenda ‘O’r Da i’r Gwych’ y Gwasanaethau Gofal Sylfaenol.
Bydd gan ddeiliad y swydd arweinyddiaeth a chyfrifoldeb cyffredinol dros arwain, rheoli, datblygu a darparu cyfeiriad strategol mewn perthynas â Hawliadau Contractwyr, gwasanaethau sganio, gwasanaethau Cleifion a thimau Moderneiddio a Thechnegol ar ran PCGC – Gwasanaethau Gofal Sylfaenol, ledled Cymru.
Mae'n ofynnol i ddeiliad y swydd weithio'n strategol, gan ddatblygu ac arwain darpariaeth gwasanaeth effeithiol o Hawliadau Contractwyr, gwasanaethau Sganio, gwasanaethau cleifion a thimau Moderneiddio a Thechnegol i sylfaen eang o gleientiaid ar draws y tri maes penodol/unigol hyn.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Advert
Bydd gan ddeiliad y swydd wybodaeth eang i gyflawni portffolio eang o waith gyda phrofiad sylweddol o sawl agwedd ar ddarparu gwasanaeth o fewn Gwasanaethau Gofal Sylfaenol.
Bydd deiliad y swydd yn atebol yn gyffredinol am reoli hawliadau Contractwyr, timau Sganio a gwasanaethau cleifion a thimau Moderneiddio a Thechnegol o fewn Gwasanaethau Gofal Sylfaenol (PCS) a llu o swyddogaethau gweinyddol arbenigol cymhleth ar draws lleoliadau a disgyblaethau lluosog gan gynnwys prosesu Presgripsiwn, taliadau Contractwyr a gwasanaethau cofrestru cleifion.
Bydd yn darparu cyngor arbenigol iawn i randdeiliaid allweddol ar achosion posibl o dorri protocolau taliadau, hawliadau a sganio a/neu uwch gyfeirio at wasanaethau atal twyll lleol a Chenedlaethol.
Fel arbenigwr yn y sefydliad bydd yn gweithio'n annibynnol am y rhan fwyaf o'u diwrnod gwaith ac yn penderfynu sut y cyflawnir amcanion adrannol. Bydd gofyniad rheolaidd i geisio cyngor a chydweithio â chyrff allanol megis arweinwyr clinigol proffesiynol, Gwasanaethau Archwilio, Llywodraeth Cymru, Byrddau Iechyd a Chontractwyr.
Bydd y deiliad swydd yn annibynnol gyfrifol am reolaeth weithredol hawliadau Contractwyr a thaliadau, y gweithlu sganio a chofrestru cleifion ar draws sawl safle yng Nghymru, er mwyn sicrhau parhad gwasanaeth ac i ddatblygu rheoli perfformiad a hyfforddiant ar draws y safleoedd.
Gweithio i'n sefydliad
Ym Mhartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (PCGC) rydym yn disgwyl i bawb arddel ein gwerthoedd sef: Gwrando a Dysgu, Cydweithio, Cymryd Cyfrifoldeb ac Arloesi.
Mae ein sefydliad yn annog dull gweithio ystwyth ac rydym yn ymfalchïo mewn bod yn sefydliad sy'n dysgu ac sy’n cael ei ysgogi gan welliant parhaus.
Rydym wedi ymrwymo i greu gweithle cynhwysol sy’n gwerthfawrogi cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, gan ganolbwyntio ar lesiant a pherthyn i’n pobl.
Mae gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol yn rhywbeth yr ydym yn ymgyrraedd ato, ar gyfer ein cwsmeriaid mewnol ac allanol.
Rydym yn cynnig pecyn buddion cynhwysfawr, gyda rhywbeth i bawb. I gael gwybod mwy am weithio i ni, y buddion rydym yn eu cynnig a chanllawiau ar y broses ymgeisio ewch i https://pcgc.gig.cymru/gweithio-i-ni/
Mae PCGC yn gweithio mewn ffordd ystwyth lle bo modd. Bydd gan bob swydd ganolfan weithio gontractiol, ond fel rhan o ffyrdd ystwyth o weithio gallai hynny olygu gweithio gartref ac mewn lleoliadau eraill. Rydym hefyd yn edrych ar sut rydym yn cydbwyso hyblygrwydd gyda chymuned, a sut i reoli cyfleoedd i ddysgu oddi wrth ein gilydd.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Bydd yn arwain ar ddatblygu cynlluniau cymhleth i foderneiddio systemau, prosesau busnes a gweithdrefnau o fewn y ddisgyblaeth gwasanaethau Trafodion. Bydd y cynlluniau hyn yn ategu amcanion strategol PCGC yn ehangach, yn ogystal â chynnal y gwaith o ddarparu gwasanaethau o safon uchel i randdeiliaid yn ystod cyfnod o newid a phontio.
Darparu cyfeiriad a strategaeth ar gyfer y timau hawliadau contractwyr, sganio a chofrestru cleifion a thimau Moderneiddio a Thechnegol o fewn adran Gwasanaethau Gweithredol y Gwasanaethau Gofal Sylfaenol. Arwain yn strategol wrth lunio a datblygu gwasanaethau a amlinellir yng nghynllun tymor canolig integredig (IMTP) y Gwasanaethau Gofal Sylfaenol, gan sicrhau bod yr holl dimau a gwasanaethau gweithredu a moderneiddio a thechnegol yn addas i’r diben ac yn darparu gwasanaethau effeithlon ac effeithiol.
Cydweithio ag arweinwyr gwasanaethau i ddatblygu gweithio mewn partneriaeth ac i integreiddio gwasanaethau ar draws Gwasanaethau Gofal Sylfaenol a PCGC yn ehangach. Darparu arweiniad busnes ar ailgynllunio gwasanaethau, wrth ddatblygu achosion busnes i drafod a dylanwadu ar ddarparwyr gwasanaeth ynghylch gwella a newid gwasanaethau.
Monitro ac addasu cynlluniau a gwasanaethau yn weithredol er mwyn ymateb i newidiadau i gyfeiriad strategol rhanddeiliaid a PCGC.
Bydd yn cydweithio â'r Pennaeth Gwasanaethau Trafodion ac arweinwyr eraill i herio eu meddwl a'u harfer cyfredol yn gadarnhaol ac yn greadigol er mwyn sicrhau gwelliannau a buddion wrth gyflenwi gwasanaethau a chydbwysedd ariannol.
I gael dealltwriaeth glir o ystod o reoliadau a phrotocolau sy’n dylanwadu ar daliadau Contractwyr a hawlio, sganio, a chofrestru cleifion ac yn gallu cymhwyso’r rheoliadau fel sy’n briodol.
Arwain ar unrhyw ddiwygiadau polisi/Rheoleiddio Proffesiynol, yn ogystal â nodi a sefydlu prosesau er mwyn sicrhau cydymffurfiad â’r newidiadau hyn. Sicrhau bod yr holl newidiadau ac effaith y newidiadau hyn yn cael eu cyfleu ledled y sefydliadau iechyd yng Nghymru. Manylu ar unrhyw newidiadau cymhleth a allai effeithio ar ofal cleifion a’r ddarpariaeth gwasanaethau gofal sylfaenol.
Bydd gan ddeiliad y swydd ddealltwriaeth a phrofiad o ddehongli polisi Llywodraeth Cymru mewn perthynas â’r pedwar Contractwr Gofal Sylfaenol.
Dangos sgiliau beirniadol wrth lunio atebion i sefyllfaoedd cymhleth a gwrthgyferbyniol yn y gweithle.
Fel arbenigwr yn ei faes, bydd deiliad y swydd yn defnyddio sgiliau dadansoddi datblygedig wrth ddadansoddi gwybodaeth gymhleth iawn ac yn gweithio gyda gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill i ymchwilio i amheuon o dwyll.
Dadansoddi gwybodaeth a gafwyd trwy'r rhaglen rheoli perfformiad o fewn Gwasanaethau Trafodion (gan gynnwys timau Moderneiddio a Thechnegol), i nodi anghenion hyfforddi a materion perfformiad.
Cyfarfod â Swyddfa Archwilio Cymru ac Archwilio Mewnol i adolygu systemau a phrosesau, gan gytuno a gweithredu ar unrhyw ganlyniadau.
Datblygu a monitro Dangosyddion Perfformiad Allweddol; meincnodi; perfformiad a rheolaeth ddarbodus ar draws yr adran a chysylltu ag arweinwyr gwasanaethau eraill.
Gweithredu fel rôl arweiniol yn y gwaith parhaus o gadw achrediad Rhagoriaeth mewn Gwasanaethau Cwsmeriaid (CSE) a datblygiad gwasanaethau yn unol ag achrediadau ISO, wrth edrych am fentrau ac achrediadau newydd er budd y sefydliad.
Bod yn rhagweithiol er mwyn osgoi sefyllfaoedd rhag codi sy’n galw am sylw ar unwaith, ond sicrhau bod camau’n cael eu cymryd yn brydlon i oresgyn materion, yn ôl yr angen.
Bydd yn cefnogi ac yn cyfrannu at waith y Pennaeth Gwasanaethau Trafodion yn datblygu a defnyddio rhaglen ddatblygu a hyfforddi’r Gwasanaethau Gofal Sylfaenol.
Bydd yn cefnogi ac yn cyfrannu at waith y Pennaeth Gwasanaethau Trafodion yn datblygu a defnyddio'r Cynllun Tymor Canolig Integredig ar ran y Gwasanaethau Gofal Sylfaenol.
Fel aelod o’r Uwch Dîm Rheoli, mae’r cyfrifoldeb yn ei le i arwain fel gweithredwr prosiect ar nifer o fentrau o dan y Cynllun Tymor Canolig Integredig.
Bydd yn cefnogi ac yn cyfrannu at waith y Pennaeth Gwasanaethau Trafodion gyda datblygu a defnyddio Cytundebau Lefel Gwasanaeth y Gwasanaethau Gofal Sylfaenol, gan gynnwys CLG gyda NHS Resolution a NHS Digital.
Cefnogi LlC â threfniadau diwygio contractau ar draws pedair disgyblaeth y contractwyr.
Adolygu ac adlinio gwasanaethau a systemau prosesu swmp trafodion cenedlaethol presennol er mwyn sicrhau’r effeithlonrwydd mwyaf tra hefyd yn chwilio a chefnogi mentrau newydd yn unol â gweledigaeth ac amcanion strategol SSP/GIG Cymru a nodir yn yr IMTP, e.e.
i) darparu Gwasanaethau Presgripsiwn Electronig yng Nghymru – cyflawni’r trawsnewid o fodel cyflenwi gwasanaethau presennol i wasanaeth cwbl awtomataidd heb effaith ar y cwsmer
ii) Trawsnewid gwasanaeth i alluogi datgomisiynu’r Gwasanaeth Seilwaith Cymwysiadau Iechyd Gwladol wrth drosglwyddo i’r Datrysiad Rheoli Cofnodion Gofal Sylfaenol. Mae angen i hyn gael ei wrthbwyso gan ddatblygiad ychwanegol a gwaith cynnal a chadw dilynol ar becyn meddalwedd pwrpasol i reoli symudiad cofnodion meddygol yng Nghymru tra'n aros am newid deddfwriaethol.
Bydd disgwyl i ddeiliad y swydd weithio fel aelod annatod o uwch dîm rheoli’r Gwasanaethau Gofal Sylfaenol a darparu’r rhyngwyneb allweddol gyda rhanddeiliaid o ran y cyfathrebu parhaus o ddatblygu gwasanaeth a rhaglenni newid trosiannol.
Arwain fel arbenigwr; rheoli perthnasoedd gwaith effeithiol â rhanddeiliaid perthnasol fel byrddau iechyd, contractwyr gofal sylfaenol a’r cyrff sy’n eu cynrychioli, gan roi cyngor arbenigol yn rheolaidd ar gymhlethdodau materion rheoleiddio ac offerynnau statudol sy’n llywodraethu’r ddarpariaeth o wasanaethau gofal sylfaenol a’r ffordd y maent yn cael eu rheoli a’u cymhwyso o fewn GIG Cymru.
Bydd gofyn i ddeiliad y swydd arwain y datblygiad a chynnal perthnasoedd gwaith rhagorol gydag ystod eang o randdeiliaid, gan ddatblygu cynlluniau busnes strategol i lywio ac annog derbyn y cyfeiriad strategol y mae’r Gwasanaethau Gofal Sylfaenol / PCGC yn ei ddilyn.
Bydd yn cyfleu gwybodaeth fanwl gymhleth/technegol mewn perthynas â thaliadau Contractwyr, prosesau hawlio a chofrestru; gydag ystod eang o randdeiliaid, gan gynnwys Llywodraeth Cymru; Cyrff Proffesiynol; Byrddau Iechyd ac Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Bydd yn cynrychioli’r Gwasanaethau Gofal Sylfaenol yn weithredol ac yn mynychu cyfarfodydd gyda chyrff proffesiynol eraill, fel y Grwpiau Comisiynu Clinigol, Fferylliaeth Gymunedol Cymru, GPC Cymru, Optometreg Cymru ac NHS Digital Lloegr, lle bydd yn hanfodol bod deiliad y swydd yn gallu cyfathrebu gan ddefnyddio dull amlochrog fel arbenigwr yn ei faes.
Bydd gan ddeiliad y swydd brofiad blaenorol o ddarparu gwasanaethau gweithredol a strategol, yn ogystal â phrofiad o ddod i gysylltiad â rhanddeiliaid allanol a chyrff cynrychioli contractau.
Bydd yn gallu gweithio ar lefel sy’n dangos hygrededd ac yn darparu cyngor ac arweiniad arbenigol i bobl nad ydynt yn arbenigwyr ar bob maes Gwasanaethau Trafodion, gan gynnwys yr holl brosesau a chymwysiadau. Bydd hefyd yn ofynnol iddynt ddehongli ac egluro rheoliadau sy'n ymwneud â Hawliadau Contractwyr a thaliadau, gwasanaethau Sganio a chofrestru cleifion.
Bydd yn meddu ar ddealltwriaeth ragorol o arfer gofal iechyd yn y sector contractwyr gofal sylfaenol a bydd ganddo/ganddi brofiad o weithio gyda’r GIG a rhanddeiliaid sy’n gysylltiedig â’r GIG.
Wrth gyfathrebu â hyd at 6000 o gontractwyr annibynnol ledled Cymru, bydd gofyn i ddeiliad y swydd ddefnyddio sgiliau rhyngbersonol datblygedig yn aml i ddylanwadu a pherswadio eraill i newid arferion gwaith yn unol ag agenda esblygol y GIG.
Rhoi cyngor ac arweiniad arbenigol i staff neu randdeiliaid allanol yn ôl yr angen.
Cynghori ar drafodaethau gwybodaeth ariannol gymhleth iawn yn unol â rheoliadau perthnasol a gofynion byrddau iechyd e.e.,
i) y goblygiadau ariannol, fesul senario, dehongliadau, sy’n cystadlu â’i gilydd, o ddeddfwriaeth gwasanaeth ychwanegol yn erbyn manylebau’r Bwrdd Iechyd yn erbyn patrymau hawlio.
ii) Datblygu a thrafod gyda Fferylliaeth Gymunedol Cymru ynghylch datblygu pecynnau gwasanaeth newydd.
Bydd gofyniad rheolaidd i roi cyflwyniadau mewn lleoliadau ffurfiol megis digwyddiadau rhanddeiliaid, cwsmeriaid neu staff, i grwpiau mewnol/allanol amrywiol yn amrywio o 5 i 70 o gyfranogwyr i ddarparu a chyfleu gwybodaeth reoleiddiol, hynod sensitif a/neu ddadleuol, e.e. newid sefydliadol neu wasanaeth. Bydd deiliad y swydd yn ymgysylltu’n effeithiol â’r gynulleidfa ac yn gallu ymateb yn agored i gwestiynau a sicrhau ei fod/bod yn cyfleu dealltwriaeth lawn o’r pwnc.
Rheoli’r adnoddau adrannol ar gyfer yr elfennau staffio a di-staff. Bydd yn cefnogi’r Pennaeth Gwasanaethau Trafodion i reoli’r gyllideb hon er mwyn cyrraedd targedau’r Cynllun Gwella Costau yn flynyddol.
Bydd yn gweithredu fel llofnodwr awdurdodedig mewn perthynas â thaliadau BACS a gynhyrchir trwy'r systemau NHAIS (neu unrhyw system yn y dyfodol) ac a brosesir trwy Version1 (neu unrhyw weithredwr yn y dyfodol) (tua £20m y trafodiad.
Ymrwymwn i weithio hyblyg a chyfleoedd cyfartal.
Os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer, cysylltwn â chi ar y cyfeiriad e-bost a roddoch chi wrth gofrestru. Cofiwch wirio’ch cyfrif e-bost yn rheolaidd.
Rhoddir blaenoriaeth i staff sy’n aros i gael eu hadleoli. Rydym yn cadw’r hawl felly i dynnu’r hysbyseb hon yn ôl ar unrhyw adeg.
Wrth wneud cais am y swydd hon mae’n hanfodol eich bod yn darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb y Person (lle bônt ar gael), ac yn dangos sut mae’ch sgiliau, gwybodaeth a phrofiad yn bodloni gofynion manyleb y person. Dim ond yr ymgeiswyr hynny sy’n dangos yn glir eu bod yn bodloni Manyleb y Person fydd yn cyrraedd y rhestr fer.
I weithio yn y DU, mae angen nawdd ar bob ymgeisydd nad yw'n wladolyn o'r DU neu Weriniaeth Iwerddon i gael naill ai fisa Gweithiwr Iechyd a Gofal neu fisa Gweithiwr Medrus, oni bai bod gennych ganiatâd i weithio trwy lwybr arall. Dylai ymgeiswyr nad ydynt yn rhan o'r DU/Gweriniaeth Iwerddon sy'n dymuno gwneud cais hunanasesu'u tebygolrwydd o gael Tystysgrif Nawdd trwy ymweld â gwefan Fisâu a Mewnfudo'r DU. Os ydych chi'n gymwys i gael y fisa Iechyd a Gofal, mae'r costau ymgeisio yn is ac nid oes angen i chi dalu Gordal Iechyd Mewnfudo blynyddol.
Gofynion yr ymgeisydd
Manyleb y person
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- Addysg hyd at radd Meistr (neu lefel gyfatebol o brofiad o weithio ar lefel uwch mewn maes arbenigol), ynghyd â phrofiad rheoli perthnasol Helaeth o fewn Gofal Sylfaenol y GIG.
- Gwybodaeth ymarferol dda am y System Gofal Sylfaenol.
- Gwybodaeth am randdeiliaid y GIG, gan gynnwys Byrddau Iechyd, Llywodraeth Cymru ac Ymddiriedolaethau.
- Gwybodaeth arbenigol fanwl am bolisi rheoleiddio proffesiynol ym maes Gofal Sylfaenol.
Meini prawf dymunol
- Cymhwyster Proffesiynol/Gradd Meistr addas.
- Profiad/cymhwyster mewn rheoli prosiectau.
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad sylweddol o reoli/goruchwylio ym maes Gofal Sylfaenol y GIG.
- Sgiliau cyfathrebu a sgiliau rhyngbersonol rhagorol wrth ddelio â gwybodaeth gymhleth ac arbenigol i ac oddi wrth ystod eang o randdeiliaid
- Hanes amlwg o ddarparu gwasanaethau gweithredol a strategol.
- Gwybodaeth ymarferol a dealltwriaeth sylweddol o nifer o randdeiliad y GIG, gan gynnwys Byrddau Iechyd, Ymddiriedolaethau a Chontractwyr Gofal Sylfaenol a’u gofynion moderneiddio gwasanaeth.
- Gwybodaeth gadarn am ofynion Gofal Sylfaenol Statudol cymhleth, rheolau ynglŷn â thaliadau a rheoliadau.
- Profiad blaenorol o ddatblygu a dehongli polisïau a gweithdrefnau/Cytundebau Lefel Gwasanaeth mewn amgylchedd amlasiantaethol/amlddisgyblaethol.
Sgiliau
Meini prawf hanfodol
- Sgiliau cynllunio rhagorol
- Sgiliau rheoli adeiladu tîm a sgiliau ysgogi rhagorol.
- Yn gallu blaenoriaethu gofynion sy’n cystadlu â’i gilydd a chyrraedd terfynau amser.
- Bydd gofyn i ddeiliad y swydd allu delio ag amgylchedd cyflym a newidiol a bydd gofyn iddo allu delio’n sensitif â materion perfformiad a staffio.
- Yn gallu rheoli newid.
- Yn gallu llunio barn a gwneud penderfyniadau cadarn, sy’n cynnwys sefyllfaoedd a gwybodaeth amlochrog
- Yn gallu delio ag amgylchiadau emosiynol/gofidus o bryd i’w gilydd.
- Sgiliau arwain amlwg mewn amgylcheddau cymhleth.
Meini prawf dymunol
- Mae Sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar lefelau 1 i 5 o ran deall, siarad, darllen ac ysgrifennu.
Dogfennau
- Dirprwy Bennaeth Gwasanaethau Trafodion (PDF, 464.6KB)
- Job Description and Person Specification - English (PDF, 448.6KB)
- Functional Requirements Form (PDF, 744.5KB)
- Hysbysiad Preifatrwydd Penodi hyd Ymddeoliad PCGC (PDF, 696.3KB)
- NWSSP - About Us (PDF, 6.6MB)
- NWSSP - Our Benefits 2023 (PDF, 487.5KB)
- NWSSP - Buddion (PDF, 491.0KB)
- PCGC -Amdanom (PDF, 6.7MB)
- Guidance Notes for Applicants April 2024 (PDF, 278.7KB)
- IMTP Summary 2024-2027 (PDF, 13.7MB)
- IMTP Summary 2024-2027 - Cymraeg (PDF, 13.7MB)
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Ceri Evans
- Teitl y swydd
- Head of Transaction Services
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 07484689310
Ddim yn derbyn ceisiadau mwyach
Ymddiheuriadau, ond nid yw'r swydd wag hon yn derbyn ceisiadau mwyach.
Gallwch chwilio am swyddi tebyg ar fwrdd swyddi'r cyflogwr, neu fynd i'n bwrdd swyddi cenedlaethol Health Jobs UK.