Mae Trac yn falch o bweru recriwtio ar gyfer
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
![Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo](https://static.trac.jobs/employer-logos/369.png)
Gwybodaeth
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd i boblogaeth o tua 372,320 ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. Mae'n darparu gwasanaethau Acìwt, Sylfaenol, Cymunedol, Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu trwy Ysbytai Cyffredinol a Chymunedol, Canolfannau Iechyd, Meddygfeydd Teulu, Deintyddion, Fferyllfeydd, Optometryddion a safleoedd eraill.
Rheolwr yr Is-adran Gwyddorau'r Gwaed Biochemeg
Closed for applications on: 18-Gorff-2024 00:02
Statws y swydd wag: Closed
Closed for applications on: 18-Gorff-2024 00:02
Manylion allweddol
Lleoliad
- Gwefan
- Ysbyty Cyffredinol Glangwili
- Cyfeiriad
- Heol Dolgwili
- Tref
- Caerfyrddin
- Cod post
- SA31 2AF
- Major / Minor Region
- Sir Gaerfyrddin
Math o gontract a phatrwm gwaith
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (Bydd disgwyl i chi gymryd rhan ar y rota y tu allan i oriau ar gyfer Biocemeg.)
Cyflog
- Cyflog
- £44,398 - £50,807 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Gradd
- (Band 7)
Arbenigedd
- Prif leoliad
- Gwyddorau'r Gwaed
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Rydym yn chwilio am Wyddonydd Biofeddygol Arbenigol brwdfrydig, llawn cymhelliant, sydd â chymwysterau addas ac sydd wedi'i gofrestru gyda Chyngor y Proffesiynau Iechyd a Gofal, ac sydd â phrofiad mewn Biocemeg, i wneud cais am swydd Rheolwr Is-adran Biocemeg Band 7 yn Adran Gwyddorau'r Gwaed yn Ysbyty Cyffredinol Glangwili, Caerfyrddin.
Bydd gan ddeiliad y swydd FIBMS, MSc. neu gymhwyster cyfatebol. Bydd yn meddu ar yr wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau yn y ddisgyblaeth, ac yn gallu amlygu DPP perthnasol yn unol â'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal. Bydd gan ddeiliad y swydd brofiad clinigol a thechnegol ôl-gofrestru ar lefel Gwyddonydd Biofeddygol Arbenigol, ynghyd â gwybodaeth fanwl am offeryniaeth/dechnegau labordy cymhleth a gweithdrefnau sicrhau/rheoli ansawdd.
Mae’r Labordy Gwyddorau'r Gwaed sydd newydd ei adnewyddu a'i foderneiddio yn darparu gwasanaethau gofal sylfaenol ac eilaidd acíwt ac arferol mewn Biocemeg, Hematoleg a Cheulo, ochr yn ochr â'r adran Proteinau Arbennig, adran Trallwyso Gwaed brysur, a gwasanaeth Profion Pwynt Gofal eang.
Mae sgiliau trefnu a chyfathrebu effeithiol yn hanfodol, a bydd disgwyl i chi weithio'n rhan o dîm a rheoli'r tîm hwnnw mewn modd effeithlon.
Rydym yn labordy hyfforddi cofrestredig ac yn hyrwyddo ac yn coleddu athroniaeth dysgu a datblygu.
Advert
Bydd y deiliad swydd llwyddiannus yn rheoli is-adran ac yn ysgwyddo cyfrifoldeb am y gwaith o redeg is-adran Biocemeg y Labordy Gwyddorau'r Gwaed o ddydd i ddydd.
Bydd yn gyfrifol am ddarparu cyngor arbenigol i ddefnyddwyr y gwasanaeth, gwerthuso methodolegau newydd, a datblygu, tyfu ac optimeiddio'r gwasanaeth ar y cyd â Rheolwr Gwasanaethau y Bwrdd Iechyd a Gwyddonwyr Clinigol Ymgynghorol.
Ar hyn o bryd mae gan yr Is-adran Biocemeg ddadansoddwyr Roche Cobas PRO, ynghyd â'r Sebia Minicap, Hydrasis, TOSOH a systemau Biocemeg ategol eraill.
Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am ddatblygu'r gwasanaeth ac am sicrhau ei fod yn gadarn ac yn ymatebol i anghenion ein defnyddwyr.
Bydd yn darparu arweinyddiaeth broffesiynol, dechnegol a rheolaethol i'r holl staff ym maes Biocemeg, a bydd yn gyfrifol am hyfforddi, asesu, sicrhau cymhwysedd a monitro arferion gwaith yn unol â safonau y cytunwyd arnynt, fel y'u gosodwyd gan United Kingdom Accreditation Services (UKAS) Limited.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus hefyd yn gyd-gyfrifol am reoli absenoldebau a gwyliau blynyddol staff.
Mae'r adran yn gweithredu patrwm shifftiau contractiol sy'n cefnogi Gwasanaethau Rownd y Cloc, a bydd gweithio y tu allan i oriau ar y rota Biocemeg yn rhan o'ch rôl.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Mae croeso i siaradwyr Saesneg a/neu Gymraeg wneud cais.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 11,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth â’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;
Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;
48 o bractisau cyffredinol (pedwar ohonynt yn bractisau a reolir), 47 practis deintyddol (gan gynnwys tri orthodontig), 99 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;
Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Bydd deiliad llwyddiannus y swydd yn ymuno â'r tîm ar adeg gyffrous, a bydd yn dod yn rhanddeiliad allweddol yn y gwaith o ddatblygu'r rhwydwaith rhagoriaeth rhanbarthol arloesol. Bydd yr unigolyn yn cael ei gyflogi i ddechrau gan BIPHDd hyd nes y sefydlir model rheoli rhanbarthol. Bydd y swydd wedyn yn newid i fod yn rôl ranbarthol.
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadu ar 25.07.2024.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gweithredu polisi dwyieithog
‘Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir drwy gyfrwng y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau a wneir yn y Saesneg’.
Trwy gyflwyno eich cais i NHS Jobs/Trac, rydych yn gydsynio i elfennau o ddata eich cais gael eu trosglwyddo i Gofnod Staff Electronig (ESR) y GIG a systemau diogel, mewnol Gweithlu’r GIG er mwyn cefnogi a rheoli eich recriwtio a’ch cyflogaeth o fewn y sefydliad sy’n eich cyflogi; i’w defnyddio gan yr adran Recriwtio at ddibenion gwirio eich Cofrestriad Proffesiynol ar-lein (lle bo’n briodol).
Mae’r prosesau hyn yn unol â phrosesu Teg a Chyfreithlon yn unol â Deddfwriaeth Diogelu Data cyfredol yn enwedig y rhai hynny mewn perthynas â’ch data personol neu bersonol sensitif (diffinir data personol sensitif fel unrhyw gyflwr iechyd meddwl neu gorfforol, tarddiad hiliol neu ethnig, cyfeiriadedd rhywiol, aelodaeth undeb llafur, barn wleidyddol neu gred crefyddol datganedig). Fel sefydliad, rydym yn sicrhau bod y ddeddfwriaeth sy’n diffinio cyfrinachedd yn cael ei dilyn megis y defnydd o ddata at ddibenion penodol, diffiniedig, a defnydd o ddata sy’n berthnasol ac nid yn ormodol wrth ymarfer cywirdeb data a diogelwch yr holl wybodaeth bersonol adnabyddadwy a gedwir.
Os cewch eich penodi’n llwyddiannus, trwy lenwi’r ffurflen gais rydych yn awdurdodi’r BIP i gael unrhyw fanylion gwasanaeth blaenorol i’r GIG yn cynnwys yr holl wybodaeth ar salwch a gedwir yn electronig, trwy’r broses Trosglwyddo Rhyng-awdurdod ar y Cofnod Staff Electronig.
I weithio yn y DU, mae angen nawdd ar bob ymgeisydd nad yw'n wladolyn o'r DU neu Weriniaeth Iwerddon i gael naill ai fisa Gweithiwr Iechyd a Gofal neu fisa Gweithiwr Medrus, oni bai bod gennych ganiatâd i weithio trwy lwybr arall. Dylai ymgeiswyr nad ydynt yn rhan o'r DU/Gweriniaeth Iwerddon sy'n dymuno gwneud cais hunanasesu'u tebygolrwydd o gael Tystysgrif Nawdd trwy ymweld â gwefan Fisâu a Mewnfudo'r DU. Os ydych chi'n gymwys i gael y fisa Iechyd a Gofal, mae'r costau ymgeisio yn is ac nid oes angen i chi dalu Gordal Iechyd Mewnfudo blynyddol.
Gofynion yr ymgeisydd
Rhaid bod gennych gofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Cofrestriad gyda'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal
- FIBMS/MSc neu gymhwyster cyfatebol
- Cymryd rhan mewn datblygiad proffesiynol parhaus
- Gwybodaeth fanwl am dechnegau offeryniaeth/labordy cymhleth a gweithdrefnau rheoli/sicrhau ansawdd
Meini prawf dymunol
- Cymhwyster rheoli/goruchwylio
- Diploma datblygiad proffesiynol parhaus
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad clinigol a thechnegol olgofrestru ar lefel Gwyddonydd Biomeddygol Arbenigol
Arall
Meini prawf hanfodol
- Y gallu i deithio rhwng safleoedd mewn modd amserol
- Agwedd hyblyg at anghenion y gwasanaeth
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Catrina Richards
- Teitl y swydd
- Blood Sciences Locality Lead, Glangwili Hospital
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01267 227965
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Anfonwch neges e-bost at [email protected] os hoffech drefnu ymweliad anffurfiol â'r safle i weld yr adran.
Ddim yn derbyn ceisiadau mwyach
Ymddiheuriadau, ond nid yw'r swydd wag hon yn derbyn ceisiadau mwyach.
Gallwch chwilio am swyddi tebyg ar fwrdd swyddi'r cyflogwr, neu fynd i'n bwrdd swyddi cenedlaethol Health Jobs UK.