Mae Trac yn falch o bweru recriwtio ar gyfer
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Gwybodaeth
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd i boblogaeth o tua 372,320 ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. Mae'n darparu gwasanaethau Acìwt, Sylfaenol, Cymunedol, Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu trwy Ysbytai Cyffredinol a Chymunedol, Canolfannau Iechyd, Meddygfeydd Teulu, Deintyddion, Fferyllfeydd, Optometryddion a safleoedd eraill.
Gwyddonydd Biofeddygol Arbenigol
Accepting applications until: 31-Jul-2024 23:59
Statws y swydd wag: Open
Accepting applications until: 31-Jul-2024 23:59
Manylion allweddol
Lleoliad
- Gwefan
- Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg
- Cyfeiriad
- Heol Abergwaun
- Tref
- Hwlffordd
- Cod post
- SA61 2PZ
- Major / Minor Region
- Sir Gaerfyrddin
Math o gontract a phatrwm gwaith
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (Cynnwys y tu allan i oriau gwaith pan fydd yn gymwys)
Cyflog
- Cyflog
- £35,922 - £43,257 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Gradd
- (Gradd 6/Atodiad 21)
Arbenigedd
- Prif leoliad
- Gwyddorau'r Gwaed
- Dyddiad y cyfweliad
- 09/08/2024
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Gwahoddir ceisiadau gan Wyddonwyr Biofeddygol brwdfrydig a llawn cymhelliant sy'n gofrestredig gyda'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC), i weithio yn Adran Gwyddorau Gwaed achrededig Gwasanaeth Achredu'r Deyrnas Unedig (UKAS) yn Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg, Hwlffordd. Mae yna un swydd parhaol lawn-amser (37.5 awr yr wythnos) ar gael yn yr adran Biochemeg. Byddai disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus gymryd rhan mewn hyfforddiant amlddisgyblaethol ynghyd â phroses datblygu cyfuniad sgiliau ym maes Gwyddorau'r Gwaed.
Mae'r adran yn gweithredu patrwm sifftiau contractiol sy'n cefnogi Gwasanaethau Rownd y Cloc, a bydd gweithio y tu allan i oriau ar y rota Biochemeg yn rhan o'r rôl hon.
Beth am ystyried gweithio mewn ardal o harddwch eithriadol wedi'i hamgylchynu gan Barc Cenedlaethol Sir Benfro gyda'i Lwybr Arfordirol trawiadol a'i draethau Baner Las yn darparu ystod o gyfleoedd ar gyfer gweithgareddau neu hamddena. Gyda'i chysylltiadau trafnidiaeth da, ysgolion o safon, a'r opsiwn o fyw mewn tref neu ardal wledig, mae gan Sir Benfro lawer i'w gynnig.
Advert
Mae'r labordy sydd wedi'i adnewyddu a'i foderneiddio yn darparu gwasanaethau gofal sylfaenol ac eilaidd acíwt ac arferol ym maes Biocemeg, Haematoleg, Ceulo a Thrallwyso. Ar hyn o bryd, mae gan yr adran Biocemeg ddadansoddwyr Roche Cobas 8000 sydd i gael eu
huwchraddio yn y dyfodol agos. Mae'r adran hefyd yn cynnwys Capillarys a Hydrasys Sebia ar gyfer electrofforesis protein serwm ac wrin, dadansoddwr protein Optilite a Tosoh G8.
Dylai'r unigolyn feddu ar naill ai bortffolio Arbenigol y Sefydliad Gwyddorau Biofeddygol (yr IBMS) neu brofiad cyfatebol, a phrofiad ôl-gofrestru digonol i ymgymryd â rôl arbenigol yn yr Adran Biochemeg.
Bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus gyfathrebu gwybodaeth, cyngor, cyfarwyddyd a barn broffesiynol yn effeithiol i gyd-weithwyr a defnyddwyr y Gwasanaeth Patholeg ym maes gofal sylfaenol ac eilaidd.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a / neu Saesneg wneud cais.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 11,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;
Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;
48 o bractisau cyffredinol (pedwar ohonynt yn bractisau a reolir), 47 practis deintyddol (gan gynnwys tri orthodontig), 99 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;
Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r swydd hon yn cael ei hysbysebu ar lefel Band 6 ac yn ddelfrydol bydd yr ymgeiswyr ar gyfer y rôl hon wedi cyflawni Diploma Arbenigol. Fodd bynnag, anogir ymgeiswyr nad ydynt ar hyn o bryd yn meddu ar y diploma ar gyfer y rôl Band 6 hon i wneud cais, ac, os byddant yn llwyddiannus, bydd yn ofynnol iddynt gyflawni'r cymhwyster dwy flynedd a chânt eu penodi o dan reolau Atodiad 21.
Mae hyn yn golygu y byddant yn cael eu cefnogi gan gynllun datblygu. (Yn ystod y flwyddyn gyntaf bydd y taliad yn 70% o'r gyfradd cyflog uchaf ym mand 6, a'r ail flwyddyn yn 75%). Ar ôl llwyddo yn y Diploma Arbenigol yna bydd deiliad y swydd yn cael ei dalu ar Fand 6 (pwynt isaf y raddfa).
Darperir cymorth a goruchwyliaeth er mwyn datblygu'r ymgeisydd llwyddiannus i'r rôl Band 6. Fel rhan o broses Atodiad 21, nid oes cosb ariannol i’r rhai sy’n gwneud cais am y rôl hon lle bydd y ganran yn achosi gostyngiad mewn cyflog, ac o ganlyniad byddai amddiffyniad lleol yn cael ei roi ar waith nes bod y cyflog wedi dal i fyny. Gallai peidio â chyflawni'r cymhwyster yn unol â'r amserlen ddynodedig arwain at adleoli.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadau ar 09/08/2024.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gweithredu polisi dwyieithog
‘Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir drwy gyfrwng y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau a wneir yn y Saesneg’.
Trwy gyflwyno eich cais i NHS Jobs/Trac, rydych yn gydsynio i elfennau o ddata eich cais gael eu trosglwyddo i Gofnod Staff Electronig (ESR) y GIG a systemau diogel, mewnol Gweithlu’r GIG er mwyn cefnogi a rheoli eich recriwtio a’ch cyflogaeth o fewn y sefydliad sy’n eich cyflogi; i’w defnyddio gan yr adran Recriwtio at ddibenion gwirio eich Cofrestriad Proffesiynol ar-lein (lle bo’n briodol).
Mae’r prosesau hyn yn unol â phrosesu Teg a Chyfreithlon yn unol â Deddfwriaeth Diogelu Data cyfredol yn enwedig y rhai hynny mewn perthynas â’ch data personol neu bersonol sensitif (diffinir data personol sensitif fel unrhyw gyflwr iechyd meddwl neu gorfforol, tarddiad hiliol neu ethnig, cyfeiriadedd rhywiol, aelodaeth undeb llafur, barn wleidyddol neu gred crefyddol datganedig). Fel sefydliad, rydym yn sicrhau bod y ddeddfwriaeth sy’n diffinio cyfrinachedd yn cael ei dilyn megis y defnydd o ddata at ddibenion penodol, diffiniedig, a defnydd o ddata sy’n berthnasol ac nid yn ormodol wrth ymarfer cywirdeb data a diogelwch yr holl wybodaeth bersonol adnabyddadwy a gedwir.
Os cewch eich penodi’n llwyddiannus, trwy lenwi’r ffurflen gais rydych yn awdurdodi’r BIP i gael unrhyw fanylion gwasanaeth blaenorol i’r GIG yn cynnwys yr holl wybodaeth ar salwch a gedwir yn electronig, trwy’r broses Trosglwyddo Rhyng-awdurdod ar y Cofnod Staff Electronig.
I weithio yn y DU, mae angen nawdd ar bob ymgeisydd nad yw'n wladolyn o'r DU neu Weriniaeth Iwerddon i gael naill ai fisa Gweithiwr Iechyd a Gofal neu fisa Gweithiwr Medrus, oni bai bod gennych ganiatâd i weithio trwy lwybr arall. Dylai ymgeiswyr nad ydynt yn rhan o'r DU/Gweriniaeth Iwerddon sy'n dymuno gwneud cais hunanasesu'u tebygolrwydd o gael Tystysgrif Nawdd trwy ymweld â gwefan Fisâu a Mewnfudo'r DU. Os ydych chi'n gymwys i gael y fisa Iechyd a Gofal, mae'r costau ymgeisio yn is ac nid oes angen i chi dalu Gordal Iechyd Mewnfudo blynyddol.
Gofynion yr ymgeisydd
Rhaid bod gennych gofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Gradd anrhydedd mewn Gwyddorau Biofeddygol/ Gwyddorau Bywyd
- Diploma Arbenigol neu gymhwyster cyfatebol
- Cofrestriad gyda'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal
- Tystiolaeth o DPP
- Gwybodaeth am Sicrhau Ansawdd Patholeg
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad blaenorol fel Gwyddonydd Biofeddygol Cofrestredig
- Gwybodaeth fanwl am offeryniaeth labordy gymhleth
- Gallu technegol i ddatrys problemau, atgyweirio, cynghori neu ddarparu gwybodaeth fanwl sy'n berthnasol i'r arbenigedd
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (lefel 1)
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Sasha Krol
- Teitl y swydd
- Biochemistry Section Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01437 773293
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Richard Morton
01437 773293 neu ebost [email protected]
Dechrau eich cais
Rhaid ichi fewngofnodi i gyfrif Trac cyn y gallwch wneud cais am y swydd hon.
Mewngofnodi
Creu cyfrif
Creu eich cyfrif a gwneud cais am eich swydd newydd!