Mae Trac yn falch o bweru recriwtio ar gyfer
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Gwybodaeth
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd i boblogaeth o tua 372,320 ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. Mae'n darparu gwasanaethau Acìwt, Sylfaenol, Cymunedol, Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu trwy Ysbytai Cyffredinol a Chymunedol, Canolfannau Iechyd, Meddygfeydd Teulu, Deintyddion, Fferyllfeydd, Optometryddion a safleoedd eraill.
Nyrs Arbenigol Asthma Rhyngwynebol
Accepting applications until: 12-Aug-2024 23:59
Statws y swydd wag: Open
Accepting applications until: 12-Aug-2024 23:59
Manylion allweddol
Lleoliad
- Gwefan
- Cymuned (lleoliad i'w gadarhnau)
- Tref
- Sir Gaerfyrddin
- Cod post
- SA31 3BB
- Major / Minor Region
- Sir Gaerfyrddin
Math o gontract a phatrwm gwaith
- Contract
- 24 mis (Mae'r swydd hon yn swydd cyfnod penodol/secondiad tan 30/06/2026 i cwrdd gofynion y gwasanaeth)
- Oriau
- Rhan-amser - 22.5 awr yr wythnos (Gweithio Dydd Llun tan Dydd Gwener)
Cyflog
- Cyflog
- £44,398 - £50,807 y flwyddyn, pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Gradd
- (Gradd 7)
Arbenigedd
- Prif leoliad
- Anadlol
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Mae'r swydd hon yn swydd Cyfnod Penodol / Secondiad tan 30/06/2026 i cwrdd goynion y gwasanaeth.
Os ydych yn gyflogai i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac yn gwneud cais am secondiad i'r swydd hon, bydd angen i'ch rheolwr presennol gytuno i'r secondiad cyn i chi gyflwyno eich cais.
Rydym yn chwilio am nyrs frwdfrydig sydd â thystiolaeth o weithio ym maes gofal anadlol. Bydd yn rhan o dîm sy'n cefnogi gofal sylfaenol mewn perthynas â gofal Asthma. Mae hon yn swydd am gyfnod penodol o ddwy flynedd, a hynny am 22.5 awr yr wythnos.
Bydd deiliad y swydd yn cefnogi Nyrsys Practis mewn ffordd sy'n briodol ar gyfer pob practis unigol. Ym maes gofal eilaidd bydd yn cefnogi'r gwasanaeth asthma difrifol.
Bydd cymorth ar gyfer gofal sylfaenol yn cael ei arwain gan y defnydd o ganllawiau Cymru Gyfan.
Bydd deiliad y swydd hefyd yn mynychu tîm amlddisgyblaethol asthma Cymru gyfan ac yn cyflwyno cleifion os oes angen, a bydd yn cychwyn therapi biolegol ar gyfer y cleifion hynny y tybir eu bod yn briodol.
Bydd cleifion a ystyrir yn ymgeiswyr biolegol posibl a nodir mewn gofal sylfaenol, yn cael eu trafod â'r arweinydd asthma difrifol, a bydd ymchwiliadau'n cael eu cychwyn cyn cynnal adolygiadau yn y clinig.
Ar draws y rhyngwyneb bydd yn cefnogi datblygiadau arloesol o ran ymchwil anadlol.
Mae'n ofynnol i ddeiliad y swydd sicrhau bod cysylltiadau da rhwng gwasanaethau gofal sylfaenol, cymunedol ac eilaidd yn cael eu cynnal i gefnogi taith y claf asthma ar hyd ei lwybr gofal.
Advert
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn chwilio am Nyrs arloesol a brwdfrydig i ymuno â'r Tîm Nyrsio Asthma Rhyngwynebol. Bydd rôl y Nyrs Arbenigol Asthma Rhyngwynebol yn golygu gweithio gyda gofal sylfaenol a chysylltu â'r Clinig Asthma Anodd.
Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus:
Arwain a hyrwyddo'r broses o integreiddio gofal asthma rhwng gofal sylfaenol ac eilaidd, gan ddefnyddio egwyddorion sy'n seiliedig ar dystiolaeth/sy'n canolbwyntio ar y cleient i asesu, cynllunio, gweithredu a gwerthuso.
Cynnal asesiadau manwl o gleifion ag Asthma, dehongli ymchwiliadau priodol a llunio cynlluniau gofal.
Adolygu cofrestrau ar gyfer pobl ag asthma a sicrhau diagnosisau cywir.
Darparu camau dilynol ac atgyfeiriadau priodol i aelodau eraill o'r Tîm Amlddisgyblaethol.
Cyflawni ystod o ymchwiliadau anadlol diagnostig, gan gynnwys mesuriadau llif anadl, FENO, astudiaethau gwrthdroi rhwystrau i'r llwybr a sbirometreg.
Ymarfer ar lefel uwch, gwneud penderfyniadau clinigol ymreolaethol, amlygu sgiliau clinigol uwch, asesu, ac arfer hawliau presgripsiynu annibynnol neu ddirprwyedig lle mae deddfwriaeth a chymhwysedd lleol a chenedlaethol yn bodoli.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saeneg wneud cais.
Cyfweliadau i'w cynnal ar 20/08/2024.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 11,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;
Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;
48 o bractisau cyffredinol (chwech ohonynt yn bractisau a reolir), 47 practis deintyddol (gan gynnwys tri orthodontig), 99 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;
Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Mynediad ar unwaith i’n budd llesiant ariannol – Wagestream. Mae Wagestream yn adnodd ar gyfer bywyd bob dydd sy’n eich caniatáu i gael eich talu eich ffordd eich hun, a olrain eich cyflog mewn amser real, ffrydio hyd at 50% o’r cyflog rydych wedi ennill yn barod, dysgu awgrymiadau hawdd i reoli eich arian yn well ac arbed eich tâl yn syth o’ch cyflog.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gweithredu polisi dwyieithog
‘Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir drwy gyfrwng y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau a wneir yn y Saesneg’.
Trwy gyflwyno eich cais i NHS Jobs/Trac, rydych yn gydsynio i elfennau o ddata eich cais gael eu trosglwyddo i Gofnod Staff Electronig (ESR) y GIG a systemau diogel, mewnol Gweithlu’r GIG er mwyn cefnogi a rheoli eich recriwtio a’ch cyflogaeth o fewn y sefydliad sy’n eich cyflogi; i’w defnyddio gan yr adran Recriwtio at ddibenion gwirio eich Cofrestriad Proffesiynol ar-lein (lle bo’n briodol).
Mae’r prosesau hyn yn unol â phrosesu Teg a Chyfreithlon yn unol â Deddfwriaeth Diogelu Data cyfredol yn enwedig y rhai hynny mewn perthynas â’ch data personol neu bersonol sensitif (diffinir data personol sensitif fel unrhyw gyflwr iechyd meddwl neu gorfforol, tarddiad hiliol neu ethnig, cyfeiriadedd rhywiol, aelodaeth undeb llafur, barn wleidyddol neu gred crefyddol datganedig). Fel sefydliad, rydym yn sicrhau bod y ddeddfwriaeth sy’n diffinio cyfrinachedd yn cael ei dilyn megis y defnydd o ddata at ddibenion penodol, diffiniedig, a defnydd o ddata sy’n berthnasol ac nid yn ormodol wrth ymarfer cywirdeb data a diogelwch yr holl wybodaeth bersonol adnabyddadwy a gedwir.
Os cewch eich penodi’n llwyddiannus, trwy lenwi’r ffurflen gais rydych yn awdurdodi’r BIP i gael unrhyw fanylion gwasanaeth blaenorol i’r GIG yn cynnwys yr holl wybodaeth ar salwch a gedwir yn electronig, trwy’r broses Trosglwyddo Rhyng-awdurdod ar y Cofnod Staff Electronig.
I weithio yn y DU, mae angen nawdd ar bob ymgeisydd nad yw'n wladolyn o'r DU neu Weriniaeth Iwerddon i gael naill ai fisa Gweithiwr Iechyd a Gofal neu fisa Gweithiwr Medrus, oni bai bod gennych ganiatâd i weithio trwy lwybr arall. Dylai ymgeiswyr nad ydynt yn rhan o'r DU/Gweriniaeth Iwerddon sy'n dymuno gwneud cais hunanasesu'u tebygolrwydd o gael Tystysgrif Nawdd trwy ymweld â gwefan Fisâu a Mewnfudo'r DU. Os ydych chi'n gymwys i gael y fisa Iechyd a Gofal, mae'r costau ymgeisio yn is ac nid oes angen i chi dalu Gordal Iechyd Mewnfudo blynyddol.
Gofynion yr ymgeisydd
Rhaid bod gennych gofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Nyrs Gofrestredig Rhan 1 o Gofrestr y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth
- Yn meddu ar radd neu gymhwyster cyfatebol neu brofiad perthnasol
- Cwrs anadlol lefel uwch cydnabyddedig hyd at lefel Meistr
- Presgripsiynydd anfeddygol
- Gwybodaeth arbenigol ym maes gofal anadlol ac ymarfer amlwg, yn enwedig Asthma
Meini prawf dymunol
- Tystysgrif Spirometreg achrededig ARTP
- Hyfforddiant Techneg Anadlydd Uwch
- Cymhwyster addysgu
- Gwaith cyhoeddedig
- Cymryd rhan mewn rheoli newid
- Tystysgrif Arfer Clinigol Da ar gyfer ymchwil
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad ôl-gofrestru perthnasol gan gynnwys profiad ym maes gofal anadlol
- Defnyddio profion FENO fel rhan o asesiad y claf
Meini prawf dymunol
- Profiad o ofal sylfaenol ac eilaidd
- Profiad o ymgymryd ag archwiliadau, llunio adroddiadau a rhoi cyflwyniadau i grwpiau o weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Claire Hurlin
- Teitl y swydd
- Head CCM
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 07805853577
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Claire Hurlin
07805853577
Dechrau eich cais
Rhaid ichi fewngofnodi i gyfrif Trac cyn y gallwch wneud cais am y swydd hon.
Mewngofnodi
Creu cyfrif
Creu eich cyfrif a gwneud cais am eich swydd newydd!