Mae Trac yn falch o bweru recriwtio ar gyfer
Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru
Gwybodaeth
Croeso i Iechyd Cyhoeddus Cymru - asiantaeth iechyd cyhoeddus genedlaethol Cymru. Rydym yn bodoli i ddiogelu a gwella iechyd a llesiant a lleihau anghydraddoldebau iechyd i bobl yng Nghymru.
I gael gwybod mwy ewch i Iechyd Cyhoeddus Cymru a gwyliwch y fideo hwn am ein Cynllun Strategol
Dilynwch ni ar Twitter, Facebook, Linkedin a Instagram
Gweithio gyda'n gilydd, gydag ymddiriedaeth a pharch, i wneud gwahaniaeth
Ein diben yw ‘gweithio gyda'n gilydd ar gyfer Cymru iachach'. Rydym yn bodoli i helpu pawb yng Nghymru i fyw bywydau hirach, iachach. Gyda'n partneriaid, ein nod yw cynyddu disgwyliad oes iach, gwella iechyd a llesiant, a lleihau anghydraddoldebau i bawb yng Nghymru, nawr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Gyda'i gilydd, mae ein timau'n gweithio i atal clefyd, diogelu iechyd, a darparu arweinyddiaeth, gwasanaethau arbenigol ac arbenigedd iechyd cyhoeddus. Ni yw'r brif ffynhonnell o wybodaeth, ymchwil ac arloesedd iechyd cyhoeddus yng Nghymru.
Cysylltu
- Address
- No.2 Capital Quarter
- Tyndall Street
- Cardiff
- CF10 4BZ
- Contact Number
- 02921 500200
Biowybodegydd
Closed for applications on: 15-Hyd-2024 00:05
Statws y swydd wag: Closed
Closed for applications on: 15-Hyd-2024 00:05
Manylion allweddol
Lleoliad
- Gwefan
- Canolfan Iechyd Genomig Cymru
- Cyfeiriad
- Longwood Drive, Parc Busnes Ymyl Caerdydd
- Tref
- Caerdydd
- Cod post
- CF14 7YU
- Major / Minor Region
- Caerdydd
Math o gontract a phatrwm gwaith
- Contract
- 2 flynedd (Cyfnod Penodol: 2 flynedd)
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyflog
- Cyflog
- £44,398 - £50,807 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Gradd
- (Gradd 7)
Arbenigedd
- Prif leoliad
- Biowybodegydd
Croeso i Iechyd Cyhoeddus Cymru, asiantaeth iechyd cyhoeddus genedlaethol Cymru
Ein gweledigaeth yw Gweithio i wireddu dyfodol iachach i Gymru
Am ragor o wybodaeth amdanom, ewch i’n tudalen hafan, darllenwch am ein cynllun strategol
Dilynwch ni ar Twitter, Facebook, LinkedIn and Instagram
Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg. I gefnogi ein gwasanaeth i Gymru gyfan, croesawn yn fawr ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Nodyn Pwysig ar gyfer swyddi a gaiff eu cynnig ar sail tymor penodol neu secondiad.
Gall unigolion sydd â swydd barhaol (sylfaenol) yn y GIG ond gael eu penodi drwy secondiad. Bydd angen i’ch Rheolwr llinell presennol roi cymeradwyaeth ar gyfer secondiad cyn gellir cyflwyno cais.
Bydd Dyfarniad Cyflog Agenda ar gyfer Newid 2026/27 yn weithredol o 1 Ebrill 2026.
Sylwer: bydd cyflog ymgeiswyr llwyddiannus sydd â dyddiad dechrau o 1 Ebrill ymlaen yn unol â dyfarniad cyflog 2026/27. I gael rhagor o fanylion gweler y cylchlythyr cyflog sydd ar gael trwy ddilyn y ddolen hon https://www.nhs.wales/files/pc-resources/afc-w-02-2026-pdf-pdf?ts=1773244958086
Trosolwg o'r swydd
MAE’R SWYDD HON AM GYFNOD PENODOL AM 2 BLYNYDDOEDD OHERWYDD GOFYNION Y GWASANAETH.
Mae gwaith yr Uned Genomeg Pathogen gyda’r gorau yn y byd ac mae'n cynnig amgylchedd gwaith amrywiol, heriol a gwerth chweil. Dyma gyfle i fod ar flaen y gad ym maes Microbioleg Iechyd y Cyhoedd yng Nghymru ac yn rhyngwladol. Y tîm Biowybodeg yn yr Uned Genomeg Pathogen yw cangen cefnogi datblygu meddalwedd a dadansoddi Rhaglen Genomeg Iechyd y Cyhoedd. Mae'r tîm yn cefnogi diagnosteg genomeg, datblygu meddalwedd pwrpasol, gwyliadwriaeth genomeg o glefydau a heintiau trosglwyddadwy yng Nghymru, a Thimau Diogelu Iechyd wrth ymchwilio a rheoli achosion.
Mae'r rôl hon yn swydd tymor penodol am ddwy flynedd, sy'n canolbwyntio ar ddefnyddio dulliau metagenomeg o ddatblygu gwasanaeth adnabod pathogen-agnostig, microbaidd. Yn ogystal, bydd y rôl yn cynnwys darparu, cynnal a gwella gwasanaethau genomeg pathogen presennol sydd wedi’u hachredu gan UKAS yn yr Uned Genomeg Pathogen.
Advert
Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am ddarparu prosesau rhedeg, monitro, cefnogi a chynnal prosesau biowybodeg o ddydd i ddydd ar gyfer yr holl weithgareddau sy'n berthnasol i'r gwasanaethau genomeg pathogen a gynhelir yn yr Uned. Byddant yn datblygu meddalwedd a ffrydiau dadansoddi biowybodeg pwrpasol lefel darparu gwasanaethau, gan ganolbwyntio ar ganfod a nodweddu pathogenau, a gweithio gyda'r tîm rheoli wrth gyflwyno dulliau biowybodeg newydd. Bydd eu gwaith yn cyfrannu at ddeall prosesau heintio a gwella gwyliadwriaeth, gan arwain at leihau baich clefydau.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Gweithio i'n sefydliad
Ni yw Iechyd Cyhoeddus Cymru - asiantaeth iechyd cyhoeddus genedlaethol Cymru. Ein diben yw ‘gweithio gyda'n gilydd ar gyfer Cymru iachach'. Rydym yn bodoli i helpu pawb yng Nghymru i fyw bywydau hirach, iachach. Gyda'n partneriaid, ein nod yw cynyddu disgwyliad oes iach, gwella iechyd a llesiant, a lleihau anghydraddoldebau i bawb yng Nghymru, nawr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Gyda'i gilydd, mae ein timau'n gweithio i atal clefyd, diogelu iechyd, a darparu arweinyddiaeth, gwasanaethau arbenigol ac arbenigedd iechyd cyhoeddus. Ni yw'r brif ffynhonnell o wybodaeth, ymchwil ac arloesedd iechyd cyhoeddus yng Nghymru. Nid yw iechyd cyhoeddus erioed wedi bod mor bwysig wrth i ni ddod drwy bandemig y Coronafeirws, wynebu heriau'r argyfwng costau byw a mynd i'r afael ac atal effeithiau niweidiol newid hinsawdd.
Caiff ein sefydliad ei arwain gan ein gwerthoedd 'Cydweithio, gydag ymddiriedaeth a pharch, i wneud gwahaniaeth'. Rydym wedi ymrwymo i greu gweithle cynhwysol sy'n rhoi gwerth ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Rydym yn croesawu ceisiadau sy'n cynrychioli amrywiaeth gyfoethog y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu a chan y rhai sy'n dymuno gweithio'n rhan amser neu rannu swydd.
I ddarganfod mwy am weithio i ni a'r buddion rydym yn eu cynnig, ewch i Gyrfaoedd - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)
I gael arweiniad ar y broses ymgeisio, ewch i Gwybodaeth a Chanllawiau i Ymgeiswyr - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Bydd yn ofynnol i ddeiliad y swydd wneud y canlynol:
-
Gweithio’n gydweithredol yn Iechyd Cyhoeddus Cymru a chyda sefydliadau eraill yn y DU i ddatblygu ffrydiau a gwasanaethau biowybodegol newydd, gan ganolbwyntio'n bennaf ar ganfod a nodweddu microbau pathogen-agnostig, o dan gyfarwyddyd yr Uwch Fiowybodegwyr a Phennaeth yr Uned.
-
Ymgymryd â phrofion a gwerthuso arbenigol sy'n gofyn am lefel uwch o arbenigedd proffesiynol e.e. dilysu ac asesu offer, ffrydiau ac adnoddau biowybodeg sy'n berthnasol i gynorthwyo wrth ddehongli'r canlyniadau.
-
Cynnal, dehongli ac adrodd am weithdrefnau ac ymchwiliadau biowybodeg uwch, gan ddarparu ymatebion amserol a chywir i ymholiadau clinigol sy'n gysylltiedig â darparu gwasanaethau genomeg pathogen yn barhaus yn yr Uned Genomeg Pathogen.
-
Goruchwylio gweithgareddau dyddiol aelodau iau’r tîm biowybodeg a darparu cefnogaeth ac arweiniad ar gyfer eu datblygiad proffesiynol.
-
Cydweithio â Phennaeth yr Uned ac Uwch Fiowybodegydd i gynnal safonau ansawdd uchel o fewn Biowybodeg yr Uned Genomeg Pathogen yn unol â chyrff rheoleiddio achrededig allanol.
-
Cynnal safonau proffesiynol uchel trwy ddatblygiad proffesiynol parhaus gan gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau mewn genomeg pathogen a thechnoleg dilyniannu cenhedlaeth nesaf (NGS).
Ceidw Iechyd Cyhoeddus Cymru yr hawl i gau’r swydd wag hon yn gynnar. Felly rydym yn annog ceisiadau cynnar.
Rhoddir blaenoriaeth i staff sy’n aros i gael eu hadleoli. Rydym yn cadw’r hawl felly i dynnu’r hysbyseb hon yn ôl ar unrhyw adeg.
Os oes gennych anabledd a bod gennych unrhyw anghenion penodol i'ch galluogi i gymryd rhan yn y broses ymgeisio, cysylltwch â [email protected]
NODYN PWYSIG I YMGEISWYR: Mae ceisiadau am ein rolau yn cael eu hadolygu'n ofalus a'u rhoi ar restr fer yn seiliedig ar feini prawf penodol, sy'n amrywio o swydd i swydd.
Ni fydd defnyddio cymhwysiad generig neu gymhwysiad AI awtomatig, fel Lazy Apply neu AI Apply, fel arfer yn darparu digon o dystiolaeth bersonol o'ch sgiliau a'ch profiad sy’n berthnasol i'r rôl. Gall hyn ei gwneud hi'n anodd i ni asesu eich addasrwydd a bydd yn lleihau eich siawns o gael eich rhoi ar y rhestr fer.
Er mwyn sicrhau bod eich cais yn cael ystyriaeth lawn, rydym yn argymell eich bod yn cyflwyno cais wedi'i deilwra sy'n mynd i'r afael yn uniongyrchol â'r meini prawf a restrir yn adran Manyleb y Person yr hysbyseb, gan ddarparu tystiolaeth glir ac enghreifftiau i ddangos sut rydych chi'n bodloni pob gofyniad.
Cymhwysedd ar gyfer Nawdd Fisa
- Os oes angen nawdd arnoch drwy lwybrau Fisa Gweithiwr Medrus neu Fisa Gweithiwr Iechyd a Gofal, gwnewch yn siŵr eich bod yn hunanasesu eich cymhwysedd i gael nawdd ar gyfer y rôl hon cyn gwneud cais.
- Gwiriwch y canllawiau fisa Gweithiwr Medrus neu'r canllawiau fisa Gweithiwr Iechyd a Gofal am fanylion ynghylch cymhwysedd swydd, cyflog, yr iaith Saesneg, a gofynion nawdd.
Os byddwch yn llwyddiannus ac os cewch eich dewis ar gyfer y rhestr fer am gyfweliad, cysylltir â chi ar e-bost gan ddefnyddio’r cyfeiriad a ddefnyddiwyd gennych i gofrestru. Sicrhewch eich bod yn edrych ar eich cyfrif e-bost yn rheolaidd.
Rydym wedi ymrwymo i recriwtio teg a thryloyw ac rydym yn credu mewn cyfle cyfartal yn ein gweithle. Ni fyddwn yn goddef gwahaniaethu ar sail oedran, anabledd, hunaniaeth rywiol, crefydd neu gred, hil neu genedligrwydd, priodas neu bartneriaeth sifil, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, patrwm gwaith, cyfrifoldebau gofalu, gweithgarwch gydag undebau llafur neu gredoau gwleidyddol – nac ar unrhyw sail arall. Croesawn geisiadau gan unigolion a ddymunent weithio’n rhan-amser neu wneud cais i rannu swydd.
Mae'r raddfa gyflog a ddangosir ar gyfer aelod o staff llawn amser, a chaiff y swm ei addasu pro rata ar gyfer y rhai sy'n gweithio llai na 37.5 awr yr wythnos.
Yn gyffredinol, bydd unrhyw un sy'n ymuno â'n Hymddiriedolaeth nad yw wedi gweithio yn y GIG o'r blaen, yn cychwyn ar bwynt cyntaf y band tâl a hysbysebir yn awtomatig. Yna bydd datblygiad cyflog yn cael ei bennu gan Adolygiadau Perfformiad a Datblygu blynyddol yn unol â Pholisi Datblygiad Cyflog GIG Cymru. Gellir ystyried cais am Gredyd Cynyddol, ond dim ond ar sail gwasanaeth cyfrifadwy â thystiolaeth a/neu brofiad cyfatebol, perthnasol y gellir ei ddyfarnu.
Gofynion yr ymgeisydd
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Gradd anrhydedd mewn Microbioleg Feddygol neu Fioleg Foleciwlaidd neu brofiad cyfatebol
- Cymhwyster ôl-raddedig (e.e. MSc) mewn pwnc perthnasol neu brofiad cyfatebol
- Gwybodaeth a dealltwriaeth amlwg o ddulliau biowybodeg i ddadansoddi data genomeg, gan gynnwys defnyddio dulliau nodweddu metagenomig a pathogen-agnostig
- Dealltwriaeth amlwg o wybodaeth ddamcaniaethol sy'n sail i ddilyniannu DNA confensiynol a dulliau dadansoddi genomeg
- Dealltwriaeth ragorol o ficrobioleg prosesau clefydau a chlefydau, gan gynnwys microbioleg foleciwlaidd, metagenomeg, epidemioleg moleciwlaidd a dadansoddiad ffylogenetig
- Yn deall ac yn gallu cymhwyso egwyddorion ymarfer labordy a chlinigol da, a sicrhau ansawdd
Meini prawf dymunol
- Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus a dystiwyd gan Bortffolio Proffesiynol a ddatblygwyd o fewn fframwaith arfarnu
- Gwybodaeth drylwyr am gyfrifiadur, gweinydd, storio a meddalwedd rhwydweithio, rhwydweithio TCP/IP ethernet a’r Cyfeiriadur Gweithredol
- Dealltwriaeth drylwyr o sut y gellir cymhwyso genomeg pathogenau ac egwyddorion microbiolegol mewn lleoliadau goruchwylio gofal iechyd ac iechyd cyhoeddus
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o ddadansoddi data metagenomeg
- Profiad ymarferol cyfredol sy'n seiliedig ar dystiolaeth mewn datblygu meddalwedd/piblinellau i ddadansoddi data dilyniant DNA gan ddefnyddio o leiaf un o C / C ++, Python neu Java
- Tystiolaeth o waith ymchwil sy'n seiliedig ar brosiect, dadansoddi setiau data mawr a chymhleth (gan gynnwys data dilyniannu trwybwn uchel) lle mae deunydd yn gwrthdaro ac yn deillio o sawl ffynhonnell
- Profiad sicr o gymryd rhan a chydlynu prosiectau tîm llwyddiannus, cydweithredol, dan amgylcheddau cymhleth a heriol
- Defnyddio offer biowybodeg i ddadansoddi data genomeg gan ddefnyddio llinell orchymyn UNIX
- Profiad o ddefnyddio systemau ar gyfer meddalwedd fersiynu (git yn ddelfrydol)
Meini prawf dymunol
- Profiad o weithredu a holi cronfeydd data SQL a NoSQL
- Profiad o weithio mewn maes datblygu meddalwedd proffesiynol gan gynnwys gweithdrefnau megis fersiwn meddalwedd, cynhyrchu dogfennaeth a gwneud sylwadau cod
- Profiad o ddatblygu piblinellau gan ddefnyddio ieithoedd rheolwr llif gwaith, e.e. Nextflow
- Profiad o ddatblygu meddalwedd o fewn cynwysyddion neu beiriannau rhithwir a chyfluniad a chynnal a chadw meddalwedd gweinyddwyr UNIX
Sgiliau a phriodoleddau
Meini prawf hanfodol
- Y gallu i oruchwylio cydweithwyr iau a darparu cyfarwyddiadau technegol a hyfforddiant ar agweddau perthnasol ar fiowybodeg
- Y gallu i weithio'n ddibynadwy, yn effeithiol ac yn effeithlon, ar eich liwt eich hun, i gydnabod problemau a chynhyrchu atebion posibl, a gwneud penderfyniadau gwybodus yn absenoldeb y wybodaeth ofynnol
- Y gallu i weithio'n bwyllog dan bwysau ac i derfynau amser tynn, blaenoriaethu tasgau yn gywir a darparu ymatebion amserol i faterion brys
- Sgiliau llythrennedd a rhifedd o’r radd flaenaf, a sylw i fanylion, yn enwedig er mwyn cyfleu gwybodaeth wyddonol/glinigol i hysbysu cydweithwyr neu gysylltiadau allanol
- Y gallu i ddangos dealltwriaeth a chymhwysiad o werthoedd ein gweithle, ynghyd â'r ymddygiadau sylfaenol a nodwyd ar gyfer llwyddiant yn y rôl hon
Meini prawf dymunol
- Mae Sgiliau Iaith Gymraeg yn ddymunol ar lefel 1 o ran deall, siarad, darllen ac ysgrifennu yn y Gymraeg
Arall
Meini prawf hanfodol
- Yn barod i weithio'n hyblyg ymhob rhan o’r labordy i ddiwallu anghenion y gwasanaeth
Dogfennau
- Job Description and Person Specification English (PDF, 224.4KB)
- Iechyd Galwedigaethol (PDF, 728.5KB)
- Job Description and Person Specification Welsh (PDF, 304.4KB)
- Hyderus o Ran Anabledd Arweinydd (PDF, 180.8KB)
- Canllawiau ar gyfer Ymgeiswyr (PDF, 278.7KB)
- Ein Rhwydweithiau Amrywiaeth (PDF, 330.6KB)
- Gwasanaethau Recriwtio Hysbysiad Preifatrwydd (PDF, 696.3KB)
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Sara Rey
- Teitl y swydd
- Senior Bioinformatician
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 02921834010
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Ddim yn derbyn ceisiadau mwyach
Ymddiheuriadau, ond nid yw'r swydd wag hon yn derbyn ceisiadau mwyach.
Gallwch chwilio am swyddi tebyg ar fwrdd swyddi'r cyflogwr, neu fynd i'n bwrdd swyddi cenedlaethol Health Jobs UK.










