Mae Trac yn falch o bweru recriwtio ar gyfer
Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
Gwybodaeth
Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yw enw gweithredol Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Aneurin Bevan. Sefydlwyd y Bwrdd Iechyd ar 1 Hydref 2009 ac mae’n cynnwys ardaloedd Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd, Torfaen a De Powys.
Rydym yn gyflogwr sy’n barod i newid, rydym yn ystwyth ac yn hyblyg a gallwn gynnig dulliau amrywiol o ran arferion gwaith un unol â’n Fframwaith Ystwyth Hybrid a’n Polisi Gweithio Gartref. |
Mae’r Bwrdd Iechyd yn cyflogi dros 13,000 o staff ac mae dwy ran o dair ohonynt yn ymwneud â gofal uniongyrchol i gleifion. Mae mwy na 250 o ymgynghorwyr a meddygon teulu, 6,000 o nyrsys, bydwragedd, gweithwyr proffesiynol a gweithwyr cymunedol perthynol mewn cyfanswm o dros 1000 o ysbytai.
Mae’r Cadeirydd, cyfarwyddwyr anweithredol, y Prif Weithredwr a chyfarwyddwyr eraill yn arwain y Bwrdd Iechyd. Mae’r Uwch Dîm Rheoli yn cefnogi’r Bwrdd.
Cymerwyd o http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/866/hafan”
CT Lead Radiographer
Accepting applications until: 13-Nov-2024 23:59
Statws y swydd wag: Open
Accepting applications until: 13-Nov-2024 23:59
Manylion allweddol
Lleoliad
- Gwefan
- The Grange University Hospital
- Cyfeiriad
- Caerleon Road
- Tref
- Cwmbran
- Cod post
- NP44 8YN
- Major / Minor Region
- Casnewydd
Math o gontract a phatrwm gwaith
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (Monday to Friday 9am - 5pm with 30 mins unpaid lunch. Will be required to occasionally cover outside of these hours for service need.)
Cyflog
- Cyflog
- £46,840 - £53,602 per annum
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Gradd
- (Band 7)
Arbenigedd
- Prif leoliad
- Radiology
Rydym yn annog ceisiadau gan bawb sydd â nodweddion gwarchodedig a chan y rheini yng Nghymuned y Lluoedd Arfog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir drwy gyfrwng y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau a wneir yn Saesneg.
Os byddwch chi’n llwyddo mewn cyfweliad ar gyfer y swydd hon, byddwch chi’n derbyn eich cynnig amodol o apwyntiad a phecyn gwybodaeth drwy e-bost.
Cadwn yr hawl i gau’r hysbyseb am y swydd hon ar unrhyw adeg. Felly, byddem yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am y swydd hon. Os byddwch ar restr fer ar gyfer y swydd hon, byddwn yn cysylltu â chi drwy eich cyfrif e-bost a ddefnyddiwyd gennych i gyflwyno eich cais am y swydd hon. Felly, cofiwch wirio eich cyfrif yn rheolaidd.
Cofiwch wirio eich cyfrif e-bost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn yr holl ohebiaeth sy’n ymwneud â recriwtio drwy’r cyfrif e-bost a nodwyd ar y ffurflen gais.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn cefnogi gweithio'n hyblyg
Nodwch y gellir tynnu'r swydd wag hon yn ôl ar unrhyw adeg pe bai'n cael ei llenwi drwy'r broses adleoli fewnol
Mae’r raddfa gyflog uchod wedi’i chytuno fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2024/2025. Bydd yn cael ei rhoi ar waith ym mis Tachwedd 2024 wedi’i hôl-ddyddio i 1 Ebrill 2024 lle bo’n berthnasol.
Trosolwg o'r swydd
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn chwilio am arweinydd brwdfrydig a deinamig i lenwi rôl Arweinydd CT yn Ysbyty Athrofaol y Faenor.
Mae’r swydd hon ar gontract parhaol llawn amser wedi’i lleoli yn Ysbyty Athrofaol y Faenor, Cwmbrân. Mae gofyniad i weithio ar draws safleoedd eraill Aneurin Bevan yn ôl yr angen.
Bydd yr Arweinydd CT yn arwain y gwasanaeth CT yn Ysbyty Athrofaol y Faenor yn weithredol a byddant yn cynorthwyo cydweithwyr gyda rheolaeth weithredol y gwasanaeth CT ar safleoedd eraill Aneurin Bevan. Bydd hyn yn golygu rheoli staff ac offer. Byddant yn arwain y gwasanaeth CT ac yn rhoi arweiniad i staff sy'n gweithio ynddo; meddu ar wybodaeth, dealltwriaeth a diddordeb arbenigol mewn CT.
Bydd yn ofynnol i’r Arweinydd CT weithio gyda’r uwch dîm rheoli radioleg a rhanddeiliaid allweddol i ddarparu gwasanaeth CT o ansawdd uchel. Rheoli, cydlynu a, lle bo angen, cymryd rhan yn narpariaeth y gwasanaeth CT ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.
Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am gyfrannu at gydymffurfio â thargedau Llywodraeth Cymru o ran Amser Atgyfeirio i Driniaeth a Llwybr Canser Sengl.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso cyfartal i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais.
Advert
Mae prif ddyletswyddau’r rôl hon yn cynnwys:
- Rheoli tîm i gefnogi datblygiad gwasanaeth a sicrhau y darperir gwasanaeth CT.
- Rheoli newid gyda'r staff CT yn unol â gofynion datblygiad gwasanaeth, gan alluogi rheolaeth weithredol dda a sicrhau bod targedau'n cael eu cyrraedd.
- Cydymffurfio â monitro sy'n gysylltiedig â pherfformiad, cymryd rhan mewn archwiliadau ac adolygiadau rheolaidd o fewn CT a meddu ar y gallu i asesu'r gofynion ar y gwasanaeth a sicrhau gofal cleifion rhagorol.
- Darparu data perfformiad yn ôl yr angen a sicrhau lefel waith effeithiol.
- Darparu arweiniad a chefnogaeth i staff CT.
- Cyfathrebu â chleifion a rhoi sicrwydd iddynt gan gynnwys y rhai a allai fod yn ofidus, yn anghydweithredol neu’r rheiny sydd ag anawsterau dysgu, er mwyn cael eu cydweithrediad.
- Meddu ar a chynnal gwybodaeth arbenigol o'r archwiliadau CT cyfredol sy'n cael eu cynnal a bod yn gyfrifol am yr holl offer a ddefnyddir yn y meysydd hyn.
Gweithio i'n sefydliad
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn sefydliad GIG sydd wedi ennill sawl gwobr ac sy'n angerddol am ofalu. Mae'r Bwrdd Iechyd yn darparu gweithle eithriadol lle gallwch deimlo yn ymddiriedol a gwerthfawr. Beth bynnag fo'ch arbenigedd neu'ch cam yn eich gyrfa, mae gennym gyfleoedd i bawb ddechrau, tyfu ac adeiladu eich gyrfa. Mae'r Bwrdd Iechyd yn darparu gofal acíwt, sylfaenol a chymunedol integredig sy'n gwasanaethu poblogaeth o 650,000 ac yn cyflogi dros 16,000 o staff.
Rydym yn cynnig pecyn manteision gwych a chyfleoedd hyfforddi a datblygu helaeth gyda hyfforddiant gorfodol â thâl, rhaglenni mewnol rhagorol, cyfleoedd i gwblhau cymwysterau cydnabyddedig a llwybrau gyrfa broffesiynol gan gynnwys ystod o raglenni datblygu rheolwyr. Rydym yn cynnig gweithio hyblyg ac yn hyrwyddo cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith, yn darparu cymorth iechyd galwedigaethol a chynllun uchelgeisiol ar gyfer Canolfan Ragoriaeth Lles i'ch cefnogi yn y gwaith.
Mae ein strategaeth Dyfodol Clinigol yn parhau i wella a hyrwyddo gofal yn nes at adref yn ogystal â gofal ysbyty o ansawdd uchel pan fo angen. Ymunwch â ni ar ein taith i arloesi ffyrdd newydd o weithio a darparu gwasanaeth gofal iechyd o'r radd flaenaf sy'n addas ar gyfer y dyfodol.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Rheoli
· Rheoli tîm amlddisgyblaethol i gefnogi datblygu a darparu gwasanaethau. Datblygu'r gwasanaeth CT yn GUH gan gymryd i ystyriaeth galwadau cymhleth lluosog ac adnoddau a reolir yn briodol.
· Sefydlu dulliau newydd o weithio yn GUH sy'n gofyn am lunio polisïau a gweithdrefnau a datblygu prosesau i ddiwallu'r angen clinigol.
· Sicrhau bod y staff CT yn darparu awyrgylch croesawgar i gleifion, perthnasau ac aelodau eraill o staff.
· Rheoli’r defnydd effeithiol o staff CT ar draws y Bwrdd Iechyd, gan reoli absenoldeb oherwydd salwch yn unol â pholisi’r Bwrdd Iechyd.
· Rheoli pryderon staff CT a rheoli'r tîm yn effeithlon.
· Cyfathrebu'n effeithiol gyda'r holl ddarparwyr gwasanaeth, gan ymdrin â gwybodaeth dechnegol gymhleth a meddu ar y gallu i gyfathrebu hyn yn effeithiol i aelodau eraill o staff.
· Sicrhau bod deddfwriaeth Ymbelydredd ac Iechyd a Diogelwch yn cael ei rheoli'n effeithiol.
· Gweithio'n effeithiol a chyflwyno gofynion y gwasanaeth i'r uwch reolwyr gan ystyried targedau ac argaeledd sganio er mwyn galluogi'r tîm rheoli i lunio a llywio'r cynllunio strategol ar gyfer gwasanaeth CT, gan gynnwys y gweithlu, hyfforddiant a chyfalaf.
· Rheoli newid gyda'r staff CT yn unol â gofynion datblygiad gwasanaeth, gan alluogi rheolaeth weithredol dda a sicrhau bod targedau'n cael eu cyrraedd. Cymryd cyfrifoldeb am ddatrys meysydd sy’n gwrthdaro a all godi o ganlyniad.
· Bod yn gyfrifol am ddatblygu ac ymarfer rhaglenni Safon Ansawdd a sicrhau bod cofnodion SA yn cael eu cynnal.
· Cydymffurfio â monitro sy'n gysylltiedig â pherfformiad a chymryd rhan mewn archwiliadau ac adolygiadau rheolaidd a wneir o fewn CT.
· Meddu ar y gallu i asesu’r ystod gyfan o alwadau ar y gwasanaethau CT a gwneud dyfarniadau a phenderfyniadau mewn perthynas â materion staffio a materion gweithredol cymhleth er mwyn sicrhau bod y ddarpariaeth yn bodloni’r galw am wasanaethau
· Rheoli darpariaeth y sganwyr i sicrhau gofal rhagorol i gleifion
· Sicrhau bod digwyddiadau a chamgymeriadau yn cael eu hadrodd, eu hymchwilio a sicrhau bod yr holl staff yn dysgu o ddigwyddiadau o'r fath.
· Sicrhau bod yr offer yn cael gofal da a rhoi gwybod am unrhyw ddiffygion neu broblemau i'r asiantaeth briodol fel y gallant eu cywiro.
· Darparu data perfformiad yn ôl yr angen a sicrhau lefel waith effeithiol.
· Monitro defnydd diogel ac effeithiol o'r holl adnoddau.
Sicrhau yr ymdrinnir â phob digwyddiad, digwyddiad fu bron a digwydd, damwain a digwyddiad anffafriol arall yn unol â pholisi cyfredol.
· Datrys unrhyw gwynion gan gleifion a staff ac adrodd am unrhyw ddigwyddiadau yn unol â pholisi BIPAB.
· Rheoli, blaenoriaethu a dirprwyo'n effeithiol.
· Gweithio'n glinigol o fewn Codau Ymarfer, safonau galwedigaethol, polisïau a gweithdrefnau.
· Sicrhau bod rotas adrannol yn cael eu llunio yn ôl yr angen.
· Cymryd y brif rôl wrth lunio ac addasu a chadw at brotocolau a pholisïau adrannol ar gyfer CT er mwyn sicrhau arferion gwaith effeithlon.
· Cymryd rhan fel aelod o banel cyfweld ar gyfer swydd a gweithredu fel swyddog penodi yn ôl y gofyn.
· Cynnal Arfarniad o Berfformiad ac Adolygiad o Ddatblygiad Personol gydag aelodau o staff fel sy'n ofynnol gan yr adran.
· Asesu a sganio cleifion i sicrhau y darperir delweddau diagnostig o ansawdd uchel. Sicrhau safonau uchel o ofal cleifion yn ystod eu harchwiliad. Cofnodi'r holl wybodaeth briodol ar gyfer yr archwiliadau yn unol â deddfwriaeth gyfredol.
· Bod yn gyfrifol am ddatblygiad, hyfforddiant ac addysg tîm amlddisgyblaethol.
Cynorthwyo gyda monitro rhestrau aros a pherfformiad.
· Sicrhau bod strategaethau rheoli risg effeithiol yn cael eu defnyddio a bod asesiadau risg yn cael eu cynnal.
· Cymryd cyfrifoldeb am lofnodi taflenni amser a threuliau teithio a dogfennau tebyg eraill fel sy'n ofynnol gan y bwrdd iechyd
· Rheoli'r broses o ddethol a phrynu offer CT arbenigol a rheoli'r gyllideb ar gyfer offer CT yn ôl yr angen.
· Bod yn ymwybodol o arferion a thechnegau CT cyfredol.
· Mynychu cyrsiau perthnasol a gymeradwyir gan y Rheolwr Radioleg a/neu’r Pwyllgor Absenoldeb Astudio.
· Cynnal ffeil DPP a chefnogi datblygiad staff CT yn y gyfarwyddiaeth.
· Cychwyn a rheoli prosiectau archwilio.
· Cynnal a gwella gwybodaeth ac arbenigedd mewn datblygiadau cyfredol a thueddiadau yn y dyfodol mewn perthynas â rheoli ac ymarfer CT, yn enwedig gan fod y rhain yn effeithio ar y Bwrdd Iechyd.
· Cynnal cofrestriad cyfredol gyda'r HCPC a chydymffurfio â'i safonau.
Proffesiynol
· Darparu arweiniad proffesiynol, cyngor a chefnogaeth i staff CT ar faterion Radiograffeg er mwyn eu datblygu’n effeithiol a sicrhau bod penderfyniadau rheoli effeithiol yn cael eu gwneud o fewn y Bwrdd Iechyd.
· Meddu ar wybodaeth, sgiliau a phrofiad arbenigol mewn perthynas â CT.
· Cyfathrebu â chleifion a rhoi sicrwydd iddynt gan gynnwys y rhai a allai fod yn ofidus, yn anghydweithredol neu’r rheiny sydd ag anawsterau dysgu, er mwyn
cael eu cydweithrediad.
· Cyfathrebu'n uniongyrchol gyda staff meddygol ar bob graddfa, nyrsio a rheoli fel y bo'n briodol.
· Fetio ceisiadau CT a sicrhau bod dull cyson o fetio yn cael ei ddefnyddio o fewn y gwasanaeth.
· Sicrhau y darperir gwasanaeth CT effeithlon o ansawdd uchel i bob claf.
· Meddu ar a chynnal gwybodaeth arbenigol o'r archwiliadau CT cyfredol sy'n cael eu cynnal a bod yn gyfrifol am yr holl offer a ddefnyddir yn y meysydd hyn.
· Datblygu a gwerthuso technegau newydd mewn CT mewn ymgynghoriad â staff proffesiynol eraill a chydweithio â staff sy'n cymryd rhan mewn prosesau
ymchwil moesegol.
· Gwneud cyfraniad parhaus i addysg eraill a gweithredu mewn rôl addysgu a chynghori i gydweithwyr cymwys
· Sicrhau lefel uchel o ofal cleifion a chynnal safonau proffesiynol.
· Tawelu meddwl cleifion.
· Cyflawni'r holl ddyletswyddau mewn modd proffesiynol.
· Cymryd rhan frwd o ran cynnig a gweithredu datblygiadau newydd i wasanaethau.
· Ymgymryd â phrosiectau ymchwil ac archwilio.
· Cydgysylltu â'r goruchwylwyr amddiffyn rhag ymbelydredd a'r gwasanaeth amddiffyn rhag Ymbelydredd i sicrhau cydymffurfiaeth â deddfwriaeth ymbelydredd.
· Cymryd camau priodol i atal croes-heintio.
· Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau o natur debyg sy'n gyson â chyfrifoldebau'r swydd er mwyn darparu gwasanaeth o safon.
· Sicrhau lefel uchel o ofal cleifion a chynnal safonau proffesiynol.
Cyffredinol
· Sicrhau bod staff yr adran yn darparu awyrgylch croesawgar i gleifion, perthnasau ac aelodau eraill o staff.
· Cydgysylltu â staff PACS a bod yn gyfarwydd â system meddalwedd RADIS a Clinical Workstation yn ôl yr angen.
· Efallai y bydd angen codi a chario cleifion ac offer.
· Bod yn gyfarwydd â pholisïau gwaith, gweithdrefnau ac arferion y gyfarwyddiaeth radioleg.
· Cynnal archwiliadau o fewn BIPAB a chymryd rhan mewn archwiliadau Cymru gyfan sy'n ymwneud â'r rôl yn ogystal ag unrhyw arolygon neu archwiliadau sy'n ymwneud â'r swydd.
· Cydgysylltu ag aelodau eraill o’r gyfarwyddiaeth radioleg a’r cyfarwyddiaethau eraill yn ôl yr angen.
· Cynorthwyo i gynnal lefel waith effeithiol a monitro defnydd diogel ac economaidd o'r holl adnoddau.
· Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau eraill o natur debyg sy'n gyson â chyfrifoldebau'r swydd er mwyn darparu gwasanaeth o safon.
· Cyfathrebu'n effeithiol gyda chleifion a staff o bob gradd.
Ymgymryd â hyfforddiant mewnol gorfodol.
Addysgiadol
· Helpu i greu a chynnal amgylchedd ddysgu rhagweithiol ar gyfer yr holl staff.
· Parhau â datblygiad proffesiynol yn unol â strategaeth y gwasanaeth a bod yn rhagweithiol yn eich datblygiad personol eich hun a chynnal a diweddaru log DPP.
· Goruchwylio a chyfarwyddo Radiograffwyr, myfyrwyr radiograffeg, gweithwyr cymorth gofal iechyd ac unrhyw aelodau eraill o staff fel y bo'n briodol.
· Gweithredu fel goruchwyliwr clinigol i Radiograffwyr dan hyfforddiant.
· Ymgymryd â phrosiectau ymchwil a datblygu ac arwain ar archwilio clinigol, gan annog staff CT i gymryd rhan.
· Datblygu system adrodd am gamgymeriadau sydd wedyn yn galluogi'r holl staff i ddysgu o ddigwyddiadau a gwallau.
Personol
· Cynorthwyo i greu a chynnal awyrgylch waith dda.
· Gallu gweithredu'r sganwyr CT cymhleth i sicrhau'r delweddau diagnostig cywir i gynorthwyo gofal cleifion
· Darparu delwedd gadarnhaol o’r Bwrdd Iechyd a glynu wrth ei werthoedd a’i ymddygiad.
· Bod yn gyfarwydd â holl reoliadau statudol a pholisïau’r Bwrdd Iechyd a chydymffurfio â hwy, gan gynnwys:
Ataliad y galon
Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith
Rheoliadau tân
Gweithdrefnau brys digwyddiad mawr
Gweithdrefnau disgyblu
Rheoliadau diogelwch ymbelydredd cyfredol
I weithio yn y DU, mae angen nawdd ar bob ymgeisydd nad yw'n wladolyn o'r DU neu Weriniaeth Iwerddon i gael naill ai fisa Gweithiwr Iechyd a Gofal neu fisa Gweithiwr Medrus, oni bai bod gennych ganiatâd i weithio trwy lwybr arall. Dylai ymgeiswyr nad ydynt yn rhan o'r DU/Gweriniaeth Iwerddon sy'n dymuno gwneud cais hunanasesu'u tebygolrwydd o gael Tystysgrif Nawdd trwy ymweld â gwefan Fisâu a Mewnfudo'r DU. Os ydych chi'n gymwys i gael y fisa Iechyd a Gofal, mae'r costau ymgeisio yn is ac nid oes angen i chi dalu Gordal Iechyd Mewnfudo blynyddol.
Gofynion yr ymgeisydd
Rhaid bod gennych gofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Manyleb y person
Experience
Meini prawf hanfodol
- Management / Leadership experience
Meini prawf dymunol
- Experience working in a wide variety of roles and specialities
Qualifications
Meini prawf hanfodol
- DCR / BSc Radiography
- Post graduate qualification in CT or equivalent level of knowledge and experience
Meini prawf dymunol
- Management qualification / diploma
Dogfennau
- JD&PS (PDF, 234.9KB)
- JD&PS Welsh (PDF, 680.0KB)
- OH Form (PDF, 640.5KB)
- Values & Behaviour Framework (PDF, 700.7KB)
- Hysbysiad Preifatrwydd Penodi hyd Ymddeoliad PCGC (PDF, 696.3KB)
- Flexible Working Options (PDF, 328.2KB)
- Agile Hybrid Working Framework (PDF, 8.6MB)
- Home Working Policy and Guidance (PDF, 380.6KB)
- Guidance Notes for Applicants April 2024 (PDF, 278.7KB)
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Helen Hopkins
- Teitl y swydd
- Cross Sectional Imaging Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01633 493368
Dechrau eich cais
Rhaid ichi fewngofnodi i gyfrif Trac cyn y gallwch wneud cais am y swydd hon.
Mewngofnodi
Creu cyfrif
Creu eich cyfrif a gwneud cais am eich swydd newydd!