Mae Trac yn falch o bweru recriwtio ar gyfer
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Gwybodaeth
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd i boblogaeth o tua 372,320 ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. Mae'n darparu gwasanaethau Acìwt, Sylfaenol, Cymunedol, Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu trwy Ysbytai Cyffredinol a Chymunedol, Canolfannau Iechyd, Meddygfeydd Teulu, Deintyddion, Fferyllfeydd, Optometryddion a safleoedd eraill.
Cysylltu
- Address
- Glien House
- Cillefwr Industrial Estate
- Johnstown
- Carmarthen
- Carmarthenshire
- SA31 3RB
- Contact Number
- 0300 303 6138
Rheolwr Cyflenwi Gwasanaethau Dros Dro (WGH) – COTE
Closed for applications on: 11-Tach-2024 00:04
Statws y swydd wag: Closed
Closed for applications on: 11-Tach-2024 00:04
Manylion allweddol
Lleoliad
- Gwefan
- Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg
- Cyfeiriad
- Heol Abergwaun
- Tref
- Hwlffordd
- Cod post
- SA61 2PZ
- Major / Minor Region
- Sir Gaerfyrddin
Math o gontract a phatrwm gwaith
- Contract
- 4 mis (Cyfnod Penodol/Secondiad tan 31/03/2025)
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (Dydd Llun - Dydd Gwener)
Cyflog
- Cyflog
- £63,150 - £73,379 Y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Gradd
- (Gradd 8b)
Arbenigedd
- Prif leoliad
- Gofal Heb ei Drefnu, Strôc a Gofal i'r Henoed (COTE)
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.
Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau.
Trosolwg o'r swydd
MAE’R SWYDD HON AM GYFNOD PENODOL/SECONDIAD AM 4 mis tan 31/03/2025 OHERWYDD CWRDD GOFYNION Y GWASANAETH
Os ydych chi'n gyflogai i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac yn gwneud cais am y swydd hon fel secondiad, mae angen cytundeb ar gyfer yr secondiad gan eich rheolwr presennol cyn gwneud cais.
Mae yna gyfle i unigolyn ymuno â'r Tîm Rheoli Gofal Heb ei Drefnu yn Ysbyty Llwynhelyg, am gyfnod dros dro o pedwar mis.
Swydd ar gyfer Rheolwr Cyflenwi Gwasanaethau yn ysbyty Llwynhelyg yw hon. Mae hon yn swydd ar gyfer Rheolwr Cyflenwi Gwasanaethau ar safle Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg, a fydd yn arweinydd strategol y Bwrdd Iechyd ar gyfer arbenigeddau Strôc a Gofal i'r Henoed.
Bydd deiliad y swydd yn cynorthwyo tîm rheoli triwriaeth Ysbyty Llwynhelyg i ddarparu’r hyn a fydd yn wasanaethau gofal heb ei drefnu yn bennaf. Bydd deiliad y swydd yn adrodd yn uniongyrchol i Reolwr Cyffredinol yr Ysbyty, ac yn ysgwyddo cyfrifoldeb gweithredol am reoli a gwella llwybrau gofal heb ei drefnu ac yn arwain o ran strôc a gofal i'r henoed (COTE) ar gyfer y Bwrdd Iechyd cyfan.
Advert
Bydd deiliad y swydd yn ddarpar arweinydd, a dan gyfarwyddyd Rheolwr Cyffredinol yr Ysbyty bydd yn cydgysylltu'r gwaith o ddarparu gwasanaethau clinigol brys a'r rhai nad ydynt yn ddewisol ynghyd ag arbenigeddau meddygol ar draws ei safle dynodedig, ac yn amlygu arloesedd wrth gefnogi mentrau gwella gwasanaethau.
Bydd deiliad y swydd yn arwain ac yn gweithio gyda chyd-weithwyr ar sawl lefel trwy siwrne o wella gwasanaethau, gan ddod â lefel o hygrededd i uchelgeisiau cynllunio'r timau.
Bydd gan ddeiliad y swydd gyfrifoldeb dirprwyedig am gyllideb ddirprwyedig gofal heb ei drefnu, a bydd yn darparu cyllideb gytbwys ar ddiwedd y flwyddyn neu ar adeg gytunedig arall. Bydd deiliad y swydd yn rhan o'r gwaith o arwain prosiectau corfforaethol. Disgwylir i ddeiliad y swydd hefyd gymryd rhan mewn rota Ar Alwad arian ar gyfer y sefydliad a dirprwyo ar ran Rheolwr Cyffredinol yr Ysbyty lle bo angen.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 11,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth â’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;
Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;
48 o bractisau cyffredinol (pedwar ohonynt yn bractisau a reolir), 47 practis deintyddol (gan gynnwys tri orthodontig), 99 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o
bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;
Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Bydd deiliad y swydd yn cynorthwyo Rheolwr Cyffredinol a thîm rheoli triwriaeth yr ysbyty, ac yn gweithio gyda staff yr ysbyty sy’n ymwneud â darparu gwasanaethau gofal heb ei drefnu ac arbenigeddau Strôc a Gofal i'r Henoed, er mwyn cyflawni nodau ac amcanion y Bwrdd Iechyd, ynghyd â'r targedau cysylltiedig, ac yn sicrhau bod strategaethau yn cael eu cyfleu'n glir i'r holl staff perthnasol, fel y gellir gwneud cyfraniadau effeithiol i'r broses o roi cynlluniau gweithredol ar waith. Gweithio'n agos gyda Rheolwr Cyffredinol a thîm rheoli triwriaeth yr ysbyty o ran y gwaith rheolaidd o fonitro ac adolygu cynlluniau gweithredol sy'n berthnasol i'r gwasanaethau a reolir.
Mae'r swydd hon yn gofyn am rywun sydd â sgiliau arwain effeithiol ac sy'n gallu rheoli a chydgysylltu gwasanaethau gofal heb ei drefnu a ddarperir yn lleol ac arbenigeddau meddygol yn effeithiol, gan eu bod yn effeithio ar brofiad cyffredinol y claf a'r broses o ddarparu gwasanaethau diogel.
Rhaid i ddeiliad y swydd allu trafod yn ddyddiol ag uwch-weithwyr proffesiynol a rheolwyr y GIG sy'n gweithio mewn economi iechyd sydd â chyfyngiadau ariannol, ar faterion sy'n cael effaith sylweddol ar wasanaethau diogel o ansawdd, a all gynnwys dod i gysylltiad ag amgylchiadau a allai fod yn drallodus yn emosiynol.
Bydd deiliad y swydd yn rheoli ei adnoddau dirprwyedig mewn modd systematig, ac yn arwain trwy esiampl mewn perthynas â rheoli adnoddau'r Bwrdd Iechyd mewn ffordd ddarbodus.
Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am reoli perfformiad gwasanaethau a systemau cysylltiedig.
Bydd angen i ddeiliad y swydd gynorthwyo Rheolwr Cyffredinol a thimau triwriaeth yr ysbyty wrth iddynt fynd ati i gydymffurfio â materion yn ymwneud â thân, iechyd a diogelwch, amddiffyn a gwrthderfysgaeth. Bydd y rôl hon hefyd yn cefnogi'r gwaith o ddatblygu a chynnal cynlluniau parhad busnes a chynlluniau i baratoi ar gyfer argyfwng.
Bydd deiliad y swydd hon yn cynorthwyo Rheolwr Cyffredinol yr Ysbyty a’r tîm triwriaeth lleol i gyflawni’r agenda ansawdd gyffredinol i sicrhau bod gwasanaethau gofal heb ei drefnu ac arbenigeddau meddygol yn cael eu darparu gyda ffocws sylweddol ar ansawdd, a chefnogi'r broses o ddatblygu a chychwyn systemau gwelliant parhaus priodol.
Rhaid i ddeiliad y swydd allu teithio rhwng safleoedd eraill y Bwrdd Iechyd ac weithiau safleoedd ehangach GIG Cymru.
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadau ar 20/11/2024.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir drwy gyfrwng y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau a wneir yn y Saesneg.
NODYN PWYSIG I YMGEISWYR: Mae ceisiadau am ein rolau yn cael eu hadolygu'n ofalus a'u rhoi ar restr fer yn seiliedig ar feini prawf penodol, sy'n amrywio o swydd i swydd. Efallai na fydd defnyddio cais generig i wneud cais am rolau lluosog neu ddibynnu ar wasanaethau ceisiadau deallusrwydd artiffisial awtomataidd, fel Lazy Apply neu AI Apply, yn darparu'r wybodaeth angenrheidiol, gan arwain at anwybyddu'ch cais. Er mwyn sicrhau bod eich cais yn cael ystyriaeth lawn, rydym yn argymell cyflwyno cais wedi'i deilwra sy'n mynd i'r afael yn uniongyrchol â'r meini prawf a restrir yn adran Manyleb y Person yr hysbyseb.
Trwy gyflwyno eich cais i NHS Jobs/Trac, rydych yn gydsynio i elfennau o ddata eich cais gael eu trosglwyddo i Gofnod Staff Electronig (ESR) y GIG a systemau diogel, mewnol Gweithlu’r GIG er mwyn cefnogi a rheoli eich recriwtio a’ch cyflogaeth o fewn y sefydliad sy’n eich cyflogi; i’w defnyddio gan yr adran Recriwtio at ddibenion gwirio eich Cofrestriad Proffesiynol ar-lein (lle bo’n briodol).
Mae’r prosesau hyn yn unol â phrosesu Teg a Chyfreithlon yn unol â Deddfwriaeth Diogelu Data cyfredol yn enwedig y rhai hynny mewn perthynas â’ch data personol neu bersonol sensitif (diffinir data personol sensitif fel unrhyw gyflwr iechyd meddwl neu gorfforol, tarddiad hiliol neu ethnig, cyfeiriadedd rhywiol, aelodaeth undeb llafur, barn wleidyddol neu gred crefyddol datganedig). Fel sefydliad, rydym yn sicrhau bod y ddeddfwriaeth sy’n diffinio cyfrinachedd yn cael ei dilyn megis y defnydd o ddata at ddibenion penodol, diffiniedig, a defnydd o ddata sy’n berthnasol ac nid yn ormodol wrth ymarfer cywirdeb data a diogelwch yr holl wybodaeth bersonol adnabyddadwy a gedwir.
Os cewch eich penodi’n llwyddiannus, trwy lenwi’r ffurflen gais rydych yn awdurdodi’r BIP i gael unrhyw fanylion gwasanaeth blaenorol i’r GIG yn cynnwys yr holl wybodaeth ar salwch a gedwir yn electronig, trwy’r broses Trosglwyddo Rhyng-awdurdod ar y Cofnod Staff Electronig.
I weithio yn y DU, mae angen nawdd ar bob ymgeisydd nad yw'n wladolyn o'r DU neu Weriniaeth Iwerddon i gael naill ai fisa Gweithiwr Iechyd a Gofal neu fisa Gweithiwr Medrus, oni bai bod gennych ganiatâd i weithio trwy lwybr arall. Dylai ymgeiswyr nad ydynt yn rhan o'r DU/Gweriniaeth Iwerddon sy'n dymuno gwneud cais hunanasesu'u tebygolrwydd o gael Tystysgrif Nawdd trwy ymweld â gwefan Fisâu a Mewnfudo'r DU. Os ydych chi'n gymwys i gael y fisa Iechyd a Gofal, mae'r costau ymgeisio yn is ac nid oes angen i chi dalu Gordal Iechyd Mewnfudo blynyddol.
Gofynion yr ymgeisydd
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Gradd uwch ar lefel Meistr, neu brofiad cyfatebol ar lefel uwch-reolwr
- Tystiolaeth o ddatblygiad rheolaethol a phersonol parhaus
- Gwybodaeth am strategaethau, polisïau a chynlluniau'r GIG, LlC a'r Bwrdd Iechyd, gan gynnwys polisïau Adnoddau Dynol
- Gwybodaeth gyfredol am arfer gorau a gafwyd trwy gyflawni gwaith ymchwil personol
- Gwybodaeth fanwl am yr agenda gofal iechyd strategol sy'n ymwneud â chyflenwi gwasanaethau
Meini prawf dymunol
- Profiad o reoli ym maes Gofal Heb ei Drefnu ac arbenigeddau Strôc a Gofal i'r Henoed (COTE)
- Profiad o reoli mewn arbenigeddau portffolio dynodedig
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Rhaid meddu ar brofiad sylweddol o arwain a rheoli staff ac o weithio gydag Undebau Llafur/gyda chynrychiolwyr staff
- Rhaid meddu ar brofiad sylweddol o reolaeth ariannol, ynghyd â gwybodaeth am sut i ddarparu cyllideb yn unol â tharged
- Rhaid meddu ar ymwybyddiaeth dda o gynllunio a datblygu a rhoi strategaethau ar waith
- Rhaid meddu ar wybodaeth gadarn am brosesau rheoli perfformiad
- Rhaid meddu ar wybodaeth am sut i gyflawni prosiectau ac yn benodol, sut i reoli cwmpas a chyflawni yn unol ag amcanion y cytunwyd arnynt o ran ansawdd, cost ac amser
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Mrs Bethan Andrews
- Teitl y swydd
- Acting Hospital General Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01473773172
Ddim yn derbyn ceisiadau mwyach
Ymddiheuriadau, ond nid yw'r swydd wag hon yn derbyn ceisiadau mwyach.
Gallwch chwilio am swyddi tebyg ar fwrdd swyddi'r cyflogwr, neu fynd i'n bwrdd swyddi cenedlaethol Health Jobs UK.