Mae Trac yn falch o bweru recriwtio ar gyfer
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Gwybodaeth
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd i boblogaeth o tua 372,320 ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. Mae'n darparu gwasanaethau Acìwt, Sylfaenol, Cymunedol, Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu trwy Ysbytai Cyffredinol a Chymunedol, Canolfannau Iechyd, Meddygfeydd Teulu, Deintyddion, Fferyllfeydd, Optometryddion a safleoedd eraill.
Ffisiotherapydd Arweiniol Clinigol Cymunedol – Niwrolegol / Strôc
Accepting applications until: 09-Dec-2024 23:59
Statws y swydd wag: Open
Accepting applications until: 09-Dec-2024 23:59
Manylion allweddol
Lleoliad
- Gwefan
- Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg
- Cyfeiriad
- Heol Abergwaun
- Tref
- Hwlffordd
- Cod post
- SA61 2PZ
- Major / Minor Region
- Sir Gaerfyrddin
Math o gontract a phatrwm gwaith
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Rhan-amser - 30 awr yr wythnos
Cyflog
- Cyflog
- £46,840 - £53,602 pro rata y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Gradd
- (Band 7)
Arbenigedd
- Prif leoliad
- Ffisiotherapi
- Dyddiad y cyfweliad
- 18/12/2024
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae’r raddfa gyflog uchod wedi’i chytuno fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2024/2025. Bydd yn cael ei rhoi ar waith ym mis Tachwedd 2024 wedi’i hôl-ddyddio i 1 Ebrill 2024 lle bo’n berthnasol.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda gyfle cyffrous ar gyfer Ffisiotherapydd Cymunedol Arweiniol Clinigol Band 7 ym maes Niwroleg/Strôc. Mae'r swydd wedi'i lleoli yn Sir Benfro, a bydd yn cyd-fynd â'r tîm Uwch-arweinwyr Clinigol presennol yn y sir. Bydd deiliad y swydd yn arwain gofal Strôc yn y gymuned, yn ogystal â chefnogi darpariaeth Ffisiotherapi Niwrolegol ehangach yn y lleoliad cymunedol gyda thîm dynamig, hyblyg a rhagweithiol.
Bydd deiliad y swydd yn gweithio'n agos gyda'r Ffisiotherapyddion Arweiniol
Clinigol eraill i ddatblygu'r gwasanaethau strôc a'r gwasanaethau ffisiotherapi ehangach yn y sir ymhellach, a bydd yn rhaid iddo fod yn arbenigol iawn wrth ymdrin ag achosion o strôc ac adsefydlu niwro. Bydd ganddo'r gallu i hyfforddi a datblygu ei dîm.
Bydd gan ddeiliad y swydd sgiliau cadarn o ran arwain, trefnu a rheoli tîm. Bydd yn frwdfrydig dros ei gleientiaid, ac yn dymuno gwella a thrawsnewid y gwasanaeth gan ddilyn canllawiau strôc. Bydd yn ymwybodol o'r sylfaen dystiolaeth ar gyfer gwerthuso trwy archwilio, effeithiolrwydd clinigol a gweithgarwch ymchwil.
Bydd gofyn i ddeiliad y swydd gyfrannu at ddarparu gwasanaeth anadlol ar alwad.
Mae'r tîm yn gweithio'n agos gyda chyd-weithwyr cleifion mewnol a chymunedol, y tîm amlddisgyblaethol lleol, cleifion a'u teuluoedd er mwyn sicrhau'r canlyniadau gorau posibl i gleifion a chefnogi prosesau i ryddhau cleifion. Os oes gennych ddiddordeb, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych!
Advert
Rydym yn chwilio am unigolyn sy'n meddu ar sgiliau rhyngbersonol gwych i
rwydweithio â chyd-weithwyr Acíwt ac yn y Gymuned i gydlynu gwasanaeth ymatebol, di-dor ar draws llwybrau a sectorau. Bydd gan ddeiliad y swydd y gallu i drefnu, ynghyd ag ymrwymiad i ddatblygu gwasanaethau trwy ddatblygu'r sail dystiolaeth ar gyfer gwerthuso trwy weithgarwch archwilio, effeithiolrwydd clinigol ac ymchwil. Fel y bo'n briodol, bydd yna ddisgwyliad iddo ddirprwyo ar gyfer yr uwch-reolwyr.
Yn unigolyn ôl-raddedig hyblyg, bydd yn rhaid iddo feddu ar sylfaen glinigol
gadarn mewn adsefydlu strôc, cyflyrau niwrolegol, adsefydlu cyffredinol, syndrom eiddilwch a chwympiadau, cyflyrau cardioresbiradol, a phroblemau cyhyrysgerbydol, ynghyd â dealltwriaeth dda o'r materion cyfredol sy'n effeithio ar lif cleifion a gwasanaethau cymunedol.
Bydd deiliad y swydd yn gweithio'n annibynnol yn rôl ymarferydd tra medrus, gan reoli llwyth achosion clinigol o gleifion ag anghenion iechyd a gofal cymdeithasol amrywiol a chymhleth, a hynny ochr yn ochr ag aelodau o'r tîm amlddisgyblaethol mewn rôl reolaethol a chlinigol.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn darparu arweinyddiaeth glinigol, arbenigedd a goruchwyliaeth i ffisiotherapyddion iau, gweithwyr cymorth therapi, myfyrwyr a chynorthwywyr adsefydlu generig. O fod yn arbenigwr clinigol, bydd yna elfen addysgol gref i'r rôl.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 12,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu i bron 400,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
4 prif ysbyty (Bronglais, Aberystwyth, Glangwili, Caerfyrddin, Tywysog Philip, Llanelli, ac Llwynhelyg, Hwlffordd)
5 ysbyty cymunedol (Ysbyty Dyffryn Aman ac Ysbyty Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin, Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion,Ysbyty Dinbych-y-pysgod a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol De Sir Benfro yn Sir Benfro.
Dwy ganolfan gofal integredig (Aberaeron ac Aberteifi, yng Ngheredigion).
Cyfleusterau cymunedol, gan gynnwys:
48 Meddygfa, 49 Deintyddfa, 98 Fferyllfa Gymunedol, 44 Practis Offthalmig Cyffredinol (gan gynnwys gwasanaethau iechyd llygaid a golwg gwan), 38 safle yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu, gofal o fewn eich cartrefi eich hun
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Cynhelir y cyfwelidau ar 18/12/2024.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gweithredu polisi dwyieithog. Gwahoddir ymgeiswyr i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir drwy gyfrwng y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau a wneir yn y Saesneg.
NODYN PWYSIG I YMGEISWYR: Mae ceisiadau am ein rolau yn cael eu hadolygu'n ofalus a'u rhoi ar restr fer yn seiliedig ar feini prawf penodol, sy'n amrywio o swydd i swydd. Efallai na fydd defnyddio cais generig i wneud cais am rolau lluosog neu ddibynnu ar wasanaethau ceisiadau deallusrwydd artiffisial awtomataidd, fel Lazy Apply neu AI Apply, yn darparu'r wybodaeth angenrheidiol, gan arwain at anwybyddu'ch cais. Er mwyn sicrhau bod eich cais yn cael ystyriaeth lawn, rydym yn argymell cyflwyno cais wedi'i deilwra sy'n mynd i'r afael yn uniongyrchol â'r meini prawf a restrir yn adran Manyleb y Person yr hysbyseb.
Trwy gyflwyno eich cais i NHS Jobs/Trac, rydych yn gydsynio i elfennau o ddata eich cais gael eu trosglwyddo i Gofnod Staff Electronig (ESR) y GIG a systemau diogel, mewnol Gweithlu’r GIG er mwyn cefnogi a rheoli eich recriwtio a’ch cyflogaeth o fewn y sefydliad sy’n eich cyflogi; i’w defnyddio gan yr adran Recriwtio at ddibenion gwirio eich Cofrestriad Proffesiynol ar-lein (lle bo’n briodol).
Mae’r prosesau hyn yn unol â phrosesu Teg a Chyfreithlon yn unol â Deddfwriaeth Diogelu Data cyfredol yn enwedig y rhai hynny mewn perthynas â’ch data personol neu bersonol sensitif (diffinir data personol sensitif fel unrhyw gyflwr iechyd meddwl neu gorfforol, tarddiad hiliol neu ethnig, cyfeiriadedd rhywiol, aelodaeth undeb llafur, barn wleidyddol neu gred crefyddol datganedig). Fel sefydliad, rydym yn sicrhau bod y ddeddfwriaeth sy’n diffinio cyfrinachedd yn cael ei dilyn megis y defnydd o ddata at ddibenion penodol, diffiniedig, a defnydd o ddata sy’n berthnasol ac nid yn ormodol wrth ymarfer cywirdeb data a diogelwch yr holl wybodaeth bersonol adnabyddadwy a gedwir.
Os cewch eich penodi’n llwyddiannus, trwy lenwi’r ffurflen gais rydych yn awdurdodi’r BIP i gael unrhyw fanylion gwasanaeth blaenorol i’r GIG yn cynnwys yr holl wybodaeth ar salwch a gedwir yn electronig, trwy’r broses Trosglwyddo Rhyng-awdurdod ar y Cofnod Staff Electronig.
I weithio yn y DU, mae angen nawdd ar bob ymgeisydd nad yw'n wladolyn o'r DU neu Weriniaeth Iwerddon i gael naill ai fisa Gweithiwr Iechyd a Gofal neu fisa Gweithiwr Medrus, oni bai bod gennych ganiatâd i weithio trwy lwybr arall. Dylai ymgeiswyr nad ydynt yn rhan o'r DU/Gweriniaeth Iwerddon sy'n dymuno gwneud cais hunanasesu'u tebygolrwydd o gael Tystysgrif Nawdd trwy ymweld â gwefan Fisâu a Mewnfudo'r DU. Os ydych chi'n gymwys i gael y fisa Iechyd a Gofal, mae'r costau ymgeisio yn is ac nid oes angen i chi dalu Gordal Iechyd Mewnfudo blynyddol.
Gofynion yr ymgeisydd
Rhaid bod gennych gofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Gradd neu gymhwyster cyfatebol cydnabyddedig mewn Ffisiotherapi
- Cofrestriad proffesiynol cyfredol gyda HCPC
- Addysg arbenigol olraddedig o fewn maes clinigol perthnasol ar lefel sy'n cyfateb i radd Meistr neu brofiad cyfatebol
Meini prawf dymunol
- MSc mewn arbenigedd perthnasol
- Cymhwyster ol-raddedig hyd at lefel diploma ol-raddedig mewn maes perthnasol
- Cymhwyster presgripsiynu anfeddygol
- Cwrs Hyfforddiant Addysg/Ymarfer Glinigol
- Aelod o gorff proffesiynol/Grwp Diddordeb Arbenigol
- Tystiolaeth o gyrsiau/gymwysterau arweinyddiaeth
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad ol-raddedig sylweddol, gan gynnwys profiad perthnasol mewn maes arbenigol
- Rheoli llwyth achosion cymhleth gan ddefnyddio proses rhesymu clinigol ddatblygedig
- Profiad sylweddol o weithio yn rol ymarferydd annibynnol
- Profiad sylweddol o weithio mewn tim amlasiantaethol mewn maes arbenigol
- Trin therapiwtig ac asesiadau risg
- Ymwneud yn uniongyrchol a gofalwyr a theuluoedd
- Tystiolaeth o gefnogi cydymffurfedd gwasanaeth a gofynion llywodraethu clinigol
- Arwain rhwydweithiau clinigol/grwpiau ymarfer clinigol
- Profiad o gynorthwyo i arwain datblygiadau i wasanaethau
- Profiad o ddatblygu staff
- Profiad o gyflwyno mewn maes clinigol
- Rheoli Perfformiad
Meini prawf dymunol
- Profiad o reoli tim
- Profiad o ddatblygu gwasanaethau ar draws ffiniau proffesiynol
- Profiad o gynnal asesiadau risg
- Profiad o hybu iechyd a datblygiadau ataliol mewn gwasanaeth
- Profiad o atgyfeirio ar gyfer profion ac o ddadansoddi canlyniadau'r profion hynny
- Profiad o addysgu ac asesu addysgol
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Arall
Meini prawf hanfodol
- Y gallu i deithio rhwng safleoedd mewn modd amserol
- Ymagwedd hyblyg at anghenion y gwasanaeth
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Tim Griffiths
- Teitl y swydd
- Physiotherapy Service Lead
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01437 773467
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Dechrau eich cais
Rhaid ichi fewngofnodi i gyfrif Trac cyn y gallwch wneud cais am y swydd hon.
Mewngofnodi
Creu cyfrif
Creu eich cyfrif a gwneud cais am eich swydd newydd!